Daff Owen/Teg Edrych Tuag Adre

Taro'r "Lliw" Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)


XLIII. TEG EDRYCH TUAG ADRE"

TUA diwedd Awst y flwyddyn honno trodd yr agerlong Louisiana y ddiweddaf am y tymor-ei phen i lawr hyd Yukon gan ddwyn ei llwyth gwerthfawr allan i drafnidiaeth y byd.

Ar ei bwrdd yr oedd Daff Owen, a wynebai wareiddiad unwaith eto gyda dangosiad am saith mil ar hugain o ddoleri yn ei logell. Teimlad cysurus ydoedd hynny, ond mwy ac uwch yn ei feddwl oedd y boddhad o fod wedi egnio i'w cael a'u cadw. Peth pe bai wedi gwastraffu ei amser o un salŵn i'r llall gan estyn ei gwd aur i'r gweinyddwr i dalu am "yfed" i bob un yn y lle? Byddai'n rhaid iddo aros yno eto, a mynd yn ôl, efallai gyda llai o lwc, i'r cilfachau am aeaf arall. Yna daeth i'w feddwl am beryglon y daith i fyny, am hunllef y Chilcoot a'r Ceffyl Gwyn; ac ar hyn diolchodd i Dduw unwaith yn rhagor am ei arbed a'i lwyddo.

Yr oedd y llong erbyn hyn yng nghanolbarth Alaska, ac yn tynnu'n gyflym tua'r aber a'r dwfr hallt; a mwynhâi'r teithwyr hinon yr Indian Summer yn fawr iawn. Nid oeddynt mor niferus o gryn lawer a theithwyr y Baltimore a ddeuthai o Vancouver i Dyea. Beth oedd ffawd y gweddill a'r miloedd eraill a dywalltodd yr holl longau allan ym mlwyddyn gyntaf y dwymyn aur? Gallai'r Chilcoot a'r afonydd creigiog hwnt iddo gyfrif am rai cannoedd ohonynt yn ddiau, a chysgai cannoedd eraill dan y cwrlid eira yn nhir oer y Klondyke. O'r rhai byw yr oedd torf wedi eu llyncu gan bleserau gwag y ddinas ysgafn, yn methu cadw allan o leoedd yr hapchwarae. I'r rhai hyn yr oedd y byd wedi ei gyfyngu ei hun i ddau lwybr, un o'r gilfach i'r salŵn a'r llall o'r salŵn yn ôl i'r gilfach. Ar y bwrdd yn cyd-deithio â Daff yr oedd rhyw hanner dwsin o wyr a aeth i'r Klondyke yr un pryd ag yntau, ac a oedd yn dychwelyd o'r wlad honno heb wybod dim am gur y mwynfeydd, ac eto'n gyfoethog y tu hwnt i un mwynwr a ddug y cyfoeth i oleu dydd. Adnabu hwynt ar y Baltimore, gwelodd hwynt yn dechreu eu gwaith cythreulig yn llaid Dyea, ac yn dal ati wrth y Canyon ynghanol y beddau a oedd yno. Hwy hefyd oedd wrth y byrddau yn y "Moose Horn," ac wele hwynt eto yn parhau wrth yr un grefft ar y Louisiana.

Pleser mawr iddynt fyddai gallu hudo Daff am unwaith i ymuno â'u "little parties," oblegid gwyddent o'r goreu mai un o ffodusion y "Gulches" ydoedd ef, ac o ganlyniad yn ŵr gwerth ei flingo.

Ond bob tro y ceisiwyd ei rwydo yr oedd rhywbeth yn ei drem yn arwyddo perigl i'r "crook," ac felly ni wasgwyd llawer arno wedi'r troion cyntaf.

Vancouver in sight! Dyna'r waedd ar y bwrdd ar y chweched bore wedi gadael Yukon; a pharatodd pawb ar gyfer y glanio.

Vancouver! Dyna'r lle y teimlodd Daff ei "draed dano" gyntaf, a'r lle y gobeithiai dreulio ei fywyd rhag blaen. Deubeth yn neilltuol y dymunai ac y breuddwydiai ef amdanynt ynglŷn â'r dre a'r ardal. A ddeuai ei freuddwydion i ben, tybed?

Wedi'r glanio a chael lluniaeth, aeth ar ei union at fasnachwr yn y lle, ac ar ôl y cyfarchiadau arferol, ebe fe wrth y gŵr," Flwyddyn yn ôl chwi gynigiasoch imi y siop hon am bum mil o ddoleri, Mr. Van Heurt, a ydyw yr un cynnig yn sefyll heddiw?"

Ai prynu drosoch eich hun, neu dros rywun arall yr ydych, Mr. Owen?"

"Drosof fy hun, bid sicr."

"Wel, dywedwch bum can doler yn ychwaneg, yna ni darawn y fargen."

Ar hyn, tynnodd Daff ei cheque book allan. "Faint yw yr ernes i fod, hyd nes y cwblhawn y fargen? "

"Dywedwch y pum cant ychwaneg, Mr. Owen. Gwna hynny y tro yn iawn. Ond rhaid i chwi aros blwyddyn cyn fy mynd allan er mwyn imi werthu fy eiddo er y fantais fwyaf."

"Eitha' boddlon, er mai gwell gennyf fyddai tri mis."

