Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth (testun cyfansawdd)

Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth (testun cyfansawdd)

gan Dafydd ap Gwilym

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth

Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Dafydd ap Gwilym
ar Wicipedia



GWEITHIAU BEIRDD CYMRU.

CANIADAU SYR JOHN MORRIS JONES. Lliain, ymyl uchaf aur, 5s.
CANIADAU ELFED. Lliain, 25.
TELYNEGION MAES A MOR: EIFION WYN. Lliain, 2s. 3d.
YNYS YR HUD A CHANIADAU ERAILL: W. J. GRUFFYDD. Byrddau, 3s. 9d.
CERDDI'R BUGAIL: HEDD WYN. Lliain, llythrennau aur, 3s. 6d.
CERDDI CRWYS. Lliain, 3s. 6d. Papur, 2s. 6d.
CERDDI NEWYDD CRWYS: Lliain, 3s. 6d. Papur, 2s. 6d.
CEIRIOG: Detholiad o'i waith gan yr Athro T. GWYNN JONES. Lliain, 3s. 6d.
PLANT Y BABELL: WIL IFAN. Byrddau, 3s. 6d.
GWEITHIAU TALIESIN O EIFION (bardd y gadair ddu, Wrecsam, 1876), wedi eu golygu gan WIL IFAN. Lliain, 5s.
RHWNG DOE A HEDDIW: Casgliad W. S. GWYNN WILLIAMS o delynegion gan Alafon, Anthropos, Awen Mona, Berw, Bryfdir, Caerwyn, Crwys, Cynan, Dyfed, Dyfnallt, Eifion Wyn, Elfed, Elphin, W. J.
Gruffydd, Gwili, Hedd Wyn, John T. Job, J. Morris-Jones, R. H Jones, Meuryn, R. Williams Parry, Pedr Hir, Pedrog, R. Silyn Roberts, Sarnicol, Wil Ifan, G. J. Williams, Gwilym Williams, J. J. Williams, Wyn Williams, gyda rhagymadrodd gan yr Athro T. Gwynn Jones. Byrddau, 3s. 6d.
GWAED IFANC: J. T. JONES ac E. PROSSER RHYS. Papur, 18.
CRIAFOL: GWILLY DAVIES A DAVID JONES. Gyda rhagymadrodd ar y delyneg a'r soned gan Dr. T. H. Parry-Williams. Lliain, 3s. 6d.



HUGHES A'T FAB, CYHOEDDWYR, WRECSAM




Dafydd ap Gwilym

DETHOLIAD O'I FARDDONIAETH



LLYFRAU'R FORD GRON

RHIF 6



WRECSAM

HUGHES A'I FAB




LLYFRAU'R FORD GRON
GOLYGYDD: J. T. JONES


GWNAED AC ARGRAFFWYD YN WRECSAM

RHAGAIR.

PAN ddeffrôdd meddwl Ewrop wedi gaeaf hir yr Oesoedd Tywyll, fe aeth ton o ganu dros y cyfandir i gyd—ton lawn o hoywder gwanwyn. Llais Dafydd ap Gwilym, a anwyd tua 1320 ac a fu farw tua 1380, oedd llais pereiddiaf Cymru yn y gytgan delynegol, ryfeddol honno.

Cyn gynted ag y dechreuodd Ewrop lefaru, llefarodd lawenydd ei chalon, nid ei chredo. "Ymaith â'r traddodiadau mynachaidd a'u culni," meddai'r beirdd a'r gwŷr wrth gelf, a throi am ysbrydiaeth newydd at fywyd a serch.

Gwawriodd oes y trwbadŵr ("darganfyddwr" neu grewr cerdd); oes y minnesinger ("canwr serch"); a'r glêr, neu'r ysgolheigion crwydrad. Canu mawl rhianedd prydferth a lleianod eiddil a wnai'r trwbadwriaid, a cherddorion yn cyfeilio iddynt ar fandolîn neu ffliwt. Gogoneddant serch llawen—serch at ferched, gan amlaf, a'r rheini'n fynych yn wragedd dynion eraill. Chwarddent am ben yr uffern dân a fygythiai'r Eglwys yn gosb arnynt am y fath "bechodau."

Yn neheudir Ffrainc, yn nhalaith Profens, sef y tir nesaf at Sbaen, lle y ffynnai diwylliant mirain yr Arab—yno y cododd cân y trwbadŵr gyntaf. Afraid holi, felly, o ba le y daeth y cynhyrfiad. Fe ddug y trwbadŵr i Ewrop felys naws barddoniaeth yr Arab, fel chwa gynnes o diroedd y De. Yr oedd y rhan hon o Ffrainc yn llawn heresi "wrth—Gristnogol"—heresi y ceisiodd y Pab Innocent III ei boddi yng ngwaed miloedd lawer o bobl. Trwy gydol y ddeuddegfed ganrif, ac ymlaen at 1300, dal ati i herio'r Eglwys a'i chenhadon yr oedd Profens, ac yr oedd hi'n wenfflam yr un pryd gan gân y trwbadŵr.

Fe helpwyd yr ymryddhau yn Ewrop, fe helpwyd y diwylliant newydd, gan dwf trefi rhyddion a masnach, gan y trafaelio a barodd y Crwsadau, a chan y chwedlau am y Brenin Arthur a ddygesid i Ffrainc gan y Cymry a aeth i Lydaw. Fe laddwyd y mudiad trwy i'r Babaeth fanteisio ar gynhennau brenhinoedd a chreu iddi ei hun awdurdod mwy ofnadwy nag erioed—yr Incwisisiwn.

Fe dducpwyd cân y trwbadwriaid i Gymru gan yr ysgolheigion crwydrad—y glêr—a chan y Normaniaid. I'r De y daeth. Y mae'r tinc dilys yng nghân Dafydd ap Gwilym. Y mae'n canu serch hoyw ac yn gwatwar yr offeiriaid. Iddo ef, y byd hwn ydyw gwlad yr addewid, ac nid cywir mo datguddiad yr Eglwys ar y byd. Os rhoes Duw reddfau neilltuol ynom, rhaid ei fod Ef ei Hun yn gyson â'r greddfau hynny:

Nid ydyw Duw mor greulon
Ag y dywaid hen ddynion;
Ni chyll Duw enaid gwr mwyn
Er caru gwraig na morwyn.

Hefyd, yn lle cadw at hen ddulliau iaith anghynefin, fel yr oedd yn arfer gan y beirdd, y mae Dafydd yn canu yn iaith bob dydd pobl ddiwylliedig ei oes. Dafydd ddechreuodd wneud yr iaith Gymraeg gyffredin a geir gennym ni heddiw yn iaith lenyddol.

Y mae ffansi ac egni a nwyf anghyffredin yn ei gywyddau natur. Sylwa'n graff. Gŵyr arferion anifeiliaid. Trinia goed, dail a blodau fel bodau byw, gyda theimladau dynol (ni cheir hyn ym. marddoniaeth Lloegr cyn Henry Vaughan yn y 17 ganrif). Lle y mae adar, yno i Ddafydd y mae "cyfanheddrwydd."

Dafydd oedd tad llenyddol y ddwy ganrif a'i dilynodd. Ef a greodd y mesur cywydd—cyfres of gyplau o linellau saith sillaf, y naill yn gorffen ag acen drom a'r llall ag acen ysgafn, a'r ddwy'n odli,— ac fe yrrodd hwn y mesurau eraill i'r cysgod. Ond, er bod weithiau megis ar gyfyng gyngor, 'ymwrthododd Dafydd ddim â'r gynghanedd fel yr ymwrthododd Chaucer, ychydig yn ddiweddarach, â'r mesurau Anglo—Saxon.

