Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)/Ei Lyfrau (eto 2)

Ei Lyfrau (eto 1) Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)

gan Owen Gaianydd Williams

Ei Lyfrau (eto 3)

VIII. LLYFRAU DAFYDD JONES.

(Parhad).

8. "Blodeugerdd Cymru, Sef Casgliad o Ganiadau Cymreig gan amryw Awdwyr o'r oes ddiweddaf. Yr hwn a gynnwys draethiadau Duwiol a Diddanol; y rhai na fuont yn gyhoeddedig mewn Argraph o'r blaen. O gynnulliad David Jones o Drefriw. Argraphwyd yn y Mwythig, ac ar werth yno gan Stafford Prys, Gwerthwr Llyfrau.

"Bydded hysbys i'r Cymru, fod Llyfr Dewisol Ganiadau yr oes hon, yn awr yn yr Argraphwasg, ac a fydd yn barod ynghylch Gwyl Mihangel, 1759. Pris 3s."

Fy unig awdurdod dros gywirdeb y wyneb-ddalen uchod yw "Llyfryddiaeth y Cymry" Gwilym Lleyn a "Hanes Llenyddiaeth Gymreig " Ashton. Am Wilym Lleyn, mae agos hanner y wyneb-ddalennau gopiodd yn anghywir. Ni welodd Ashton gopi ag wyneb-ddalen iddo. Felly finnau. Er fod o'm blaen ddau gopi 1759, mae wyneb-ddalen y ddau yng ngholl. Mae Ashton fel mewn peth amheuaeth a gyhoeddwyd "Blodeugerdd Cymru" yn 1759; felly mai argraffiad 1779 oedd ei hargraffiad cyntaf; fel na themtier neb i gredu fel efe, rhoddwn a ystyriwn yn brawfion dros gredu iddi gael ei chyhoeddi yn 1759, neu yn gynnar yn 1760.

1. Mae'r hysbysiad am y "Dewisol Ganiadau yn profi ddod o'r Flodeugerdd allan o'r wasg yn flaenorol iddynt hwy. A dyddiad y Dewisol Ganiadau yw 1759.

2. Mae'r Llythyr at y Cymry" ar ddechreu'r Flodeugerdd wedi ei leoli a'i ddyddio, Tan yr Yw, Mai 15, 1759."

3. Ysgrifennodd Lewis Morris ei feirniadaeth giaidd yn Tach. 8, 1759, gan alw'r llyfr yn un O erthyliaid bastardaidd Dafydd Jones. Q 4. Cyfeiriodd Ieuan Brydydd Hir, mewn amryw lythyrau, rhwng Rhag. 3, 1760, a Ion. 14, 1761, at un o lyfrau Dafydd Jones; llyfr yn ddiweddar oedd wedi dod allan o'r wasg, a llyfr oedd wedi trethu adnoddau ariannol y cyhoeddwr yn ddirfawr.

5. Mae rhestr o'r tanysgrifwyr ar ddiwedd argraffiad 1759, ond nid oes dim o'r cyfryw yn argraffiad 1779. Hefyd "Blodeugerdd Cymru y gelwir y cyntaf, tra "Blodeu-Gerdd Cymry' ei teitlir yn yr ail.

Mae'r uchod yn ddigon ar bwynt y mae lleied lle i amheuaeth yn ei gylch; a nodwn hwynt rhag cymeryd o un oes amheuon oes arall fel ffeithiau hanes.

Prin y mae sen Lewis Morris yn feirniadaeth deg ar y "Flodeugerdd," sef ei bod yn un o "erthyliaid basdardaidd Dafydd Jones." Pe am lyfrau blaenorol Dewi Fardd yr ysgrifenasai, gallasai guddio ei hun â chawnen o reswm dros eu galw yn "erthyliaid " neu fastardiaid, neu'r ddau ynghyd, os da hynny yn ei olwg. Ond doethach fuasai peidio. Oblegid codi cynnwys y rhai hynny a wnaeth Dafydd Jones o lyfrau a ystyrrid yn safonol, gan i raddau ddilyn esiampl Lewis Morris ei hun yn "Nhlysau'r Hen Oesoedd." A mwy na'r oll, treuliodd ei feirniad ran o'i oes lafurus i ysgrifennu eu tebyg, yn unig na threuliodd ei arian ac na cholledodd ei hunan trwy gyhoeddi llyfrau. Gan fod Lewis Morris yn adnabod y casglydd a'i fedr, gallasai roddi iddo'r ganmoliaeth o fod y casgliad ddaed a'r disgwyliad.