Talwyd y pum can doler, cytunwyd ar y ffordd i wneuthur y trosglwyddiad, ac aeth Daff allan fel gŵr wedi ennill teyrnas.

Ond yr oedd eto un breuddwyd yn aros i'w gyflawni, a rhaid ydoedd cynnig at hwnnw hefyd yn ddioed. Heb golli amser aeth i'r llythyrdy, lle yr oedd llythyr arall oddiwrth D.Y. yn ei aros, ac yn cynnig eto "shâr yn yr Heading Caled."

Annwyl hen bartner!" ebe Daff, yn ffyddlon o hyd, er bod hanner y byd rhyngom! Ond nid am y Cantwr yr oedd ei ail freuddwyd serch hynny. Cydiodd mewn papur teligram ac ysgrifennodd arno,—

"Mrs. Jones, Dowlais House, Frazer's Hope

Expect me to—morrow,

Daff."

a'i ddanfon i ffwrdd.

Trannoeth fe aeth ei hun i fyny i'r wlad, a phan ddechreuodd y trên arafu wrth nesu i'r orsaf a phasio heibio i'r ddau dŷ y gwyddai Daff mor dda amdanynt, yno yr oedd Mrs. Jones yn chwifio'i chadach, a'r ddwy wraig arall yn codi eu dwylo tuag ato.

Cyn pen chwarter awr yr oedd wedi ysgwyd llaw â hwynt oll, ac wedi ei gusanu gan Mrs. Jones yn ogystal.

"O! machan annwl i !" ebe hi. Diolch i Dduw am ych arbed chi i ddod 'nol yn fyw. Dyma fe, Jessie, ac ar fy ngair, credaf ei fod yn edrych yn well yn awr na'r diwrnod y gwelsoch chi e' gynta'!"

Chwerthin mawr am hyn ganddynt oll, a Daff yn edrych i fyny at Miss Selkirk gydag atgof o deimlad dwfn am y diwrnod pell hwnnw. Wedi hynny ymborth, ac ar ôl hynny canu, a chanu drachefn. "Gwelaf eich bod yn canu 'Blodwen' o hyd," ebe Daff wrth Miss Selkirk, pan wrthynt eu hunain am ennyd. "Beth amdano? A yw yn dal yn ei flas? "O, 'rwy'n caru pob miwsig Cymreig," ebe hithau. Ac ar hyn hi ganodd ar yr offeryn, braidd yn ddi- feddwl, frawddeg allan o'r ddeuawd adnabyddus yng ngwaith Dr. Parry, ac ar orffen ohoni hi hynny tarawodd Daff i mewn â'r gofyniad yn y gerdd,

A gymeri di nghalon?

ac atebodd hithau ar y piano, ond heb ei chanu, y frawddeg gerddorol,

Cymera'n ddioed.

sef yr un a etyb Blodwen.

Chwarddodd Daff ar hyn, a gwridodd hithau am na wyddai ar y foment achos ei ddifyrrwch. Yna, wedi esbonio iddi, dywedodd ymhellach,—

"Mi genais fy nghwestiwn i a chanasoch eich ateb chwithau ar y piano. Mi a'ch daliaf at eich gair, f' anwylyd."

Wedi hynny bu tawelwch mawr, o leiaf hyd nes i Mrs. Jones ddyfod o rywle a gofyn, "Ble 'rych chi i gyd yma ?" "Rhowch lwc dda' imi, Mrs Jones," eb yntau. Y mae Miss Selkirk—Jessie—newydd addo bod yn gymhares bywyd i mi"

Ar hyn neidiodd yr hen wraig fel geneth ddeunaw oed, ac wedi galw ar Mrs. Selkirk i'r ystafell, cusanodd hwynt oll drosodd a throsodd.

Dyma fi," ebe hi, mor hapus ag y galla i fod byth yn yr hen fyd yma!"

Ymhen chwe wythnos ar ôl hyn bu priodas hynod o boblogaidd yn Frazer's Hope, ac nid yw y merched a'r gwragedd etc wedi darfod siarad am y dillad gwychion a wisgai Mrs. Jones, Dowlais House, ar yr amgylchiad hapus.

Gan na allai'r pâr ieuanc ddechreu eu byd ar unwaith yn Vancouver, penderfynwyd, fel y croniclai'r papur lleol, ymweld ag Iwrop."

"Iwrop" y ddau, fodd bynnag, oedd Deheudir Cymru pan aed i Aberhonddu a Chwmdŵr, ac y dangosodd Daff i'w wraig leoedd hynotaf yr ardal. Rhaid oedd mynd i Gwm Rhondda hefyd i dreulio noson yng nghwmni D. Y. ac i ysgwyd llaw â John Jones, alias "Shoni Cwmparc",Haulier and Baritone. Ar wahoddiad Daff aethant yn bedwar bywiog anghyffredin i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yr wythnos ar ôl hynny.

Ac ar Ddydd y Cadeirio, pan alwyd "Y Cymry oedd ar wasgar" i fyny i'r llwyfan, nid oedd neb yn cynrychioli Canada yn fwy llawn eu calon na Daff, a'r eneth a gyfarfu ag ef ar yr heol wrth Frazer's Hope.


Y DIWEDD.