Dan Gwmwl (testun cyfansawdd)

Dan Gwmwl

gan Awena Rhun

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Dan Gwmwl

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader




DAN GWMWL



GAN

AWENA RHUN





LLYFRAU PAWB

DINBYCH




Argraffiad Cyntaf—Chwefror 1946





Argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych

DAN GWMWL

CYRHAEDDODD Alina i'r tŷ yn gynharach nag arfer. Yr oedd hi ar ganol llawr y gegin yn tynnu ei chôt oddi am dani dan fwmian canu, cyn i Sera Defis sylweddoli'n iawn ei bod yno.

"Hylo! Beth a'ch gyrrodd chi adre mor gynnar?"ebr hi gan ostwng ei phen i edrych dros ei sbectol.

"Ddois i'n rhy gynnar?

Naddo'n enw'r dyn. Ond wrth mai dydd Iau yw hi, 'doeddwn i ddim yn y'ch disgwyl am un awr arall o leiaf. Sut groeso a gawsoch yn Rock View y pnawn? 'Roedd yno steil garw, mi dyffeia i nhw !

Buasai'n llawer gwell imi fod wedi mynd am dro iawn i lawr ar hyd y cwm, neu fod wedi dringo i ben y mynydd a mynd â brechdan neu ddwy yn fy mhoced. Nid wyf wedi mwynhau fy hanner diwrnod heddiw o gwbl. Cawswn dipyn o iechyd i gorff a meddwl petawn wedi mynd i gerdded drwy'r awyr iach. Peth gwirion ydyw mynd i dai i de!" meddai Alina.

Gwelodd Sera Defis ar unwaith fod rhywbeth wedi troi'r drol efo Alina. Yr oedd pedair blynedd o fyw gyda'i gilydd wedi rhoi'r cyfle iddi fedru adnabod yr eneth yn weddol dda, hyd yn oed yn unig oddi wrth ei hwyneb. Gwyddai pryd i dewi, ac aeth ymlaen â'r bydio o glytio hen wisg a wnai'r tro eto' i'w gwisgo yn y bore.

Ni fu gair croes rhyngddynt ar hyd y pedair blynedd, ac er bod Sera Defis dros ei deg a thrigain, nid oedd yn hen ei hysbryd o bell ffordd. Yr oedd ei llond o ryw afiaith ifanc. Llawer awr ddifyr a dreuliwyd ganddi hi ac Alina-y naill yn sôn am helynt caru'r gorffennol, a'r llall am helynt caru cariadau'r presennol. Cawsai'r eneth yr un pleser o siarad yn rhydd ac agored efo'i lletywraig ag a gawsai gyda'i ffrindiau ifainc. Teimlai ddiddordeb mawr ym mhroblemau ei ffrind oedrannus, ac yn ei barn am y byd a'i droeon. Mewn un ystyr, yr oedd Alina yn hŷn na'i hoed.

Ond y noson hon, nid oedd Alina mewn gormod brys i ddweud beth a'i gyrrodd oddi ar ei hechel; a phan oedd hi'n hongian ei chôt yn y cyntedd, dyna sgrech annaearol y seiren yn gyrru ei harswyd dros bopeth; ac fe'i hatgofiwyd bod rhyfel yn y byd a bod y gelyn ar ei ffordd drwy'r wybren.

"O, mam bach!" meddai'r hynaf, "gwell inni fynd i's sbens, deudwch?

"Na, fe 'steddwn ni'n dawel wrth y tân 'ma," meddai'r eneth.

"'Rois i'r bleind du na'n iawn ar y ffenest, deudwch?"

"Do, do! Peidiwch â phoeni."

Yr oedd Sera Defis wedi.cynhyrfu, a'i gwedd cyn wynned â'r lliain bwrdd. Neidiodd wrth deimlo cyffyrddiad pawen y gath ar ei ffedog. Nid oedd Twm yn hoffi sŵn y seiren mwy na'i feistres. "'Steddwch Mrs Defis bach," ebr Alina. "Peidiwch â'ch styrbio'ch hun. Ddaw'r hen aflwydd ddim y ffordd hon. Mynd am Lerpwl, neu rywle tebyg, y mae o. 'Does dim iddo i'w gael mewn lle fel hyn.

Ar hynyna, dyna Mrs Huws y tŷ nesaf yn rhuthro i mewn â'i gwynt yn ei dwrn.

"O'r tad! Beth ddaw ohono ni, deudwch?" ebr hi. Honno eto fyth cyn wynned â'r galchen.

"'Rown innau'n gofyn i Alina 'rwan, tybed a fyddai'n well inni fynd i'r sbens," ebr Sera Defis.

"Mi es i i'r sbens yn fy ffwdan, a'r peth cyntaf a ges yn fanno oedd llygoden fach yn rhedeg o gwmpas fy nhraed. 'Chlywsoch chi mono fi'n sgrechian, deudwch?"

"Naddo! meddai'r ddwy, a thorrodd Alina i chwerthin er gwaethaf difrifwch" yr awr.

"Chwerthwch chi neu beidio, 'ngeneth i. Hwyrach mai crio y byddwch chi toc," meddai Leusa Huws.

Taerai hefyd na fyddai'n waeth ganddi weld bom yn disgyn na gweld llygoden yn rhedeg o gwmpas ei thraed.

Eisteddodd y tair o gylch y tân yn dawel i sgwrsio am hyn a'r llall, a soniwyd cryn dipyn am hanes y difrod a'r trychinebau a fu yn nhueddau Lloegr y dyddiau o'r blaen. Ail-adroddwyd mwy nag un stori drist am y cartrefi'n cael eu chwalu'n dipiau mân, a channoedd o gyrff dan y malurion; ac fel yr oedd rhyw ddyn wedi gweld pen cyrliog plentyn bach a rowliodd i'r gwter. Ni fedrai'r dyn hwnnw anghofio'r peth tra byddai byw, medden' hw'.

Ac i beth mewn difrif yr oedd peth fel yna'n dda, oedd eu prif gwestiwn.

"Nid oes ond un farn amdani hi, ferched bach," ebr Sera Defis, "mae hi'n uffern ar yr hen ddaear 'ma o'r diwedd."

Ac i gyd o achos un dyn!" ebr Leusa Huws. "Un dyn sy'n cael y bai," ebr Alina. "Ond y mae yna lawer o ddynion pwysig a chyfrifol yn y bwti o'r tu ôl i Hitler, medden' hw'."

"Felly y bydd y dyn tŷ pella' 'na yn taeru efo mi o hyd. A wyddoch chi beth ddeudodd o neithiwr ddwytha? Na fyddai hi ddim gwaeth arno' ni petai Hitler yn ennill. Mae'r dyn fel petai o'n falch o weld y bwystfil yna'n ennill tiroedd. Mae'n hen bryd cael diwedd ar lywodraethwyr drwg Prydain Fawr, medde fo."

Barnai Alina mai ein lle ni fel pobl Lloegr a Chymru ydoedd ymorol am ddynion gwell i'n llywodraethu. Peth cachgiaidd ynom, a dweud y lleiaf, ydoedd disgwyl i greadur gwallgof ddod i'n gwlad i wneud y gwaith y medrem ni ein hunain ei wneud yn well, a hynny heb y lladd a'r dinistrio direswm. "O! Yr hen ddiafol sy gryfaf heddiw, Alina fach," ebr Sera Defis. Dyna sŵn drwg y seiren unwaith eto yn rhoi tro cas yng nghalonnau'r tair gyda'i gilydd, a neidiodd Twm, y gath, ar lin Alina. Rhybudd o waredigaeth ydoedd y tro hwn, a diolchwyd fod un perygl arall wedi mynd heibio heb eu cyffwrdd hwy, pwy bynnag arall a fwrdrwyd neu a oedd ar gael eu niweidio.

Toc, clywid clep drws y tŷ nesaf yn cau, a deal!odd Leusa Huws fod ei phriod yntau wedi cyrraedd adref yn ddiogel o rywle. Brysiodd i'w thŷ ar ei ôl, a rhyw londer ym myw ei llygaid, ac yn sŵn ei throed.

"Wel,.yn wir, mi fydd cwpaned o de yn reit dda 'rŵan," meddai Sera Defis. Ac wedi eistedd i lawr i swpera, dywedodd Alina yn blwmp ac yn blaen, ei bod wedi digio wrth Derwyn. Pan holai'r llall am beth y digiodd, yr ateb oedd:

"Am ddim byd, am a wn i."

Yr oedd wedi penderfynu mai fel yna yr oedd hi orau. Yr oedd mam Beti wedi ei gyrru i ryw fŵd anhapus y pnawn efo'i brolio a'i sôn am ei theulu, ac am ryw hynafiaid, a phawb ohonynt yn "dda allan" ac yn y blaen.

Poenai gwraig Rock View yn arw wrth y bwrdd te am na buasai ganddi hithau, Alina, deulu yn rhywle. Ystyriai ei bod fel pelican yn yr anialwch.

"Ac nid oes dim casach gen i na rhyw sŵn tosturiol o'r fath," meddai'r eneth.

"Soniodd hi rywbeth wrthych am Siôn Rogo—hen ewyrth iddi o ochr ei mam? "Dim peryg'!" meddai'r llall. "Hel rags oeddgwaith hwnnw, ac mi fedrwn i ddweud chwaneg, ond waeth heb â dechrau. 'Ddown i byth i ben.

Ie'n sicr, mam Beti a yrrodd Alina oddi ar ei hechel y diwrnod hwn. Cawsai ei gwahodd i Rock View i de lawer tro o'r blaen ar ei hanner diwrnod o'r siop; ond ni fedrai gofio am un o'r troeon hynny na fyddai wrth droi oddi yno, wedi cael rhyw air neu gilydd i'w brifo mewn ffordd glên gan fam Beti, ei ffrind. Methai'n glir â deall Mrs Owen, Rock View.

Ac yn anffodus, fel petai rhywbeth yn mynnu bod i'w phoeni ymhellach, wrth fynd am dro dros lwybr y ddôl gyda'r nos, digwyddodd Derwyn ar ryw siarad sôn y dylai hi geisio cael gwybod pwy oedd ei rhieni. Troes hithau arno fel mellten, a dywedyd ei bod hi'n berffaith hapus heb rieni na pherthnasau o fath yn y byd i'w phoeni, ac y gwnai hi'r tro'n gampus heb ei gwmni yntau hefyd. Yn fyrbwyll iawn, dywedodd wrtho os oedd arno eisiau merch â rhieni ganddi, a theuluoedd ac arian a phob rhinwedd yn perthyn iddynt, am iddo fynnu cwmni Beti Rock View; a throes ar ei sawdl oddi wrtho ar hynyna.

Cyn gynted ag y llithrodd y geiriau olaf yna dros ei gwefusau, buasai'n medru brathu ei thafod am fod mor ffôl. Ond yr oedd yn rhy hwyr. Cyflymodd ymlaen tuag adref â'i phen i fyny.

Safodd Derwyn yn ei unfan fel dyn wedi ei syfrdanu am dipyn. "O'r gorau. Popeth yn iawn," meddai wrtho'i hun. Yr oedd ef mor annibynnol ei ysbryd â hithau. Ni fynnai ef mo Beti. Yr oedd ganddo farn o'i eiddo'i hun, a medrai ddewis drosto'i hun. Aeth yn ei flaen yn hamddenol ar hyd y llwybr heb edrych yn ei ôl. Safodd yn sydyn drocon yn ei synfyfyrdod. A thoc, wedi sefyll a thanio'r ail sigaret neu'r drydedd, tynnodd hi am funud o'i enau, a chwarddodd ryw chwerthiniad cwta, ac meddai: "Myn diawch, mae merched yn bethau rhyfedd!"

