Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)/Y Llenor a'i Oes
← Cynhwysiad | Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785) gan Owen Gaianydd Williams |
Amcan a lle Dafydd Jones → |
DAFYDD JONES
O DREFRIW.
I.
Y LLENOR A'I OES.
YCHYDIG yw nifer y gwyr grymus a orchfygant ddy- lanwadau eu hoes,—pobl gadwant eu nhodweddion naturiol eu hunain, heb ddwyn eu medr yn gaeth i ffasiwn, ac heb eu nhewid gan hindda a hinddrwg cymdeithas; pobl greant oes newydd, o leiaf elfennau newydd ym mywyd eu hoes. Mae'r llu mân ffrydiau sy'n ymgolli yn yr afon yn grymuso ei nherth; ond y llif sy'n penderfynu cwrs ei rhedfa. Mae gan gymdeithas weision gonest, y rhai deimlant ei hanghenion, gan weithio mewn amser ac allan o amser er eu puro a'u cyflenwi. Ceir eraill yn ddim amgenach na gwylwyr cyfleusterau, i droi'r mân ffrydiau i'w mantais eu hunain, fel pe cymdeithas a wnaed er eu mwyn hwy, ac nid hwy er mwyn cymdeithas. Fel mae'n syn, y rhain yw'r dosbarth gwasaidd, a gwas y gweision, oherwydd trwy waseidd-dra y ceisiant gyrraedd eu hamcanion. Y neb a el yn was i hunan, a ddewis feistr a'i gorfydd i wasanaethu pawb eraill. Felly, dan lawer amgylchiad, cymdeithas sy'n gwaseiddio'r dyn, ac nid y dyn yn gwedd-newid cymdeithas. Hon yn fynych yw tynged mân lenorion, pobl sy'n offeiriadu yn unig am eu bod o lwyth Lefi. Temtir hwy i arlwyo i'w cenedl arlwy o'r fath a gâr, seigiau. poblogaidd trachwant llenyddol. Maent graff i ganfod tueddiadau gwyllt, a nodedig fedrus i'w gwasanaethu. Codant o'u beddau esgyrn saint, os pair hynny i bobl synnu. Marchogant ofergoelion pob diniwed, os dwg hynny iddynt elw. Tynghedant bobl i gredu mai sylfaeni cymer- iadau yw'r mân chwedlau a adroddwyd gan gymdogion cenfigenllyd, neu a wran- dawsant yn frysiog gan wyr fu'n mwyn- hau caredigrwydd o dan gronglwyd y rhai y gwneir cam â'u cymeriadau. Bu'r dosbarth hwn o dro i dro yn ceisio gwthio eu gwrachiaidd chwedlau i blith ffeithiau. hanes goreugwyr ein gwlad, a chredwyd hwy gan yr ehud ei galon.
Hon yw'r duedd afiach sydd mewn newyddiaduron am newyddion cyffrous, ac am benawdau mwy cyffrous na'r newyddion. Mae deffro cywreinrwydd a phorthi math ysbrydiaeth yn gelfyddyd. Yr ysbryd dewiniaeth sy'n dwyn elw.
Gwlad beirdd a barddoniaeth yw Cymru. Ond mae ein barddoniaeth eto, mewn un wedd, fel heb ei dwyn yn gelf gain, i'w dosbarthu, ei hesbonio, i nodi ei meddyliau fel safon bywyd a moes, ac fel cyfrwng i ddwyn dynion i olwg y prydferth sy'n llawenydd tragwyddol i'r neb a'i canfyddo. Gwir y gwneir defnydd anuniongyrchol o honi yn ein colegau, er egluro gramadeg yr iaith. Mae hefyd lawer o hanes Cymru yng nghywyddau beirdd y canol oesoedd. Mae a'i cloddio allan? Pa bechodau bynnag gyflawnodd y Dr. Owain Pugh, Iolo Morgannwg, Owen Myfyr, a'r tô a gododd o dan eu dylanwad, gwyddent lawer mwy am farddoniaeth Gymreig na'r to o eisteddfodwyr trystfawr a'u dilynodd.
