Daff Owen/Yr Hobo Cymreig

Tymor o Galedi Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Tua'r Gorllewin


XXVI. YR HOBO CYMREIG

BRAWYCHODD geiriau'r meddyg lawer ar Ddaff, ond ar yr un pryd gwelai mai gwell oedd ufuddhau, ac felly, gan fod y gaeaf ar dorri, penderfynodd droi ei wyneb i British Columbia, lle yr oedd ar y pryd alwad am ddynion, a'r lle (pe credid siarad ei gyd-letywyr) yr oedd yn dragwyddol haf.

Ond gorweddai mil o filltiroedd rhyngddo ef a British Columbia, ac hynod ysgafn oedd ei bwrs er ei lafur i gyd.

"Ffo am dy fywyd!" ebe'r meddyg, ac felly rhaid oedd mynd, ysgafn neu beidio.

Ei gynllun oedd talu am ei gludiad cyn belled ag yr estynnai ei arian, yna gweithio yn y gwanwyn gyda ffermwyr y paith, cynilo digon i'w gludo dros y Rockies, a chyrraedd British Columbia cyn dyfod o'r gaeaf nesaf.

Cynllun da ddigon, ond fel llawer cynllun addawol arall, yn ei cholli hi yn y prawf.

Gweithiodd y rhan gyntaf o'r rhaglen yn dda neilltuol, sef i Ddaff wario ei arian, cyn belled ag yr aent, i dalu am ei gludiad. Ond pan ddeuthpwyd at yr ail ran, sef i'r llanc ei osod ei hun i lawr ar y paith, nôl darfod yr arian, a gwneuthur y goreu ohoni o hynny ymlaen, nid oedd gystal o gryn dipyn. Galwodd y Cymro mewn tair neu bedair fferm oedd yn ymyl y ffordd haearn rhwng Moose Jaw a Medicine Hat, a'r cwestiwn cyntaf ymhob un ohonynt oedd,—" Can you plough? A phan atebai yntau yr unig ateb gonest a fedrai ei roddi, collai'r ffermwr bob diddordeb ynddo mwyach. Nid felly y merched a'r gwragedd serch hynny, oblegid ni chaffai Daff ymadael ag un aelwyd heb bryd helaeth o fwyd yn gyntaf. Mewn dau le cyflogwyd ef am ysbaid i ofalu am y ceffylau, a chafodd fis o fwyd a llety mewn lle arall am roddi dwy wers y dydd mewn dysgu darllen i blant lluosog y teulu.

Fel hyn yr âi ef, gam a cham, yn nes i British Columbia, heb ystyried yn gyflawn na allai ef fyth groesi y Rockies yn yr un modd. Pan oedd yn y ffermdy olaf, galwyd heibio yno un prynhawn gan grwydryn arall a ddeisyfai am ymborth. Wedi bwyta o hwnnw a gafodd, dechreuodd y newydd-ddod siarad am y wlad, ac am ei fwriadau ei hun, ac er diddordeb mawr i Ddaff eglurodd ei fod â'i wyneb ar Vancouver. Aeth y Cymro i'w hebrwng ychydig er gwybod y modd y bwriadai gyrraedd y lle hwnnw, a difyrrwch mawr i'r crwydryn oedd cwestiynau Daff ynghylch y daith.

"Ffordd wyt ti'n meddwl i mi wneud y siwrnai, 'ngwas i?" ebe hwnnw. "Mewn Pullman neu ynte ar draed, prun?"

"Sut gwn "ebe Daff.

Ateb i mi mewn gwirionedd," ebe'r llall, "ai miliwnydd mewn disguise wyt ti, iti ddyfod cyn belled heb wybod fod y fath ŵr bonheddig â Hobo yn y byd? Tyrd i lawr at y tanc dŵr acw ac mi ddangosaf iti wrinkle neu ddau. No extra charge, either, Sonny!"

Aethpwyd i lawr frig y nos i'r man yr arhosai'r peiriant am ddwfr, ac yno y gwelodd Daff y crwydryn (ar gychwyn o'r trên i'w daith i'r tywyllwch, a chyn cyflymu ohono lawer) yn neidio'n ddistaw ar un o'r cerbydau, a chwilio'n frysiog am le i ymguddio. Dyna a fydd yn rhaid i finnau wneuthur un o'r nosweithiau nesaf yma," ebe Daff wrtho'i hun. "Rhy bell yw ei cherdded, a thalu nis gallaf; felly rhaid bod yn hobo' am unwaith."

Meddyliodd y llanc hefyd mai gwell oedd mynd yn ddiymdroi, oblegid yr oedd y nosweithiau yn byrhau'n gyflym, a buan y byddai y trên yn cychwyn ei daith oddiwrth y tanc cyn tywyllu o'r dydd. Clywsai gan amryw am y rhyfel parhaus rhwng swyddogion y ffyrdd haearn a llwyth yr "hobo," ac am y modd creulon y gwthid y crwydryn druan oddiar y cerbyd heb ei arafu yr un mymryn. Felly penderfynodd fod yn ofalus a gweithredu ymhob dim mor gynnil ag y gwelsai yr hobo " profiadol yn ei wneuthur ychydig nosau cyn hynny.

Dewisodd noson i'r anturiaeth pan na byddai leuad ond yn ddiweddar, ac wedi llanw ei holl logellau â bwyd, dyna fe'n cychwyn. Lled-dybiodd un foment fod un o'r swyddogion wedi ei weld yn y cyfnos, ond gan iddo lwyddo i esgyn i'r van heb i neb ymyrru ag ef, anadlodd yn fwy rhydd, ac aeth i gornel i orwedd gan dynnu rhai llafnau o haearn gwrymiog (corrugated iron) drosto. Yn y modd hwn y teithiodd am oriau na wybu eu nifer, ac o'r diwedd cysgodd o dan ei gwrlid metel.

Rhywbryd cyn dydd, deffrodd yn sydyn, teimlai yr haearn yn cael ei dynnu'n chwyrn oddiarno, fflachiai goleuni lamp i'w lygaid, a chlywai lais awdurdodol yn gorchymyn,- "Now then, out of this!" A chyda hynny clywai ddrws y van yn cael ei agor, ac yntau, yn hanner cwsg, yn cael ei wthio ato a thrwyddo i wacter y nos. "Gravel him!" ebe'r llais drachefn, a chyda'r gair disgynnodd Daff yn llwb i'r llawr, a chlywai olwynion y trên yn taranu heibio iddo o fewn pedair troedfedd i'w ben.

Yr oedd y loes gorfforol yn fawr, ond dyfnach o lawer ydoedd loes y sarhad o gael ei daflu allan i fyw neu i farw yn y diffeithwch. Llusgodd ei hun oddiwrth y ffordd haearn i gysgod llwyn oedd gerllaw, ac yno y gorweddodd yn friw, gorff ac ysbryd, hyd doriad dydd.