Mae rhagymadrodd y casglydd i'r "Blodeugerdd" yn tra rhagori ar bob "Llythyr at y Darllenydd" a ysgrifennodd yn ei holl fywyd. Rhydd i'r awdwr safle, a llefara'n uchel am ei fedr a'i wybodaeth. Codir yma gwrr y llen ar ei lafur dirfawr yn casglu llenyddiaeth ysgrifenedig wael a gwych ei genedl, llawer o'r cyfryw lafur erbyn heddyw sydd wedi mynd yn ofer. Ceir yma rannau da o ran iaith a meddwl—ei feddyliau lawer gloewach, a'i iaith yn goethach. Ond mae rhai o'r hen bechodau'n dilyn. Rhaid na wyddai ddiben diweddnod, neu ei fod yn un o'i gasbethau. Math o esgus dros ei waith, ac apel at ei "Anwylgu Gyd-Wladwyr" yw'r rhagymadrodd. Hawdd maddeu ei ostyngeiddrwydd yn ei esgusawd, a gonest yw sel yr apel. Meddai gyflawnder o ddefnyddiau. Yr oedd

"Wedi tramwy gan gasglu llawer o Gerddi, rhai o Dduwiol ddawn, eraill o ddiddanwch, a rhai, fel y geilw M. Kyffin o Lundain hwy, Legenda Aurea. Y rhai a allir eu galw yn gwbl wagedd; a hefyd ni ddeuant byth ar gyhoedd drwo fi; nid wyf am eu mawrhau, o achos eu dyfod o'r ail Awen."

'Ewyllysio i'r wyfi adferu rhyw ddiddanwch i'm bro, cyn fy myned i lwch ango. Canys pan ddel ychydig flynyddoedd yna mi rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelaf."

Wele nodyn tant yr ymadel â'r fuchedd hon unwaith eto, er byw ohono naw mlynedd er pan ganodd ei farwnad ei hun o'r blaen, a thra nad gweddus i arall ei chanu am bedair blynedd ar hugain eto. Cwyna i raddau yn erbyn rhagluniaeth a dynion, a pha ryfedd iddo gwyno yn ei erbyn ei hun?

"Ond myfi trwy ryn ag anwyd, gwatwar, a dirmyg, distyrrwch a choegni, a anturiais roi ail fywyd i'r Dirifau a gewch yn y Blodeugerdd.'

Er ei holl drallodion, ni wyddai ef am rai o ofidiau'r oes hon. Mae'r wasg at ein galwad ni, fel prif-ffordd wedi ei digaregu, ond y defnyddiau'n brin. Mae llawer uchelgeisiol yng ngwlad bell y newyn. Yr oedd ef yng nghanol llawnder, a chanddo yng ngweddill fwy nac a roddodd yn y llyfr,—

"O rai erioed heb fod mewn print, Sef gymmaint o rai Duwiol a chymmaint o rai diddan ; mai a roddais y Llyfr yma yn gymysg; ond os byw fyddai mi a rôf gynnyg ar gael un o'r Ddau, ys ef y Duwiol, yn gyntaf. . . Y mae gennyf Ewyllys i roi y ddwy ran mewn Argraph. Yr ail ran a alwaf Blodeu-Gerdd Duwiol, a'r drydedd Blodeu-Gerdd Diddanol. Hefyd y mae gennyf fwy na Mil o Gywyddau, heblaw Awdlau ac Englynion, o's daw Llyfr ar y Mesurau hynny drwof, yr wyf ar fedr ei alw ar henw arall."

"Mwy na mil o Gywyddau" wedi eu casglu, wele ddigon i daro unrhyw un â syndod. Ond nid oes le i ameu'r gosodiad. Mae llawer o ysgrif-lyfrau a fu ganddo ar gael. Ofnaf fod y doraeth a "ddaeth o'r ail Awen," chwedl yntau, wedi eu colli. A ymlaen i gwyno'n dost oherwydd hwyrfrydigrwydd ei "Anwylgu Gyd-Wladwyr" i brynnu llyfrau, nid o achos eu bod yn dlodion, ond oherwydd gwastraffu eu harian am yr hyn nad ystyriai ef oedd fara na llyfrau.