Y mae arddull Dafydd weithiau'n dynn iawn, fel pe bwriedid ambell gywydd i'w adrodd neu i'w ganu, gydag ysgogiadau wyneb a chorff a goslef llais i wneud y meddwl yn eglur. Sylwer hefyd ar ei allu anghyffredin i greu geiriau cyfansodd, megis "eos gefnllwyd ysgafnllefn," "esgudfalch edn. bysgodfwyd."

Credir mai ym Mro Gynin, Llanbadarn, Sir Aberteifi, y ganwyd Dafydd, er i rai beirdd ei alw yn "eos Dyfed " a "bardd glan Teifi." Ifor Hael, o Faesaleg, oedd yn ei flodau tua 1345, oedd ei brif noddwr. Yn ôl un traddodiad, yn Nhal-y-llychau y bu Dafydd farw. Dywed Gruffydd Gryg iddo gael ei gladdu dan ywen "ger mur Ystrad Fflur a'i phlas."

CYNNWYS

CREULONDEB MERCH
I'R LLEIAN
I FORFUDD
Y BARDD A'R BRAWD LLWYD.
MERCHED LLANBADARN.
AMNAID
CYNNWYS
Y SERCH LLEDRAD
I WALLT MERCH
Y BREUDDWYD .
Y DARAN.
I'R WYLAN
Y NIWL .
Y GWYNT.
EOS Y LLWYN BEDW
I'R ALARCH
CYNGOR Y BIOGEN
Y LLEUAD
HENAINT .
NODIADAU



NODIAD: Mawr yw dyled pob efrydydd Dafydd ap Gwilym i gyfrol gynhwysfawr yr Athro Ifor Williams, "Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr." Darlleniadau'r athro a dderbyniwyd bron trwy gydol y detholiad hwn.

Creulondeb Merch.

Y FERCH dawel wallt felen,
Eurwyd y baich ar dy ben.
Gwyn yw dy gorff ac uniawn,
A lluniaidd wyd, llyna ddawn!
Cyd bych, lanwych oleuni,
Deg a mwyn er dig i mi,
Gwneuthur brad yn anad neb,
Em y dynion, mae d'wyneb.
Dyrcha ael fain, d'orchwyl fu
Dristáu gŵr dros dy garu.
Duw a liwodd, dâl ewyn,
Dy wallt aur i dwyllo dyn.
Gweniaith brydferth a chwerthin
Erioed a fu ar dy fin.
Os dy eiriau ystyriaf,
Gruddiau gwin, gorwedd a gaf.
Gwell bedd a gorwedd gwirion
Na byw'n hir yn y boen hon.
Gwae fi, gwn boeni beunydd,
Weled erioed liw dy rudd.
Y ddwyais, ni haeddais hyn,
A guriodd o'th liw gorwyn.
Aeth dy wedd, Gwynedd a'i gŵyr,
A'm hoes innau a'm synnwyr.
Un drwg fydd ewyn ar draeth,
Llai a dâl, lliw hudoliaeth,
Lliw'r lili a henwi hud
Llwyn o ddail, lle ni ddelud.

Na wrthod, ferch, dy berchi,
Na phraw ymadaw â mi.
Gelynes, mau afles maith,
Wyd imi od aud ymaith.
Meinwen, na ddos o'm anfodd,
Byth nid aud ymaith o'm bodd.


I'r Lleian.

CARU dyn lygeitu, lwyd,
Yn ddyfal a'm gwnai'n ddifwyd.
Os mi a'i câr i arall,
Myn Duw gwyn, mi nid wy' gall.
Ai gwir, y ferch a garaf,
Na fynny fedw hoywdw haf?
Ac na thewy ny tŷ tau,
Wythliw sêr, a'th laswyrau?
Crefyddes o santes wyd,
Caredig i'r côr ydwyd.
Er Duw, paid â'r bara a'r dŵr,
A bwrw ar gas y berwr.
Paid, er Mair, a'r pader main,
A chrefydd menych Rhufain.
Na fydd leian y gwanwyn,
Gwaeth yw lleianaeth na llwyn.
Dy grefydd, deg oreuferch,
Y sydd wrthwyneb i serch.
Gwarant modrwy a mantell,
A gwyrdd wisg a urddai well.
Dyred i'r fedw gadeiriog,
I grefydd y gwŷdd a'r gog.

Ac yno ni'n gogenir,—
I ynnill nef ny llwyn ir.
A chadw i'th gof lyfr Ofydd,
A phaid â gormodd o ffydd.
Ninnau gawn yn y gwinwydd,
Yn neutu'r allt enaid rhydd.
Duw a fyn, difai annerch,
A saint roi pardwn i serch.
Ai gwaeth i ddyn gwiw ei thaid
Yn y llwyn ennill enaid,
Na gwneuthur fal y gwnaetham
Yn Rhufain ac yn Sain Siam?


I Forfudd.

Y FERCH a wnaeth gwayw dan f'ais,
A garaf ac a gerais,
Dy liw a wnaeth Duw Lywydd,
Dy dâl fal llygaid y dydd.
Duw a roddes it ruddaur,
Dy wallt fal tafod o aur.
Dy fwnwgl yn dwf uniawn,
Dy fronnau'n bellennau llawn.
Deurudd ysgarlad arael,
Du Llundain, riain, yw'r ael.
Dy lygaid fel dau loywgae,
Dy drwyn, ar ddyn mwyn y mae.
Dy wên yw'r pum llawenydd,
Dy gorff hardd a'm dwg o'r ffydd,
A'th wenned, fal nith Anna,
A'th liw deg gyda'th lun da.

Dy fwyned dan do fanwallt,
Dy deced, dyred i'r allt.
Bid ein gwely fry ny fron
Bedeiroes mewn bedw irion,
Ar fatras o ddail glas glyn
A'i ridens wych o redyn,
A chwrlid rhom a churlaw,
Coed a ludd cawad o law.
Gorweddaf lle bu Ddafydd
Broffwyd teg braff, i oed dydd;
Gŵr a wnaeth er lliw gwawr nef,
Saith salm, tad syth i Selef.
Minnau a wnaf, o'mannerch,
Salmau o gusanau serch,
Saith gusan gan rianedd,
Saith fedwen uwch ben y bedd,
Saith osber, saith offeren,
Saith araith bronfraith ar bren,
Saith erddigan dan y dail,
Saith eos, saith o wiail,
Saith acen orawen rydd,
Saith o gaeau, saith gywydd,
Saith gywydd i Forfudd fain
Syth hoywgorff, a saith ugain.
Clo ar gariad taladwy,
Ni ddyly hi i mi mwy.


Y Bardd a'r Brawd Llwyd.

TRAETHODL.

GWAE fi na wyr y forwyn.
Glodfrys, a'i llys yn y llwyn,
Ymddiddan y brawd llygliw .
Amdani y dydd heddiw!
Mi a euthum at y brawd
I gyffesu fy mhechawd.
Iddaw'dd addefais od gwn
Mai eilun prydydd oeddwn;
A'm bod erioed yn caru
Rhiain wynebwen aelddu;
Ac na bu im o'm llofrudd
Les am unbennes, na budd;
Ond ei charu'n hir wastad,
A churio'n fawr o'i chariad,
A dwyn ei chlod drwy Gymry,
A bod hebddi er hynny,
A dymuno ei chlywed
I'm gwely rhof a'r pared.
Hebr y brawd wrthyf yna,
"Mi a rown it gyngor da:
O cheraist eiliw ewyn,
Lliw papir, oed hir hyd hyn,
Llaesa boen y dydd a ddaw,
Lles yw i'th enaid beidiaw,
A thewi â'r cywyddau,
Ac arfer o'th baderau.
Nid er cywydd nac englyn.
Y prynodd Duw enaid dyn.
Nid oes o'ch cerdd chwi y gler
Ond truth a lleisiau ofer,

Ac annog gwŷr a gwragedd
I bechod ac anwiredd.
Nid da'r moliant corfforawl
A ddyco'r enaid i ddiawl."

