Daff Owen/Ymladd a'r Dyfroedd

Abraham Lincoln Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Dawson City


XXXVIII. YMLADD A'R DYFROEDD

SYLWODD y tri chyfaill yn y man hwn ar ambell fedd gyda chroes fechan, yn ymyl y lan. Dywedid yn gyffredin mai gorweddfan y rhai a foddwyd yn y Canyon oeddynt, ond sibrydid hefyd am fwy nag un a gymerodd ei fywyd ei hun o golli ei arian, ei gwch, a'i ymborth ar hanner y ffordd i'r Klonkyke.

Nid lle oedd hwn i aros ynddo'n hir, yn sicr. Gwell peryglon y dyfroedd na pheryglon oddiwrth ellyllon y trail wedi'r cwbl. Felly ymlaen yr aethpwyd cyn gynted ag yr oedd modd. Gyda gofal llwyddwyd i lywio drwy'r Canyon yn ddiogel hyd nes y deuthpwyd at y Rapids. Yno yr oedd y cwch i lithro i waered fel pe ar toboggan o ddwfr. Cyn mynd ar yr ysglent ofnadwy hon cylymodd Daff a Jack bopeth ag a ellid wrth ei gilydd yn eu llestr bychan. Safai un o'r bechgyn â pholyn yn ei law ar y naill ochr, ac un arall yn yr unrhyw fodd ar y llall, fel ag i ddal, yn anad dim, flaen y bad i'r un cyfeiriad a rhediad y dwfr. Ar ei draed y tu ôl iddynt, a chyda'i afael ar y llyw, yr oedd Syd. Ebe fe,-"Dyma'n ni'n mynd! Daliwch yn gadarn, fechgyn!"

Ar y gair, ymaith yr aethant yn gyflymach, gyflymach bob eiliad, hyd nes, ar waelod y llithrigfa ddychrynllyd, y teithient cyn gyflymed â thrên. Ond yr oedd swch y bad yn union yn y blaen, ac ar ben isaf yr ysglent rhuthrwyd hwy drwy ganol colofn o ddwfr a godai fel llen, allan i ddwfr tawel y tu hwnt iddi.

"Hwre!" gwaeddai'r capten. Dyma'r ffordd, fechgyn Popeth yn dda!"

Nid diogel oedd popeth, serch hynny. Taflwyd y cwbl a oedd yn y cwch allan o'i le, a rhwygodd un o'r sachau blawd nes gwynnu llodrau Jack fel eiddo melinydd. Ond beth oedd y mân anhapion hyn at ddiogelwch y cwbl, a'r calondid a roesai ar gyfer rhwystrau eraill a oedd eto yn eu haros?

Gwelsant feddau yn y man hwn hefyd, a daeth i'w meddwl ill tri y peth a allai eu tynged hwythau fod, pe troesai y cwch o ddamwain ei ochr at y dylif. Ymgroesodd Syd (canys Pabydd oedd ef) a llanwyd eu calonnau i gyd â diolch am y Llaw a'u diogelodd yn y dyfroedd mawr.

Buont yr un mor ffodus yn y Squaw Rapids yn is i lawr, ac erbyn hyn fe'u cyfrifent eu hunain yn fadwyr o brofiad. Ac yn wir, hunan-hyder oedd un o'r pethau gwerthfawrocaf iddynt y dyddiau hynny, oblegid eto yn eu haros yr oedd Rapids y "Ceffyl Gwyn," perigl mwyaf yr holl daith, yn ôl barn a phrofiad pob badwr a aeth i lawr hyd Yukon erioed.

Rhyw fath ar ddyfrgyfarfod oedd y man enbyd hwn, a phe gwyrai'r cwch ychydig i'r naill ochr neu i'r llall o linell y cyfarfod teflid ef gyda nerth mawr yn ôl i'r lan gan y rhediant ofnadwy, a gwae i'r llestr a ddigwyddai daro ar un o'r talpiau craig yng ngwely'r afon ar y tafliad yn ôl. Yr oedd man cyfarfod y ddeuddwr fel rhyw grib anferth o ewyn yn ymestyn i lawr am rai cannoedd o lathenni, nes arllwys o'r cwbl i drobwll llydan islaw. A'r gamp ydoedd dal blaen y cwch yn gywir ar gefn y grib bob cam o'r ffordd.

Gelwid y grib ddwfr hynod hon yn "Fwng y Ceffyl Gwyn", ac nid rhyfedd bod llawer ar y daith i Klondyke wedi dewis dadlwytho eu cychod i'w cludo hwy a'u llwythi gyda llawer o ludded dros y tir, i'w llwytho drachefn wrth dawelach torlan, yn hytrach na cheisio eu marchogaeth ar y grib wen.