"Ond gresyn fod Haidd, Gwinwydd, Llewig y Blaidd, Ffwgws, Ystrew, Berw'r Merched,. Crasddodrwydd, a Gwlyb dros ddyfroedd, yn amharu'r hwyl, ac yn dwyn Arian yr hen Frutaniaid."

Ar waelod y ddalen, mae'n egluro'r enwau ymfflamychol uchod fel hyn, Haidd = cwrw, Gwinwydd=gwin, Llewyg y Blaidd =hops, Ystrew=sneezing, Berw'r Merched,=tea, Crasddodrwydd = coffee.

Mae peth aneglurder yn y nodiad canlynol, sef iddo ysgrifennu Llyfr Cywyddau, &c.[1] Pan fedr yr hanesydd roddi ei law ar ei holl ysgriflyfrau, gall y profant. hwy wiredd ei osodiad. Amlwg yw iddo lafurio'n ddiflin i gasglu, adysgrifennu, a threfnu; haedda glod am hynny, a llafuriodd yng nghanol anfanteision a chaledi bywyd.

"Mi a fum dros amryw flynyddoedd yn Scrifenu Llyfr y Blodeugerdd, Llyfr Cywyddau, Awdlau, ac Englynion, Historiau ac Actau."

"Bendigedig yw Duw, ef a roes imi droseddwr, a Dynyn diccra, yn fynych: genad i orphen y Blodeugerdd, ac i'w weled mewn Argraph, ac i'w gyfranu i'm cyd wladwyr Cynorthwyol."

Teimlai'n ddiolchgar am fedru gorffen y gwaith er lles ei wlad, er ei anrhydedd ei hun, ac oherwydd ei danysgrifwyr, y rhai a arddelai fel ei " gydwladwyr cynorthwyol."

Cyhudda Lewis Morris ef o dorr amod ynglŷn â'r "Blodeugerdd," sef peidio cyhoeddi holl weithiau Huw Morus. Cam-gyhuddiad eto. Ni addawodd ddim o'r cyfryw wrth y tanysgrifwyr yn ei anerchiad "At Ewyllyswyr da i'r Brydyddiaeth," pan yn casglu enwau at ei "Lyfr," ond yn unig y cynhwysai lawer iawn o ganiadau duwiol a diddanol o waith Edward Morris, Huw Morris, ac Owen Gruffydd."[2] Ar wahan i bob addewid, yr oedd hyn yn amhosibl. Rhaid fuasai i'r "Blodeugerdd" fod lawer mwy ei mhaint i gynnwys ond eiddo Huw Morus ei hunan. A chyda phob parch i farn Lewis Morris y beirniad, a Dewi Fardd y casglydd, dylasai'r cyntaf wybod nad Dewi Fardd oedd y gŵr feddai'r farn na'r moddion i ddwyn allan "holl weithiau Huw Morus." Yr ydym yn ysgrifennu hyn er yn cofio mai Hugh Jones Llangwm, bardd o radd debyg i Dafydd Jones, a gyhoeddodd gyntaf ran o weithiau Goronwy Owen a Lewis Morris ei hunan. A phrin yr oedd yn anrhydeddus ar ran boneddwr o safle Lewis Morris farchogaeth i gyhoeddusrwydd ar asynod a gurai mor ddiarbed. Am Oronwy Owen yn ei dywydd blin, ni wyddai ef helynt ei weithiau dihafal. A anghofiodd Lewis Morris ddiwrnod angladd "Tlysau'r Hen Oesoedd," yr hwn gyntafanedig a fu farw o wir angen cefnogaeth, er galar a cholled i'w berchennog? Bu am flynyddoedd yn darparu ei "Celtic. Remains"; er yr holl oglais am glod oedd yn ei natur, nis cyhoeddodd ef, canys da y gwyddai y buasai iddo'n golled ariannol. Yna anheg oedd disgwyl i wr o amgylchiadau cyffredin, gyda phump neu chwech o blant, heb ond cadw tipyn o ysgol er eu dilladu a rhoddi iddynt damaid o fara, fyned o dan y fath gyfrifoldeb.