Nid yr un yw'r beirniad barddoniaeth a'r bardd. Mae ein beirdd yn llu, ond ein beirniaid yn ychydig. Yn ystod yr hanner canrif ddiweddaf cawsom lu o eisteddfodwyr, dawnus ddigon fel beirdd, ond hollol amddifad o fedr i feirniadu barddoniaeth. Mae gwael a gwych, o ran celf a meddwl, eu barddoniaeth hwy eu hunain yn ddigon o dystiolaeth dros ein gosodiad. Mae'n aros fod ein barddoniaeth heb ei dosbarthu yn ol ei nhodwedd a'i nhatur. A yw'r unffurfiaeth nodwedd a ymddengys ar ei gwyneb, o Ddafydd ap Gwilym hyd yn awr, yn esgusodi'r diffyg? Y diffyg yw'r gwir reswm paham yr ymddengys mor unffurf ei nhodwedd. Ein hangen heddyw, felly, yw troi ein barddoniaeth yn fwy o gelf gain, i sefyll neu syrthio yn ol ei gwerth; yn lle ei chlodfori, o ba radd bynnag y bo, ar drostan eisteddfod.
Mae rhyw ffasiwn ym myd meddwl, a gweiniaid pob oes yn ei hefelychu, a llawer o'r cryfion yn boddloni i'w ffurfiau. Canu cywyddau cryfion pert wnaeth yr hen feirdd; hon oedd eu ha fer. Canodd Huw Morus ganeuon, o ffurf neillduol yn bennaf, a chanwr caneuon fu pob bardd bach am ddegau o flynyddoedd. Ceisiodd Goronwy Owen a'r Morrisiaid adgyfodi'r hen arfer, sef dwyn y gywydd drachefn i fri. Ar wahan i werth ei farddoniaeth, mae Goronwy yn deilwng o safle uchel, pe ond am hyn o waith a gwasanaeth llenyddol. Bu'r ddwy gymdeithas lengarol, Cymdeithas y Cymrodorion a Chymdeithas y Gwyneddogion, a sefydlwyd yn Llundain yn rhan olaf y ddeunawfed ganrif, yn foddion i gadw'n fyw yr un ysbryd, ond nid i fagu cymaint ag un bardd. Tebyg mai'r eisteddfod roddodd fri ar yr englyn a'r awdl. Anffawd ein barddoniaeth ddiweddar yw'r afrifed englynion. Anhawsder i feirdd ac anffawd i farddoniaeth fu rhoddi cymaint pwys ar y pedwar mesur ar hugain, gorfodi dynion i ganu ar fesurau na fedrent fawr gamp arnynt; eu gosod mewn hualau mesur a chynghanedd, nes poeni eu hysbryd a diffodd eu gwres. Pa fodd bynnag, ganwyd y ffasiwn, rhwymwyd hi mewn cadachau hen, a rhaid fu ei dilyn. Tarawodd Ceiriog, ac eraill o'i gydoeswyr, y tant gwladgarol, gwladgarwch radicalaidd, gwahanol i wladgarwch ceidwadol yr hen feirdd. Gwedd ar yr un deffroad gwladgarol a effeithiodd ar syniadau gwleidyddol y genedl-cenedl amlwg yn ei thueddiadau ceidwadol. A ffrwyth yr un ysbryd oedd ein deffroad yng nghyfeiriad addysg. A'r donn ddiweddaf a ddaeth dros ein barddoniaeth yw math o gyfriniaeth, hollol newydd i farddoniaeth y Cymro, ond nid mor newydd i'w feddwl prudd a llon. Yr oedd hen gynefin a
Thaith y Pererin' yn ei fywyd crefyddol. O'r diwedd daeth a ganodd agwedd foesol ei fywyd yn syml, tlws, a chyfriniol. Yn unig cofied ein beirdd. fod i'r ysbryd newydd hwn neges uwch na chanu hwian gerddi teimladau serch.