Minnau atebais i'r brawd
Am bob gair ar a ddywawd:
"Nid ydyw Duw mor greulon
Ag y dywaid hen ddynion.
Ni chyll Duw enaid gŵr mwyn
Er caru gwraig na morwyn.
Tripheth a gerir drwy'r byd,
Gwraig, a hinon, ac iechyd.
Merch sy deca' blodeuyn
Yn y nef ond Duw ei Hun!
O wraig y ganed pob dyn.
O'r holl bobloedd, ond tridyn.
Ac am hynny nid rhyfedd
Garu merched a gwragedd.
O'r nef y câd digrifwch,
Ac o uffern pob tristwch.
Cerdd a bair yn llawenach
Hen ac ieuanc, claf ac iach.
Cyn rheitied i mi brydu
Ag i tithau bregethu,
A chyn iawned im glera
Ag i tithau gardota.
Pand englynion ac odlau
Yw'r hymnau a'r segwensiau?
A chywyddau i Dduw lwyd
Yw llaswyr Dafydd Broffwyd.
Nid ar un bwyd ac enllyn
Y mae Duw yn porthi dyn.

Amser a rodded i fwyd
Ac amser i olochwyd,
Ac amser i bregethu,
Ac amser i gynganeddu.
Cerdd a genir ym mhob gwledd.
I ddiddanu rhianedd,
A phader yn yr eglwys
I geisio tir Paradwys.
Gwir a ddywad Ystudfach,
Gyda'i feirdd yn cyfeddach,
Wyneb llawen, llawn ei dŷ,
Wyneb trist, drwg a ery.'
Cyd caro rhai santeiddrwydd
Eraill a går gyfanheddrwydd.
Anaml a wyr gywydd pêr,
A phawb a ŵyr ei bader.
Ac am hynny'r dwyfawl frawd,
Nid cerdd sydd fwyaf pechawd.
Pan fo cystal gan bob dyn
Glywed pader gan delyn,
A chan forynion Gwynedd.
Glywed cywydd o faswedd,
Mi a ganaf, myn fy llaw,
Y pader fyth heb beidiaw.
Hyd hynny, mefl i Ddafydd
O chân bader ond cywydd."
"Dos o'r byd a'th gywyddau!"
"Dos dithau i ffwrdd i'r poenau!"
"Dos di i boen a phenyd!"
"Dos dithau frawd du o'r byd!"
"Dos di i boen uffernawl!"
"Dos dithau, frawd, i law ddiawl!"


Merched Llanbadarn.

PLYGU rhag llid yr ydwyf,
Pla ar holl ferched y plwyf!
Am na chefais, drais drawsoed,
Onaddun yr un erioed!
Na morwyn fwyn ofynaig,
Na merch bach, na gwrach, na gwraig.
Pa rusiant, pa ddireidi,
Pa fethiant, na fynnant fi?
Pa ddrwg i riain feinael
Yng nghoed tywylldew fy nghael?
Ni bu amser na charwn,
Ni bu mor lud hud â hwn-
Anad gwýr unoed Garwy-
Yn y dydd ai un ai dwy.
Ac er hynny nid oedd nes
Im gael un no'm gelynes.
Ni bu Sul yn Llanbadarn.
Na bewn, ac eraill a'm barn,
A'm wyneb at y fun goeth,
A'm gwegil at Dduw gwiwgoeth.
A chwedi'r hir edrychwyf
Dros fy mhlu ar draws fy mhlwyf,
Fe ddywaid un yn befrgroyw
Wrth y llall, hawdd ddeall hoyw,
"Y mab llwyd wyneb mursen
A gwallt ei chwaer am ei ben,
Pa ddisgwyl ffôl ei olwg?
Gŵyr ei ddrem garu i ddrwg."
"Ai'n rhith hynny yw ganthaw?"
Yw gair y llall ger ei llaw.

"Ateb ni chaiff tra fo fyd;
Wtied i ddiawl beth ynfyd."
Talmithr im reg y loywferch,
Tâl bychan am syfrdan serch.
Rhaid oedd im fedru peidiaw
A'r foes hon, breuddwydion braw.
Gorau im fyned fal gŵr
Yn feudwy, swydd anfadwr.
O dra disgwyl, dysgiad certh,
Drach 'ynghefn, drych anghyfnerth,
Neur dderyw im, gerddrym gâr,
Bengamu heb un gymar.


Amnaid.

FAL yr oeddwn ymannos,
Druan iawn, am draean nos
Yn rhodiaw, rhydaer ddisgwyl
Rhy addwyn oedd, rhyw ddyn wyl,
Gar llys Eiddig a'i briod
(Gwaeddai'm ôl pe gwyddai 'mod)
Edrychais, drychaf drymfryd
Tew gaer, gylch y tý i gyd.
Cannwyf drwy ffenestr wydrlen,
Gwynfyd gwýr oedd ganfod Gwen!
Llyma ganfod o'm ystryw
Yr un fun orau yn fyw.
Llariaidd yw llun bun benfyr,
A'i lliw fel Branwen ferch Llyr,
Nid oedd liw dydd oleuni
Na haul wybr loywach no hi.

Mawr yw miragl ei gwynbryd,
Mor deg yw rhag byw o'r byd.
Mynnais gyfarch gwell iddi,
Modd hawdd y'm atebawdd hi.
Daethom hyd am y terfyn
Ein dau, ni wybu un dyn.
Ni bu rhyngom uwch trigair,
O bu, ni wybu neb air.
Ni cheisiais wall ar f'anrhaith,
Pei ceisiwn ni chawswn chwaith.
Dwy uchenaid a roesom
A dorrai'r rhwym dur y rhom.
Ar hynny cenais yn iach
I feinir, heb neb fwynach.
Un peth a wnaf yn fy myw,
Peidio dwedyd pwy ydyw!


Y Serch Lledrad.

DYSGAIS ddwyn cariad esgud,
Diwladaidd lledradaidd drud.
Gorau modd o'r geiriau mad
Gael adrodd serch goledrad.
Cyfryw nych cyfrinachwr,
Lledrad gorau cariad gŵr,
Tra fuom mewn tyrfaau
Fi a'r ddyn, ofer o ddau,
Heb neb, ddigasineb sôn,
Yn tybiaid ein atebion.

Coel herwr yn cael hirynt
A wnaetham o gytgam gynt.
Bellach, modd caethach y cair,
Cyfran darogan drygair.
Difa'r un drwg ei dafod
Drwy gwlm o nych, dryglam nod,
Yn lle bwrw enllib eiriau
Arnam enw dinam ein dau.
Trabalch oedd, o chaid rhybudd,
Tra geid y cariad trwy gudd.
Cerddais, addolais i ddail
Tref eurddyn, tra fu irddail.
Digrif in, fun, un ennyd,
Dwyn dan frig bedwlwyn ein byd,
Cyd gyfrinach fach a fu,
Coed olochwyd, cyd lechu,
Cyd fyhwman marian môr,
Cyd aros mewn coed oror,
Cyd blannu bedw, gwaith dedwydd,
Cyd blethu gweddeiddblu gwŷdd,
Cyd adrodd serch â'r ferch fain,
Cyd edrych caeau didrain,—
Crefft ddigrif rydd fydd i ferch,
Cyd gerdded coed â gordderch,—
Cadw wyneb, cyd owenu,
Cyd chwerthin finfin a fu,
Cyd ddigwyddaw garllaw'r llwyn,
Cyd ochel pobl, cyd achwyn,
Cydfod mwyn, cyd yfed medd,
Cyd arwain serch, cyd orwedd,
Cyd ddaly cariad celadwy,
Cywir, ni mynegir mwy.


