David Williams y Piwritan/Croesi'r rhiniog

Mab y Bryniau David Williams y Piwritan

gan Richard Thomas, Bontnewydd

Ar risiau'r pulpud

III

CROESI'R RHINIOG.

Ryw fin nos, tua'r flwyddyn 1848, a Dafydd yn fachgen deuddeng mlwydd oed, anfonasid ef ar neges i bentref Edern. Digwyddai fod yn noson Seiat i'r sawl a arferai fyned yno. Ymdroes y bachgen yn hwy nag arfer ar ei neges, ac, wedi ei ddyfod at y capel, fe welai bobl yn cyrchu i'r Seiat. Yno y safodd gan syllu'n ddwys ei drem. Yn y man, dyma Griffith Hughes yn dyfod heibio. "Hylo, Dafydd," meddai, "beth wyti'n geisio yma ? Gwell iti ddwad efo mi i'r seiat." Ac i mewn yr aeth. Grym go fychan sydd ddigon i symud y garreg ar lethr y mynydd, a buasai llai nag awgrym gŵr fel Griffith Hughes yn ddigon i beri i Ddafydd dreiglo i'r tŷ y noswaith honno. Onid y ffordd hon yr oedd tueddiad ei feddwl a thyniad ei galon?

Fe gafodd y bachgen,—ysgub y blaenffrwyth o deulu'r Bryniau,—groeso dwys-lawen gan y frawdoliaeth. Gwir ddarfod i'r gweinidog roddi cerydd llym i William Jones, gwas y Bryniau, am "beidio a thwsu'r hogyn yn well i Dŷ yr Arglwydd," ond y gwir yw, mai dylanwad distaw yr hen Gristion hwnnw yn ei fywyd beunyddiol a yrrodd Dafydd i'r man y'i cafwyd gan Griffith Hughes; ac yr oedd cael bachgen deuddeg oed i ddyfod, megis ohono'i hun, at y rhiniog yn rhywbeth gwych.

Arferai David Williams, y pregethwr, ddweud flynyddoedd ar ol hyn mai cyfnod pwysig ydyw'r adeg y bydd un wedi colli diniweidrwydd plentyn, a heb gael synnwyr dyn. Llithro a wnaeth Dafydd trwy'r trawsgyweiriad heb faglu na rhoddi magl. Fe ddaeth y deffroad ysbrydol ar warthaf y deffroad hwnnw sy'n naturiol i fachgen rhwng deuddeg a phedair ar ddeg oed.

William Jones, y gwr y soniwyd am dano—ef oedd hwsmon y Bryniau—ac offeiriad hefyd. Cadwai'r gŵr disyml hwn lamp crefydd yn olau yn y teulu trwy gydol y blynyddoedd. Fe'i gwelid bob bore gwedi brecwast yn estyn y Beibl oddiar y ffenestr yn ymyl, yn ei osod ar y bwrdd mawr gwyn, ac yn myned trwy'r gwasanaeth. 'Gweddi fach syml a digon unffurf a fyddai gan yr hen frawd, o fore i fore, ond yr oedd ei gymeriad—ac yr oedd hwnnw cyn wynned â'r eira—yn ei chadw'n eithaf derbyniol.

Yn ebrwydd iawn, fe ddaeth Dafydd yn gyfrannog â William Jones mewn cadw dyletswydd, ac nid oedd yno neb yng nghegin y Bryniau yn peidio a rhyfeddu at y cyfoeth, y dwyster a'r aeddfedrwydd oedd yn eiriolaeth y bachgen. Y gwir ydyw, fe aeth yn frenin yn syniad y teulu a'r gwasanaethyddion oll. Rhoes hyn blwc i'r tad, a'i ddwyn yn nes at fyd William Jones a Dafydd. Codai o hyn allan yn brydlon at yr awr weddi.

Porthi'r gwartheg oedd ei orchwyl ar y fferm. Prin hwyrach y gellid dim yn amgen ohono na "phorthwr." Nid oedd iddo ddiddordeb' mewn gwaith amaeth, ac yr oedd yn bur anghelfydd ei law. Fe ddywedir ei fod yn dyner ryfeddol wrth anifail, ac ni fu'n fyr o estyn iddo'i borthiant. Fel y tyfai'n llanc, daeth yn fwyfwy amlwg' fel teip o gymeriad, ac nid oedd gan y saint yn Edern neb o gyffelyb feddwl.

Ar un olwg, llanc allan o'i fyd oedd Dafydd, ond y gwir yw ddarfod iddo, fel pob cymeriad grymus, greu ei fyd ei hun. Darllenodd fwy na mwy, trysorodd yn ei gof gafaelgar y Beibl, a daeth yn ysgrythyrwr diail. Nid oedd gymal o adnod yn anhysbys iddo, a medrai siarad am helyntion proffwydi a brenhinoedd Israel yn well nag am eiddo'r cymydog nesaf ato.

Yr oedd ei fyd mawr yn ei feddwl, a'i faeth yn ei fyfyrdod. Yn swn aerwyon y fuches clywai ddyfnder yn galw ar ddyfnder yn ei enaid. Âi'r weddi ddirgel adeg swperu'r gwartheg yn fynych yn weddi gyhoeddus, a chlywid hi, nid yn unig gan yr anifeiliaid gwâr, ond gan y teulu yn ogystal. Dringodd Dafydd Williams yn uchel yn syniad Griffith Hughes, ac nid rhyfedd hynny, oblegid yr oedd darnau o Ddafydd ar batrwm y gweinidog ei hun; ac am y gweddill ohono, nid oedd yn debyg i neb. Fe fu Griffith Hughes yn Holwr y Cyfarfod Ysgolion am flynyddoedd lawer. Adeg dewis cynrychiolydd dros Edern fe ddywedai'r gweinidog, O Mi gymrai Dafydd Williams efo mi i'r Cyfarfod Ysgolion "—a dyna ben arni.

Rhaid oedd cael Dafydd Williams i bob gwylnos yn y gymdogaeth. Er mwyn yr ieuanc, gwell ydyw dywedyd mai dyna oedd honno: cyfarfod gweddi a gynhelid yn nhŷ galar noson o flaen yr angladd; ac oni cheid llawer o iechyd corff yn y teios gorlawn ar achlysuron felly, fe geid braster bendith o weddiau Dafydd Williams, y Bryniau. Yn wir, yr oedd y son am dano wedi cerdded y broydd benbwygilydd.

Fe fu Mr. Rowlands, person y Plwy, yn dra phrysur fwy nag unwaith yn ceisio taflu'r rhaff am Ddafydd i'w dynnu i'r Eglwys Esgobaethol; ond, er iddo lwyddo yn ei ymgais gyda rhai o feibion ffermydd Llŷn, ni fu lwydd ar ei genhadaeth yn y Bryniau. Ateb swta Dafydd i'r gwahoddiad caredig ydoedd: " Be' stydî'r dyn, deudwch, efo'i hen nonsens." Ni fu iddo gymaint ag agor y pac, chwedl yntau.

Nodiadau

golygu