Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)/Bwriadau Llenyddol

Ei Lyfrau (eto 3) Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)

gan Owen Gaianydd Williams

Fel casglwr hen ysgrif-lyfrau

XI. BWRIADAU LLENYDDOL.

Cyhoeddodd Dewi Fardd lawer o lyfrau, ond bwriadodd gyhoeddi llawer mwy. Gwelodd ef, fel llawer gweithiwr arall, lu o obeithion dymunol yn machlud hwnt mynyddoedd yr amhosibl, gan ei adael yn brudd yng nghwmni siomiant. Yr oedd awydd cyhoeddi yn ysfa gref yn ei galon, a chan fod yn ei feddiant gymaint o ddefnyddiau mewn barddoniaeth a rhyddiaith, naturiol oedd iddo freuddwydio llawer o orchestion eraill. Aflwyddiant a'i llesteiriodd i ddwyn llawer o'i amcanion i ben. A pha angen dyweyd i aflwyddiant ferthyru tyrfaoedd o fwriadau da, yn neilltuol o fwriadau llenyddol ? Nid yn unig hyn fu hanes llawer o lenorion gwasgedig eu hamgylch—iadau a chyffredin eu dawn, ond bu hefyd yn anffawd bywyd gwyr o fri. A hyn fu hanes rhai yn ei oes ef. Bwriadodd Lewis Morris fwriadau teg, llafuriodd bron trwy ei oes ar ei "Celtic Remains," ond gadawodd ef heb ei gyhoeddi. Bu Ieuan Brydydd Hir mewn caledi a newyn yn ad -ysgrifennu, ond aeth toraeth ei waith i ofal Paul Panton, a buont bron waeth na cholledig am agos ganrif.

Mewn nodiadau ar waelod dail ei lyfrau, fel blodau min y ffordd, y ceir llawer o'i fwriadau llenyddol yn dod i'r amlwg. Yn yr "Eglurun Rhyfedd," 1750, t.d. 7, ceir y nodiad canlynol,—

"N.B.—Fe fyddai da genyf gael y Drych Gristionogawl, 1585, &c., yn gyflawn; i Werth neu i Fenthyg. Yr hwn wyf Dafydd Jones."

Drachefn, t.d. 9,—

"N.B.—Rwi'n ymofyn am 2 Lyfr. Crynodeb o Addysc Cristionogawl, &c., 1609. A Theater du Mond, Sef yw Gorsedd y Byd, 1615, o gyfieithiad Rosier Smyth, D.D., o Lan Elwy. Fe fydde da gennyf gael y Llyfrau yma i Werth neu i Fenthyg. Eich gwas'naethydd wyf,

DAFYDD JONES."

Mae llawer o ddyddordeb yn llechu rhwng llinellau'r hysbysiadau hyn i'r hwn fedd lygad i'w ganfod. Dywed Gwilym Lleyn mai yn 1584 y cyhoeddwyd y Drych Cristionogawl," heb enw awdwr, na nodiad o'r man ei hargraffwyd (Llyfr. Cymry, t.d. 29). Yn un o'i erthyglau yn y Manchester Guardian, rhydd Ernest Rhys fanylion llawnach—iddo gael ei gyhoeddi yn Rouen yn 1585, ac mai ei awdwr oedd y Dr. Gruffydd Roberts. Felly mae dyddiad Dafydd Jones yn hollol gywir.

Cyhoeddwyd y ddau lyfr arall a nodir, sef y Crynodeb" a "Gorsedd y Byd," yr amser a nodir gan Ddafydd Jones, sef y naill yn 1609 a'r llall yn 1615. Ym Mharis eu hargraffwyd. Pabydd selog ydoedd Rosier Smyth, a than nawdd ei Eglwys y cyhoeddwyd ei lyfrau. Hyn yn ddiau ydoedd y prif reswm paham eu cyhoeddwyd hwythau, fel yr eiddo'r Dr. Gruffydd Roberts, ym Mharis; a phaham hefyd na cheir ynddynt y llythyren w, ond ei lle a gymerir gan y ddwy vv, nes peri'r iaith ymddangos yn ddieithr. Ar wahan i hyn, mae eu Cymraeg yn dda a neilltuol ddealladwy.

Ar ddalen olaf yr "Eglurun Rhyfedd" ceir hysbysiad am ddau lyfr oedd yn barod i'r wasg. Wele'r hysbysiad am danynt,—

"Gwybyddwch fod gennyf ddau Lyfr yn barod i'r Argraphwasg; y cyntaf a elwir PERL MEWN ADFYD, am 6d. ac am 8d. dan ei gauad, y neb afo am 12 Efe a gaiff 13 yn y dwsin. Ar llyfr arall a Elwir Drych y Cymro, yn cynwys yr un faint o Sittiau a'r un rhyw bris a'r llall, fe a dderbynir Henwau Subscribers gan y sawl a wertho y llyfr hwn; oddi wrth yr hwn y bydd eich ufudd was'naethwr yn cael eu henwau yr hwn wyf, Dafydd Jones o Drefriw."