Mynnai Syd er popeth gymryd llwybr y Mwng. Gwir y byddai i'r cwrs hwnnw, os yn llwyddiannus, arbed tri diwrnod o'r daith heb sôn am y llafur enfawr o gludo'r cwch a'i lwyth dros y creigiau. Ond yr anturiaeth noeth a apeliai ato ef. Felly at y Mwng yr aethpwyd.

Cymerodd pob un ei le yn ddistaw a rhwyfwyd at y man lle y dechreuai'r dwfr ymferwi. Ond naill ai o ddiffyg rhwyfo gyda chydbwysedd ar y ddeutu, neu o ddiffyg llywio'n gywrain gan Syd, methwyd taro ar y Mwng yn deg yn ei ganol. Gyda nerth cawr rhuthrwyd y cwch i'r naill ochr gan dynfa'r croesrediant, a dim ond o'r braidd y dihangodd rhag cael ei ddymchwelyd. Ar y foment enbyd honno taflodd Daff ei holl bwysau yn erbyn y rhan o'r cwch a godai allan o'r dwfr, a thrwy hynny unionwyd ac achubwyd y llestr.

Ond nid oedd y perigl eto drosodd, ac onibai mai i fan lle y tyfai nifer o fangoed y bwriwyd hwynt, drylliesid eu cwch yn erbyn y graig gerllaw. Edrychodd y tri ar ei gilydd am ennyd heb siarad dim. Ond pan ddechreuodd Jack ddadlwytho'r cwch, deisyfodd Syd arno atal ei law a rhoi un cynnig arni drachefn.

"Y chwi o bawb i feddwl am roi fyny, Jack. Dewch! Dewch! Mae rhywbeth ynof yn gwarantu mai llwyddiannus fyddwn y tro nesaf. Dewch! Fechgyn! wir!—un cynnig eto! Ac os methwn y tro hwn, mi gariaf yr hen lwyth y felltith yma i lawr dros y creigiau fy hunan. Gwnaf, bob pwys ohono. Gwnaf, wir! Dewch ymlaen !"

Gwenodd Jack a Daff ar hyn. Amhosibl oedd nacau i'r fath apêl, er gweled ohonynt yn is i lawr y creigiau gwgus a'u dryllient o golli ohonynt lwybr cefn y Mwng.

Gyda'r gofal mwyaf y cyfeiriwyd at y grib yr eilwaith. A lwyddent hwy i gyrchu'r lle iawn y tro hwn? Gyda'u calonnau yn eu gyddfau y nesasant i'r fan. Ha! dacw flaen y cwch yn codi am eiliad, ond yr eiliad nesaf dacw ef yn ôl yn wastad ar y llwybr drachefn, a ffwrdd â hwy yng ngafael y lli. Ac er eu bod yn cyflymu'n fwyfwy fel yn y Rapids eraill, daliodd Abraham Lincoln ar ganol y Mwng bob cam o'r ffordd, nes llamu ohono fel creadur byw i'r llyn mawr ar y gwaelod.

Yno cododd y tri fel o un fryd gan floeddio,- "Buddugoliaeth!" ac wedi nesu ohonynt i'r lan arosasant ennyd wrth y llannerch yn ymyl y dwfr gan ysgwyd dwylo â'i gilydd. Yr oedd The White Horse Rapids wedi cwrdd â'u trech, ac atseinid y goncwest gan yr holl greigiau a choedydd uwch y Llyn Tro.

Rhaid oedd aros ychydig yn hwy ar ôl y fath gamp a hon, ac wedi diogelu ohonynt y cwch wrth goeden gyfagos cerddwyd yn ôl a blaen gan siarad a chanmol eu ffawd.

Ymhen pellaf y llyn yr oedd ysgerbydau tri chwch o leiaf wedi eu darnio rywle ar y ffordd, ac wedi eu casglu i'r man hwn gan fympwy'r dyfroedd. Beth am y dynion a'u saernïodd ac a'u dug hwynt allan o Lyn Bennett gyda gobaith uchel? Daeth distawrwydd dwys dros y tri o weld yr arwyddion hyn o ddinistr cynlluniau eu cyd-deithwyr, a chyfeiriwyd yn ôl at eu llestr bychan hwy eu hunain, a oedd, trwy drugaredd Duw, wedi llwyddo i nofio pob ton hyd hynny.

Yr oedd y gwaethaf drosodd bellach. Rhwyfwyd a hwyliwyd gydag asbri mawr dros Lyn Lebarge ac afon y Thirty Mile allan i Yukon las, lle yr oedd yr ia eisoes yn dechreu gosod ei fysedd oer ar y glannau. Ond yr oedd canol yr afon yn lle rhydd, a thrwy hwnnw ymlithrodd yr Abraham Lincoln at ochr yr hafan fechan gyferbyn â thref Dawson, a glaniodd ei deithwyr ar ddaear Klondyke.