*****

Yr oedd hi wedi troi hanner nos ers meityn, ond daliai Alina i eistedd wrth ffenestr ei llofft fechan yn synfyfyrio yn lle mynd i'w gwely i gysgu fel y dylai.

Nid oedd angen cannwyll arni, ac nid oedd eisiau tynnu'r llenni duon i lawr. Yr oedd y lleuad yn llawn, a'r awyr o'r glas dyfnaf a welsai hi erioed; a phefriai rhyw fil-mil o sêr mân o'r ehangder tawel.

Disgleiriai toeau'r tai islaw, ac yr oedd ffenestri cefn y stryd gyferbyn fel rhyw res o ysbrydion yn llygadrythu i'r un man. Ar y dde iddi ymestynnai mynyddoedd o liw'r fagddu am filltiroedd fel rhyw warchae uchel, godidog o gylch yr hen bentref.

Teimlai'r eneth rywfodd yn brudd er ei gwaethaf; ac nid rhyfedd ymhen yrhawg ydoedd i ryw ochenaid ddianc o'i mynwes a disgyn i ddiddymdra'r nos olau fel darn o blwm. Buasai'n dda ganddi petai wedi medru meistroli ei thymer efo Derwyn gynnau ar lwybr y ddôl. Ceisiai ddyfalu sut y teimlai ef erbyn hyn tybed. Rhyfedd na buasai wedi ei hateb ryw ffordd neu gilydd. Buasai llawer hogyn wedi rhedeg ar ei hôl ac ymbilio arni wrando arno'n egluro ei feddwl yn iawn iddi, a gofyn am faddeuant os oedd wedi ei brifo. Ond ni wnaeth Derwyn mo hynny. Petai wedi ei hateb rywsut yn lle sefyll fel polyn—neu'n hytrach fel delw fud, a'i wallt du wedi ei frwsio'n ôl yn llyfn-loyw o'i dalcen, a'i lygaid treiddiol yn syllu arni—ie, heb ddweud yr un gair. Penderfynodd nad oedd o'n hitio botwm corn ynddi, wedi'r cwbl. Os bu ef yn hoff ohoni fel y cafodd le i gredu y bu, tebyg ei fod yn ei chasau erbyn hyn. Rhaid addef bod ddygiad mud Derwyn wedi rhoddi halen ar friw.

Tra'r oedd hi'n anhapus fel hyn, dechreuodd bensynnu. Cofiai amdani ei hun un tro yn y Plaza, gyda Beti ac Agnes. Pymtheng mlwydd oed oedd hi'r pryd hynny. Yr oedd yno un darlun y noson honno a'i hatgofiodd mai un o gyfrinachau cymdeithas oedd ei bodolaeth hi ei hun yn y byd, na wyddai neb o b'le y daethai, a phwy oedd ei rhieni.

Mae'n wir na fu ganddi le i achwyn ar honno a fu'n actio fel mam iddi am un mlynedd ar bymtheg. Modryb Lora, Tŷ Hen, ydoedd honno; a daeth pang o hiraeth drosti am yr hen ferch addfwyn a'i magodd.

Ond wedi'r cwbl, nid oedd hi'n perthyn yr un dafn o waed i Fodryb Lora. Nid y fodryb fwyn a ddadlennodd hynny iddi. "Nage!" meddai hi gyda phwyslais wrthi ei hun. Cofiai'n rhy dda am fam Meri Anna, y drymblen fusneslyd honno, a chofiai fel y rhedodd adref i'r Tŷ Hen-rhaid nad oedd hi ond prin saith mlwydd oed-a gofyn: "Ydw i ddim yn perthyn i chi, Anti Lora? "Pam 'rwyt ti'n gofyn peth felna? "Mam Meri Anna ddeudodd wrtha i 'rŵan, nad ydech chi ddim yn Anti go-iawn imi." "Wel, a glywsoch chi'r fath beth erioed!" oedd yr ateb.

Cofiai fel y ceisiodd ei modryb chwerthin am ben y peth gan ddweud nad oedd eisiau i blant bach siarad am bethau fel-na; ac mai dysgu hel straeon oedd hynyna. "Hen lolan yw mam Meri Anna," meddai.

Anodd ar y pryd oedd ei throi hi draw. Agorwyd ei llygaid ar gwestiwn a gododd ei chwilfrydedd. Yr oedd Meri Anna wedi dweud hefyd na fu ganddi hi erioed dad na mam. Methai ddeall sut na chafodd hi dad a mam fel plant eraill. Daliai i holi a stilio nes gyrru Modryb Lora i godi ei llais a dweud wrthi am fynd allan i chwarae a bod yn hogan dda.

Daethai'r digwyddiad yna mor fyw i'w chof fel y teimlodd ar y munud hyfrydwch y plentyndod diniwed yn llifo drwy'i gwythiennau wrth lamu allan dros garreg y drws i chwarae eilwaith gyda Meri Anna a'r plant eraill, ac afal melys yn ei llaw.

Ie, y digwyddiad hwnnw oedd y garreg goffa gyntaf i'w hysbysu nad oedd hi'n hollol yn yr un safle â phlant eraill yr ardal. Nid oedd iddi dad a mam.

Ond beth mewn difrif a barodd iddi gofio am fam Meri Anna? Y ddynes annifyr honno a welai fai ar blant pawb, a byth yn gweld bai ar "Meri Anna bach," chwedl hithau.

Am funud, daeth rhyw chwerthin drosti ynghanol ei phrudd-der, wrth gofio fel y byddai'r mân hogiau yn tynnu gwallt Meri Anna,a lluchio cerrig ati er mwyn pryfocio'r fam wirion. Hithau â'i gwallt am ben ei dannedd yn eu bygwth â'i dyrnau i fyny.

Pam yr oedd yn rhaid i ryw fanion fel hyn ddyfod yn ôl iddi'n awr? Nid oedd dim cysur i'w ddisgwyl o gofio mam Meri Anna. Petasai Anti Lora'n fyw, buasai'n dweud ei bod yn rhoi lle i adar duon yn ei chalon, ac yn ei chynghori i'w shiwio ymaith.

Anodd oedd eu hel i ffwrdd pan ddeuent ar eu tro. Rhaid oedd mynd am dro yn eu cwmni ar hyd yr hen lwybrau.

Cofiai hefyd am y drafferth a gawsai i gael gan Fodryb Lora, ymhen blynyddoedd wedyn, roi iddi ychydig o hanes ei dyfodiad i'r byd. Yr ychydig a fedrodd gasglu ydoedd fod rhyw wraig o Gymraes a gartrefai yn Llundain wedi dod â hi i'r Tŷ Hen i'w magu dros rywrai eraill. Yr oedd y cwbl yn ddirgelwch i'r wraig honno yn ogystal ag i Fodryb Lora.

Felly, y cwbl a gafodd yr eneth ei wybod oedd: ei bod yn sypyn o beth fach binc, ychydig fisoedd oed mewn dillad del, a stoc reit dda o ddillad ar wahân mewn basged fawr. At hyn yr oedd swm gweddol o arian, digon at ei magu. Dywedwyd mai Alina oedd ei henw ac yr oedd yr enw wedi ei weithio ag edau sidah goch ar ei dillad, heb y syrnám, a dyna sut y cafodd hi'r cyfenw Morgan gan ei mam-faeth yng Nghymru. Yr oedd hi'n fodlon iawn ar yr enw, pa beth bynnag arall a oedd ar goll.

Rhyfedd fel y llwyddodd i gofio am bron bopeth o'r gorffennol y nos hon. Gwibiai ei meddwl ar draws ac ar hyd, o'r naill beth i'r llall. Mor fyw i lygad y meddwl oedd y cwbl. Gwelai Modryb Lora hoff wedi gorffen gwaith y tŷ, yn eistedd yn ei chadair wrth y tân yn darllen, neu'n gweu neu wnïo byth a hefyd, a phob dim o'i chwmpas yn loyw fel seidar. Ni fyddai hi byth yn hel tai i chwedleua. Do, cafodd amser da efo Modryb Lora.

Cefnasai Lora Morgan ar y Tŷ Hen ers tua phedair blynedd, ond nid cyn ei gosod hi, Alina, ar ben y ffordd i ymladd ei brwydrau ei hunan. Gofalodd am ei phrentisio ym mhrif fasnachdy'r dref, cyn gynted ag y gadawodd yr ysgol ddydd; ac yr oedd hi erbyn hyn wedi dod i gael cyflog byw gweddol ddel.

Chwarae teg i'r eneth, ceisiai edrych yn barhaus ar yr ochr orau i bethau; a synnai ati hi ei hun yn sefyllian wrth y ffenestr fel y gwnai i "hel meddyliau am gyhyd o amser. Ond rhaid oedd ufuddhau i fŵd y foment.

Dyna hi ei hôl eto yn eneth bymtheg oed; ac yn edrych ar y lluniau-byw-llafar yn y Plaza efo Agnes a Beti; a dacw'r wraig honno a welodd ar ei phen ei hun yn un o ystafelloedd gwych ei phlas yn ymddangos. Rhydd y llyfr a ddarllenai o'i llaw ac â at y piano. Tery i ganu rhyw eiriau prudd-felys sy'n rhoi ychydig o gyfrinach ei chalon.

Yn y cefndir, mewn congl, daw darlun arall i'r golwg sy'n ddrych o feddwl y wraig. Gwelir parc preifat, coediog, a dynes ifanc hardd mewn du, a fêl yn gorchuddio ei hwyneb, yn estyn baban wedi ei lapio mewn siôl wen i ofal dynes arall. Yna diflanna'r naill a'r llall o'r golwg i'w ffyrdd eu hunain drwy'r coed.

Cilia'r parc coediog, a gwelir llong yn cychwyn o borthladd allan i'r môr, a'r ddynes hardd mewn dillad du ymhlith y teithwyr ar ei bwrdd . . .

Cnoi melysion eu gorau glas yr oedd Agnes a Beti drwy gydol y llun arbennig hwnnw. Hithau, Alina, wedi anghofio bod ganddi hi ei hun felysion yn ei phoced. Yr oedd hi wedi llyncu'r syniad diniwed mai iddi hi yn arbennig oedd y gân, yn enwedig bob tro y doi'r geiriau:

Dy lais a glywaf fyth ar donau'r lli,
Dy lais a glywaf yn galw arnaf i.

Yr oedd llygaid mawr, prydferth y wraig yn syllu'n union arni hi, Alina, wrth ganu'r geiriau hyn. Ymddengys bod cydwybod y wraig wedi cadw'n effro yng nghanol ei chyfoeth ar hyd y blynyddoedd, a'i bod yn dychmygu clywed llais ei phlentyn anghyfreithlon yn dal i alw amdani o rywle-rywle ar draws y byd.

"Beth ac ymsyniai'r eneth un ar hugain oed wrth ei ffenestr yn union fel yr ymsyniodd gynt yn bymtheg oed-beth petai ei mam hithau yn digwydd bod yn gyfoethog fel honno? Ac yn byw mewn plas! Nid hwyrach bod cydwybod ei mam hithau yn ei phoeni weithiau am ddyfod â hi i'r byd a'i gadael mor ddi-feind at drugaredd dieithriaid. Ond efallai na phoenodd hi am ennyd awr ar ei chorn. Hwyrach, wir, mai gwraig hunanol, ddrwg oedd ei mam!

"Na, ni fedrai ddygymod â'r syniad yna, chwaith, am ei mam, p'le bynnag yr oedd hi. Ac O! na châi hi wybod rhywbeth amdani! Tybed a fedrai meddwl plentyn gyffwrdd ag enaid y fam nas gwelodd erioed, os oedd hi ar dir y rhai byw yn rhywle? Pwy a ŵyr?

le, a phwy a ŵyr nad oedd hi'n meddwl am ei phlentyn y munud hwn. Hwyrach ei bod yn methu cysgu yn yr oriau hynny, ac mai hi, ei phlentyn, a oedd yn ei rhwystro.