I Wallt Merch.

DOE gwelais ddyn lednais lân,
Deg o liw, dygwyl Ieuan,
Yn ddyn glaerwen ysblennydd,
Yn lloer deg unlliw â'r dydd,
A'i min claerwin chwerthinog,
A'i grudd fal rhosyn y grog;
Aml o eurlliw mal iarlles,
Garllaw y tâl gorlliw tes;
Ac uwch ei deurudd ruddaur,
Dwy bleth fel y dabl o aur.
O datodir, hir yw hwn,
Yr eiliad aur a welwn.
Plethiad ar yr iad a rydd,
Aur godaid ar egwydydd.
Asgell archangel melyn,
Aerwy o gŵyr ar eiry gwyn.
Gweled ei gwallt fal gold gwiw,
Gwiail unllath gelynlliw.
Banhadlwyn uwch yr wyneb,
Bronbelau lliw siopau Sieb.
Gwiw arwydd uwch deurudd dyn,
Gwiail didau gold ydyn.
Copi clyd gwiwbryd gobraff,
Coed o aur rhudd cyd â rhaff.
Poni ŵyr beirdd penceirddwiw
Pwy biau'r gwallt pybyr gwiw?
Bid arnaf i yn ddiwg,
Arddel dyn urddol a'i dwg.


Y Breuddwyd.

FAL yr oeddwn, gwyddwn gêl,
Yn dargwsg mewn lle dirgel,
Gwelais yn ôl dichlais dydd.
Breuddwyd yn ael boreddydd.
Gwelwn fy mod yn rhodiaw
A llu o filgwn i'm llaw,
Ac i fforest yn gestwng,
Teg blas, nid tŷ taeog blwng.
Gollyngwn i yn ddioed,
Debygwn, y cŵn i'r coed.
Clyw-wn oriau, lleisiau llid,
Canu'n aml, cŵn yn ymlid.
Ewig wen uwch y llennyrch,
A welwn, carwn y cyrch,
A rhawt fytheiaid ar hynt
Yn ei hôl, iawn eu helynt.
Cyrchu'r allt dros ddiwalldrum,
A thros ddwy esgair a thrum,
A thrachefn dros y cefnydd
Ar hynt 'run helynt â'r hydd.
A dyfod wedi dofi
Yma yn ddig, i'm nawdd i,
Dwyffroen noeth, deffro wnaethum,
Wr glwth, yn y bwth y bûm.
Chwiliais yn ôl dichlais dydd.
Bob ryw gongl am ddehonglydd.
Cefais hynafwraig gyfiawn,
Pan oedd ddydd, yn ddedwydd iawn.
Addef a wnaethum iddi
Goel nos, fal y gwelwn i.

"O wraig gall, pei deallud
Derfyn ar hyn o hud,
Ni chyflybwn, gwn ganclwyf,
Neb â thi. Anobaith wyf."
"Da o beth, diobeithiwr,
Yw dy freuddwyd, od wyd ŵr,
Y cŵn heb gêl a welud,
I'th law, pe gwypen iaith lud,
Dy helwyr da eu helynt,
Dy lateion ëon ynt,
A'r ewig wen, unbennes
A garut ti, hoen geirw tes.
A diau hwyl y daw hi
I'th nawdd, a Duw i'th noddi."


Y Daran.

MAE gair i mi o gariad
Gael is dail gwely o stâd,
A cherdd gan fronfraith a chog,
A merch wen ym Mrycheiniog,
Dan lwyn mewn dien lannerch,
A dail Mai rhwng dwylaw merch.
Mynnais yn dâl am anun
Gael bod yn gywely bun.
Myn Duw, pan oeddem ein dau
Lawenaf, ddyn ael winau,
Taraw a wnaeth, terwyn oedd,
Trwst taran tros y tiroedd,
A ffrydiaw croywlaw creulawn,
A phoeri mellt yn ffrom iawn.

Gwylltio'r forwyn, fwyn feinwen,
Gwasgu, a ffo, gwisg ei phen.
Ffynnu yn deg, ffown ni'n dau,
Ffoes hon a ffoais innau.
Durun fam fu'r daran fflwch,
Dug warwyfa'n digrifwch.
Trwch oedd, a thristwch i'w thrwyn!
Trwst mawr yn tristáu morwyn.
Twrf a glyw pob tyrfa glau,
Tarw cryg yn torri creigiau.
Twrf awyr âi trwy Fuellt,
Twpr a fâg taprau o fellt.
Tân aml â dwfr tew'n ymladd,
Tân o lid, dwfr tew'n ei ladd.
Clywais fry, ciliais o fraw,
Carliaid utgyrn y curlaw.
Mil fawr yn ymleferydd.
O gertweiniau'r sygnau sydd.
Braw a ddisgynnodd i'm bron,
Bwrw deri i'r wybr dirion.
Gwyllt yr af a'm gwallt ar ŵyr
Gan ruad gwn yr awyr.
Gwiddon goch yn gweiddi'n gau,
Gwrach hagr, dan guro'i chawgiau.
Rhygn germain rhyw gŵn gormes,
Rhugl groen yn rhoi glaw a gwres.
Torri cerwyni crinion
A barai Grist i'r wybr gron.
Canu trwmp o'r wybr gwmpas,
Curo glaw ar bob craig las.
Croglam yn dryllio creiglawr,
Crechwen o'r wybr felen fawr.

Trwy ei hun y trawai hwrdd,
Tebyg i ganu tabwrdd.
Nid gwaeth wrth fyned o'i gwâl,
Er bremain o'r wybr wamal,
Oni bai faint, mewn braint braw,
Ofn deuddyn a fai'n dyddiaw:
Breferad o'r wybr ferydd
A wnaeth i mi dorri dydd.
Y fun wen, ofni a wnai
Awyr arw, ban weryrai.
Drwg fu'r daran ymannos,
Dwyn dlif ac ofni dyn dlos.
Arw floeddaist, oerfel iddi,
Am ysgar meinwar â mi!


I'r Wylan.

YR wylan deg ar lanw dioer
Unlliw ag eiry neu wenlloer,
Dilwch yw dy degwch di,
Darn fal haul, dyrnfol heli.
Ysgafn ar don eigion wyd,
Esgudfalch edn bysgodfwyd.
Yngo'r awn wrth yr angor,
Lawlaw â mi lili môr,
Llythr unwaith llathr ei annwyd,
Lleian ym mrig llanw môr wyd.
Cyweirglod bun, cei'r glod bell,
Cyrch ystum caer a chastell.
Edrych a welych, wylan,
Eigro liw ar y gaer lân.

Dywaid fy ngeiriau dyfun,
Dewised fi, dos at y fun.
Bydda i hun, beiddia 'i hannerch,
Bydd fedrus wrth fwythus ferch.
A bydd, dywaid na byddaf,
Fwynwas coeth, fyw onis caf.
Ei charu 'rwyf, gwbl nwyf nawdd,
Och wŷr, erioed ni charawdd
Na Merddin chwenych fin iach,
Na Thaliesin ei thlysach.
Siprys dyn giprys dan gopr,
Rhagorbryd rhy gyweirbropr.
Och wylan, o chei weled
Grudd y ddyn lanaf o gred,
Oni chaf fwynaf annerch
Fy nihenydd fydd y ferch!"

