David Williams y Piwritan/Lerpwl, 1876—1894

Y Felinheli, 1865—1876 David Williams y Piwritan

gan Richard Thomas, Bontnewydd

I'r Bryniau'n ôl, 1894—1920

VI.

LERPWL.
1876-1894.

Dyma David Williams, ym mis Medi, 1876, yn dechrau ar ei waith yn Lerpwl, ac, ar gais y brodyr yn y Pall Mall, fe benodwyd ei gymydog Rees Jones i'w hebrwng yno. Ai i fam eglwys a'i hanes yn cerdded yn ol am dros gan mlynedd, ac eglwys a wrandawsai ar ddoniau gorau'r Weinidogaeth trwy gydol y blynyddoedd. Rhaid bellach ydoedd cerdded yn ôl traed dynion fel Henry Rees a John Hughes, y Mount. Yr oedd wedyn yn Lerpwl ar y pryd rai y gwneid cyfrif mawr ohonynt fel cedyrn y pulpud. Dyna'r Dr. John Hughes yn Fitzclarence Street ers yn agos i ugain mlynedd. Gwelsai'r Dr. Owen Thomas un mlynedd ar ddeg yn y ddinas, a'r Dr. Hugh Jones bum mlynedd yn Netherfield Road; ac yr oedd Richard Lumley yntau yn y cylch ers tua deng mlynedd. Fe ddaeth, wedi hynny, bregethwyr amlwg eraill i'r ddinas. Cyfnod oedd hwnnw pan. roddai pobl y pwys pennaf ar neges fawr y Pulpud yn hytrach nag ar gyflawni o'r gweinidog fân negeseuon y tu allan iddo.

Nid bychan oedd pryder y gweinidog newydd pan ddaeth yno i amcanu sefyll ochr yn ochr a'r gwyr a ystyrrid yn feistraid y gynulleidfa. Ond, er cael yno ddoniau mawr a doniau amrywiol, ni fuwyd heb deimlo bod David Williams, yn ei ddawn: digymar ei hun, yn ychwanegiad teilwng atynt.[1]

Yr oedd yn arfer gan Buleston ddywedyd "mai gwerth pregeth yn y pen draw ydyw ei gwerth i'r bobl sy'n ei gwrando... nid beth a gostiodd hi i'r pregethwr, ond beth a dâl hi i'r gwrandawyr." Ni fu cynulleidfaoedd Lerpwl yn fyr o brisio arlwy David Williams. Edrychent ymlaen am ei oedfa, cai gynulleidfa lawn, a chodai'r rhai swrth, hyd yn oed, i ddyfod i wrando arno ar fore Sul.

Yn o fuan wedi dyfod o'r gweinidog i'r Pall Mall, fe ddaeth y cwestiwn o symud ei phabell i flino'r eglwys, ac, wedi peth ymdrafod, fe werthwyd yr hen gapel i gwmni'r Relwe, fel y ceffid lle i helaethu Stesion Tithebarn Street. Aeth barn yr eglwys o blaid lle canolog yng Nghrosshall Street, ac yno y symudwyd yn y flwyddyn 1880. Yr oedd enw hen gapel Pall Mall yn gu iawn gan y to hwnnw o Fethodistiaid yn Lerpwl, ac ymglymodd serch llawer calon wrth y cysegr yno. Anodd yn sicr oedd i'r hen aelodau gefnu ar fangre'r saint, a'r hen deml y clywsid ynddi, trwy gydol y blynyddoedd, leisiau'r proffwydi mwyaf, a'r adeilad y profwyd pethau bendithiol rhwng ei fagwyrydd. Ond mudo a wnaed i le nad oedd nemor o'i blaid oddieithr ei safle ganolog yn y dref. Da oedd i'r gweinidog wrth gynhorthwy rhes o flaenoriaid gwych iawn, ac fe'i cafodd: W. Jones. (y blawd), R. Roberts, W. Thomas, John Evans. Wedi hynny fe ddaeth W. Jones (Prussia St.), R. O. Roberts, Hugh Williams; ac yn ddiweddarach wedyn T. J. Williams, Robt. Thomas, David Davies. Y mae llawer o fân bethau ynglŷn â'r Achos Mawr, a man drafferthion hefyd; ond y gwir yw na fynnai ef ei boeni ganddynt o chai lonydd. Gwyddai ef yn burion fod y pethau hynny mewn dwylo diogel a gofalus, a chai yntau droi yn ei gylch priod ei hun —"pawb at y peth y bo." Mewn gair, nid yn unig fe'i cyfyngodd ei hun i'w eglwys; ond hefyd i'r gwaith mwyaf ysbrydol ynddi hithau.