Yr oedd y barrug allan yn drwm ers oriau, a theimlodd Alina o'r diwedd fod ei anadl oer yn ymlapio amdani drwy'r ffenestr nes peri cryndod drwy. ei holl gorff a'i gyrru i'w gwely i lechu dan y dillad. O dipyn i beth wedi dechrau gwrando ar chwyrniadau Sera Defis o'r llofft arall, yr oedd cwsg yn ymlithro'n araf deg drosti hithau, ond rhywfodd cofiodd yn sydyn ei bod heb ddweud ei phader. A oedd eisiau ei ddweud? oedd ei chwestiwn nesaf. Codasai rhyw amheuaeth ynghylch yr arferiad hwn yn ei meddwl droeon cyn hyn. Ond fel bob tro o'r blaen, ei chael ei hun yn ei ddweud drwyddo yn ei meddwl ar ei gorwedd dan y dillad a wnaeth hi; ac yn naturiol fel arfer wrth gwt y pader, daeth yr hen adnod fach honno: "Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf; canys ti, Arglwydd, yn unig a wnei imi drigo mewn diogelwch.'

*****

Buan y cynefinwyd yn yr Hendre Gaerog, fel mhobman arall, â sŵn y seiren, a'i rhybuddion anhyfryd; er y teimlid o hyd yr un hen ias, "fel petai rhywbeth yn rhoi hoelen sgriw drwy eich calon, chwedl Leusa Huws, yn enwedig ar y trawiad cyntaf o'r sŵn.

Ond erbyn hyn, ni faliai nemor neb am gadw'r gwahanol orchmynion a roddwyd ar y dechrau gan hwn ac arall, sef am iddynt ofalu sefyll mewn rhyw gongl neilltuol rhwng y drws a'r ffenestr. Hefyd yr oed swatio dan y bwrdd yn blan da, a gwell plan na'r cwbl ydoedd mynd i'r twll-dan-y-staer.

Ambell dro, digwyddai i'r seiren nadu yn ystod y dydd, a thorri ar heddwch y gwragedd gyda gwaith. y tŷ. Addefai un wraig ddarfod i'r "hen seiren gebyst 'na" ddod i'w dychryn a hithau cyn ddued â'r simnai yn rhwbio'r grat. Aeth ar ei hunion i olchi tipyn ar ei hwyneb rhag ofn i rywbeth ddigwydd, ac i bobl ei chael wedi ei lladd â'i hwyneb yn fudr. Ond y tro hwnnw, wedi'r drafferth o ymolchi a bustachu'n bryderus, cafodd wybod ymhen yrhawg mai ymarferiad ydoedd stŵr y gloch, a bu stori'r ymoichi yn destun hwyl i'r stryd gyfan.

Cynefinwyd hefyd â sŵn yr awyrblanau, ac â hanes trychinebau ar faes y gwaed, ac yn ninasoedd Lloegr a Chymru. Aethai popeth ymlaen yn yr Hendre boblog fel arfer er gwaethaf y ffaith bod y dynion ifainc, a llawer tad yn eu plith, yn gorfod ymateb i alwad y gad; ac ymhlith y rhai hyn fe aeth Derwyn yntau.

Synnai pawb o weled bod Derwyn wedi mynd, ac yntau'n heddychwr o argyhoeddiad amlwg. Dywedai Leusa Huws ei fod wedi siarad yn dda ofnadwy yn y caban cinio, medde nhw, wrth ffarwelio â'i gydweithwyr yn y chwarel. Diolchai am eu cynghorion a'u dymuniadau da.

Sicrhai ei gydweithwyr ei fod wedi penderfynu mynd, nid am ei fod yn credu mewn rhyfel, ond am iddo weld yn gwbl glir nad oedd dewis arall yn bosibl iddo dan yr amgylchiadau enbydus yr oedd ein byd ynddo.

"Nid oes eisiau ein hatgofio," meddai, "ar bwy y mae'r bai am y rhyfel hwn, fel am bob rhyfel o'r blaen. Ond nid amser i siarad yw hi heddiw. Rhaid i rywrai aberthu unwaith eto."

Aethai deufis a rhagor heibio oddi ar noson y ffrwgwd rhwng Alina ag yntau ar lwybr y ddôl. Pan glywodd hi gan Leusa Huws ei fod wedi mynd i'r rhyfel, cafodd gryn ysgydwad, a theimlodd ryw fath o edifeirwch yn ei chalon. Gofidiai na fuasai wedi cael ysgwyd llaw ag ef a dymuno'n dda iddo. Ond yr oedd wedi mynd cyn iddi gael cyfle i wybod am ei fwriad.

Sut y medrai hi gael ei gyfeiriad oedd ei phroblem yn awr. Ni fedrai ddygymod â'r meddwl ei fod ef wedi ymadael am y fyddin, ac yn coleddu'r syniad, efallai, fod dicter yn ei chalon hi tuag ato. Sut y medrai gael dangos iddo ei bod yn ffrind cywir iddo drwy bopeth?

Cafodd y drychfeddwl un dydd Iau y mynnai wneud teisen iddo. Cai y pnawn yn rhydd at y gwaith. Yr oedd mamau a chwiorydd y bechgyn yn cynilo'r wyau a'r cyrains a'r resins beunydd er mwyn cael gyrru teisennau iddynt. A phan gyrhaeddodd y tŷ i'w chinio, a dweud ei bwriad wrth Sera Defis, cafodd bob help gyda gwneud y deisen. Yr oedd y popty'n boeth eisoes, a chadwyd y gwres i fyny ynddo; ac wrth lwc yr oedd gan wraig y tŷ ddigon o fargarîn y gallai ei hepgor.

Dyna ddifyr i Alina oedd y gwaith anniben hwnnw o gymysgu'r menyn a'r siwgwr nes cael y cynnwys wedi eu troi fel hufen. Braf oedd eistedd yng ngwres y tân i wneud hynny. Wedyn torri'r wyau un ac un a'u curo am allan o hydion. Teimlai'n hapus, a chanai wrth y gwaith bob yn ail â sgwrsio efo Sera Defis.

Ni fu gwell lwc erioed ar grasu teisen," ydoedd barn y ddwy. Cafwyd cyfeiriad Derwyn—rhywle yn Lloegr. I ganlyn y deisen yr oedd darn bach o bapur gwyn yn cludo "Cofion a dymuniadau gorau, Alina."

Aeth wythnos ar ôl wythnos heibio. Mis a dau a rhagor. Ofer fu'r disgwyl am air oddi wrth Derwyn. Penderfynodd Alina mai dyna ei ffordd ef o ddangos nad oedd yn dymuno am ragor o'i chyfeillgarwch. Wel, popeth yn iawn, os fel yna y teimlai ef. Nid oedd ei theimladau da hi tuag ato ef ronyn yn llai.

Ychydig a wyddai'r eneth nad aeth y deisen' yr un cam pellach na Lerpwl, ac mai rhyw weilch ifainc digydwybod a fu'n gwledda arni'n slei gyda gwirod a chariadau.

*****

Poenid cryn dipyn ar bawb, yn enwedig ar drigolion tai cyffredin yr Hendre Gaerog, parthed y galw am le i'r noddedigion. Yr oedd pob tŷ bron wedi gorfod cymryd un neu ddau, ac weithiau ragor, o blant. Ni fedrent orfodi Sera Defis i gymryd neb petai ganddi le; yr oedd hi dros ei deg a thrigain. Felly cafodd hi ac Alina lonydd, rhyw fath o lonydd.

Bu'n rhaid i Leusa Huws y tŷ nesaf gymryd dau o blant ifainc—brawd a chwaer, y naill yn bump a'r llall yn saith oed—rhy ifainc, yn wir, i ddod mor bell oddi cartref heb eu mam, chwedl hithau. Bu'r ddau fach yn brefu gan hiraeth bron drwy'r noson gyntaf, yn ddigon â thorri calon dyn.

O dipyn i beth, medrwyd eu cael i gynefino â'u cartref newydd, ac i ddechrau chware â phlant eraill. Wedyn, toc iawn, fe'u clywyd yn parablu Cymraeg er boddhad mawr i Leusa Huws a'i gŵr.

Cŵynai ar adegau dros y wal gefn wrth Sera Defis fod cryn drafferth efo'r cnafon bach, a dyheai am y diwrnod y byddent yn troi'n ôl. Eto i gyd, tendied neb arall rhag dweud dim anffafriol am y ddau blentyn a oedd dan ei gofal hi!

Torrwyd ar y sgwrsio arferol dros wal y cefn un pnawn gan gnocio trwm ar ddrws ffrynt Sera Defis. Brysiodd hithau i'w ateb.

"Ai yma y mae Miss Alina Morgan yn byw?" meddai'r Saesnes ddieithr ar garreg y drws.

"Ie," meddai gwraig y tŷ.

"A gaf i ei gweld?

Dyw hi ddim i mewn 'rŵan, ond fydd hi ddim yn hir cyn dod o'r siop. Dowch i mewn i'w haros." Troes Sera Defis hi i'r gegin orau. Ymddiheurai am nad oedd yno dân yn y gegin honno y diwrnod hwnnw; a synnai ati hi ei hun yn llwyddo i glebran cystal yn ei Saesneg anystwyth. Cafodd ollyngdod nid bychan pan agorodd Alina y drws a dod i mewn ar ei hald fel arfer.

"Dyma wraig ddiarth eisiau eich gweld, Alina,' ebr hi yn Gymraeg, a da oedd ganddi gael mynd i'r gegin gefn a gadael y ddwy gyda'i gilydd.

"Y chwi yw Alina Morgan, onid e?"

"Ie," ebr yr eneth, gan syllu'n gwestiyngar ar y wraig a safai'n bur urddasol ar ganol y llawr. Syllai'r wraig arni hithau, a rhyw wên foddhaus ar ei hwyneb.

"le," ebr hi, "y chwi yw'r eneth yn ddi-os. Ni fuasai'n rhaid imi ofyn, yn wir."

"Maddeuwch i mi, ond yr ydych chwi'n gwbl ddieithr i mi," meddai Alina.

"I dori'r stori'n fyr: y fi yw eich mam."

Syfrdanwyd yr eneth gymaint gan y geiriau hyd oni chamodd yn ôl wysg ei chefn, yn union fel petai hi wedi ei tharo â dwrn yn ei hwyneb. Cochodd hyd at fôn ei gwallt, a gwelwodd wedyn. Cafodd ei tharo gymaint fel na fedrai lefaru gair am yr eiliad a oedd iddi fel hanner awr.

Safai'r ddynes hanner cant oed, a'r eneth un ar hugain oed, yno'n syllu ar ei gilydd. Yr oedd y tebygrwydd rhwng y ddwy yn gwbl glir, petai yno ryw drydydd person i sylwi ar y peth. Yr unig wahaniaeth ydoedd bod mwy o gnawd am yr hynaf, a'i gwallt du, tonnog wedi britho. Yr oedd yr aeliau uwchben y llygaid glas tywyll wedi eu plicio a'u trimio, a'r gwefusau wedi eu paentio'n drwm.

"Ofnaf fy mod wedi eich ypsętio," ebr y ddynes. "Ni ddylwn fod wedi fy nadlennu fy hun mor sydyn ichwi."

"Sut yr wyf i wybod eich bod yn siarad y gwir?" oedd yr ateb.

"Gadewch inni eistedd," ebr y ddynes. Buont yn siarad am o leiaf awr, ac ofnai Sera Defis yn y gegin gefn fod y ddwy yn starfio, er nad oedd hi eto ond diwedd Medi.