Y Niwl.

OED â'm rhiain addfeindeg
A wnaethwn yn dalgrwn deg,
I fyned, wedi 'mgredu,
Ymaith, ac oferdaith fu.
Mynd yn gynnar i'w haros,
Egino niwl gan y nos.
Tywyllawdd wybr fantellau.
Y ffordd, fal petwn mewn ffau.
Cuddiaw golwybr yr wybren,
Codi niwl cau hyd y nen.
Cyn cerdded cam o'm tramwy,
Ni welid man o'r wlad mwy,

Na gorallt fedw, na goror,
Na bronnydd, mynydd, na môr.
Och it, niwlen felenfawr,
O'th roed di, na threiut awr!
Casul o'r awyr ddulwyd,
Carthen anniben iawn wyd.
Gwrthban y glaw draw drymlyd,
Gwe ddu o bell a gudd y byd.
Mal tarth uffernbarth ffwrnbell,
Mwg y byd yn magu o bell:
Mwg ellylldan o Annwn,
Abid tew ar y byd hwn.
Ucheldop adargopwe
Fal gweilgi'n llenwi bob lle.
Tew wyd a glud, tad y glaw,
Tyddyn a mam wyt iddaw.
Cnwd anhygar diaraul,
Clwyd forlo rhyngo' a'r haul.
Nos im fydd dydd diferglwyd,
Dydd yn nos, pand diddawn wyd?
Tew eiry fry'n toi ar y fron,
Tud llwydrew, tad y lladron.
Gwasarn eira llon Ionawr,
Goddaith o'r awyr faith fawr,
Ymlusgwr bwriwr barrug,
Hyd moelydd grinwydd a grug.
Hudol gwan yn ehedeg,
Hir barthlwyth y Tylwyth Teg.
Gŵn i'r graig, gnu awyr gron,
Cwmwl planedau ceimion.
Ager o donnau eigiawn,
Mor wyd o Annwn, mawr iawn.

O'm blaen ar riw hagrliw hyll,
Obry'n dew wybren dywyll.
Fy nhroi i fan trwstanwaith,
Fal uffern, i fignwern faith,
Lle'r ydoedd ym mhob gobant
Ellyllon mingeimion gant.
Ni chawn mewn gwern uffernol
Dwll heb wrysg dywyll heb rôl.
Ni wnaf oed, anhy ydwy',
Ar niwl maith, â'm anrhaith mwy.

Y Gwynt.

YR wybrwynt helynt hylaw,
Agwrdd drwst a gerdda draw,
Gŵr eres wyd, garw ei sain,
Drud byd heb droed heb adain.
Uthr yw mor aruthr y'th roed
O bantri wybr heb untroed,
A buaned y rhedy
Yr awron dros y fron fry.
Dywed im, diwyd emyn,
Dy hynt, rhyw ogleddwynt glyn.
Och wr, a dos uwch Aeron
Yn glaear deg, yn eglur dôn.
Nac aro di, nac eiriach,
Nac ofna er Bwa Bach,
Cyhuddgwyn wenwyn weini;
Caeth yw'r wlad a'i maeth i mi.
Nythod ddwyn, cyd nithud ddail,
Ni'th dditia neb, ni'th etail

Na llu rhugl, na llaw rhaglaw,
Na llafn glas, na llif, na glaw.
Ni'th ladd mab mam, gam gymwyll,
Ni'th lysg tân, ni'th lesga twyll.
Ni boddy, ni'th rybuddiwyd,
Nid ei ynglŷn, diongl wyd.
Nid rhaid march buan danad,
Neu bont ar aber, na bad.
Ni'th ddeil swyddog na theulu
I'th ddydd, nithydd blaenwŷdd blu.
Ni'th wŷl drem, noethwâl dramawr,
Fe'th glyw mil, nyth y glaw mawr.
Rhad Duw wyd ar hyd daear,
Rhuad blin doriad blaen dâr.
Noter wybr natur ebrwydd,
Neitiwr gwiw dros nawtir gwŷdd.
Sych natur, creadur craff,
Seirniawg wybr siwrnai gobraff.
Saethydd ar froydd eiry fry,
Seithug eisingrug songry,
Drycin ym meherin môr,
Drythyllfab ar draethellfor.
Huawdl awdr hudol ydwyd,
Hewr dyludwr dail wyd.
Hyrddwr breiniawl, chwarddwr bryn,
Hwylbrenwyllt heli bronwyn.
Hydoedd y byd a hedy,
Hin y fron, bydd heno fry.
Gwae fi, pan roddais i serch
Ar Forfudd, araf eurferch!
Rhiain a'm gwnaeth yn gaethwlad,
Rhed fry rhod a thŷ ei thad.

Cur y ddôr, pâr egori
Cyn y dydd i'm cennad i.
A chais ffordd ati, o chaid,
A chân lais fy uchenaid.
Deui o'r sygnau diwael,
Dywed hyn i'm diwyd hael,-
Er hyd yn y byd y bwyf
Creded mai cywir ydwyf.
Ys gwae fy wyneb hebddi,
Os gwir nad anghywir hi.
Dos fry, ti a wely wen,
Dos obry, dewis wybren,
Dos at Forfudd felenllwyd,
Debre'n iach, da wybren wyd.

Eos y Llwyn Bedw.

Y LLWYN bedw dianedwydd,
Lle da i aros lliw dydd,
Llwybr ewybr glaslwybr glwysliw,
Llen o ddail llathr gwiail gwiw,
Lle cynnes iarlles eurllen,
Lle cyfraith bronfraith ar bren,
Lle glwys bron, lle golas brig,
Lle deuddyn er llid Eiddig,
Llen gêl merch a'i gordderchwas,
Llawn o glod ydyw'r llwyn glas,
Lle daw meinwar a'm cariad
I dŷ dail, o waith Duw Dad.
Cefais ryw geidwad adail,
Eurllen deg ar y llwyn dail,

Eos glwysgerdd is glasgoed,
Arwydd cyfanheddrwydd coed,
Wdwart erioed mewn coedwig
Ar ael bron er arail brig.
Gwnaf ystafell mewn celli,
Gwiw rydd o newydd i ni;
A glaslofft o fedw glwysliw,
A hafdy a gwely gwiw;
Parlwr o irwydd purlas,
Pair clod ar oror parc glas;
Cwmpas o fedw a gedwir,
Conglau cadeiriau coed îr;
Capel glwysfrig ni'm digiai
O ddail irgyll mentyll Mai.
Dyhuddiant fydd y gwŷdd gwiw,
Dihuddygl o dŷ heddiw.
O daw y fun i dŷ fau,
I dŷ fun y dof innau.
"Yr eos fain adeinllwyd,
Llatai ddechrau Mai im wyd!
Bydd nerth ar ael corberthi,
Gwna ddydd rhwng Morfudd a mi."

I'r Alarch.

"YR alarch ar ei wiwlyn,
Abid galch fal abad gwyn,
Llewych edn y lluwch ydwyd,
Lliw gŵr o nef, llawgrwn wyd.
Dwys iawn yw dy wasanaeth,
Hyfryd yw dy febyd faeth.