Ffolineb fuasai ei wahodd i gomiti, ac, o delid ef mewn un ar ol cyfarfod arall, fe'i gwelid yn stwyrian yn aflonydd fel un a chnofeydd wedi'i ddala, a'i het yn ei law, ac yn deisyfu gweled pen ar bethau— fel y caffai fyned adref.

Ie, rhyw ddrwg anorfod oedd "comiti" ar y gorau. Daeth ar draws y gair hwnnw mewn pregeth rywdro: "Efe a orchymynnodd, a hynny a safodd." "Ia," meddai, "fel yna—ddaeth o ddim trwy gomiti welwch chi."

Yr oedd un o eglwysi'r cylch mewn cryn derfysg, a phwyllgor wedi'i benodi i ofalu am yr Achos. Pregethai yno ar lywodraeth Duw—llywodraeth eang, fanwl, sicr. "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, &c.," meddai, "ac nid trwy gomiti, a rhyw hen lol felly."

Yn ei Gyfarfod Sefydlu fe rybuddiasid pobl Pall Mall rhag disgwyl i'r gweinidog "drotian" o dŷ i dŷ, megis postman, ac, yn wir, ni ddaeth i Ddavid Williams y demtasiwn honno am funud. Ond ymwelai yntau'n achlysurol, ac fel y byddai gofyn. Yn yr ymweliadau hyn gelwid arno'n fynych i fyned trwy rai o'r heolydd culion, drwg eu cyflwr, a gwrth—naws eu sawr a'u moes, a chai yno olwg echrydus ar ddau elyn: pechod yn ei drueni, a Phabyddiaeth yn ei ddylanwad ar y trueiniaid. Ni fentrodd fawr eriod i'r lleoedd diffaith hynny heb un o'r blaenoriaid ffyddlon yn gwmni iddo. Yr oedd David Williams yn ŵr hardd o gorff, a hoyw o gerddediad, ac edrychai mor raenus a glandeg, gyda'i wyneb difarf, â'r un offeiriad. Fel yr âi ef a'i gydymaith ar eu hymdaith trwy un o'r lleoedd y soniwyd am danynt dyma ddau neu dri o fechgynnos, a marciau'r cwterydd arnynt, yn rhedeg at y pregethwr gan ei gyfarch yn barchus ddigon: Good afternoon, father." Ond dyma lais bâs David Williams allan fel taran (ac yntau'n taflu'i law yn ddiamynedd):

"No! No!! No!!! I'm not your father, get away with you. Be stydi'r petha ma deudwch efo'u hen lol?"

Er na ellid ei gyfrif yn ymwelwr mawr, na feddylier am funud mai un yn difateru am ei bobl ydoedd. Yr oedd mewn cyffyrddiad byw a bendithiol â hwy yn eu helyntion, ac fe ddiwallodd angen llawer tlawd trwy'i elusen. Ai'r gymwynas o'i law ef ei hun, weithiau, yn uniongyrchol; dro arall, trwy law un o'r blaenoriaid yn ddistaw bach.'

Rhywbeth y tu hwnt i ddychymyg a fuasai clywed. David Williams yn y Cyfarfod Misol yn bwrw huawdledd mewn dadl fawr ar bethau bach a dibwys; ond pan ddelai gerbron fater yn cyffwrdd bywyd ysbrydol y saint—yr ysbaid honno, y gŵyr llawer cadeirydd yn dda am dani, pan fo'r mân siarad yn troi'n fudandod poenus—dyma gyfle i glywed ei lais yntau, ac yn ddi-feth fe ddywed rywbeth byw a chofiadwy. Gofynnwyd iddo un tro ddweud gair ar y dydd diolch am y cynhaeaf. Gwedi iddo alw am i'n diolch fod yn fwrlwm parod ac ewyllysgar, ac nid rhywbeth i'w "brocio," fel y byddai pobl wrthi'n taro tân â charreg ers talwm, aeth ymlaen: "Wel ia, rydach chi'n deud ei bod hi wedi bod yn dymor glyb, a'r cynhaeaf wedi bod yn anniben—y ffarmwrs hyd y wlad yna wedi bod am ddyddiau yn sefyll yn syn, yn lle bod yn medi ar y meysydd. Hwyrach, wir, na fydd o'n ddrwg yn y byd i'r Brenin Mawr beri i ddynion sefyll dipyn. Bydd y gŵr bonheddig yn rhoi clo ar giat y ffordd 'na weithiau—rhyw unwaith yn y flwyddyn hwyrach—nid gan feddwl rhwystro i bobl ei hiwsio, ond just i ddangos mai fo piau hi."