A gafodd "henwau Subscribers," nis gwn. Mae'n debyg na chafodd, oblegid ni ddaeth y llyfrau allan er daed yr hysbysiad am danynt.

Cawn ef drachefn, yn ei ragymadrodd i'r Blodeugerdd, t.d. 8, pan yn bwrw golwg dros y mil cywyddau a cherddi ysgrifenedig oedd yn ei feddiant, yn addaw dwy Flodeugerdd arall o faint a phris Blodeugerdd 1759, sef

"1. Blodeu-Gerdd Duwiol
"2. Blodeu-Gerdd Diddanol."

Ond cafodd gymaint colled arianol ac anhawsderau eraill ynglŷn â'r anturiaeth oedd ganddo mewn llaw, fel na ddaeth yr addawedig obeithion byth i ben.

Yn ei Ddiferion Gwybodaeth (1764) ceir un arall o'r awgrymiadau hyn. Ar ddiwedd y llyfr mae "Diwedd y Rhan gyntaf." Felly, rhaid y bwriadai ail, a phwy a wyr na feddyliai am drydedd neu bedwaredd.

Ar ddiwedd ei ragymadrodd i'w Gydymaith Diddan" ceir addewid am fwy o'r cyfryw ddiddanwch, os rhoddid iddo groesaw,—

"N.B. Y Cymry Dyledawg: Dyma ddwy ran o'r Cydymaith Diddan; Os bydd iddo gael genych dderbyniad Caredigol; fe rydd ynof Ewyllus i roddi y ddwy, ran eraill i'ch plith; Yr hwn sydd wedi ei fwriadu o'r un faint; Ac am yr un bris; ond cael eich henwau atto, ac heb Arian; Rhag digwydd rhyw rwystr na ddelo oddiwrth eich Ufudd wasanaethydd Dafydd Jones.

"Hefyd fod Llyfr Credadyn Bucheddol gwaith Mr. Kettlewel yn cael ei Brintio yn Llundain gan Mr. John Olfir; ac a ddaw i Gymru pan fo'n barod."

Pa un ai Dafydd Jones ynte'r ar—graffydd a hauodd atalnodau yn yr uchod, anhawdd gwybod. Bron nad yw'n wyrth o drwsgleiddiwch, yn neilltuol pan syrth—iodd sillgoll rhwng y ddwy, ran." Yr un fu tynged y ddwy ran hon, megis eraill a addawyd; ofnai ef ei hun na ddelai'r addewidion i ben, gan mai "henwau heb arian " a hoffai gael, "rhag digwydd rhyw rwystr."

Ymhen y ddwy flynedd y daeth "Y Credadyn Bucheddol i Gymru." Ond pan y daeth yr oedd yn llyfr wyth plyg o 414 o dudalennau, wedi ei argraffu yn well na mwyafrif llyfrau Cymraeg yr amser hwnnw. Cywirwyd y wasg gan Ieuan Brydydd Hir a Rhisiart Morys. Hyd y cefais allan, nid oedd un cysylltiad rhwng Dafydd Jones a'r Credadyn hwn, namyn y bwriadai ei werthu wedi dyfod o hono i'r wlad.

Oddiwrth hysbysiad a geir ar ddiwedd Dwy o Gerddi, a gyhoeddwyd yn 1779, bwriadodd gyhoeddi Gramadeg, a alwai yn Ramadeg o waith Beirdd,—

"I mae genyf Ewyllus i osod Gramer o waith Beirdd mewn Print. I mae genyf 7 neu 8 o Gopiau rhwng Print ag ysgrifen. Mi wyf D. J. o Drefriw."

Traethodydd, 1886, t.d. 415.

Beth olygir wrth 7 neu 8 o Gopiau Gramer o waith Beirdd, anhawdd dirnad. I mi, dirgelwch anirnadwy yw'r syniad o Ddewi Fardd yn cyhoeddi gramadeg, ac yntau, druan, yn newid ei orgraff a'i gystrawen yn amlach na phob llyfr a gyhoeddai. Mae'r dyfyniad uchod yn dangos ei fod ar y pryd mewn cariad a dullwedd yr amcanodd Ieuan Brydydd Hir ei dwyn i arfer a bri, sef yr "I mae." O bosibl hefyd nad ei amcan ef ei hun yn hollol oedd yr uchod. Yn yr Additional MSS. 15031 ceir copi o "Gynygion" fel eu gelwir, sef hysbysiad am Ramadeg Cymraeg, yr hyn a geir o dan y Cynygion hynny yw,—

"Ysgol-rad Llanrwst John Lewis

Medi 19 1781 Curad Trefriw."

Er nad oes enw Dafydd Jones wrth y daflen hon o hysbysiad, yn Nhrefriw ei hargraffwyd, mae'r llythyren yn tystio hynny. Mae'n debyg mai'r un Gramadeg yw hwn ac a nodir gan Dafydd Jones yn 1779. Er cariad Dafydd Jones a John Lewis ato, methais gael un prawf iddo erioed ymddangos.

Nodiadau

golygu