David Williams y Piwritan/I'r Bryniau
← Cynnwys | David Williams y Piwritan gan Richard Thomas, Bontnewydd |
Mab y Bryniau → |
David Williams y Piwritan
RHAN I.
I'R BRYNIAU.
Medr pawb bellach, yn Gymry a Saeson, eu ffordd yn hawdd i wlad Llŷn. Dyma'r wlad a ystyrrid gynt yn ddiarffordd ac anhygyrch. a sonnid am bwynt eithaf y Penrhyn fel ' pen draw'r byd.'
Ond fe ddaeth goruchwyliaeth newydd gyda'i ffyrdd concrit a'i phetrol-fenni buain. Y mae gwibiaid haf wedi ' darganfod '—ie, ' darganfod ' os gwelwch yn dda—y wlad y tu hwnt i'r Eifl a Phwllheli. Gwelant hwythau bellach hyfrydwch ei broydd, rhamant ei golygfeydd, a swynion ei glennydd.
Ond yr anffawd ydyw nad oes yn y llyfr cyfarwyddyd neu'r hyfforddwr sydd yn llaw'r gwibiaid gymaint a chyffyrddiad o hanes gwlad, cartrefi ei chewri, cysegrleoedd ei bywyd, a'i chyfraniad i fywyd y byd. Ni ddywed wrthym pa fath foneddigion a fu'n byw dan do yr hen blasau urddasol, na pheth ydyw crefft a chelfyddyd preswylwyr y bwthynnod tlysion, nac ychwaith beth a fu hanes y werin a fu byw, o genhedlaeth i genhedlaeth, ynghanol y golygfeydd ysblennydd hyn.
Y mae i Lŷn, yn anad yr un darn o wlad, 'hen fythol hynafiaethau mawrion' chwedl Goronwy am Fôn. Brithir ei hwyneb gan hen blastai o fri, megis: —Bodwrdda, Cefnamwlch, Nanhoron, Cefn Llanfair, Bodegroes a llawer un arall. Fe fu yn y rhain foneddigion o hil gerdd a goleddai'r iaith ac a fu'n noddwyr hael i lên a chân. Mwy na hynny, yr oeddynt eu hunain yn wŷr dysgedig, celfyddgar, a dawnus. Agorent eu drysau i fardd a cherddor, a chroesawent yn rhwydd ymwelwyr yn swn telyn a chrwth. Dyma'r brid o foneddigion a fegid tua'r eilfed ganrif ar bymtheg, a mawr yw'n dyled iddynt am feithrin mor eiddgar yr hen ddiwylliant Cymreig.
Prin ydyw'r hyn a ddywed Thomas Pennant yn hanes ei deithiau (tua 1776) am fywyd yr uchelwyr, a bywyd yr hen aneddau hyn; ond cwyna yn awgrymiadol mai mewn cyflwr anniwylliedig yr oedd y wlad er gwaethaf esiamplau canmoladwy y boneddigion. Sonia am y tai o glai a'u to gwellt. Yn ol a ddywed ef, dewisach oedd gan y dynion ddal pysgod na dal cyrn yr aradr. Er hynny i gyd, fe anfonid allan i'r byd doreth o gynhyrchion o Benrhyn Llŷn.
Er pob cyfnewid, fe gadwodd tref Pwllheli yn gyrchfan marchnad y wlad. Am dani hi y canodd Morys Dwyfach ymhell yn ôl yn yr unfed ganrif ar bymtheg:
"Per gordio pur gywirdeb
Pwllheli marsiandi sieb."
Ni pheidiodd a bod yn ystorfa, fel y dywed Pennant, "lle cedwir nwyddau at wasanaeth y rhandir yma."
Yr oedd yr hen dref yn un bur fonheddig bedwar ugain mlynedd yn ôl, ni dybiem. Cawn Eben Fardd yn canmol ei thegwch, ac yn canu ar graig yr Imbill draw:
"Holl olwg tref Pwllheli
O'i heang sail ddengys hi,
Llawn gyfyd Llŷn ac Eifion,
Dirlun hardd o dorlan hon."
Dyna'r adeg y clywid swn morthwylion y seiri llongau i lawr yn yr harbwr, a thrafod materion porthladd a helyntion môr ar y cob. Bob yn dipyn fe aeth yr hen ddiwydiant i lawr, a dyna'r hen dref bellach yn graddol ymnewid. Proffwydai'r bardd y gwelid y graig y safai arni wedi ei darnio i fod yn rhywbeth arall.