Duw roes it yn yr oes hon.
Feddiant ar lyn Yfaddon.
Dau feddiant rhag dy foddi
O radau teg roed i ti:
Cael bod yn ben pysgodwr,—
Llyna ddawn uwch llyn o ddŵr,—
Hedeg ymhell a elli
Uwchlaw y fron uchel fry,
Ac edrych, edn gwyn gwych gwâr,
I ddeall clawr y ddaear,
A gwylio rhod a'r gwaelod,
A rhwyfo'r aig, rhif yr ôd.
Gwaith teg yw marchogaeth ton
I ragod pysg o'r eigion.
Dy enwair, ŵr dianardd,
Yn wir yw'r mwnwgl hir hardd.
Ceidwad goruwch llygad llyn,
Cyfliwaidd cofl o ewyn.
Gorwyn wyd uwch geirw nant
Mewn crys o liw maen crisiant.
Dwbled mal mil o'r lili,
Wasgod teg, a wisgud ti.
Sieced o ros gwyn it sydd,
A gown o flodau'r gwinwydd.
Cannaid ar adar ydwyd,
Ceiliog o nef, clog—wyn wyd.
Gwrando f'achwyn, addwyn ŵr,
Wrthyd, a bydd im nerthwr.
Merch fonheddig sy'n trigaw,
A gwawr dlos sy gar dy law.
Brysia dithau—gorau gŵr,
Wyn ei gesail negeswr—

Nofia'n ufudd, ni'th luddir,
A dos i Gemais i dir.
Deled i'th gof ei gofyn,
Deuliw'r lloer, o Dal y Llyn.
Henw'r ferch a anerchir,
Hyn yn wawd yw ei henw'n wir,
U sy fry (H) hy hoywen,
A thair D ac Y ac N.
Cyrch yn araf ei 'stafell,
Cyfarch o'th ben i wen well.
Addef fy nolur iddi,
A maint yw fy amwynt i.
Dwg i mi, dig wyf am wen,
Wr lliwus, eiriau llawen.
Duw i'th gadw rhag pob adwyth,
Teg ei ben, ti a gei bwyth."

Cyngor y Biogen.

A MI'N glaf er mwyn gloywferch,
Mewn llwyn yn prydu swyn serch,
Ar ddiwrnawd, pybyrwawd pill,
Ddichwerw wybr ddechrau Ebrill,
A'r eos ar ir wiail,
A'r fwyalch deg ar fwlch dail-
Bardd coed mewn trefgoed y trig-
A bronfraith ar ir brenfrig
Cyn y glaw yn canu'n glau
Ar lwys bane eurlais bynciau;
A'r ehedydd lonydd lais,
Cwcyll-lwyd edn cu call-lais,

Yn myned mewn lludded llwyr
A chywydd i entrych awyr,
Minnau, fardd rhiain feinir,
Yn llawen iawn mewn llwyn ir,
Gan ddigrifed gweled gwŷdd,
Gwaisg nwyf, yn dwyn gwisg newydd,
Ac egin gwin a gwenith
Ar ôl glaw ar ael y gwlith,
A dail glas ar dâl y glyn,
A'r draenwydd yn ir drwynwyn;
Myn y nef, yr oedd hefyd
Y Bi, ffela' edn o'r byd,
Yn adeilad, brad brydferth,
Ym mhengrychedd perfedd perth,
O ddail a phriddgalch balch borth,
A'i chymar yn ei chymorth.
Syganai'r Bi, cyni cwyn,
Drwynllem falch ar y draenllwyn,
"Mawr yw dy ferw, gochwerw gân,
Henwr, wrthyd dy hunan.
Gwell it, myn Mair, air aren,
Gar llaw tân, y gŵr llwyd hen,
Nog yma 'mhlith gwlith a glaw
Yn yr irlwyn ar oerlaw."
"Taw a'th sôn, gad fi'n llonydd,
Ennyd awr oni fo dydd.
Dydi Bi, du yw dy big,
Uffernol edn tra ffyrnig!
Mawrserch am ddiweirferch dda
A bair im y berw yma.
Mae i tithau, gau gofwy,
Swydd faith neu lafur sydd fwy-

Toi nyth fel twyn o eithin,
Tew o ddraenwydd crynwydd crin.
Mae't blu brithddu, gu gyfan,
Mae't boen a brad, mae't ben bran,
Mae't lw twng, mae it liw tyg,
Mae't lys hagr, mae't lais hygryg.
A phob iaith bybyriaith bell
A ddysgud, freithddu asgell.
Dydi Bi, du yw dy ben,
Cymorth fi, od wyd cymen.
Dyro ym gyngor gorau
A wypych i'r mawrnych mau.
Gwyddwn it gyngor gwiwdda,
Cyn dyddiau Mai, o gwnai, gwna.
Nychlyd fardd, ni'th gâr harddfun,
Nid oes it gyngor ond un-
Dwys iawn fydr, dos yn feudwy.
Och, wr mul, ac na châr mwy!"
Llyma 'nghred, gwylied Geli,
O gwelaf nyth byth i'r Bi,
Na bydd iddi hi o hyn,
Nac wy dioer nac aderyn!


Y Lleuad.

DIGIAW 'dd wyf am liw ewyn,
Duw a wyr meddwl pob dyn.
O daw arnaf o'i chariad,
F'enaid glwys, fyned i'w gwlad,
Pell yw i'm bryd obrwyaw
Llatai drud i'w llety draw,

Na rhoi gwerth i wrach serth swydd
Orllwyd daer er llateirwydd;
Na dwyn o'm blaen danllestri,
Na thyrs cŵyr, pan fo hwyr hi,
Dros gysgu y dydd gartref,
A rhodiaw'r nos dros y dref.
Ni'm gŵyl neb, ni'm adnebydd,
Ynfyd wyf, oni fo dydd.
Mi a gaf heb warafun,
Rhag didro heno fy hun,
Canhwyllau'r Gŵr biau'r byd
I'm hebrwng at em hoywbryd.
Bendith ar enw'r Creawdrner
A wnaeth saeroniaeth y sêr,
Hyd nad oes dim oleuach
No'r seren gron burwen bach.
Cannaid yr uchel Geli,
Cannwyll ewybr bwyll yw hi.
Ni ddiffam pryd y gannwyll,
A'i dwyn ni ellir o dwyll.
Nis diffydd gwynt hynt hydref,
Afrlladen o nen y nef.
Nis bawdd dwfr llwfr llifeiriaint,
Disgwylwraig desgl saig y saint.
Nis cyrraidd lleidr o'i ddwylaw
Gwaelawd cawg y Drindawd draw.
Nid gwiw i ddyn o'i gyfair
Ymlid maen mererid Mair.
Golau fydd ym mhob ardal,
Goldyn o aur melyn mâl.
Gwir fwcled y goleuni,
Gwalabr haul gwelw wybr yw hi,

Hi a ddengys im heb gudd,
Em eurfalch, lle mae Morfudd.
Crist o'r lle bo a'i diffydd,
Ac a'i gyr, nid byr y bydd,
Gosgedd torth gann gyfan gu,
I gysgod wybr i gysgu.


Henaint.

CURIODD anwadal galon.
Cariad a wnaeth brad i'm bron.
Gynt yr oeddwn, gwn ganclwyf,
Yn oed ieuenctid a nwyf,
Yn ddilesg, yn ddiddolur,
Yn ddeiliad cariad y cur,
Yn ddenwr gwawd, yn ddinych,
Yn dda'r oed, ac yn ddewr wych,
Yn lluniwr berw oferwaith,
Yn llawen iawn, yn llawn iaith,
Yn ddogn o bwynt, yn ddigardd,
Yn ddigri', yn heini, 'n hardd;
Ac weithian, mae'n fuan fâr,
Edwi 'dd wyf, adwedd afar;
Darfu'r rhyfyg a'm digiawdd,
Darfu'r corff mau, darfer cawdd.
Darfu'n llwyr derfyn y llais,
A'r campau, dygn y cwympais.
Darfu'r awen am wenferch,
Darfu'r sôn am darfwr serch.
Ni chyfyd ynof, cof cerdd,
Gyngyd llawen ac angerdd,
Na sôn diddan am danun,
Na serch byth, onis eirch bun.

