Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc/Blaenair

Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc

gan Francis Jones, Abergele

Cynwysiad

BLAENAIR

WRTH ollwng y llyfryn bychan hwn o'm llaw, dymunwn yn gyntaf oll gydnabod yn ddiolchgar y cynorthwy a gefais gan amryw i gasglu yr hanesion hyn at eu gilydd. yn enwedig y brodyr y gwelir eu henwau ynglyn a'u hysgrifau, Ac hefyd am y rhyddid a ganiatawyd i mi i dynu oddiwrth, a chwanegu at yr hyn a ysgrifenwyd ganddynt. Bu y naill yn angenrheidiol droion er mwyn osgoi ail adroddiadau, a'r llall oherwydd ffeithiau a hanesion y teimlwn na ddylesid eu gadael allan oedd yn hysbys i mi, ond na choffeid ganddynt hwy.

Yr wyf yn ddiolchgar hefyd i swyddogion Cyfarfod Ysgolion Sabbothol y Dosbarth am ymgymeryd â phob cyfrifoldeb ynglyn à chyhoeddi yr hanes, heb i mi gymaint a gofyn hyny ganddynt.

Pan yn cyfeirio at yr oediad i gofrestru capel Abergele fel addoldy Ymneilltuol (tudalen 10) ofnaf fod fy ngeiriau yn gamarweiniol. Am ddwy flynedd yr oeddynt wedi oedi, ac nid am chwech; oblegid yn 1795 y penderfynodd y Methodistiaid osod eu hunain dan nawdd y gyfraith wladol.

F. J.


Nodiadau

golygu