"Ynghrombil eang yr Imbill—d'wedant
Y dodir cryf ebill,
Dynn o'i pherfedd ryfedd rill
Taranol at ryw ennill.
Gwŷr y gyrdd hyd ei gwar gerddant—diwrnod
Ei darnio ddaw meddant,
A'i chloddio nes byddo'n bant,
Agennog diogoniant.
Onid trwm fydd trem y fan
Os tynnir cilbost anian?"
Erbyn hyn dyma " gilbost anian " wedi'i falurio i'w sail a'i grombil wedi mynd yn friwsion. Lledwyd terfynau yr hen dref ynghwrs blynyddoedd, ac yn gymharol ddiweddar, yn lle'r ponciau tywod i gyfeiriad y traeth, dyma resi urddasol o aneddau llety. Er mwyn bod yn hollol modern, mae'n debyg, fe ddysgwyd Cymry glân Pwllheli i alw'r naill ddarn o'r datblygiad yn West End, a'r llall yn South Beach. Ond son yr oeddym am Lŷn yn y dyddiau gynt. Bwriwn ein bod yn myned cyn belled ag Edern yn y flwyddyn 1S50. Yn niffyg yr un cerbyd (oblegid yr oedd y " cyfleustra teithio " heb ddyfod eto) cawn deithio'n rhwydd a rhad yng ngherbyd dychymyg. Awn yn hwylus ar hyd ffordd wastad hyd yr Efail Newydd, rhyw filltir o'r dref. Yma y cydia dwy o briffyrdd gwlad Llŷn. Rhed hon ar y dde ar hytraws y wlad i gyfeiriad Nefyn, ac ar hon y bwriadwn dramwy. A ni'n myned heibio i gapel yr Efail Newydd cofiasom am John Williams, Brynsiencyn, yn y Goitsh ar fore Llun yn adrodd yn ei afiaith hanes John Moses Jones. Ymddengys bod yr hen frawd yno'n pregethu, ond yn anffodus yr oedd dwy chwaer huawdl a bregethai ym Mhwllheli wedi tynnu'r rhan fwyaf o'i gynulleidfa i wrando arnynt, —"Wel. gyfeillion," meddai John Moses, "mi wela fod y rhai calla o'r bobl yma, ond y mae'r ffyliaid wedi mynd i'r dref yna i glywed dwy gowen yn treio canu fel ceiliogod."
Gwelir yn fuan ar y dde un o'r hen blastai y somwyd am danynt, sef Bodfel. Y mae'i furiau yn cwyn delw cadernid plaen a diaddurn. Y peth mwya: trawiadol ynglŷn â hwn ydyw ddarfod i Dr. Johrson fod unwaith yn lletya dan ei do.
Deuwn, ymhen rhyw filltir, at un o lanerchau dymunol gwlad Llyn. sef Boduan—preswylfod yr Wyniaid o hen drâs. Edrych y deri a'r ffawydd yn urddasol megis brenhinoedd, a phob boncyff praff megys colofn yn dal i fyny do caeadfrig. Pan elom i rhiw o dan gangau'r gwŷdd fe glywir y brain yn cadw cynhadledd drystfawr uwch ein pen, a'u clochdar byddarol yn awgrymu bod dadl frwd ym mhlith y frawdoliaeth.
Yn uwch i fyny'r allt dyma eglwys Boduan yn adeilad prydferth ar y cynllun ;Groegaidd. Codwyd hi, meddir, yn y flwyddyn 1765, ar draul Catherine ac Elizabeth Wyn. A ni yn myned ymlaen pery'r "wig enfawr " i'n cysgodi "a'i gwisg ddeilios hyd lawr." Y mae'r awel braf yn iachusol a'r rhedyn gwyrddlas sy'n gwarchod ymyl y ffordd yn hudolus a swynol.
Wedi myned ohonom dros gefnen goediog Boduan cawn y ffordd yn fuan yn troelli i gyfeiriad Nefyn a glan y môr. I lygad ymwelydd nid ymddengys Nefyn ond pentref go barchus, ond gorau po gyntaf iddo ddeall ei fod mewn tref, a thref ac iddi hanes mawr yn cerdded ymhell iawn yn ol. Gellir dwyn ar gof i'r dyn ar sgawt fod Nefyn yn "fwrdeisdref rydd " er y drydedd ganrif ar ddeg, ac eithaf peth a fyddai dywedyd ddarfod i Iorwerth y Cyntaf gynnal yn Nefyn loddest fawr ei fuddugoliaeth pryd yr ymgynhullodd pendefigion o Loegr, a hyd yn oed o wledydd tramor, i'r rhialtwch. Y mae Nefyn ar gwr y forgilfach wrth odre'r Eifi yn fangre deg a hyfryd.