Ceir ambell ddyn a'i deithi arbennig yn ei ddieithrio i bobl eraill ac yn mynd yn fur rhyngddo a chymdeithas, ond y gwir am dano ef ydyw bod ei holl hynodrwydd yn ei ffitio yn berffaith naturiol. Yr oedd yn syml, hynaws, a chyfeillgar ryfeddol yng nghylch ei gydnabod.

Yr oedd ar y telerau gorau â'i gyd-weinidogion yn y ddinas. Yr oedd i'r Dr. Owen Thomas a'r Dr. John Hughes gylch bywyd a gorwelion meddwl y tu hwnt i eiddo David Williams, bid sicr, ond y mae gennym lawn sicrwydd bod y naill a'r llall ohonynt yn gwneud cyfrif go fawr o weinidog Crosshall Street, ac fe ddywedodd y Dr. Thomas yn bendant. "na wyddai ef am yr un gweinidog yn y tymor hwnnw a wasanaethodd yn well gynulleidfaoedd Lerpwl nag y gwnaeth David Williams."

Nid rhyfedd yn y byd i'r Dr. Hughes ac yntau fod gymaint yng nghwmni ei gilydd. Onid oedd David Williams mor wreiddiol, diddorol, a naturiol? Ac fel y gwyddys dyna'r pethau y byddai'r Doctor afieithus yn eu mwynhau o bopeth. Daeth heibio i Ddavid Williams yn ei lety un noswaith (ac fe wnai hynny'n o fynych) ar ol cyfarfod yn Fitzclarence Street. "Yr oedd A.B. yn annerch acw heno," meddai, "Ho, felly," atebai'r llall, "sut yr oedd o wrthi?" "Wel, yn ddi-ddawn," ebr y Dr., "yn ddiddorol o ddi-ddawn, welwch chi." Ie gair hoff ganddo oedd "diddorol." Onid efe a ddywedodd am ryw frawd ei fod yn fychan, yn ddiddorol o fychan? Os gellid dweud am ddyn ei fod yn garictor byddai'i gwmni yn gryn dipyn o wledd, ac fe gai hynny, a rhagor, yng nghwmni David Williams. Aeth y ddau gyda'i gilydd i gynnal cyfarfod pregethu i rywle yn nhueddau Llannerchymedd unwaith, ac, yn ol arfer pobl yr ynys, cawsant diriondeb a charedigrwydd diball, a'r Doctor wrth ei fodd yn mwyn- hau tirionwch Môn gan ddal i ddweud yng nghlyw David Williams: "Yn tydy nhw'n garedig;" "yn toes yma le braf," etc. Aeth y cyfarfod drosodd, ond nid felly ganmoliaeth y Dr. A hwy ar eu ffordd adref, gwedi i'r tren adael stesion y Gaerwen am Lanfair: "Diar mi," meddai'r Dr., "y mae mynyddoedd Sir Gaernarfon yn edrych yn dda oddi yma, edrychwch mewn difri." "Ydyn," meddai'r llall yn bur swta, "dyna ydi'r hen Sir Fôn bach yma, welwch chi, rhyw blatform bach i weld Sir Gaernarfon, ac mae'n gwestiwn gini fasa hi yma ers talwm onibai'i bod hi wedi'i chainio ym mhont y Borth yna."