NODIADAU.

CREULONDEB MERCH

CYD BYCH: tra fyddi.TÂL EWYN: talcen gwyn fel ewyn y donDROS DY GARU: am (iddo) dy garu.PERCHI: parchu.MAU : fy.

I'R LLEIAN.

LLEIAN : merch o fynach, nun.LLYGEITU: llygeid—du.WYTHLIW SER: wythwaith cyn hardded a'r sêr.LLASWYRAU: salmau.CREFYDDES O SANTES: santes yn cadw ei llw.BWRW AR GAS Y BERWR: gofala gasáu berw dwfr (y mae'n debyg y defnyddid berw dwfr—water—cress—yn rhai o'r defosiynau).MENYCH myneich.PADER gweddi.PADER MAIN paderau cerrig, beads y Pabydd.CADEIRIOG: yn ymestyn allan. GWYRDD WISG: cyfeiriad at hen seremonïau'r gwanwyn.GWYDD coed.GOREUFERCH:uchelwraig, ladyOFYDD:Ovid, un o feirdd serch Rhufain.Llyfr Ofydd—yr Ars Amatoria (Celfyddyd Caru) neu efallai'r Commandment Ovid Ffrangeg.SAIN SIÂM (Saint James):Santiago de Compostella yn Sbaen, lle y cyrchai pererinion. Cyfeiriad ydyw hwnat y bobl a dyngai lw i beidio â siarad.

I FORFUDD.

AIS: asennau.DU LLUNDAIN: brethyn a wneid yn Llundain.MWNWGL gwddf.GLOYWGAE: perl gloyw.PUM LLAWENYDD: pum llawenydd Mair—ei beichiogi, geni Crist, ei atgyfodi, ei ddyrchafael, a'i fyned i Baradwys ei Dad.NITH ANNA: un deilwng o fod yn ddisgynnydd i Anna. Yn ôl Efengyl Iago, yn yr Apocrypha, Anna oedd mam Mair Forwyn. GALLT: Coed.NY: yn y.RHIDENS ymylon.CWRLID gorchudd.RHOM rhyngom.GOSBER: gweddi'r hwyr.OFFEREN: gwasanaeth yn yr Eglwys Gatholig.SELEF: Solomon.SAITH: efallai fod Dafydd yn chwarae â'r gair, gan y gall hefyd olygu santaidd (o sanct-, megis Saith Bedr o Sancti Petri').ER LLIW GWAWR NEF: mor hardd â'r nefoedd.ERDDIGAN: cân.GORAWEN: llawn llawenydd.

Y BARDD A'R BRAWD LLWYD.

BRAWD mynach, brawd eglwysig.CURIO nychu, dihoeni.CLÊR: beirdd answyddogol, beirdd crwydrad.LLYGLIW: llwyd.OD GWN: yn bendant. EILUN PRYDYDD: un ar lun prydydd?A DDYWAWD: a ddywedodd.TRIDYN: sef Adda, Efa, a Melchisedec?PAND: beth ond, onid.SEGWENSIAU: emynau a genid yn yr Eglwys Gatholig, sequences.LLWYD: bendigaid, sanctaiddLLASWYR: llyfr salmau (psalter).GOLOCHWYD: (1) gweddi, addoliant; (2) lle gweddio, encil.CYFANHEDDRWYDD: difyrrwch.

MERCHED LLANBADARN.

LLUDDIO: rhwystro, cadw draw.ONADDUN: ohonynt.GOFYNAIG: un i'w chwennych, desirée.GARWY: un o farchogion chwedlau Arthur; cariad Creurwy.DROS FY MHLU: dros blu ei het yn ei law.PLWYF: pobl y plwyf.MURSEN: hoeden, coegen.GANTHAW: ganddo.TRUTH: gwegi, lol.RHUSIANT: cyffro, neu efallai amheuaeth.GLUD: cyson, dyfal, dibaid.WTIO : hwtio.TALMITHR disymwth; creulon?NEUR DDERYW IM: fe ddarfu imi.

AMNAID.

YMANNOS: y noson o'r blaen.LLYMA dyma.TRYCHAF: o trwch, sef anffodus.BUN: merch.MIRAGL: gwyrth.CANNWYF: canfyddaf.ANRHAITH: trysor, anwylyd.Y RHOM:rhyngom.

Y SERCH LLADRAD.

ESGUD: chwim, angerddol.GOLEDRAD: dirgelaidd, distaw bach.COEL HERWR: baich herwr (a hynt hir o'i flaen).HIRYNT hir hynt.DAROGAN: achwyn.CWLM: cwlwm.ARNAM: arnom.GOLOCHWYD : gweler dan "Y Bardd a'r Brawd Llwyd."BYHWMAN: crwydro.DIGWYDDAW: syrthio.DALY: dal.

I WALLT MERCH.

DYGWYL IEUAN: gŵyl geni Ioan Fedyddiwr, Mehefin 21 (y dydd byrraf). Gelwir hi'n Wyl Ifan a Gŵyl Ioan.RHOSYN Y GROG: planhigyn a'i flodau coch yn debyg i arfau'r Dioddefaint. (Y Grog—y groes, megis yn y groglith.)TÂL: talcen.EILIAD gwead, plethiad.EGWYD(YDD): tusw o flew y tu cefn i gymal isaf coes march.AERWY: cadwyn.GELYNLLIW: o'r un lliw ag aeron celynCOPI prysglwyn, coppice. SIEB (neu SIEBSEID): Cheapside, yn Llundain.UNLLATH: tyfu ar yr un goes.

Y BREUDDWYD.

DARGWSG: cysgu.DICHLAIS DYDD: clais neu doriad y wawr.GESTWNG:gostwng, mynd i waered yn araf.BLWNG dig, brwnt.CLYWED GORIAU: clywed gweiddi, sŵn, neu gyfarth.CYRCH: yr helfa.RHAWT: rhawd, mintai.DIWALLDRUM: trum neu hirfryn di—fwlch.YN DDIG yn ei phoen.LLATAI, —EION cennad serch.EON: eofn.HOEN GEIRW TES: fel tonnau tes yr hafddydd.

Y DARAN.

DIEN: di-hen, ieuanc, hardd.ANUN: an-hun, colli cwsg.TERWYN: nerthol, gwyllt.FFO: ffoi.DARUN FFLAM: fflam ei phig.FFLWCH: eglur.SYGN: arferid dosbarthu llwybr llydan y nen, y llwybr a gymerai'r haul mewn blwyddyn, yn ddeuddeg sygn (signs of the zodiac)GWIDDON: gwrach, rheibes, dewines.RHYGN sŵn rhygnu.GERMAIN: oernad, udo.CERWYN: vat, twb darllaw mawr.GWARWYFA: chwaraefa.TWPR bref myharen?TAPRAU cannwyll gŵyr, taper.CARLIAID gweision.CERTWEINIAU: wagenni, certiau.BREMAIN: rhechain.BREFERAD: rhu.MERYDD gwlybyrog, dwl.YMANNOS: y nos o'r blaen.DLIF dylif, dilyw.

I'R WYLAN.

DIOER diau (neu cynnes).DYRNFOL maneg ddur.YNGO gerllaw.LLYTHR llythyr.UNWAITH: unwedd.LLATHR EI ANNWYD: disglair ei natur.LLEIAN: mynaches, nun.YSTUM: adeilad, ffurf; neu lethr (Llanystumdwy).EIGR mam Arthur.DYFUN: dymuno.SIPRYS: (lluniaidd fel) sipryswydden, cypress.DYN GIPRYS: merch ffraeth dafotrydd.DAN GOPR: dan wallt lliw'r copr.O GRED: o wledydd Cred.DIHENYDD: diwedd, dinistr.