*****

"Yn wir, y mae rhyw bethau rhyfedd ofnadwy yn digwydd yn y byd 'ma!" meddai Sera Defis wrth estyn hanner llwyaid o siwgwr i'w chwpan amser swper. Yr oedd Mrs West (canys dyna oedd enw'r ddynes ddieithr) wedi gwrthod aros i swper; ond daeth cyn belled â'r gegin gefn am funud neu ddau, er mwyn iddi hi a Mrs Defis gael eu cyflwyno i'w gilydd.

Yr oedd hi, Mrs West, wedi gorfod ffoi o Lundain i Gymru i chwilio am nodded rhag y bomiau echrydus. Yr oedd ei nerfau bron yn dipiau. A meddyliodd, wrth ddewis yr Hendre Gaerog, efallai y buasai'n dod o hyd i Alina. Yr oedd wedi cael llety reit gyfforddus gyda Mrs Preis, Heather View, Stryd yr Haul, y tŷ nesaf i Rock View, ac yr oedd wedi. cael sgwrs hir â Mrs Owen, Rock View. Bu'r ddwy wraig hyn yn garedig dros ben yn ei sicrhau p'le i ddod o hyd i Alina. "Y mae Rhagluniaeth yn ein harwain yn dirion o hyd, pe gwelem hynny," ebe hi wrth fynd allan.

Rhyw bigo bwyta 'r oedd Alina, a rhoes y darn brechdan o'i llaw yn sydyn ar y plat gan eistedd yn ôl yn ei chadair: Wyddoch chi beth," ebe hi, "fedra i ddim dweud 'mod i'n falch o weld y ddynes 'na, wedi'r cwbl!"

"A chithau wedi dyheu cymaint am gael cwrdd â'ch mam? Dylech fod yn falch, Alina fach. Y mae hi'n ddynes hardd o bryd a gwedd. Golwg taclus arni. Beth petai hi yn hen beth gomon yr olwg, â ' llygad du ganddi—ôl ei gŵr neu rywun wedi ei tharo—'run fath â honno a'i thri phlentyn a ddaeth i dŷ Jane Williams, Tŷ'r Gongl? Cyn belled ag y gwelaf i, y mae eich mam yn ddynes nobl iawn. Rhaid coelio mai eich mam ydi honna. 'Rydych yr un ffunud â hi, ond eich bod chi'n ifanc a ddim mor dew â hi, a'ch gwallt chi heb fritho a phethau felly. Synnwn i ddim na byddwch chithau'n dew pan ewch i'w hoed hi."

"Mi rown y byd yn grwn am gael gweld Anti Lora am funud bach 'rwan! Ni chaf yr un fam byth i'w chymharu ag Anti Lora! Anti Lora oedd fy mam i," meddai, a rhoes y ffordd i feichio crio.

Gwelodd Sera Defis mai gadael i bethau gymryd eu cwrs oedd raid, ac mai gormod hwyrach ydoedd disgwyl i'r eneth fedru dygymod â'r hyn a ddaeth arni mor sydyn. Rhyfeddai, er hyn, na buasai hi'n llawenychu o gael cwrdd â'i mam, yn enwedig o gofio sut y bu hi'n gofidio am na chafodd erioed wybod hyd yn oed pwy oedd ei rhieni heb sôn am eu gweld.

"A dyma hi, wedi i'r fam gael ei gyrru gan fomiau Hitler o Lundain i Gymru at ei phlentyn, 'dydi'r plentyn ddim gronyn balchach o'i gweld. Mae'n anodd i'r Brenin Mawr wybod sut i blesio pawb yn y byd 'ma," ebr Sera Defis ynddi ei hun.

Yr oedd stori'r fam wrth Alina yn y gegin orau yn rhedeg yn bur llyfn. Sut bynnag, yr oedd aml gwestiwn rhwng cromfachau y carasai'r eneth eu gofyn a chael atebiad iddynt. Prif swyddog ar long fawr oedd ei thad, yn ôl y stòri. Collodd ei fywyd ar y môr cyn i Alina gael ei geni. Yr oedd y fam wedi priodi'n is na'i sefyllfa, a hynny'n groes i ewyllys ei rhieni. Digiwyd hwy yn enbyd. A'r unig ffordd i gael eu maddeuant, a chael drws agored i'w chartre'n ôl ydoedd drwy yrru ei baban i Gymru i'w magu. Dywedai ei bod wedi hiraethu llawer amdani ar hyd y blynyddoedd.

Ond ni fedrodd Alina dderbyn y geiriau olaf yna'n ddi-gwestiwn yn ddistaw yn ei chalon. Mor hawdd y gallasai ddyfod i'w gweld, ac i edrych a oedd hi'n cael ei magu'n iawn ai peidio. Faint a faliodd hi am ei baban diniwed? Er ei gwaethaf, cododd rhyw atgasedd cudd yn ei chalon tuag at y fam hon. Yn lle holi tipyn arni, aeth yn fud.

Rhaid oedd coelio mai hi oedd ei mam, wedi'r cwbl. Gwyddai i'r dim am y man-geni a oedd ar ei chlun dde. "Y mae gennych farc ar eich clun dde sy'n union fel eiren Victoria, onid oes? meddai hi yn y gegin orau. Addefodd Alina fod ganddi farc felly.

Aeth y fam ymlaen i ddweud fel y cofiai'n dda amdani'i hun yn blysio eiren Victoria aeddfed, felys wrth weld eu blodau mewn perllan yn y wlad allan o Lundain, ac ychwanegodd mai yn y bru yr oedd hi, Alina, y gwanwyn hwnnw.

A thoc, wrth droi a throsi'r geiriau hyn yn ei meddwl, gofynnodd Alina i Sera Defis a fedrai hi roi rhyw oleuni iddi ar eu hystyr. Beth oedd â wnelo'r eiren Victoria â'r man geni a oedd ar ei chlun hi?

"O, y mae pethau tebyg i hynyna'n digwydd weithiau i wragedd beichiog," oedd yr ateb. "Daw blys mawr arnynt am rywbeth neu'i gilydd i'w fwyta, ac os na fedrent ei gael i borthi'r ffansi, bydd llun y peth a flysiwyd gan y fam, fel rheol, yn ymddangos as ryw ran neu'i gilydd o gorff y baban. Mae hynyna'n beth rhyfedd iawn i'w ddweud, ond dyna'r ffaith. 'Fûm i 'rioed yn un farus iawn, ac mi ges bopeth a oedd gen i ei eisiau wrth gario John bach ers talwm. A 'doedd dim marc o fath yn y byd arno fo. "A dyna beth rhyfedd arall." ebr Alina, "i'r ddynes 'na daro ar lety yn y drws nesaf i Rock View o holl lefydd y byd!

"Dyna'r mei ledi, Mrs Owen, yn cael gweld o'r diwedd fod gennych fam, a chael gweld hefyd ei bod yn ddynes dda allan. Rhaid ei bod yn bur gyfoethog cyn y medrai gael y dillad yna amdani. Faint a gostiodd y gôt ffyr yna iddi, tybed? Mi gostiodd honna gryn geiniog a dimai!"

"Mae hyn yn sicr. Mi fydd Mrs Owen mewn mwy o fusnes nag erioed ynghylch fy rhieni," meddai'r eneth. "Buasai'n dda gennyf petai hi heb ddod i Gymru o gwbl."

Bu Sera Defis wrthi hi ei gorau glas am tua dwyawr yn ceisio argyhoeddi Alina y dylai fod yn falch a diolchgar am gael cwrdd â'i mam. Dynes hardd a hoffus yr olwg. Credai mai llaw "Tad yr amddifad" oedd o'r tu ôl i hyn oll.

Ofer fu'r holl gocsio ar ran Sera Defis y noson honno. Ni fedrai'r eneth ei chael ei hun i werthfawrogi dim ar y tro newydd a sydyn hwn a ddaeth i'w bywyd. Ni fedrai hoffi'r ddynes-na'.

"Pam, mewn difrif calon?" ymbiliai Sera Defis. "Wn i ddim," oedd yr ateb cwta a roes ben ar bob cwestiwn y noson honno.

*****

Penderfynodd Alina wrth godi drannoeth mai doeth fyddai iddi ymddangos i olwg pawb ei bod yn falch o'r ddynes-na' a gafodd yn fam mor sydyn neithiwr. Sicrhaodd Sera Defis wrth y bwrdd brecwast ei bod wedi meddwl cryn dipyn am y peth, ac mai ei dyletswydd bellach oedd gwneud ei gorau o'r cyfnewidiad hwn yn ei bywyd, a cheisio ymddwyn at y ddynes-na' fel y buasai Anti Lora yn hoffi iddi wneud. "Y chwi sy'n iawn, Mrs Defis. Dylwn fod yn falch a diolchgar-efallai," meddai hi wedyn yn fyfyriol.

Yr oedd y si ar led drwy'r ardal cyn pen dim o amser fod mam Alina wedi dod o Lundain fel un o'r noddedigion preifat. Edrychid arni fel dynes o foddion gan bawb; a synnai Mrs Owen, Rock View, na buasai wedi mynd i aros i brif westy'r dref; hynny ydyw, os oedd moddion ganddi. "'Does wybod beth yw hi, wedi'r cwbl," ebe un o drigolion Stryd yr Haul.

Codwyd rhyw chwilfrydedd heb ei fath ar hyd a lled cylch arbennig o'r Hendre Gaerog. Yn wir, cerddodd y stori anghyffredin fel tân gwyllt cyn belled â thair a phedair milltir: "Glywsoch chi am y ddynes-na a ddaeth o Lundain? Mae hi'n lletya yn Stryd yr Haul; ac yn rhyfedd iawn, mae hi wedi dod o hyd i'w geneth ddwy ar hugain oed-un yr oedd hi wedi ei cholli pan nad oedd hi ond babi deufis oed."

Stori arall ydoedd mai plentyn siawns oedd yr eneth, ac mai actres oedd ei mam, a rhyw dywysog neu'i gilydd oedd y tad. Dywedai un arall mai'r peth tebycaf i fod yn wir, ydoedd mai rhyw filwr o'r rhyfel mawr o'r blaen oedd ei thad.

Ychydig a wyddai Alina am yr holl' siarad a'r dyfalu a fu am ddyddiau wedi dyfodiad ei mam i'r ardal. Bob tro yr âi hi heibio i Stryd yr Haul i fynd â'i mam am dro, byddai rhes o lygaid yn gwylio rhwng llenni'r ffenestri, ac yn cael pleser o wylio'r ddwy yn troi allan.

Un pnawn dydd Iau, aeth Alina â'r fam newydd am dro go hir am tua dwy filltir allan i'r wlad. Synnai'r eneth na buasai'r ddynes hon yn dotio tipyn at liw'r Hydref. Yr oedd dail y coed yn odidog, a digwyddai'r pnawn fod yn heulog a thawel. Ni welodd yr eneth erioed o'r blaen, yn ei meddwl hi, mo'r cwr hwn o'r ardal mor brydferth.

Hudodd Alina hi draw o'r ffordd i gael cip-olwg ar y rhaeadr trochionnog a ruthrai drwy'r ceunant gyda dwndwr mawreddog ar ôl glawogydd y dyddiau o'r blaen.

Yr oedd un cipolwg arno yn ddigon gan Mrs West. "'Does gen i ddim eisiau gweld peth fel 'na! Nid yw'n apelio ataf o gwbl. Yn wir, y mae'n gas gennyf leoedd anial a gwyllt fel hyn," ebr hi.

Brysiwyd yn ôl i'r ffordd fawr, a thoc daeth tŷ fferm gwyngalchog i'r golwg, rhyw led cae o'r ffordd.

Nid oedd yn hoffi golwg y tŷ hwnnw chwaith; a methai ddeall sut yr oedd neb yn medru byw mewn gwlad mor ddistaw. Yr oedd golwg rhy brudd ar bopeth yn y wlad iddi hi.

