Damwain echrydus Glofa Carnant, Cwmaman, Sir Gaerfyrddin
← | Damwain echrydus Glofa Carnant, Cwmaman, Sir Gaerfyrddin gan Hugh Roberts (Pererin Môn) |
→ |
GALARUS
GOFFADWRIAETH
AM Y
DDAMWAIN ECHRYDUS
A GYMERODD LE YN
Nglofa Carnant,
Cwmaman, Sir Gaerfyrddin, boreu dydd Mercher, Ionawr 16eg, 1884.
Tra yr oedd y glowyr yn cael eu gollwng i lawr at eu gwaith, dygwyddodd i'r rhaff dori, a chyffyrddodd deg ohonynt a marwolaeth sydyn a dychrynllyd. Eu henwau oeddynt:—
David Roberts, gwr priod a phump o
blant, Brynaman; Thomas Bevan,
gwr priod a thri o blant, Cwmaman;
Wm. Lake, gwr priod a tri o blant,
Cross Inn; Thomas Michael, priod,
Cwmaman; John Evan Jones, sengl,
Cwmaman; John D. James, sengl,
Cwmaman; Evan Roberts, bachgenyn,
Brynaman; Thos. Roberts, bachgenyn,
Brynaman; Daniel Kees, bachgenyn,
Cwmaman; a Edward Morgan, bachgenyn, Brynaman.
Ffyrdd Duw sydd dan y ddaear,
Ac yn y dyfnder mawr,
Uwch dinad ac amgyffred
Trigolion daear lawr;
Ie, trefn fawr Ragluniaeth
A'i odiaeth droion cudd,
I bawb o'r teulu dynol
Yn berffaith ddirgel sydd.
Mae dyn yn fod cyfrifol—
Rhaid rhoddi cyfrif oll
O flaen y Barnwr Cyfiawn,
Heb un i fyn'd ar goll;
Mewn awr pryd na feddyliom
Cawn deimlo dirfawr boen,
A'n gwysio fry gan Angeu
O flaen yr addfwyn Oen!
Mae miloedd yn y boreu
O'r ie'nctyd hawddgar hardd—
Serchogrwydd ar eu gruddiau
Fel rhosyn gwridog gardd,
Ond cyn y nos lle byddant?
Yn nhrag'wyddoldeb maith!
O! am gael Iesu'n gyfaill
Cyn dechreu'r ddirfawr daith
Y glowyr o Bwll Garnant
Yn foreu aeth i'r gwaith,
Er cwpla i fyn'd i'r angladd,
Heb feddwl bod yn faith;
Yr unfed dydd ar bymtheg
O Ionawr, cofiwch hyn,
Pan gafodd deg eu diwedd—
O! chwerw foreu syn.
Pan ar eu ffordd i'r gwaelod
Y rhaff a dorai'n ddwy,
Nes oeddynt oll yn ddrylliau,
A phrofi marwol glwy',
Gan adael eu teuluoedd—
Mewn cwsg yn esmwythau—
Gan wynebu trag'wyddoldeb,
'Nol colli'r bywydau brau.
Y gaffer aeth i'r gwaelod,
A chafodd olwg fawr;
Eu cyrff o'ent wedi eu dryllio,
A'u gwaed yn lliwio'r llawr:
Rhyw fynyd fach cyn hyny
Yn iach yn myn'd i'r gwaith,
Heb feddwl am wynebu
Y tragwyddoldeb maith.
'Does neb a haedd'u barchu
Yn fwy na'r glowyr cu;
Beunydd maent mewn peryglon
O dan y ddaear ddu,
Yn cloddio'r trysor gwerthfawr
Sydd raid ei gael bob dydd,
Er cynal eu teuluoedd,
O chwerw brofiad prudd!
Yr Arglwydd fyddo'n nodded
I'r rhai sy'n brudd eu bron,
Yn wylo dagrau heilltion
Trwy'r ddamwain erchyll hon;
Tad ydyw i'r amddifad,
A gwr i'r weddw brudd,
Sy'n wylo ac och'neidio
Yn gyson nos a dydd!
HUGH ROBERTS
(PERERIN MON).
Nodiadau
golyguBu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.