Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth/I'r Lleian

Creulondeb Merch Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth

gan Dafydd ap Gwilym

I Forfudd

I'r Lleian.

CARU dyn lygeitu, lwyd,
Yn ddyfal a'm gwnai'n ddifwyd.
Os mi a'i câr i arall,
Myn Duw gwyn, mi nid wy' gall.
Ai gwir, y ferch a garaf,
Na fynny fedw hoywdw haf?
Ac na thewy ny tŷ tau,
Wythliw sêr, a'th laswyrau?
Crefyddes o santes wyd,
Caredig i'r côr ydwyd.
Er Duw, paid â'r bara a'r dŵr,
A bwrw ar gas y berwr.
Paid, er Mair, a'r pader main,
A chrefydd menych Rhufain.
Na fydd leian y gwanwyn,
Gwaeth yw lleianaeth na llwyn.
Dy grefydd, deg oreuferch,
Y sydd wrthwyneb i serch.
Gwarant modrwy a mantell,
A gwyrdd wisg a urddai well.
Dyred i'r fedw gadeiriog,
I grefydd y gwŷdd a'r gog.

Ac yno ni'n gogenir,—
I ynnill nef ny llwyn ir.
A chadw i'th gof lyfr Ofydd,
A phaid â gormodd o ffydd.
Ninnau gawn yn y gwinwydd,
Yn neutu'r allt enaid rhydd.
Duw a fyn, difai annerch,
A saint roi pardwn i serch.
Ai gwaeth i ddyn gwiw ei thaid
Yn y llwyn ennill enaid,
Na gwneuthur fal y gwnaetham
Yn Rhufain ac yn Sain Siam?


Nodiadau

golygu