Crefodd am gael brysio ymlaen i rywle lle'r oedd tai a phobl. Sicrhai Alina hi nad oeddynt ymhell o bentre'r Gelli.

"A oes yno dafarn?"

"Oes, mae yno fwy nag un dafarn."

Goleuodd llygaid Mrs West yn hyfryd, er iddi gwyno nad oedd yn teimlo'n hanner da wedi cerdded mor bell. Teimlai fod rhyw oerfel wedi cydio ynddi ar ôl cerdded trwy'r tir tamp i edrych ar y rhaeadr hwnnw. Byddai'n rhaid iddi gymryd tropyn o wisgi i'w chynhesu. A pheth arall, nid oedd ei chalon yn rhy dda un amser. Yr oedd yn gorfod cymryd brandi neu chwisgi yn barhaus ers tro i'w chadw ei hun i fyny. Yr oedd y bomiau yn Llundain wedi andwyo ei nerfau ar wahân i stad ei chalon.

Cododd ei siarad fymryn o fraw distaw ym mynwes Alina. Ofnai i rywbeth ddigwydd i'r ddynes a hwythau braidd ymhell o gyrraedd tai. Ac i wneud ei phryder yn waeth, yr oedd ganddynt allt i'w dringo, cyn y medrent gyrraedd i lawr i'r Gelli.

Wrth lwc, nid ymddangosai Mrs West ei bod yn colli nemor ddim ar ei gwynt wrth ddringo'r allt, a chafodd Alina ryddhad i'w meddwl. Wedi cyrraedd y Gelli, aeth y ddwy ar eu hunion i'r prif westy. Diolchai'r hynaf o'r ddwy am gael ystafell siriol i orffwys ynddi. Yr oedd wedi blino'n enbyd, meddai hi.

Galwodd am chwisgi iddi ei hun, a chrefai ar Alina gymryd yr un peth: gwnai ddaioni iddi.

Mi gymeraf ddiod soda i gadw cwmni i chwi," meddai'r eneth braidd yn swil. Chwarddodd y fam yn iach: "Peidiwch â bod mor ffôl â lluchio arian ar beth mor ddof â dŵr a soda!" ebr hi. Yna ordrodd chwisgi iddi ei hun a gwin i Alina. Taerai y gwnai'r gwin ddaioni mawr i'r eneth. Dywedai y dylai gael rhywbeth amgenach i'w yfed na the byth a hefyd. Yr oeddynt yn yfed gormod o de yng Nghymru.

Dechreuodd lowcio'r licer heb dropyn o ddŵr arno—yn amrwd. Wedyn, er mwyn bod yn berffaith gyfforddus, rhaid oedd tynnu sigaren o'i blwch arian, a'i thanio. Braf oedd y mwg yn gymysg â blas y ddiod. Am nad oedd Alina wedi dechrau smocio, dywedai ei bod yn hen ferch gysetlyd—run fath â'r hen ferch a'i magodd. Chwarddodd wedyn.

Nid oedd blas gwin yn beth dieithr i Alina. Cafodd botelaid o win fwy nag unwaith fel ffisig i'w hatgyfnerthu ar ôl ambell bwl o stempar fel y ffliw, er enghraifft. Cofiai'n dda am y gwin ysgawen a gadwai Anti Lora yn y tŷ fel ffisig at yr annwyd. Cyffur gwlad yr hen bobol ers talwm oedd hwnnw.

O'r hen gartref yn y wlad y cawsai Anti Lora ei gwin ysgawen at bob gaeaf. Ac fel y sipiai Alina win prif westy'r Gelli am y tro cyntaf erioed, teimlai nad oedd fawr o wahaniaeth ym mlas y ddau win. Ond yn boeth y cawsai hi y gwin 'sgawen i'w yfed bob amser. Wedyn, byddai'r hen Anti yn lapio'r plancedi cynnes drosti nés ei gyrru i gysgu ac i chwysu'r annwyd allan.

Yr oedd gwin y dafarn yn debycach i'r gwin a brynasai gynt mewn siop. Yr oedd ei effaith yn treiddio i lawr yn rhyfedd, hyd yn oed drwy fonau ei breichiau, gan greu rhyw deimlad lled-ddiffrwyth ynddynt.

Yn ddistaw bach, nid diod gadarn a ddisgwyliai gael wrth droi i mewn i'r gwesty. Am gwpaned o de y sychedai hi. Yr oedd hi'n hanner awr wedi pump, a'r cerdded wedi codi eisiau bwyd arni.

Gwrthododd gymryd dim rhagor o ddiod, a phan oedd y fam yn gwagio'r diferyn olaf o'i gwydryn ei hun gan feddwl cael un arall cyn cychwyn allan, daeth dwy o wragedd canol oed i mewn, a milwr mewn gwisg swyddog i'w canlyn. Aeth yn sgwrs rhag blaen. Pobl wedi dod o Lundain oeddynt hwythau. Galwodd y milwr golygus am ddiod i bump. Dewiswyd cwrw. Yr oedd Alina ar ei thraed yn barod i gychwyn allan, a gwnaeth esgusawd bod ganddi gyhoeddiad gyda'i ffrind, Agnes, am saith o'r gloch. 'Roedd y bws ar y lawnt o'r tu allan yn barod i gychwyn, a rhedodd ati pan welodd fod y fam yn lingro yn y dafarn.

Teimlai yn anghyfforddus iawn, a chochodd ei hwyneb yn fflam welodd fod llond bws o lygadau yn syllu arni yn dod allan o'r dafarn. Credai fod pawb yn clywed oglau diod arni tra safai yn y canol gan gydio yn y ddolen ledr uwch ei phen ar hyd y daith tuag adref. Cysidrodd pan oedd hi'n rhy hwyr y buasai'n well iddi fod wedi cerdded na thalu am sefyll, a hynny yng ngwynt tyrfa mor glos i'w gilydd.

Pam yr oedd yn rhaid iddi wneud popeth mor chwithig wrth geisio dandlwn y ddynes-na? A pham yr oedd yn rhaid iddi hi ei dandlwn? Yr oedd popeth yn mynnu chwarae yn ei herbyn a'i gwneud yn bric pwdin. Daliai ei grudd i losgi fel tân.

*****

Gan fod Mrs West, o dipyn i beth, wedi cael llu o ryw bobl o'r un chwaeth â hi ei hun i wneud cyfeillion ohonynt, cafodd Alina lai o'i chwmni a mwy o lonydd i fyw ei bywyd ei hun yn ei ffordd ei hun. Gwyddai amcan erbyn hyn sut gymeriad oedd y ddynes-na.' Nid rhyfedd iddi fethu a'i galw'n fam. Pe medrai, rhoesai'r byd yn gyfan am gael y fraint o fedru dweud nad oedd hi'n perthyn yr un dafn o waed iddi.

Er nad oedd neb, hyd yn oed Leusa Huws, yn barod i ladd arni yn ei gŵydd—ofn brifo teimlad y ferch, fel petai—gwyddai'n burion fod y ddynes na' yn destun siarad ardal gyfan, a bod Leusa Huws yn siwr o fod yn cael clywed y cwbl. Ac felly'r oedd hi. Ond un driw i'r carn oedd y gymydog hon i'w ffrindiau, ac yr oed Alina yn un o'r ychydig ffefryniaid.

Fel y digwyddai, yr oedd Leusa Huws yn reddfol yn erbyn merched o deip Mrs Owen, Rock View, a Mrs Preis-gweddw oedd yr olaf. "Merched yn eu gosod eu hunain ac yn disgwyl i bawb feddwl eu bod nhw yn rhywun uwchlaw'r cyffredin, a hwytha'n neb!" oedd ei barn hi amdanynt. Yn naturiol, cymerodd yn erbyn Mrs West o'r dechrau. Byddai â'i llinyn mesur arni beunydd, a medrodd ymhen hir a hwyr argyhoeddi Sera Defis mai hen sopan ddiffaith oedd hi. Ni byddai byth yn sôn amdani ond wrth yr enw Faciwi".

Meddai hi un tro; "Mi welais i y Faciwi efo Mrs Preis heddiw eto; ac efo pwy ddyliech chi yr oeddynt yn siarad? Efo neb llai na gŵr Rock View. Mi fydd yna goblyn o helynt cyn hir os daw Mrs Owen i weld ffordd y mae'r gwynt yn chwythu. Yr oedd y tri â glasaid bob un o'u blaen ym mharlwr potio Glyn Dŵr y noson o'r blaen, medde Dafydd Wil!"

Fel yna y byddai rhediad y siarad rhyw ben o bob dydd dros wal y cefn, os byddai'r tywydd yn caniatau, neu wrth y tân yn nhŷ Sera Defis os byddai'n bwrw glaw.

Pryderai yr olaf gryn dipyn mwy nag a ddangosai i neb. Yr oedd Alina yn agos at ei chalon, a gwyddai o'r gorau fod eneth yn poeni ynddi ei hun, er iddi geisio cuddio hynny rhagddi hi, a rhag pawb arall, o ran hynny.

Dywedai Leusa Huws fod dyfodiad y Faciwi i Stryd yr Haul wedi gyrru hanes y rhyfel i'r cysgod yn lân; ac felly 'r oedd. Anaml y daethai'r ddwy gymydog at ei gilydd i drin a thrafod y rhyfel y dyddiau hyn. Y cwestiwn arall a oedd yn flaenaf un yn eu meddwl, a chafodd y ddwy gryn fraw un gyda'r nos pan ddaeth Alina i'r tŷ oddi wrth ei gwaith a dweud wrthynt ei bod hi'n mynd i ffwrdd efo'r tren cyntaf bore drannoeth. Yr oedd hi wedi penderfynu mynd i wneud rhyw waith neu'i gilydd—beth bynnag a gâi ynglŷn â'r fyddin. Yr oedd hi'n ddwy-ar-hugain mlwydd oed, a diamau y byddent yn galw genethod o'r un oed â hi cyn hir, ac nid oedd waeth iddi fynd cyn cael ei galw i fyny.

I Lundain yr oedd am fynd. Yr oedd ganddi gyfeiriad rhyw lety Cymreig yno, a dorasai allan o bapur newydd.

Ofer fu'r holl ymbil ar ran y ddwy wraig, am iddi gymryd pwyll, ac aros am dipyn eto nes cael gweld sut y trôi pethau, cyn mentro o'i phen a'i phastwn ei hun i'r fath le â Llundain, lle'r oedd y bomio mor ofnadwy. Tybed na fedrai hi ddim cael lle gyda gwaith y rhyfel yn rhywle'n nes adref?

I Lundain yr oedd hi'n mynd, ac yn ddiymdroi aeth ati i hel yr ychydig angenrheidiau at ei gilydd. "Dof yn ôl i'ch gweld chi eto, Mrs Defis," meddai, "pan orffenno'r rhyfel. Yr hyn a hoffwn ichwi ei wneud ydyw cadw'r cwbl o'r hyn a berthyn i mi hyd hynny; a pheidio â rhoi fy nghyfeiriad i'r ddynes-na. Un peth arall, os daw hi atoch i fenthyca arian, peidiwch â'i thrystio. Nid yw wedi talu'r ddwy bunt a gafodd yn fenthyg gen i. Os cofiwch, cafodd eu benthyg am fod ei harian hi heb gyrraedd ar ei hôl. Rhaid bod ei harian wedi cyrraedd ymhell cyn hyn, ond nid yw wedi sôn am dalu ei dyled imi. Na hidiwch, a waeth heb i neb arall gael gwybod hynyna. 'Rydw i'n eich trystio chi'ch dwy."

Chaiff neb wybod gen i, 'y ngeneth fach i! Beth gaf i ei wneud ichi, deudwch cyn ichi gychwyn? Oes gynnoch chi ddigon o arian yn ych poced i fynd cyn belled?" meddai Leusa Huws.