A welwch chwi'r trwyn acw o dir sy'n ymestyn i'r môr tua dwy filltir i gyfeiriad y gogledd orllewin ? Dacw Borthdinllaen, ac y mae i'r llecyn yna hanes. Dyna'r lle a "fygythiodd" fwy nag unwaith yn ystod y ganrif o'r blaen ddyfod yn borthladd prysur, ac yn llwybr trafnidiaeth ag Iwerddon. Disgwylid yn awchus am weled ardaloedd tawel Llŷn yn dyfod yn gyniweirfa pobloedd.
Siomedig fu'r disgwyl a'r darogan. Fe ddeffrodd pendefigion dyfal Môn, a thrwy eu dylanwad hwy yn bennaf, i bentir Caergybi y cyfeiriodd y ffordd bôst a'r ffordd haearn. Bu peth breuddwydio a chynllunio ar ol hynny, ond aros a wnaeth Porthdinllaen mewn llonyddwch.
Awn bellach ymlaen tros wyneb gwastad y Morfa, a deuwn yn ebrwydd i ben rhiw serth, ac oddiar y tro ar ei chanol canfyddwn odditanom ddyffryn bychan. Dyna bentref Edern ar y llethr dros y bont, ac y mae'n bentref glanwedd a dymunol. Yr ydym yn awr yn ardal Porthdinllaen. Awn trwy'r pentref yn hamddenol, a dyfod at fryncyn oddeutu milltir y tu hwnt iddo. Gedwch inni oddiyma edrych yn ol i gyfeiriad y dwyrain, a rhoddi trem ar olygfa wych. Dyna fynyddoedd yr Eifl a charn Boduan megis mur rhwng cantref Arfon a gwlad Llŷn. Tros eu pennau cawn gip cynnil ar fynyddoedd Eryri. I'r de o Foduan eto dacw fynyddoedd Meirion yn y golwg o'r Moelwyn i Gader Idris. Yn ein hymyl ar y chwith y mae glasfor bae Caernarfon, a thraw ar y dde, yr ochr arall i'r penrhyn dacw fae Tremadog a glannau Meirion. Ni fu lawer harddach golygfa na hon yn enwedig pan fo awyr glir-denau ar brynhawn-gwaith i'w dangos yn ei gogoniant.[1]
"A harddaf haul rhuddfelyn
Yn bwrw o'i wawl ar y bryn."
Gwelwn ein bod mewn gwlad brydferth, lawn o amrywiaeth. Fe geir yma ambell randir wastad ac unffurf, ond, at ei gilydd, gwlad y mân fryniau a'r mân ddolydd ydyw, ac, er mantais iddi hi a'r trigolion, fe'i dyfrheir â llawer o fân ffrydiau byw.
Syml a thlodaidd, yn ol a ddeallwn, ydyw bywyd y bobl yn y cyfnod hwn, megis yn amser Pennant. Ni fedd ond ambell ffermwr cefnog gerbyd marchnad—a gig yn gyffredin a fydd honno. Gellir gweled rhai tipyn distatlach yn cyrchu i Bwllheli ar echel y drol (y trwmbal wedi'i ddatgysylltu a'i roi i gadw) a bagiad o wellt yn gwasanaethu fel cwshin. Bydd John, y gwas, yn fynych, yn ol ei gytundeb wrth gyflogi, yn sicrhau'r fraint o farchogaeth ar un o geffylau ei feistr i'r ffair.
Bara haidd—cynnyrch gwlad Llŷn—a fwyteir gan mwyaf. Pan leddir eidion ar ddechrau gaeaf rhennir yr asennau i gymdogion o gwmpas, a helltir y gweddill o'r corffyn at angen y teulu. Fe leddir yn bur fynych lo pasgedig yn y gwanwyn—dyna ffordd effeithiol ac ymarferol o groesawu'r haf i Lŷn.
