Deffro 'nghalon deffro 'nghân

Mae Deffro 'nghalon deffro 'nghân yn emyn gan Benjamin Francis (1734 – 14 Rhagfyr 1799)


Deffro 'nghalon, deffro 'nghân

I ddyrchafu

Clodydd pur yr Arglwydd glân,

F'annwyl Iesu;

Uno wnaf â llu y nef

Âm holl awydd

I glodfori ei enw ef

Yn dragywydd.


Crist yw 'Mhrynwr, Crist yw 'Mhen

a'm Hanwylyd,

Crist yw etifeddiaeth wen,

Crist yw 'mywyd,

Crist yw 'ngogoneddus nef

Annherfynnol:

Gwleddaf ar ei gariad ef

Yn dragwyddol.