Amcanodd Dafydd Jones ddwyn allan gasgliad poblogaidd o farddoniaeth rydd— ar ffurf casgliad o delynegion. Cynwysai 45 o ganeuon Huw Morus, a llawer o weithiau beirdd da eraill. Cofiodd hefyd, beth bynnag oedd ei farn ef ei hun, am gerddi diddanol, sef rhigymau at chwaeth y lliaws. Gwir nad difai'r gwaith. Eto. rhaid ystyried "Blodeugerdd Cymru" yn gasgliad teg o farddoniaeth yr amseroedd hynny, a'r cynnyg cyntaf o'r natur hwn.

Yn nesaf rhoddwn restr o feirdd y "Blodeugerdd," wedi ei chodi yn bennaf o argraffiad 1779. Y rhain heb os yw'r beirdd bach a gyfenwid yn bennabyliaid," a'r 'ysmotiau duon" i ddangos. gogoniant eu rhagorach. Ynglŷn âg amryw o'r enwau mae dyddiadau, yr hyn olyga amlaf amser cyfansoddiad y Caneuon. Cymerwn ein rhyddid i wneyd sylwadau ar rai o'r caneuon wrth fyned ymlaen. Rhannwn wy i bum dosbarth.

I. AWDURON UN GAN.

"Aaron Jones, 1707; Abram Evan; Cadwaladr ap Robert, o Erw Dinmael; Dafydd Manuel, o'r Birdir, Trefeglwys; Dafydd Thomas; Dafydd Lewis (Parch.), Ficer Llangatawg ym Morganwg,"—mae hon yn gân faith, yn 37 o benhillion hollol ddifarddoniaeth a neillduol ofergoelus. Mae'n ddarlun digel o ofergoeledd yr oes honno. Hyn yw ei gwerth. Ac mae mor ofergoelus nes peri inni ameu crefydd, os nad synwyr y gŵr eglwysig a'i canodd. Pe'n chwedl o oesau bore'r byd, gallasem ei chymeryd fel math o fabinogi. Felly y mae i raddau, ond fod cymundeb â'r byd ysbrydol wedi cymeryd lle hud a lledrith, ac ysbryd yn chware rhan y ffon hud. Chwedl am ymddanghosiad ysbryd ydyw, sef hanes ymddanghosiad gwraig rhyw wr a drigai yn "Llan-Fihangel Rhos y Corn Sir Gaer-Fyrddin." Gan gofio, canu hanes mae'r bardd, ac nid adrodd chwedl. Er rhoddi gwedd glasurol ar y gân, mae ei hawdwr neu'r casglydd wedi egluro rhai rhannau ohoni, ac yn ddoeth wedi chwilio allan gyfeiriadau ysgrythyrol er ceisio crogi'r coelion arnynt, i dwyllo'r diniwed i gredu'r ynfydrwydd. Awn ymlaen gyda'r enwau.

"Evan Llwyd, o Wyddelwern; Evan William, o'r Gwylan; Ellis Rowland, o Harlech; ac Ellis Jones, o Dolgyn." Rhaid ymdroi ychydig gyda chân Ellis Jones, nid chwaith oherwydd ei barddoniaeth, ond o achos ei diwyg lenyddol. Ei phenawd yw "Hiraeth Gwyn Cariad i'w chanu ar fesur a elwir Morfa Rhuddlan." Nid oes ynddi fawr o swyn barddonol ar wahan i'w harddull, ond nis gall ei har—ddull lai na bod yn ddyddorol, am o bosibl mai'r ganig fechan hon a awgrymodd i Ieuan Glan Geirionnydd ei gân anfarwol ef. Er, hefyd, mae ddaed a rhelyw can—euon serch yr amseroedd hynny, pan oedd blodau, gwlith, ac awelon lawer llai pwysig fel cyfryngau caru nac ydynt yn ein dyddiau ni. Wele engraifft o gân serch Ellis Jones,—

"Gwrando gŵyn, Fenws fwyn, dyn sy'n dwyn dolur,
Wedi ymroi, oni ddoi, ar gais i roi cyssur,
Cyn i bur, arw gur, saethau dur dorri,
Dan fron ddi—nwy, friwiau mwy, attal hwy atti:
O serch i'th bryd, drych y byd, daliodd hudoliaeth
O'm blaen fel mân, wreichion tân, anwyl lan eneth
Nes myn'd yn swm, fel bowl o blwm, ddyga drwm ddigon
Briwo a wnaeth, y ganaid firaeth, giliau gaeth galon;
Er dim a fo harddwch bro, tynn fi o'm gofalon
Gad fi'n fyw, Seren wiw, hynod liw hinion."