Gofelir mynd a digon o wlan i'r ffatri fel y ceir rholiau o frethyn erbyn dechrau'r gaeaf. Dyna'r adeg y daw " John Ifans y teiliwr " neu rywun o'r gelfyddyd, i wneud siwtiau i bob aelod o'r teulu, a chan fod y wlad mor faethlon i dyfu corff, daw'r siars, dro ar ol tro, am "eu gwneud yn ddigon mawr." Gellir dywedyd am dani hithau Lŷn,—
"Cneifion dy dda gwynion gant
Llydain a'th hardd ddilladant."
Y mae'r wlad yn cyflenwi cyfreidiau'r trigolion syml eu bywyd. Am danynt hwy'r preswylwyr, y maent yn bobl radlon a hynaws, pobl yn cymryd hamdden i fyw, ac yn sicr ni fynnant i'r dieithrddyn a fyddo o fewn eu terfynau fod ar ei gythlwng.
Sonnir cryn lawer am gynnyrch y wlad doreithiog hon mewn anifeiliaid; ond y mae llawer gwlad, ysywaeth, na fedr hi gynhyrchu dim mwy cyfrifol. Nid felly hon. Fe all hi ymffrostio yn ei meibion o "ddoniau tramawr." Y mae iddi hanes a thraddodiadau sy'n cerdded ymhell iawn yn ol, ac y mae stôr ei hynafiaethau'n ddihysbydd. Brithwyd ei hanes, fel y sylwyd, ag enwau urddasolion a garai eu gwlad, gan goledd ei llenyddiaeth a'i chelfyddyd. Bu'n gartref i feirdd a llenorion hyglod, megis William Llŷn, Lewis Daron, Owain Llŷn, Ioan o Lŷn, Gwilym Llŷn. Daeth oddiyma hefyd Syr William Jones, y cyfreithiwr; a Thimothy Richards, y morwr, ac eraill.
Fe gynhyrchodd hon bump o esgobion, a chyda hwy fagad o uchelwyr eglwysig eraill llai eu gradd. Cerddodd ar ei ffyrdd efengylwyr ffyddlon ac aml broffwyd enwog fel Richard Dafydd, Morgan Griffith, Evan Hughes, James Hughes, John Jones (Edern), a Robert Jones (Rhoslan).
"Cerddwyd ar ei ffyrdd," meddwn, oblegid Dyddiau'r gwyr traed a'r teithio blin ar ffyrdd llychlyd oedd y rheini i gorff y bobl.
Pennod ddiddorol a fuasai hanes arloeswyr trafnidiaeth yn Llŷn, a chael tipyn o fywgraffiad y drol mul, y frêc, ac, yn bennaf oll, y goitsh fawr o felys goffadwriaeth. Dyweder a fynner, goruchwyliaeth go nobl oedd honno. A wyt ti'n cofio, ddarllenydd, fel y cyrchem am y goitsh ar Stryd Fawr y dre, am y pedwariaid o feirch dof eu golwg, a'r dreifar yn diwyd osod yn eu lle'r parseli a ymddiriedid i'w ofal ? Diddorol fyddai gweld y teithwyr, yn wladwyr graenus a rhadlon, yn dygyfor, a'r ymholi am hwn ac arall a fyddai'n methu mewn prydlondeb.
Syndod oedd gweled cynifer o gyrff llydan yn myned i gyn lleied o le, ond nid oedd gadael neb ar ol yn unol ag urddas a thraddodiadau'r goitsh—rhaid oedd " gwneud lle i bawb." Amrywiol fyddai'r llwyth, oblegid ceid yno'r faelwraig, y ffermwr, y morwr, a hwyrach efengylydd neu ddau. Amrywiol hefyd fyddai testunau'r ymddiddan, a cheid digon o amser i drafod helyntion teuluoedd, eglwysi, a llongau, a byddai pawb mewn tymer dda yn bwrw'i gyfran i'r bwrdd cyfnewid.
Yng nghwrs y datblygiad fe ddaeth cerbyd ar ol cerbyd ar y ffyrdd, ac y mae'r olaf o rywogaeth y goitsh wedi peidio a rhedeg. Diddorol oedd edrych y dydd o'r blaen ar gorpws un o'r hen foneddigesau hyn, a fu hithau'n ddefnyddiol iawn yn ei hamser, yn prysur adfeilio yn un o ierdydd Llŷn.
Nodiadau
golygu- ↑ Y Parch. J. Hughes.