Defnyddiwr:AlwynapHuw/Camau Cymorth/Y Dudalen Gwaith

Y Dudalen Indecs Camau Cymorth

gan Alwyn ap Huw

Tudalennau Amgen

Y Dudalen gwaith

Mae'r tudalen gwaith yn cynnwys nifer fawr o offer i gynorthwyo'r gwaith o greu testun. Dyma ddisgrifiad o ohonynt

Ar ben y tudalen

golygu
 
  • Y ddwy A: Os ydych yn aroleuo (highlightio) gair a phwyso'r A gyntaf fe fydd y nodau i greu llythrennau praff yn cael eu gosod o amgylch y gair '''praff''', bydd pwyso'r ail a yn creu llythrennau ''italig'' italig. Gellir defnyddio'r ddwy i greu llythrennau '''''italig praff''''' italig praff
  • Y ddolen gydiol: Cymorth i osod dolen i dudalen arall ar Wicidestun (Gweler hefyd y dudalen Cymorth:Dolenni)
  • Darlun mynydd: Cymorth i osod delweddau yn y testun
  • Darn jig-so: I fod i chwilio am "nodynnau" ee {{canoli}} ond dim yn gweithio yn y Gymraeg ar hyn o bryd gan ei fod yn chwilio am Template:canoli yn hytrach na Nodyn:canoli
  • Hirsgwar du efo fflach wen: Yn gosod <ref> <ref> o amgylch geiriau sydd wedi aroleuo i greu troednodyn / cyfeiriad
  • Pensil: Yn defnyddio gwahanol liwiau ar gyfer côd creu nodynnau ac ati (at ddefnydd arbenigol yn unig)

Mae'r dolenni Uwch—Nodau arbennig—Cymorth Offer—prawfddarllen yn agor ail linell ar frig y ddalen

  • Uwch: yn gosod nifer o declyn golygu ar yr ail linell. Gan gynnwys ffurfio rhestri bwled, rhestri rhifog, teclyn i rwystro cystrawen wici rhag gweithio (er enghraifft pe bae chi am ddefnyddio {{bracedi cyrliog}} yn eich testun heb gyrchu nodyn Wici);gosod toriad llinell <br>; creu llythrennau mwy a llai na'r arfer; creu uwchnod A1 neu isnod A1. Mewnosod delwedd, ailgyfeiriad tudalen a thabl. Teclyn chwilio / cyfnewid
  • Nodau Arbennig: Yn agor dewislen o gannoedd o lythrennau acennog, llythrennau o ieithoedd eraill a symbolau
  • Cymorth: Rhestr o sgriptiau cystrawen golygu Wici
  • Offer prawf ddarllen. Teclyn i agor / cau pennyn a throednodyn ar y ddalen gwaith. Newid golwg y tudalen gwaith fel bod y llun o’r tudalen print uwchben yn hytrach nag ar ochr y ddalen trawsysgrifio.




Cyn cychwyn ar y gwaith o drawsysgrifio mae'n rhaid cofio am un o reolau aur Wicidestun:

Defnyddiaw orgraph y testyn gwreiddiawl

golygu

Cyhoeddwyd y mwyafrif o lyfrau a dogfennau y mae hawl i'w gosod ar Wicidestun cyn i orgraff y Gymraeg cael ei safoni ar ddiwedd y 1920au / dechrau'r 1930au. Y rheol wrth drawsysgrifio yw cadw'n driw i'r hyn a argraffwyd, heb ei gywiro i Gymraeg cyfoes. Caniateir eithriadau prin o gywiriadau pan fo'r cyd-destun yn profi'n amlwg mae diawl y wasg sy'n gyfrifol am gamgymeriad yn hytrach na bwriad yr awdur neu'r cyhoeddwr.

Corff y tudalen

golygu
 

Dyma gorff y tudalen, cyn cychwyn gweithio arni. Mae dwy ran i'r dudalen. Llun o'r llyfr gwreiddiol ac adran gosod testun gwag. (Bydd yr ochr chwith ddim yn wag pob tro os oedd OCR wedi ei wneud ar y ffeil pdf cyn ei uwchlwytho bydd ysgrifen yno. Gan amlaf, efo llyfrau Cymraeg, bydd yr ysgrifen ddim yn gywir iawn.

Mae modd i ddechrau trawsgrifio'r ddalen efo llaw a llygad, os dymunwch, ond rwyf am ofyn i'r cyfrifiadur gwneud y gwaith drosof.

Uwchben y ddalen print mae yna fotwm

 

O roi clec ar y saeth i lawr v ar ochr dde'r botwm ddaw dewislen i fyny

 

Rwyf am ddewis "Google OCR" gan ei fod llawer gwell na'r ddau arall ar gyfer y Gymraeg, ac wedyn pwyso'r rhan o'r botwm sy'n dweud "Trawsgrifio testun" O fewn eiliadau bydd y dudalen yn edrych fel hyn:

 

Mae'r trawsgrifiad yn weddol gywir. Y "camgymeriad" gwaethaf yw gosod (6 yn lle " (sy'n digwydd yn aml efo Google—camgymeriadau cyffredin eraill yw peidio rhoi to bach ar ŵ ac ŷ, troi w italig yn u a throi e yn c a c yn e).

Rhaid nodi hefyd bod safon y trawsgrifiad yn adlewyrchiad o safon y testun print. Ar ôl tua 1880 mae llythrennau print yn weddol siarp ac yn rhoi OCR da. Cyn 1880 mae'r inc yn rhedeg, mae ambell i lythyren yn aneglur ac mae smotiau inc ar hyd y ddalen, bydd hyn yn effeithio'n fawr ar safon yr OCR.