"Evan Gruffudd; Gruffudd Phylip; Huw Huws o Fon; Humffrey William, o Dywyn Meirionydd; Harri ap Evan o Loddaith; H. C.; Dr. John Gwent, neu'r Dr. Powel; John Llwyd o Gwm Pen-Anner; John William o Drawsfynydd; John Rhydderch; Lewis Owen o Dyddun y Garreg; Mr. Morys Llwyd o Ddyffryn Ardudwy; Margared Rowland o Lanrwst, Margared, merch Rowland Fychan o Gaergain, a gladdwyd yn Llanrwst, Hydref, 1712, oed 89; y Parchedig Mr. Peter Lewis o Gerrig y Druidion." Geilw ef ei gân yn "Cathl y Gair Mwys." Un ar ddeg o benhillion doniol, ystwyth eu hiaith, yw'r "gathl" hon. Oherwydd hyn, ac oherwydd y defnydd "mwys" chwareus a wna'r awdwr o'i enw ei hun, gwnaeth hon ffordd iddi ei hun i'n llenyddiaeth ddiweddar. Fel ei hadwaenir gan ein darllenwyr, rhoddwn ddau neu dri o'r penhillion,—

"Hi aeth fy anwylyd yn Galan-gaua,
Ti wyddost wrth y rhew a'r eira;
Dywed imi yn ddi-gyfrinach,
Pam na wisgi Lewis bellach?
***
Rhai ront Lewis wrth eu breichiau,
Rhai ront Lewis wrth eu cefnau;
Cymmer ffasiwn newydd Gwenfron,
Dyro Lewis wrth dy ddwy fron.


"Gwelais ganwaith lewis gwnion
Gan gyffredin a boneddigion;
Am dy weled mi a rown fawrbris
Yn dda dy le, yn ddu dy Lewis.
***
"Oer yw'r ty heb dân y gaua,
Oer yw'r cenllysg, oer yw'r eira;
Oer yw'r hin pan fo hi'n rhewi,
Oer yw merch heb lewis ganddi."

Clod i goffadwriaeth y Parch. Peter Lewis am ei delyneg firain a doniol. Nid chwareu ar y gair mwys yw prif elfen ei chymeriad, ond ei nwyfder telynegol. Yr oedd hyn yn newydd ac amheuthyn mewn oes yr oedd pob bardd yn ystyried mai ei ddyledswydd oedd bod yn fath o gysgod o Huw Morus. Mae'r un gair o glod yn ddyledus i Gruffydd Phylip, awdwr y "Coler Du." Yr oedd y naill a'r llall megis rhagredegwyr Morwynion Glan Meirionnydd.'

"Rowland Fychan o Gaergai, neu Gynyr, Esq.; Rhys ap Robert, o Nant y Murddyn 1682; Robert Humffrey o Fon; Richard Thomas, o Ben Machno; Robert Mile; Robert Humffreys alias Ragad; Robert Evans; Richard Llwyd, o'r Plas Meini yn Ffestiniog; Rhys Thomas, Yswain o Gaernarfon; Robert Pritchard, o Bentraeth ym Mon, 1738; Rowland Huws o Rienyn yn agos i'r Bala." "Marwnad Rhys Morys, oedd 88 oed; a gladdwyd yn Llan y Cil, yn y flwyddyn 1757" yw'r gerdd hon. Rhoddwn ddau bennill er dangos nodwedd dyner-chwareus y gân a chymeriad diniwed" Rhysyn Morys." Er nad oes lawer gamp ar y gân, dengys fod llawer o frawdgarwch diddan a dirodres yn yr amseroedd hynny.

"O ddrws i ddrws yr oedd o'n rhodio,
A'i god a'i gyfoeth gyd ag efo;
Fel aderyn heb lafurio,
Fel Elias heb arlwyo;
Heb eisiau dim, a phwy mor happus
Yn sir Meirion a Rhysyn Morys?

"Gwan erioed, a'i droed heb drydar,
Yn saith oed cyn troedio daiar;
Gwan o gorph a gwan o foddion,
Gwan o help a chymorth dynion,
Er hyn ni 'dawodd Duw daionus
Mo'r eisiau mawr ar Rysyn Morys."

