David Williams y Piwritan/Rhagair

David Williams y Piwritan David Williams y Piwritan

gan Richard Thomas, Bontnewydd

Cynnwys

Rhagair

Ymhen ysbaid wedi marw David Williams gofynnodd y Parch. R. O. Williams, Penmaenmawr, imi edrych dros yr ysgrifau a'r Dyddiaduron a adawsid gan ei hybarch frawd, David Williams, a gweled a ellid gwneuthur rhyw ddefnydd ohonynt. Am y Dyddiaduron yr oedd eu moelni yn rhyfeddol. I bob golwg, fe ystyriai David Williams mai i'r Weinidogaeth yn unig yr oedd Dyddiadur wedi'i ordeinio. Cafwyd llawer mwy deunydd yn y pregethau, oblegid fe sgrifennai'r rheini yn dra gofalus. Syniad y Parch. R. O. Williams ydoedd yr atebai detholion o'i ddywediadau a'i ddisgrifiadau byw well diben na rhoddi i mewn nifer o bregethau cyfain, a diamau gennym ei fod yn iawn ar y pen hwn.

Byr fydd hyd yn oed y detholion mewn print o roddi syniad tebyg i gyflawn am hynodrwydd David Williams. Rhaid ydyw cael y dull ymadroddi yn gystal a'r deunydd. Gresyn o beth, a chennym ninnau wrth law ddyfeisiau'r blynyddoedd diweddaf hyn, fod cynifer o bregethwyr amlwg a'u llais wedi distewi heb fod ar gael yr un record gramoffon o'u traddodiad a'u dull o bregethu. Gallesid yn rhwydd fod wedi cael enghreifftiau o huawdledd y Doctoriaid John Williams, T. C. Williams, Puleston Jones, a'r Athro David Williams. Ond, hyd y gwyddom ni, nis cafwyd.

Yn y teitl fe gysylltir ag enw David Williams y gair sy'n cyfleu rhai o deithi amlwg ei gymeriad. Gwnaed hyn yn hytrach na'i gysylltu ag unrhyw le, oblegid fe ddug ef ei neilltuolrwydd gydag ef i bobman, o'r Bryniau yn Llŷn i'r Bryniau yn Llanwnda. Fel piwritan yr adwaenid ef. Yn ysgol y piwritaniaid y dysgodd ei wersi, hwynthwy a edmygai ac a ddarllenai, a'u delw hwy a gaed ar ei gymeriad a'i fuchedd grefyddol. Dygai ar gof gamp a gogoniant Dr. Owen, Calfin, Baxter, Howe, a Bunyan, wedi i bawb arall dewi a son am danynt.

Dyna'r cefndir; nid dyna'r peth er hynny a'i gwnaeth yn un cofiadwy i'w wrandawyr, ond y "rhywbeth arall" hwnnw a gyfodai o'i bersonoliaeth, ac a'i gosodai'n gwbl ar ei ben ei hun. Dymunaf gydnabod â chalon rwydd y cyfeillion caredig a'm cynorthwyodd, megis, y Parch. W. M. Jones, Llansantffraid; John Hughes, Edern; Morris Thomas, M.A., .Trefeglwys; Mr. W. B. Jones, Bradford; Mr. J. Griffith, Dwyran, a llawer un arall a roes imi ddameidiau llai. Derbyniais lawer o wybodaeth o gell cof y ddiweddar Mrs. Owen, Morfa Nefyn, ac yr oedd ysgrif y diweddar Barch. W. Prydderch Williams, Llundain, yn gymorth dirfawr.

Yr oedd ar gael rai ysgrifau wedi eu cyhoeddi, megis, eiddo'r diweddar Barch. O. J. Owen, M.A. (yn y Goleuad), y Parch. W. M. Jones (yn y Brython), Anthropos (yn Awel a Heulwen, a'r Llusern), a'r Parch. J. Owen, M.A. (yn y Drysorfa).

Gwneuthum ddefnydd o'r disgrifiadau gwych hyn, ond hyderaf na bu imi wrth loffa (chwedl David Williams) gymryd o'u hysgubau dywysennau braisg heb gydnabod ohonof hynny.

Cefais i bleser nid bychan wrth baratoi hyn o gyfrol, a'm dymuniad ydyw ar i bob un a'i darlleno dderbyn boddhad, budd, a bendith yn ei orchwyl yntau.

RICHARD THOMAS.

Nodiadau

golygu