Y NIWL.

TALGRWN: cyfan.GAN Y NOS: gyda'r nos.WYBR FANTELLAU: mantellau'r wybren.GOLWYBR: gorwel.CASUL: clog, mantell.CARTHEN llen, cynfas.GWRTHBAN: blanced, neu gwilt gwely.ELLYLLDAN: tân ellyll.ANNWN y byd arall, obry.ABID gwisg mynach, urddwisg, habit.ADARGOPWE: gwe pryf copyn.GLUD: yn glynu; clós, trwm.MIGNWERN: cors wleb.ANHY: nerfus, hwyrfrydig, ofnus.ANRHAITH: trysor, cariad-ferch. DI-ARAUL: di-heulwen, llwyd.DIFERGLWYD: clwyd yn diferu.DIDDAWN: melltigaid.TUD: cartref, gwlad.GWASARN: gwellt a osodir dan anifeiliaid.HUDOL: dewin, swyngyfareddwr.CNU: gwlan.TRWSTANWAITH: tro trwstan, trwsgl, anlwcus.

Y GWYNT.

HYLAW: hy-(g)law.ERES: dieithr.DRUD: dyn o'i bwyll.ARO aros.EIRIACH: hepgor.Y BWA BACH: gŵr Morfudd.GWENWYN WEINI: yn gweini gwenwyn.NYTHOD DDWYN: ti leidr nythod, er nithio ohonot y dail, ni'th gyhudda neb.NI'TH ETAIL: ni'th atal.CAM GYMWYLL: ti sy'n cam-sôn am bethau.NITHYDD BLAENWYDD BLU: ti sy'n nithio plu y blaenwyddTREM: llygad.NOETHWAL: yn dy wâl noeth.RHAD: bendith.BLIN DORIAD BLAEN DÂR: yn torri yn flin flaen y deri.NOTER: rheolwr.SEIRNIAWG WYBR: un yn sarnu'r cymylau.EISINGRUG: crug eisin.SONGRY: cryf ei sŵn.MEHERIN MÔR: defaid y môr, sef y tonnau (cf. môrgesyg).HUAWDL AWDR HUDOL YDWYD: dewin hyawdl wyt.HEWR: heuwr.RHOD (RHYNGOD) A THŶ EI THAD: dull Cymraeg o ddweud "tua thu ei thad."SYGNAU: gweler "Y Daran."DEBRE tyred, dere.

EOS Y LLWYN BEDW

DIANEDWYDD: dedwydd.ARAIL: gofalu am, gwylio.DYDD: oed, pwyntment.IARLLES EURLLEN pendefiges euraid ei gwisg.EWYBR buan.EIDDIG yr enw a roddid ar ŵr y ferch y canai'r bardd iddi.CYFANHEDDRWYDD COED: coed yn fannau trigo, ac felly'n fannau llawenydd.WDWART: ceidwad coed, woodward.DYHUDDIANT: cysur.DIHUDDYGL: glân.CORBERTHI: perthi bychain.

I'R ALARCH.

GŴR O NEF: gŵr mewn urddau eglwysig.DWYS: llawn ystyr.YN YR OES HON: bu'r alarch yn rhywbeth arall (atgof am hen draddodiad Celtaidd am ferched yn cael eu troi'n elyrch).YFADDON: Llyn Safaddon, Talgarth, Brycheiniog, fe gredir.RHOD: rhyngot.AIG: haid; rhwyfo'r aig—i ormesu ar y pysgod.RHAGOD: dal, cipio. GEIRW dyfroedd, trobyllau.DWBLED dilledyn (o Ffrainc) oedd yn ffasiwn yn oes. Dafydd; doublet.SIECED: siaced.CANNAID: goleuad; pennaeth.CLOG—WYN: mewn urddau eglwysig.AMWYNT: clefyd.ADWYTH: nam, niwaid, pla.PWYTH: gwobr, tâl.

CYNGOR Y BIOGEN.

PILL: pennill.CWCYLL—LWYD: llwyd ei wisg (cwcwll—rhan o wisg mynach).GWAISG bywiog.ADEILAD: adeiladu.PENGRYCHEDD: drysni.SYGANAI: dywedai, murmurai.AREN: hyawdl, ffraeth.MAE'T: mae it.TYG: teg.I'R MAWRNYCH MAU: i'm nych mawr.CELI: Duw.

Y LLEUAD.

TANLLESTRI: llusernau.TYRS: torsau, torches.DIDRO: crwydro.CANNAID: goleuni.MAEN MERERID: perl.BWCLED: tarian, astalch.GWALABR: delw.

HENAINT.

GWAWD: cân.YN DDOGN O BWYNT: yn dda fy iechyd, mewn cyflwr da, llyfndew. ("Braseaist, tewychaist, pwyntiaist."—Deut. xxxii, 15.)DIGARDD: di—fai, anrhydeddus.TARFER: cyffro, terfysg.CAWDD gofid, cythrudd.CYNGYD: ymdrech, ymgais.

PEDAIR NOFEL GYMRAEG.

E. Tegla Davies: GWR PEN Y BRYN

Gyda Deg o Ddarluniau. 230 td. Lliain, 3s. 6d.
Stori fyw, wreiddiol, gyffrous a hollol ar ei
phen ei hun."—Y Tyst.

"This is a novel to read and to keep."—South Wales News.

W. D. Owen: MADAM WEN

Rhamant dlos a chynhyrfus. Ail argraffiad. 188 td. Lliain, 3s. 6d.

"Y mae pob pennod o Madam Wen yn gymhleth
o antur, rhyfyg, gwrhydri a dirgelwch."—Y Llenor.

"Saif Madam Wen yn arwres o'r dechrau i'r
diwedd, a rhyw gyfaredd rhyfedd yn dilyn ei holl
rawd... Dyma stori fyw o'r dechrau i'r diwedd,
swynir ni gan symudiadau lledrith Madam Wen, a
denir ni ymlaen gan awydd am agoriad i ddirgelwch
hudol yr hanes. Dyma lyfr a ddarllenir gydag
afiaith."—MR. E. MORGAN HUMPHREYS yn Y Genedl
Gymreig.

T. Gwynn Jones: LONA

Lliain, 2s. 6d.

"Lona is almost unique in Welsh. It is a love
story, a romance, a perfectly constructed best seller
which ought to create a furore in Wales and go
through a dozen editions."—MR. SAUNDERS LEWIS.

"Darllenir Lona gydag awch o'r dechrau i'r
diwedd. Gwneuthum hynny fy hun. Stori rwydd,
yn llawn o ddigwyddiadau cyffrous a helyntion
i'ch cadw'n effro."—MR. E. MORGAN HUMPHREYS.

Kate Roberts: DEIAN A LOLI

Gyda Darluniau. Lliain Ystwyth, 2s. 6d—Byrddau, 3s.

"Un o'r llyfrau plant gorau a gafwyd ers blynyddoedd yw Deian a Loli. Tri swllt yw ei bris,
ac y mae hwnnw'n bris isel iawn am lyfr mor
wych."—Y Faner.

"Hanes swynol dau efell sydd yma. Y mae'r
awdures yn deall plant i'r dim, ac y mae'r stori yn
naturiol ac yn debyg i fywyd."—Y Llenor.

I'w cael trwy'r Llyfrwerthwyr ym mhobman.

HUGHES A'I FAB, WRECSAM.

Nodiadau golygu



 

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.

 

[[