"Thomas Davies; Thomas Evans; Thomas Buttry; Mr. William Llwyd, Eglwyswr, Llanuwchlyn; Mr. William Matthew; Wiliam Pyrs Dafydd o Gynwyd; Wiliam Roberts Lannor yn Lleyn; a William Roberts, o Gapel Garmon."

II. AWDURON DWY GAN.

"Cadwalader Roberts, Cwm Llech Ucha, Pennant Melangel; John Thomas o Fodedeyrn; Lewis Jones, o Lanuwchlyn; Parchedig Robert Wynn, Ficer Gwyddelwern; Samuel Pierce (Pirs) o Fedd Cil Hart; Thomas Dafydd; Parch. William Wynn, o Langynhafal; Parchedig Mr. W. Williams, o Lan Aelian."

III. AWDURON TAIR CAN.

"Parchedig Mr. Ellis ap Ellis, Gweinidog Eglwys Rhos, o Landudno 1710; Richard Abram; Robert Evans o Feifod; Robert Edward Lewis o Gwm Mynach; a Rhys Ellis o'r Waun."

IV. AWDURON PEDAIR CAN.

Dai Sion, o Arfon;[3] Mr. Edward Samuel, Person Llangar 1722; Elis Cadwaladr, o Edeirnion; William Philip, o Hendre Fechan; Richard Parry, o Diserth; a Matthew Owen, Llangar."

V. AWDURON AMRYW GANEUON.

"Morys ap Robert o'r Bala, 7: Dewi Fardd o Drefriw, 9: Edward Morys, 11: Owen Gruffydd, o Lanystumdwy, 16: a Huw Morys, 49."

Mae'r enwau uchod fel y maent yn y Flodeugerdd, a thebyg eu bod yno fel eu cawd o dan y gwahanol gerddi, felly nid Dafydd Jones sydd i'w feio am anghysondeb yr orgraff. A gwyr y cyfarwydd nad oedd beirdd yr amser hwn yn nodedig o ofalus am sillebu eu henwau bob amser yr un modd.

Heb betruso yr ydym yn gosod fod y "Flodeugerdd" yn gasgliad teg o fardd—oniaeth rydd ein cenedl hyd adeg ei hymddanghosiad. Nid casgliad o farddoniaeth oreu a olygwn; ond yr ail oreu neu'r "ail Awen" fel y geilw'r casglydd hi, a pheth o'r drydedd. Arbeder ni o achos ohonom ddosbarthu cymaint ar i lawr. Oblegyd ei bod yn gasgliad o holl faes cynnyrch yr awen, nid y brasaf yn unig, y mae o fwyaf dyddordeb i'r hanesydd. Ac mae'n amgenach tyst hanes na phe'n cynnwys dim ond gweithiau Huw Morus, oherwydd ei bod yn engraifft o'n barddoniaeth rydd yn ei ffurf gyntaf—hyd y Diwygiad Methodistaidd.

