Dau faled gan John Jones (Jac Glan-y-gors)/Y Sessiwn Yng Nghymru

Dau faled gan John Jones (Jac Glan-y-gors) Dau faled gan John Jones (Jac Glan-y-gors)

gan John Jones (Jac Glan y Gors)

Dic Sion Dafydd


Y SESSIWN YNG NGHYMRU.

—————————————

A FUOCH chwi erioed mewn Sessiwn yng Nghymru,
Lle mae cyfraith ac ieithoedd yn cael eu cymmysgu?
Rhai'n siarad Cymraeg, a'r lleill yn rhai Seisnig,
A hwythau'r Cyfreithwyr yn chwareu'r ffon ddwybig.
With their fal de ral lal, &c

Bu yno'n ddiweddar ryw helynt ar dreial,
A'r Ustus ar ddodwy wrth ddywedyd y ddadal;
Gast i Gadwalad' o Ben-ucha'r Nant,
Giniawodd ar Oen i Sion Ty'n-y-pant.
Fal de ral, &c.

Ond Sion aeth i gyfraith trwy lawer o boen,
I wneyd i Gadwalad' roi tâl am yr oen;
A Chouns'lor o Lundain, gan godi ei glôs,
A gododd i fyny, to open the Cause.
Fal de ral, &c.

"Gentlemen of the Jury;

"Cadwallader's Dog of Pen-ucha'r-Nant,
Kill'd a fat Lamb of Sion Ty'n-y-Pant;
We claim in this Court, without a dispute,
Value of the Lamb, and all costs of suit."
Fal de ral, &c.

Atebai rhyw Gymro, "Mae'n hysbys i mi,
Nad ydyw Cadwalad' yn cadw'r un Ci:"
A'r Counsellor a dd'wedai, "Pray, don't be in haste,
"If he don't keep a Ci, he does keep a Gast,"
Fal de ral, &c.

A'r Jury ddywedent, "Gwybod 'rym ni,
Na welwyd yn un lle erioed Ast yo Gi;
Ni ellwch yng Nghymru, gyda'ch cyfraith a'ch Saesneg,
Alw caseg yn geffyl, na cheffyl yn gaseg."
Fal de ral, &c.

Ond Sion Robert Rowland o Ben-ucha'r-Dre',
Ddaeth yno i gyfieithu pob gair yn ei le;
Ar ol sychu ei drwyn, i gael edrych yn drefnus,
Fe waeddodd am osteg i ddysgu'r hen Ustus.
Fal de ral, &c.


"My Lord and Gentlemen of the Jury;

"Ci is a Dog, and Male is a gwryw,
So Cow is a Buwch, and Bull is a Tarw,
So Gast is a Bitch, with shaking her cynffon,
The same, my Lord, as your Madums in London.
Fal de ral, &c

"Mae llawer meddyliau, 'rwy'n gofyn eich barn,
Yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar y gair elwir "Carn";
Carn ceffyl, carn twcca, os cyfieithweh o chwith,
Gellweh alw carn-lleidr, the hilt of a thief."
Fal de ral, &c

A'r couns'llor ddywedai, "It appears to me,
This mau lost his lamb by a Gast or a Ci;
The value of the verdict we easy rejoin—
My Lord, 'twas a Cigfran that killed the Oen.
Fal de ral, &c

"Against such a name there is no accusation,
It mentions a dog in this Declaration."
"But what is a Cigfran, I can't make a guess."
My Lord, 'tis a blackbird that lives upon flesh."
Fal de ral, &c

"A bird that destroyed the innocent creature,
Of course he must be of a ravenous nature;
He will pick out your eyes, my Lord, in a crack,
Is just like a lawyer, is always in black."
Fal de ral, &c

Cofiwch i gyd mai gwell yw cytuno,
Rhag ofn cael brathiad, os ewch i gyfreithio,
A myn'd yn y diwedd, ar ol eudw swn,
Fel yr aeth yr Oen bach, rhwng cigfrain a chŵn.
Fal de ral, &c