Oes yn enw'r dyn! Wiw inni fynd â gormod yn ein poced, medde nhw."

Gwelodd Sera Defis toc fod lle i'r Beibl a'r llyfr emynau yn y pac. Daliasai hwy yn ei llaw érs meityn yn disgwyl am gyfle i'w taro i mewn. · Bydd gennych eisiau y rhain lle bynnag yr ewch," ebr hi. Yr oedd wedi gweld yn y papurau fod y Cymry yn hel at ei gilydd, lle bynnag yr oeddynt, i ganu'r hen emynau Cymraeg, yn enwedig yn y gwledydd pell dros y dŵr.

Tipyn yn gymysglyd eu teimladau oedd y ddwy wraig, a synnent at Alina o'i gweld mor hunanfeddiannol.

"Yn wir-ionedd-i, mae eich penderfyniad sydyn wedi 'ngneud i deimlo mor ddiffrwyth â bretyn," ebe Leusa Huws.

Yr oedd Sera Defis hithau yn crynu drosti, ac yn dda i ddim, meddai hi. Chwarddodd Alina fel petai'r cwbl yn hwyl o'r mwyaf a gafodd erioed.

Yr hyn a redai drwy feddwl Leusa Huws ydoedd bod y Faciwi na wedi dianc o Lundain rhag bomiau Hitler, a bod Alina hithau yn dewis rhedeg . i ddannedd tân rhyfel yn hytrach na byw yn hwy yng ngolwg ei mam.

*****

Yn bur gynnar drannoeth, cafodd Alina ei hun eistedd ar fainc platfform oer mewn gorsaf, filltiroedd lawer o'r Hendre Gaerog. Cawsai gerbyd iddi ei hun ar y daith cyn belled â hyn, am, mae'n debyg, iddi fynd cyn agosed i'r peiriant ag y medrai. Felly, cafodd lonydd i feddwl cryn lawer am yr hen dref annwyl na fedrai mwyach ei galw'n gartref iddi hi, ag eithrio mewn atgof. Yr oedd hi'n ffarwelio â Hendre Gaerog.

Yr oedd ganddi dros awr o amser i aros y tren i'w chludo i Lundain; ac i ladd amser aeth drwy ryw fanion o bapurau a wthiodd i'w bag-llaw yn ei phrysurdeb wrth gychwyn. Yn eu mysg yr oedd hen lythyr oddi wrth Derwyn—un o'i rai cyntaf ati yn ei gwadd allan am dro:

Annwyl Alina—Yn hytrach na mynd i'r pictiwrs nos yfory yn ôl ein bwriad, a gawn ni fynd am dro a mwynhau tipyn ar ryfeddodau natur ein cartref ein hunain, petai ond er mwyn tipyn o newid? Mae'r gwanwyn yn y coed. Mae'r llwybrau yno wedi eu taenu à blodau i'n haros. Yno mae'r adar yn canu, ac yn caru. A pham nad awn ninnau allan ar hyd llwybrau natur iach yn llawn cân a chariad, yn lle mynd i edrych beunydd a byth ar bobl Hollywood yn caru..

Mae mêl i bâr hawddgaraf
Yn yr oed yng nghoed yr haf.

Cawn fynd i weld pobl Hollywood ar noson lawog. Y maent hwythau yn ddiddorol dros ben, chwarae teg iddynt, er gwaethaf eu holl ffug! Byddaf yn disgwyl amdanoch yn yr un man ag arfer.

Yn bur.
Derwyn."

Plygodd y llythyr dan wenu'n ddireidus. Torrodd yr enwau Alina a "Derwyn " i ffwrdd i ddechrau, a stwffiodd hwy i'w phwrs hyd oni châi ryw fflam fach o dân yn rhywle i'w llosgi. Yna cododd a cherddodd ychydig ôl a blaen, a phan welodd nad oedd neb o gwmpas i sylwi, gollyngodd y llythyr plygedig i'r llawr heb fod nepell oddi wrth y fainc.

Eisteddodd unwaith eto yn gyfforddus. Daeth tren i mewn o rywle, ac ar drawiad yr oedd y lle yn llawn berw o sŵn traed a lleisiau Saesneg mamau a phlant yn gymysg â'i gilydd, gan ruthro ymlaen am y tren a'i cludai ymhellach i ddiogelwch. Ffoi am eu bywyd i Gymru yr oeddynt hwy.

Yn union deg, daeth tawelwch eilwaith, a gwelodd fod y llythyr yn yr un man heb ei gyffwrdd gan law na throed. Dechreuodd ddarllen ei phapur newydd; a thoc deallai bod rhywun yn gwyro i godi'r llythyr-un o weithwyr yr orsaf, dyn canol oed. Darllenodd ef yn hamddenol dan symud yn ei flaen. Daeth rhyw lefnyn ifanc tua dwy ar bymtheg oed heibio iddo o stôl y papur newydd. Sbïodd yn chwareus dros ysgwydd y dyn i weld beth a ddarllenai.

"Diaist i, un da ydi hwn!" ebr y dyn dan chwerthin.

Beth ydi o?" ebr y llall.

"Llythyr caru, fachgen! Rhywun wedi ei golli. Fedri di ei ddarllen o? Chei di mono i dy law. Mi 'rydw i'n mynd i gadw hwn. 'Does 'ma enw neb wrtho. Mi ddaw i mewn yn handi i mi am dipyn o hwyl efo'r hogan acw pan fydd hi'n cadw sŵn eisiau mynd i'r pictiwrs y tro nesaf."

"Caf ei weld eto," ebr y llanc, gan ddatgan, efallai y dôi i mewn yn handi iddo yntau hefyd, os câi ci gopïo ganddo rywbryd; ac aeth yn ei flaen ar frys gwyllt, gan adael y porter yn plygu'r llythyr ac yn ei gadw'n ofalus ym mhoced ei wasgod. Troes ac aeth i gwrdd â'r tren a oedd yn cyrraedd i'r golwg.

Erbyn hyn, yr oedd llawer heblaw Alina yn disgwyl am y tren hwn, a chafodd hithau ei hun yn ebrwydd mewn cerbyd gorlawn o bobl ddieithr. Ymhen ychydig, trawodd y syniad i'w meddwl mai rhywbeth hyfryd iawn, am dipyn o newid, ydyw bod mewn tyrfa o bobl nad oedd yno neb yn ei hadnabod hi, na hithau yn adnabod neb ohonynt hwy.

Bu'n lwcus o gael eistedd wrth y ffenestr, a chafodd gyfle felly i edrych ar y tai a'r tiroedd, a glannau'r môr. Llwyd oedd lliw'r môr y bore hwnnw. Ond cofiai hi'n dda am ei lesni tawel ar ddyddiau haf heulog, ac am yr oriau difyr a dreuliodd yn ymdrochi yn chwareus gyda'i ffrindiau ifainc gynt ar ambell drip Ysgol Sul. Sylwai heddiw ar dai a thai yn glystyrau o bob llun a lliw yn wynebu'r môr. Lle delfrydol i fyw, yn ôl ei meddwl hi. Yr oedd rhyw bobl yn byw yn y tai hyn i gyd, a phob tŷ yn gartref. i rywun.

Dyna fel yr ymsyniai wrth fynd, â'i chefn ar Gymru. Yn fuan cyrhaeddodd orsaf Caer. Rhaid oedd newid yno. Cafodd wybod y câi y tren nesaf i fynd â hi i ben y daith heb newid; ac i goroni'r cwbl, yr oedd ei thren yno'n sefyll yn barod. Tarodd ar le cyfforddus eto wrth y ffenestr. Rhoes ei phen allan i edrych o gwmpas. Teimlai ddiddordeb byw yn y tyrfaoedd a wibiai drwy'i gilydd yn ôl a blaen.

Ar y platfform gyferbyn, yr oedd tren arall yn paratoi i fynd am Gymru, a gwelai nifer o filwyr yn rhedeg tuag ati. Digwyddodd i un ohonynt daflu rhyw gipolwg arni hi wrth fynd heibio. Gwelodd Alina mai Derwyn oedd hwnnw. Eisteddodd yn ei chongl o'r golwg yn swat; ond daliai, er hyn, i gadw ei llygad ar y cerbyd yr aeth Derwyn iddo.

Dyna yntau ei ben allan ac yn syllu i'w chyfeiriad fel pe'n chwilio amdani. Mor hawdd y gallasai hithau roi ei phen allan unwaith eto, a chodi ei llaw arno. Ond nis gwnaeth.

Symudodd y tren a gludai Derwyn i Gymry a'r Hendre Gaerog yn esmwyth o'r golwg. Symudodd ei thren hithau yn araf i gyfeiriad arall; a chafodd yr eneth y teimlad rhyfeddaf a fu erioed, am eiliad. Fe'i cafodd ei hun fel petai mewn cwch ar ei phen ei hun, a hwnnw'n llithro â hi'n araf-esmwyth yn wysg ei chefn tua'r eigion. Hithau heb na rhwyf nac angor yn estyn ei breichiau i gyfeiriad y lan a adawodd.

Profiad hynod iddi hi ydoedd hynyną. Ychydig a feddyliai ei chyd-deithwyr fod dim allan o'r cyffredin yn ymwneud â'i meddwl.

Sut bynnag, yr oedd yn ddigon gwrol i ymysgwyd o ystad freuddwydiol o'r fath. Onid oedd byd newydd, llydan a di-ben-draw o'i blaen hi fel i gannoedd lawer eraill o'r un oed â hi? Yr oedd ganddi iechyd yn ei chorff cryf-un o fendithion pennaf bywyd. Daeth chwant bwyd arni, a chofiodd yn sydyn am y brechdanau â spam" rhyngddynt a roesai Sera Defis yn ei bag-llaw.

Oedd, yr oedd bywyd llawn o ddiddordeb newydd yn agor o'i blaen. Yr oedd ei dyhead am gael byw yn cryfhau fwyfwy fel yr âi'r tren ymlaen ar y daith. Yr oedd bywyd yn felys drwy bopeth; a'i gweddi daer ydoedd na fyddai'n rhaid iddi gwrdd â'r ddynes-na' byth eto.

Yr oedd yn wirionedd rhy ryfedd iddi hi fedru ei sylweddoli'n iawn, ond i ryw raddau annelwig, sef bod y ddynes-na' wedi dod ó Lundain i ddinistrio rhai pethau gwerthfawr ac annwyl yn ei bywyd hi ei hun. Yn ei dyfodiad, chwalwyd llawer castell a gododd yn ei meddwl dan awyr iach yr Hendre Gaerog, yn gandryll i'r llawr.

Ofer fyddai iddi hi feddwl am aros mwy lle'r oedd ei chestyll yn deilchion. Ni fedrai hi byth godi yn eu holau y rheini a chwalwyd.

Yn un peth, byddai barn y cyhoedd yn dal yn gyndyn-drwm wrth ei godre drwy'r blynyddoedd i ddod. Petai'n priodi a hel a magu plant, byddai'r stremp yn yr Hendre Gaerog yn glynu wrth y rheini o genhedlaeth i genhedlaeth.

Nid oedd hynyna, wedi'r cwbl, yn ddigon o lanastr i'w rhwystro hi i godi cestyll o'r newydd. Yr oedd byd a bywyd newydd yn disgwyl wrthi yn rhywle draw. Lled-gredai mai ym mherfedd Lloegr, sef yn un o'i dinasoedd, yr oedd ei gobaith am heddwch

pan setlai i lawr ar ôl y rhyfel. Wiw mynd i'r un o bentrefi Lloegr. Nid oedd eu pobl hwythau ronyn gwell na phobl pentrefi Cymru am holi a stilio i mewn i hanes pobl a fentrai i fyw i'w plith. Buasai'n rhaid iddi ddweud cannoedd o gelwyddau, am y rheswm syml fod eisiau celwydd i guddio celwydd yn barhaus. Credai'n gryf fod iddi ddinas noddfa draw, rhywle yn un o drefi mawr Lloegr.