Mae ychydig o bethau eraill sydd angen ei wneud i'r ddalen cyn ei gadw.

Does dim eisiau rhif y ddalen (bydd rhifo yn cael ei wneud yn hwyrach yn y broses) a does dim angen teitl y ddalen / pennod sydd ar frig y ddalen, rhaid eu dileu.

Mae'r trawsgrifiad wedi ei wneud llinell wrth linell

Edrychodd o'i chwmpas yn wyllt, a thrwy'r coed ¶
gwelodd gip ar y mor glas disglair. O, ie, glas fel y ¶
mor a fyddai lliw'r llyn ar y map. Dechreuodd ar ¶
y gwaelod. Dim llynnoedd yno! Cododd ei golygon ¶

Wrth gadw'r tudalen bydd Wicidestun yn anwybyddu toriadau llinell unigol ac yn cyhoeddi'r llinellau fel paragraff:—

Edrychodd o'i chwmpas yn wyllt, a thrwy'r coed gwelodd gip ar y mor glas disglair. O, ie, glas fel y mor a fyddai lliw'r llyn ar y map. Dechreuodd ar y gwaelod. Dim llynnoedd yno! Cododd ei golygon

Bydd hefyd yn anwybyddu toriadau unigol rhwng paragraffau. I gadw'r paragraff bydd angen rhoi toriad llinell ychwanegol rhyngddynt

Edrychodd i wyneb yr athrawes gan gadw ei bys ar¶
yr enw. "Yr wyf wedi ei gael," ebe hi gydag¶
ochenaid.¶

Edrychodd yr athrawes arni heb wên ar ei hwyneb,¶
a dywedodd yn ddistaw¶

Mae Wicidestun hefyd yn anwybyddu toriadau llinell rhwng tudalennau. Gan fod y dudalen yma yn darfod ar ddiwedd paragraff, mae'n rhaid dweud bod angen toriad paragraff rhwng y tudalennau. Gwneir hyn trwy roi'r nodyn ar linell ei hun, ar waelod y ddalen fel hyn:

Meddyliodd Mair yn hir am danynt.¶

{{nop}}

Torri gair gyda gwahannod

golygu

Er mwyn cadw ochr dde'r adran print yn unionsyth bydd argraffwyr yn aml yn defnyddio gwa-
hannod i dorri gair yn ei chanol. Wrth drawsgrifio dalen bydd raid cal gwared â'r rhan fwyaf o rain er mwyn ail-uno'r geiriau. Yr eithriad yw pan fo gair yn torri dros dudalen, lle fydd cadw'r gwahannod yn sicrhau nad yw'r gair yn cael ei gyhoeddi fel dau air. Os fydd term sy'n cynnwys gwahannod yn torri dros dudalen ee Tad-yng-
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
nghyfraith

Mae'n rhaid rhwystro Wicidestun rhag ei gwaredu a chyhoeddi Tad ynghyfraith trwy ddefnyddio Tad-yng<nowiki>-</nowiki>

Goleuadau traffig

golygu

Wedi gwneud y cywiriadau hyn mae un peth arall i'w gwneud. Ar waelod y dudalen mae yna res o bedwar neu bump o gylchoedd mewn gwahanol liwiau (y goleuadau traffig)

 

I ddangos bod tudalen wedi ei drawsysgrifio dylid rhoi clec ar y botwm melyn (bydd y botwm gwyrdd ddim ar gael.)

Dyma eglurhad o'r holl oleuadau.

  • Coch—heb ei drawsgrifio
  • Llwyd—Tudalen wag. Weithiau bydd tudalen wag ddim yn hollol wag. Bydd llofnod perchennog, stamp llyfrgell, nodiadau gan ddarllenydd ac ati arnynt. Does dim eisiau trawsysgrifio'r rhain gan nad ydynt yn rhan o'r llyfr cyhoeddedig. Os oes ysgrifen yn yr ardal trawsysgrifio bydd angen ei ddileu. Rhowch glec i'r olau llwyd i roi gwybod i ddefnyddwyr eraill ei fod yn wag.
  • Piws—Tudalen efo problem. Y dudalen wedi rhwygo, sgan gwael annarllenadwy, rhywun wedi tywallt rhywbeth dros y ddalen gan ddileu rhan o'r testun. Dyw presenoldeb tudalennau efo problemau dim yn rheswm dros beidio trawsysgrifio gweddill y llyfr. Mae 95% o hen lyfr yn werth mwy na dim ohono. A hwyrach bydd bosib gwirio'r problemau yn y dyfodol.
  • Melyn—Mae'r tudalen wedi cael ei drawsgrifio
  • Gwyrdd—Mae'r tudalen wedi cael ei wirio gan ail berson. Dyw'r golau gwyrdd ddim ar gael nes bydd rhywun wedi goleuo'r un melyn. Bydd y golau gwyrdd ddim ar gael yng nghyfrif y person wnaeth ei drawsgrifio hyd i ail berson ei wirio (i rwystro chi rhag marcio eich gwaith eich hun).

Dyma ddiwedd y llith am drawsysgrifio tudalen o destun. Nesaf bydd sôn am dudalennau amgen megis cloriau, tudalennau cynnwys, hysbysebion ac ati.


[[Categori:Tudalennau Cymorth]]