Rhoddodd y Diwygiad dant newydd ar ein telyn farddol, ac ysbrydolodd yr hen dannau. Yn lle'r carolau bydol eu hysbryd, anghyfartal a hir eu hesgeiriau, a chlogyrnog weithiau, cawd emynnau newydd eu hysbryd a llyfn eu melodion. Mae Williams eto heb ei holl barch fel bardd Cymreig. Rhoddir iddo'n rhwydd safle brenin ein hemynwyr, ond paham na roddir iddo'r anrhydedd o fod yn ddiwygiwr ein barddoniaeth rydd? Ceir yn ei farddoniaeth y newydd mewn crefydd, moes, a barddoniaeth. Yn lle pendroni uwch ben ffeithiau hanes bywyd a phregethu'n foesol ar gân yn ddigon rhyddieithol weithiau mewn mesurau cellweirus, yng ngrym ei ysbryd cyfriniol aeth i fewn i sancteiddiolaf ysbryd dyn, ac o ysbryd anghenus dyn i'r ysbrydol yn Nuw a thragwyddoldeb. Williams rwygodd y llen rhwng barddoniaeth Cymru a thragwyddoldeb, gan ddangos y ffordd i deimladau ysbrydol i gymdogaeth Duw. Bu'n beirdd hyd hynny yn ffyddlon ddigon i'r hen arwyddair hanner anffyddol, Llygad i weled anian, calon i deimlo anian. Bellach, ond heb anwybyddu anian, llygad i weled Duw, calon i deimlo Duw. Bardd natur, meddir, oedd Dafydd ap Gwilym. Nid ydym yn gwarafun iddo'r anrhydedd, a mawr yw ei glod am ei ddarluniau ffyddlon a'i syniadau pert. Ond mae'r natur a welodd ef bron mor ddi-Dduw a phe na buasai Duw yn ei gwisgo â gogoniant bob gwanwyn, a'i dad—wisgo bob hydref. Williams yw bardd cyfrin cyntaf ein cenedl. Mae llawer o ryw fath o gyfriniaeth yn y Mabinogion, cyfriniaeth cysgodion prudd muriau hen gestyll, cyfriniaeth byd agos ond cuddiedig; cartref llywodraeth hud, a phobl yn byw ar ei drothwy, gan ofni'n barhaus droseddu ei ddeddfau a dod o dan farn ei ledrith, nes troi bywyd yn fath o hapchwareu anonest, yn awydd i lwgrwobrwyo ffawd a darostwng anffawd. Nid rhyfedd i "Daith y Pererin gael y fath dderbyniad gan ein cenedl. Mae'r llyfr rhyfedd hwn yn ddigon o esgus hyd byth am barchu cyfriniaeth farddonol a chrefyddol. Trodd hedfa enaid fel llwybr troed,—yn gadael dinas distryw, yn ymdrechu yng nghors anobaith, yn teithio tir Beulah, ac yn cyrraedd y nefol wlad. Cyfriniaeth foesol yw "Llyfr y Tri Aderyn," cyfriniaeth ysbrydol yw "Taith y Pererin."

Diosgodd Williams bethau sal yr ysbryd cyfriniol, ei ffigyrau, weithiau a arweiniant i ddeongliad rhy lythrennol. Defnyddiodd ei grym, a gwisgodd y peth byw," nid â ffigyrau ond à barddoniaeth dlos. Nid casgliadau synwyr cyffredin cryf, fel yn yr hen garolau a rhai o benillion " Canwyll y Cymry," yw gwersi moesol barddoniaeth Williams, ond gwyrddlesni a blodau aroglus bywyd ysbrydolyr ysbrydol hwnnw sydd a'i ffynhonnell yn Nuw. Mae barddoniaeth Williams, ar wahan i'w hamcanion a'i hysbryd crefyddol, yn rhagorach na dim geir ym marddoniaeth rydd y genedl yn flaenorol i'r amser. Yn lle canu'n bert am bethau materol, canodd ef yn dlws am bethau dwyfol. Yr oedd natur mor ddwyfol yn ei olwg, hyd oni welai'r tragwyddol yng ngloewder ei dwyfoldeb. Creodd Williams gyfnod newydd ym marddoniaeth gysegredig y genedl, a gweddnewidiodd ffurfiau ein holl farddoniaeth rydd. Rhoddodd heibio'r hen fesurau carolau, a mesurau'r baledi Seisonig oedd mor gyffredin, cerddoriaeth y ffair a'r dafarn. A chanodd ar fesurau llawer mwy cydnaws â natur ddefosiynol addoliad, a llawer haws i oes anysgedig eu cofio a'u harfer. Aeth mesurau Huw Morus, y mesur tri thrawiad," a'r caneuon cynghaneddol,, allan o arfer; a daeth mesurau emynnau Williams a'u tebyg i arfer yn eu lle. Yn fuan collwyd o'r tir yr hen ganeuon, y rhai nad oeddent amgenach lawer ohonynt na beirniadaeth neu gynghorion wedi eu hodli. Maddeued y darllennydd am dreulio cymaint o amser gyda'r Flodeugerdd. Gwnaethom hyn oherwydd ei bod brif orchest lenyddol Dafydd Jones, a'i bod ddanghosiad lled deg o ansawdd barddoniaeth rydd Cymru o amser Huw Morus hyd hanner y 18fed ganrif. A thrwy hyn fod ei nheges lenyddol bwysicach na'i gwerth barddonol.

Nodiadau

golygu
  1. Wedi ysgrifennu hyn, gwelais ei Lyfr Cywyddau, Caerdydd MS. 84. Gwel yn nes ymlaen yn y bennod ar ei MSS.
  2. MS. yn fy meddiant.
  3. O bosibl mai Dafydd Jones ei hun oedd y "Dai Sion" hwn.