Ac o gofio am y ddynes-na', cofiodd hefyd y câi Derwyn wybod o'r diwedd pwy oedd ei mam. Digon tebyg yr âi Derwyn i'r chwarae chwist a oedd i fod yno nos drannoeth. Byddai'r ddynes na' mor sicr â dim o fod yno—y hi a Mrs Preis. Nid oedd na dawns na chwist yn digwydd heb fod y ddwy yno'n eu mwynhau eu hunain yn bennaf pobl.

Tybed a fyddai i Derwyn weld y tebygrwydd yn y ddynes-na' iddi hi? Ond pa ots beth a feddyliai Derwyn y naill ffordd na'r llall, bellach? Yr oedd goleuni dydd wedi torri ar y dirgelwch a fu cyhyd yn rhan o chwilfrydedd rhai o bobl yr Hendre Gaerog. Ysgafnhâi ei chalon wrth feddwl ei bod bellach allan o olwg ei hen gydnabod.

Ni fu hi erioed yn Llundain o'r blaen. Ond yn reddfol dilynodd y lliaws i fynd allan o'r orsaf. A phan yn petruso ennyd, ar y palmant o'r tu allan, trawodd ar ddwy ferch ifanc mewn gwisgoedd caci yn sgwrsio â'i gilydd. Gofynnodd iddynt a fedrent ei rhoi ar ben y ffordd i fynd i'r cyfeiriad a oedd ar y papur yn ei llaw.

Dacw gerbyd sydd ar gychwyn tua'r man a'r lle 'rwan," ebe un ohonynt yn garedig.

Brysiodd Alina at y cerbyd a dringodd iddo. Tinciodd y gloch, a chaeodd trafnid a thrwst Llundain amdani gan ei lapio o'r golwg.

HYWEL A BLODWEN

Yn ôl ei arfer ers llawer blwyddyn bellach, rhoes Hywel Williams holl bwys ei gorff blin i orffwys yn gyfforddus yn ei gadair freichiau galed, yn barod am gyntun. Ond yn gyntaf rhaid oedd cael tân ar y cetyn. Yr oedd mygyn yn hanfodol bwysig ar gyfer yr awr dawel honno a oedd iddo ef yn llawer gwell na gwin ar ôl ei ginio wedi dychwelyd o'r chwarel bob min nos.

Wedi cael tân ar y cetyn, cydiodd yn y papur newydd a oedd ar y stôl haearn yn ei ymyl. Gallasech feddwl ar ei osgo o gydio yn y papur ei fod yn effro iawn, ac yn awchus am weld beth oedd gan y papur Saesneg hwnnw i'w ddweud am helynt y byd. Ond, yn ddistaw bach, yr oedd gan y papur yntau ran go braf yn yr hwylio am y cyntun.

Cyn pen dim amser wedi iddo ddechrau darllen,. yr oedd yr amrannau am gau er ei waethaf, gan guddio glesni'r llygaid mawr a gadael rhyw rimyn gwyn atgas yn y golwg. Newyddion y dydd neu beidio, rhy galed ydoedd y brwydro i gadw'r llygaid yn agored, a'r peth nesaf oedd taro'r' cetyn ar y bwrdd wrth ei ochr. Llithrodd y papur ohono'i hun i'r llawr rhwng y stôl haearn a'r gadair. Plethodd yntau ei ddwylo, ac fe aeth ei ên fesul dipyn i bwyso ar fin ei frest. A pheidiodd y pendwmpian.

Ac yn ôl ei arfer yntau, dyma Teigar, y gath frech, yn dod o'r cefn dan lyfu ei weflau ar ôl sbarion y cinio. Saif o flaen y tân i ymolchi tipyn o gwmpas ei geg; ac wedi rhoi rhyw lyfiad ecstra ar ei bawen gan feddwl dal ymlaen i olchi o gwmpas y clustiau a'r corun-yn sydyn, â'i bawen i fyny, teifl ei olwg i gyfeiriad y sawl sy'n cael hepian yn y gadair. Yr un mor sydyn rhydd naid ar y glin llychlyd, a dechrau pobi yn foddhaus. Wedi pobi digon, yn ôl ei feddwl o, gorweddodd yn ei gynefin mor esmwyth â phetai ar wely plu.

Yn y cyfamser, yr oedd y bwrdd wedi ei glirio, a'r llestri wedi eu golchi a'u cadw. Sieflaid o lo wedi ei thaflu ar y tân gan Flodwen, a'r brws bychan a gedwid dan y ffender wedi ei ddefnyddio ganddi i hel llwch oddi ar y pentanau am y filfed tro-mewn ffordd o siarad.

Wedi golchi ei dwylo unwaith yn rhagor, daeth hithau ac eisteddodd i lawr yn ei chadair gyferbyn â'i gŵr. Aeth ymlaen i weu'r hosan a oedd ganddi ar y gweill, a dechreuodd ymsynio y byddai Idwal, y mab, yn cael ei ben blwydd yn Itali ymhen rhyw ddeufis. Yr oedd hi'n ddiwedd Awst yn awr. Ond yr oedd un hosan wedi ei gorffen ganddi y dydd o'r blaen, a rhaid oedd ymorol am gael ei chymhares yn barod mewn pryd. Gresyn na chawsai'r hogyn ddod adref i fwynhau ei ben blwydd. Rhoes ei chalon ryw blwc rhyfedd wrth gofio ei fod ar gael ei ddeugain oed. Anodd iddi oedd coelio'r ffaith.

Llefnyn o hogyn yn yr ysgol sir oedd Idwal adeg y rhyfel mawr o'r blaen; ac ef oedd y swcwr mwyaf i'w fam tra bu ei dad yn y rhyfel hwnnw. Gwannaidd fu ei hiechyd hi, fwy neu lai, bron ar hyd ei bywyd priodasol. Ac wedi i'w dad orfod mynd i'r rhyfel yn y blynyddoedd hynny, gofalodd yr hogyn, ohono'i hun, am gymryd lle ei dad drwy godi yn y bore i gynnau'r tân i'w fam, a'i helpu mewn llawer dull a modd.

Ymhyfrydai yng ngwaith y tŷ. Codai'r lludw a'i gludo allan i'w ogrwn; a blacledio'r grât lawer tro cyn i'w fam godi. Golchai'r lloriau iddi ar y Sadyrnau yn rheolaidd, a hynny cyn dwtied â'r un ddynes. Gwraig lwcus oedd Blodwen Wiliams. Cafodd ŵr medrus â gwaith tŷ, a chafodd fab i gerdded yn ôl traed ei dad.

Datblygodd a cherddodd yr un llwybr â'i dad a'i fam fel canwr hefyd. Bendithiwyd ei rieni â lleisiau a fu'n cyfareddu cynulleidfaoedd cylch eang o'u gwlad, oddi ar pan oeddynt onid rhyw ddwy ar bymtheg oed, a chyn hynny, efallai.

Yr oedd rhamant yn sŵn eu henwau, a rhamantus a fu'r yrfa iddynt, yn enwedig ym myd y gân. Byddai'r ddau yn cystadlu ar y llwyfannau beunydd, a hynny yn erbyn ei gilydd. Ni siomid y naill pan fyddai'r llall yn ennill y gamp. Colli'n dipiau fyddai hanes y ddau ambell dro; ond ni fennai hynny ar yr hwyl o gystadlu. Byddent yn "ennill er colli" ar adegau felly. A phan fyddent yn cynnal cyngherddau, aml y galwai rhywun o'r dyrfa am iddynt ganu'r hen ddeuawd adnabyddus "Hywel a Blodwen " o'r opera Gymraeg. Ufuddheid bob tro, a mawr fyddai'r clapio dwylo o du'r dyrfa, er mwynhad a difyrrwch iddynt hwythau eu dau.

Yn naturiol iawn, etifeddodd y mab y dalent gerddorol oddi wrth ei rieni; ond medrodd ef estyn ei linynnau ymhellach na hwy oherwydd iddo gael y fantais o ddysgu canu'r piano a'r organ-braint na chafodd ei rieni mohoni.

Llawer awr ddifyr a dreuliwyd ar yr aelwyd wedi i'r llanc ddyfod i feistroli cerddoriaeth yn ei hystyr lawnaf.

Daliodd y tad i ymddiddori mewn eisteddfod a chyngerdd ac i helpu'r corau nes cyrraedd dros ei hanner cant oed. Bu'n rhaid i'r fam roddi heibio'r pleser o redeg o gwmpas i gystadlu yn llawer cynharach oherwydd y gwendid iechyd a'i daliodd. Er hyn yr oedd canu yn rhan o'i bywyd o hyd. Ac nid yn ofer y rhoesant hwy'r enw Llys y Gân ar eu tý ar ddechrau eu bywyd priodasol. Yn sŵn cliciadau ysgafn y gweill, cofiai Blodwen fel y byddai hi'n gweu sanau, myfflars a menyg i Hywel pan oedd o yn Ffrainc ers talwm. A dyma hi heddiw yn gweu i'r mab-yntau yn ŵr ac yn dad i ddau o blant erbyn hyn, ac wedi gorfod cefnu ar ei aelwyd gyffyrddus a mynd i'r frwydr erchyll. Gofidiai na buasai ei deulu bach yn byw yn nes ati hi, er mwyn iddi gael gweld Ceridwen a'r plant yn amlach. Braidd yn rhy bell oedd y deuddeg milltir rhwng y ddau gartref.

Trawodd y cloc mawr chwech o'r gloch, a theimlid rhyw egrwch anarferol yn ei dinc oherwydd. distawrwydd y gegin. Ar y trawiad olaf ceisiodd Hywel ystwyrian o'r cwsg melys. A phan lwyddodd o'r diwedd i agor ei lygaid, a gorffwys ei ben yn ôl ar gefn y gadair, syllodd yn ddioglyd am sbel go dda ar ddwylo'r wraig yn gweu, à hynny heb ddweud na bw na be. A chlywid sŵn ei anadl yn dod drwy ei ffroenau-y sŵn hwnnw sy'n tueddu i godi eisiau cysgu ar eraill.

Edrychodd Blodwen arno. Ar hynny, aeth ei law dde yntau, yn ôl grym arferiad, am ei getyn; a phalfalai efo'i fys bach i weld a oedd digon o faco ynddo. Wedyn, ceisiodd ymestyn i gael gafael ar un o'r sbiliau papur a oedd ar y pentan. A chyda phob symudiad o'i eiddo, clywid y tuchan bach hwnnw a geir yn y gwddf pan fydd dyn yn codi crawen yn y chwarel, neu'n gwthio wagen neu rywbeth trwm arall. Peth arferol gan rai, o ran hynny, ydyw tuchan efo peth mor ysgafn ag ymolchi'r wyneb.

Sut bynnag, rhywbeth doniol, a dweud y lleiaf, ydyw'r tuchan bach yna yng ngwddf dyn. Ond efallai iddo fod o gryn help i Hywel yn ei ymdrech i oddadebru ac i gael gafael ar y sbilsen bapur; ac wedi cael honno, y contract nesaf oedd cael tân arni, a rhaid oedd ymestyn ymhellach y tro hwn, a bustachu cryn dipyn wrth geisio cyrraedd y tân.

"Yn enw'r annwyl! Hel y gath 'na i lawr," ebr Blodwen.