Deunaw mlynedd o weinidogaethu llwyddiannus a fu eiddo David Williams yn Lerpwl. Er taro ohono nodyn pur uchel y tro cyntaf, parhaodd i daro deuddeg hyd ddiwedd tymor ei drigias yn y ddinas fawr. Yng ngoleuni llachar meistraid y gynulleidfa nid aeth ef o'r golwg. Nid oedd neb a berchid yn fwy gan Gymry'r ddinas, a'i ddywediadau ef o bawb a arhosai ym meddyliau'r bobl.[2]

Dechreuodd Griffith Ellis, M.A. a David Williams eu gyrfa yn Lerpwl o fewn rhyw flwyddyn i'w gilydd, [oblegid am ddwy flynedd cyn 1876 ei wyliau o Rydychen yn unig a dreuliai Mr. Ellis yn yr eglwys ym Mootle.] Fel y sylwyd eisys,pregethwyr oedd hen weinidogion Lerpwl o flaen popeth arall, ac fel pregethwyr y bernid hwy. Ond y mae'n debyg mail yn Griffith Ellis y caed y syniad ehangach am waith bugeiliol. Cafodd ef y fraint o ddwyn i mewn gyfnod newydd. Ni fu ei hafal am gyffyrddiad byw â bywyd beunyddiol ei bobl. Yr oedd ei orchwylion yn ddiri, ac nid oedd fesur ar ei gymwynasau. Mynnai ei gyfeillion ddarfod i amlder trafferthion dolli gormod ar ei amser i bwrpas pregethu.

Yr oedd yn gredwr mawr mewn pregethu, ac yr oedd ei edmygedd o bregethwyr o ddoniau arbennig yn ddibrin. Gellid dywedyd bod mesur go fawr o wahaniaeth rhwng dull David Williams o weinidogaethu ag eiddo Griffith Ellis. Yr oeddynt, serch hynny, yn dra chyfeillgar fel brodyr, a deallent ei gilydd i'r dim. "Oedd, yr oedd yno ddoniau mawr i'w clywed yr adeg yr oeddwn i yn Lerpwl," meddai un hen frawd wrthym, "a rheini bob un yn wahanol i'w gilydd. Fel hyn y byddai fy mhartner a minnau yn treio disgrifio'u dull yn apelio atom. "Owen Thomas, yn daer: 'Credwch wir, neu mi wnai i chi gredu.' Hugh Jones, yn deimladwy: 'Credwch wir, neu mi dorrai'i nghalon.' John Hughes, yn urddasol: 'Credwch yr Efengyl-dyna'r genadwri i chwi,' ac am Dafydd Williams efe'n gartrefol yn dweud: 'Credwch, gyfeillion annwyl, 'does dim sens i chi wrthod credu.'"

Erbyn y flwyddyn 1894 newidiasai pethau gryn lawer yn y ddinas. Buasai farw'r Dr. Owen Thomas ers tair blynedd, ac yn wir fe fu i symudiad y Dr. John Hughes i'r wlad, rhyw ddwy flynedd cyn marw'r Dr. Thomas, beri i Ddavid Williams daflu'i lygaid dros ei ysgwydd, dro ar ol tro, yn enwedig pan gyfarfyddai â'r Dr., a hwnnw mewn hwyl yn canmol llechweddau Eryri a gwastadeddau Môn, a gorffen mewn siars, "Bendith i chi, dowch chitha i'r wlad acw i fyw."

I brofiad gweinidog Crosshall Street, bu llawer o waith datod ar y rhwymau. Clwm oedd ei ymlyniad wrth Fethodistiaid y ddinas, ac fe wyddai yn nwfn ei galon eu bod hwythau'n ymserchu ynddo yntau fel dyn a phregethwr. Daeth i gredu fwyfwy fod angen rhywun ieuengach i weithio gyda'r plant, ac felly, fel mater o ddyletswydd y torrwyd y rhaffau y buwyd am ddeunaw mlynedd yn eu ffurfio. Ym Mai, 1894, cafwyd cyfarfod i ganu'n iach i'r unig bregethwr o'i fath a oedd yn Lerpwl, a rhoddwyd teyrnged ddibrin iddo gan y Parchn. Griffith Ellis, M.A.; E. J. Evans; D. Powell; T. Gray; Owen Owens; J. Hughes, M.A.; Dr. Hugh Jones; E. O. Davies, B.Sc.; a'r Mri. David Hughes; R. W. Jones, Garston; William Jones, Bootle; ac eraill. Derbyniodd yn rhodd gan yr eglwys Gwpwrdd Derw a phlât arno, a chan eglwysi eraill y cylch, bwrs o aur.

Nodiadau

golygu
  1. Y Parch. W. M. Jones.
  2. Y Parch. W. M. Jones.