Wedi edrych ar y gwrcath a chysidro uwch ei ben, "Wel, cer' i lawr, pws bach," ebr ef o'r diwedd, gan roi ryw hwth dyner iddo. Medrodd gael tân ar ei getyn yn weddol hylaw wedyn, ac ymestynnai Teigar ei gorff ystwyth i'w lawn hyd, ei led a'i uchder ar ganol y llawr, a'i ffwr, yn enwedig ei gynffon, yn ffluwchio'n hardd.

Wedyn aeth pws i gyfeiriad drws y cefn i ddangos fod arno eisiau mynd drwyddo. Eisteddodd yno'n dalog i ddisgwyl i rywun ei agor; a chan nad oedd neb yn sylwi ar ei ddisgwyliad, cododd ei bawen at y dwrn pres, a daliodd i rygnu hwnnw nes tynnu sylw Blodwen. Agorwyd y drws, ac aeth pws allan yn union fel petai o wedi digio wrthynt am dorri ar ei gwsg cyffyrddus.

Daliai'r gweill i wibio drwy ei gilydd yn nwylo'r wraig, a dyrchafai'r mwg i'w uchelfannau o getyn y gŵr. Syllai ef arni hi yn gweu, ac ar y mwg bob yn ail-a neb yn dweud dim.

"Tic-toc, tic-toc, tic-toc," meddai'r hen gloc wrth y distawrwydd.

"Oes gen ti ddim byd i'w ddweud bellach, dwad?" gofynnodd y wraig i'r gŵr.

"Wyddost di am be' 'ro'n i'n meddwl 'rŵan?" ebr yntau, wedi tynnu'r cetyn o'i enau a'i ddal rhwng ei fys a'i fawd am funud.

"Yr wyt ti wedi bod yn meddwl yn galed am rywbeth er pan ddeffrist di. Am beth, wn i ddim."

"Wel, i ddechrau cychwyn, cofiais fod gen i isio torri coed tân. Braidd rhy 'chydig oedd gen i i gynnu'r tân 'ma bora heddiw. Peth arall, rhaid imi ddwad â bwcedad o lo i'r tŷ fel arfar."

"Ai dyna'r cwbwl y bu'st di'n cysidro cyhyd yn ei gylch?"

"'Ro'n i'n cofio hefyd am yr hen Wili, ers talwm."

"Wili Huw Huws?

"Ia. 'Ro'n i'n cofio fel y byddech chi'r g'nethod yn gwrthod mynd efo fo."

"'Rwyt ti'n cofio pethau rhyfadd!"

"Hogyn clên oedd Wili, a hogyn del at hynny. A'r unig fai yn ei erbyn gynnoch chi'r g'nethod oedd ei fod yn golchi'r lloriau i'w fam."

"Ia, dyna oedd ei fai mawr gynnon ni. Mae hynyna'n wir. Fedra ni mo'i ddiodda fo. Am beth arall fu'st di'n meddwl?"

'Dwyt ti ddim wedi bod yn erbyn i mi olchi'r lloriau i ti, y nag wyt?"

"Nac ydw'n siŵr! Oes gen ti awydd edliw peth felna imi wedi 'ni fynd i'r oed yma?

Chwarddodd y gŵr yn ei lawes gan edrych cyn sobred â sant, wrth weld y fflach yn ei llygaid duon, fel y gwelodd ganwaith pan oedd hi'n eneth ifanc gynt, yn enwedig pan godai ryw ymdderu rhyngddynt.

Awydd edliw? Dim o'r fath beth! Ond 'ro'n i jyst yn meddwl pethau mor rhyfadd ydi merchad."

"Rydw i'n cyfadda mai ifanc gwirion oeddan ni ers talwm, Pan briodais i di, mi ddois i'n gallach."

"Fûm i 'rioed yn gneud swydd yn y tŷ i mam pan own i'n ifanc."

"Naddo. Mi wn i hynny'n dda. A dyna sut y leicis i di gymint. Ac onid oedd gen ti chwaer gartref i helpu dy fam? A pheth arall, 'roedd dy fam yn hen-ffasiwn ei ffordd. Credai mai i dendio ar ddyn yr oedd merch yn dda. Ond y drwg oedd bod rhai fel dy fam yn ych difetha chi fel dynion gyda gormod o dendans. Mae syniadau merched wedi newid erbyn heddiw."

"Ydi, y mae syniadau g'nethod wedi newid yn arw. Gwell gynnyn' hw' weithio ar y tir a dal llygod mawr, neu yn y ffatrïoedd, neu yn rhwla, nag mewn tai. Mae gofyn i bob hogyn gael ei ddysgu i gwcio a gneud gwaith tŷ o hyn allan, fel y medar o dendio arno'i hun, druan."

"Mi 'rydw i o'r farn bod isio i bob hogyn gael dysgu sut i dendio arno'i hun. Mae'r byd 'ma wedi newid yn ofnadwy i'r peth fuo fo."

"Ond er ych gwaetha chi'r g'nethod ers talwm, mi gafodd Wili wraig iawn."

"Do. Mi gafodd ddynas gryfach nag a gest di. Aeth Wili yn fwy lwcus na thi." "Mae gwraig Wili yn dal i weithio yn yr ardd heblaw yn y tŷ. Ac mae o'n cael tendans fel petai o'n brins, medda nhw."

"Chwara teg iddo gael tendans. Mi weithiodd o ddigon i'w fam pan oedd o'n hogyn. Beth arall sy gen ti i dreio 'mhoeni fi?

I dorri ar y sgwrs, rhaid oedd agor y drws drachefn i'r gath, a fewiai'n swnllyd eisiau dod i mewn. Wedi dod i'r gegin, dechreuodd chwyrnu.

"Dyma pws wedi dal llygoden!" ebe Blodwen yn falch ei thôn. A daliai'r gwrcath i chwyrnu fel petai rhywun am gipio'i brae oddi arno.

Ond o dipyn i beth, pan aeth pws i ddechrau mynd drwy ei gampau, gwelwyd mai aderyn oedd ganddo.

Cododd y ddau ar unwaith i geisio'i achub o'i balfau. Cydiodd Teigar yn ffyrnicach ynddo, a dihangodd i gongl rhwng y soffa a'r organ.

Cydiodd Blodwen yn y procer fel yr erfyn agosaf i law, i'w hel allan. "Petai ti wedi dal llygoden, cawset groeso," ebr hi, "ond cweir iawn gei di am ddal 'deryn bach diniwad!"

"Howld on! Beth sy get ti a minnau i'w ddeud wrth pws? 'Rydan ninnau fel pobol yn lladd adar ac yn eu buta."

Wyt ti am gadw chwara teg i'r hen fwystfil bach drwg?"

Gwyddai Hywel yn dda na frifai Blodwen ddim ar Teigar. "Ond paid â chymyd y procar ato," meddai. "Rhaid iti gofio mai creadur direswm ydi o, ac mai 'i elfan o ydi hela adar a llygod. A pheth arall, wyddost di dy fod ti dy hun yn helpu cath i ddal adar?"

Cer' odd'na di i ddeud peth felna!"

Mae o'n ddigon gwir! 'Rydw i wedi sylwi arnat yn ysgwyd y llian allan o flaen y drws 'na; a thra mae'r adar yn dwad ar ôl y briwsion, mae un fel Teigar yn cael ei gyfla."

Sleifiodd pws tua'r cefn o'r twrw; a phan oedd y feistres efo'r procer ar ei ôl, rhywfodd medrodd sleifio'n ôl i'r gegin a chuddio dan y dreser heb i'r un o'r ddau weld i b'le 'r aeth.

Rhoes Blodwen y gorau i geisio achub yr aderyn. Gwyddai fod ei fywyd wedi mynd. Edrychodd allan a gwelodd fod cwmwl du, trwm uwchben, a'i ddafnau eisoes yn dechrau disgyn. A thra bu hi yn yr ardd yn hel dillad oddi ar y lein, daeth cnoc ar ddrws y ffrynt, a llais eu cymydog, Joseff Ifans, yn gofyn yn ôl ei arfer: "Oes 'ma bobol i mewn?"

"Tyd ymlaen, Jo," ebr Hywel, "tyd ymlaen a stedda."

Daeth yntau yn araf i'r gadair. gyferbyn yr ochr arall i'r tân, a phetai Hywel wedi sylwi, buasai'n gweld bod golwg nyrfus arno.

Wedi sôn am y tywydd a rhyw fymryn am y chwarel," Does 'na fawr o ddim newydd neilltuol am y rhyfel heddiw yn y papur 'ma," ebr gŵr y tŷ. "Does 'na ddim llawar o gysur ffordd yn y byd i neb ohonom o gyfeiriad y rhyfel, weldi!" ebr y cymydog, gan ychwanegu yn ddistawach, "Lle mae hi?"

Blodwen wyt ti'n ei feddwl? Mae hi yn y cefn 'na. Mi ddaw i mewn yn y munud."

Wyddost di beth, Hywal bach, yr hen gyfaill, mae gen i negas boenus ofnad—— Methodd â gorffen y gair gan rywbeth a'i tagai.

Gwyrodd Hywel tuag ato o'i gadair: "Joseff! Oes gen ti ryw newydd drwg inni, dwad?"

Oes, yr hen gyfaill. Waeth imi ei dorri iti yn fuan nag yn hwyr. Mae 'nghalon i'n brifo'n enbyd. Wn i ddim sut y dwedwn ni wrthi hi!"

"Beth ydi'r newydd drwg, ac o b'le cest di o?" "Oddi wrth Ceridwen, ei wraig, neu rywun a sgrifennai drosti; ac yn gofyn imi dorri'r newydd trist i chi'ch dau."

"Y mae Idwal, fy mab, wedi ei ladd felly! Ydi o'n wir, Joseff?"

Rhyw edrych i lygad y tân a wnaeth y cymydog, ac ni fedrodd ateb gair.

Cododd Hywel, a cherddodd yn ôl a blaen ar hyd llawr y gegin fel un wedi ei syfrdanu i'r eithaf. Safodd ar ganol y llawr pan glywodd sŵn troed y wraig yn dod o'r cefn.

"Helo! Joseff Ifans," ebr hi.

Sylwodd ar unwaith fod golwg trist ar ei gŵr ag yntau. "Beth sy arnoch chi'ch dau? " oedd ei chwestiwn.

Edrychodd y ddau ddyn ar ei gilydd fel petaent. yn disgwyl y naill wrth y llall i lefaru'r newydd drwg, a'r naill a'r llall yn methu â thorri gair.

Beth sy? Mae rhywbeth wedi digwydd. Mi wn i ar eich golwg."

"Tyd yma, 'ngenath i!" ebr ei gŵr yn dawel a lleddf ei dôn, gan estyn ei freichiau. Rhuthrodd hithau i'w freichiau gan blannu ei dwylo ar ei ysgwyddau.

"Ydi Idwal wedi'i ladd, neu beth sydd?" gofyn- nodd yn wyllt.

Yr unig ateb a gafodd oedd cael ei gwasgu i fynwes ei gŵr.

"Hywel!" oedd ei gwaedd ddolefus, â'i phen yn swp gwyn ar ei wddf.

"Blodwen!" oedd ei ateb yntau, gan ei gwasgu'n dynnach. A churai "dwy galon " yn glosiach i'w gilydd nag erioed o'r blaen.

Hallt oedd dagrau'r cyd-wylo. A thrwm oedd peltiadau y gawod o law taranau ar wydr y ffenestr. Yr oedd Joseff Ifans yn rhy brysur efo'i hances of gwmpas ei lygaid, fel na welodd yntau mo Teigar yn mynd trwy'i gampau wedi dod o'i guddfan.

Lluchiai'r aderyn marw fel pêl ar hyd y llawr, a llamai arno gan goegio mai un byw ydoedd. Taflai ef i fyny ar dro a neidiai arno drachefn.

Yn wir, methai Teigar â gwybod pa ben i'w roi'n

isaf gan mor falch oedd o'i brae.

Nodiadau golygu


 

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.