Diarhebion Cymru

gan Owen Morgan Edwards

URDD Y DELYN

Urdd o blant Cymru yw hon. Unig amod aelodaeth yw cadw y rheolau hyn, — '

1. Dysgu siarad ac ysgrifennu Cymraeg ; darllen rhan o'r Beibl Cymraeg, neu ryw lyfr Cymraeg arall, bob dydd, ac ysgrifennu Cymraeg o'i gyfansoddiad ei hun.

2. Astudio hanes Cymru, a gwneyd ei oreu i godi ei wlad, fel y byddo Cymru fydd yn well na'r hen Gymru.

3. Dysgu canu'r delyn, os bydd hynny yn y cyrraedd; a dysgu alawon Cymreig.

4. Byw, hyd y gall, yn ol dysgeidiaeth lien Gymry gynt, mor bell ag y mae'r ddysgeidiaeth honno'n un a dysgeidiaeth Crist

Y mae'r ddysgeidiaeth honno'n gofyn purdeb, cariad at addysg, caredigrwydd at ddyn, addfwynder at greaduriaid direswm, iaith ddihalog

Anfoned ymgeiswyr am aelodaeth at O. M, Edwards Llanuwchllyn. Gellir cael bathodyn yr Urdd pris swllt, oddiwrtho ef. Nid oes dim i'w dalu am

ymuno

'Llyfrau Urdd y Delyn. I.

"Duw a Chymru"

DIARHEBION CYMRU

Rhaid i'radar mân gael bwyd
  • I. PEDWAR CAN DIHAREB.
  • II. DIARHEBION AC ESBONIAD.
  • III. DIARHEBION AC ENWAU.
  • IV. Arwyddeiriau.
  • V. Nerthoedd.

—————————————

1897

GWRECSAM:HUGHES A'I FAB

RHAGYMADRODD

MEDDWL doeth oes yw dihareb. Cyn y cofir hi, rhaid. iddi fod yn wir, ac yn wir y mae pawb yn ddeall. rhaid iddi fod yn brofiad pob dydd. Rhaid ei bod o'r ffurf dlos a seml. Os bydd fel hyn, caiff fyw.

Gall dihareb fod yn waith oesoedd,—pobl oes ar ol oes yn ei harddu a'i gloewi, hyd nes y mae o'r diwedd mor eglur, mor dryloew, ac mor gryno ag y gall fod. Gall diharab arall ddod i fod ar unwaith,—rhyw fflach yn dod i feddwl un, a honno 'n dod yn brofiad milodd.

Y ddihareb yw'r peth mwyaf byw, a'r peth mwyaf defnyddiol, yn llenyddiaeth y byd. Medr bardd wneyd awdl, rhaid cael conedl i wneyd dihareb.

Nod plant URDD Y DELYN YW adnabod Awen Cymru. Ryw dro, cânt flas ar y traethawd dyfnaf ac ar y gân grymusaf. Ond rhaid iddynt ddechreu gyda'r diharebion, tra bo'r cof yn ystwyth ac yn gryf.

Beth geir o ddysgu'r Diarhebion?

Ceir gweled y dull goreu o ddweyd y gwir,—y dullll mwyaf cryno, y dull mwyaf eglur, yn yr iaith mwyaf seml a naturiol. Ceir gwybod sut i ochel chwydd a thywyllwch wrth ysgrifennu. Y gwir, eglur fel darlun, gair mewn dihareb Ceir cymorth i feddwl yn glir ac i'r pwrpas. Bum lawer gwaith yn gwrando ar iaith aneglur rhai sy'n byw ar y papur newydd, ac mewn gormod o ffrwst i feddwl. Bum hefyd yn gwrando ar rai,—hen bobl y rhan amlaf,—yn siarud yn glir, yn dweyd meddyliau tarawiadol, hawdd eu cofio, gwerth eu cofio. A sylwais fod ol y diarhebion ar feddwl ac arddull y rhain. Weithian bydd eu hymgom yn dryfrith o ddiarhebion. Ac fel clo i ysgwrs, nis gwn am ddim gwell na dihareb darawiadol.

Ceir adnabod meddwl Cymru yn y Diarhebion. Y mae doethineb cydymdeimlad ynddynt. Y maent yn feddyliau cenedl y medrid proffwydo am dani y aberthai er mwyn y gwir a'r tlws a'r doeth. Nid chwerwder, nid dirmyg, nid diffyg ffydd geir ynddynt: ond bywyd iach, cryf, llawn ffydd yn Nuw a chariad at gymydog. Ac oddiwrth ei diarhebion yr adnabyddir cenedl oreu.

Ai gormod gofyn i'r rhai sy'n caru Cymru ddysgu'r Diarhebion i'w plant? Dysger hwy at gyfarfodydd Urdd y Delyn, ac esbonier hwy yno, fel y dysgir ac yr esbonnir diarhebion Israel yn yr Ysgol Sul. Tlysni ymadrodd, symlder iaith, trylwyredd meddwl,—dyna ddaw o'u dysgu hwy.

Nid pob un fedr roddi pedwar cant o bunnau i'w blentyn. Ond dyma bedwar cant o berlau, perlau meddwl Cymru, y gall eu rhoddi yn drysor anfarwol iddo. Agoriad i olud meddwl, drych i weled profiad, ffordd i ddoethineb,—y mae'r ddihareb yn well nag aur Gall roddi'r aur, a mwy.

OWEN M. EDWARDS.
LLANUWCHLLYN,
Awst 24ain, 1897.

DIARHEBION,

1. Gwell Duw yn gâr
Na llu y ddaear.
2. Brith yn ieuanc,
Carpiog hen.
3. Gwell medr na thrysor.
4. Nid glân ond glân ei galon.
5. Tlws pob peth bychan.
6. Lle crafa'r iar, e biga'r cyw.
7. Rhaid i adar mân gael bwyd.
8. Hir yw byth, a da yw Duw.
9. Amlwg llaid ar farch gwyn.
10. Gwell clwt na thwll.

11. Gwell crefft na golud.
12. I'r pant y rhed y dŵr.
13. Gwell pwyll nag aur.
14. Lle ni bo dysg, ni bydd dawn.
15. A ddygo'r wy, a ddwg a fo mwy.
16. Aml bai lle ni charer.
17. Hir pob aros.
18. Deuparth ffordd ei gwybod.
19. Duw a fedd, dyn a lefair.
20. Gwell chware nac ymladd.
21. Rhy dyn a dyr.
22. Rhaid cropian cyn cerdded.
23. Hawdd rhydio cornant.
24. Edwyn hen gath lefrith.
25. Doeth dyn tra thawo.
26. Hir byddis yn llenwi llestr ollyngo.
27. A ddigio heb achos, cymoded heb iawn.
28. Gyrru hwyaid i gyrchu gwyddau o'r dŵr.
29. Mam esgud wna ferch ddiog.
3O. Ni chel ynfyd ei feddwl.
31. Drwg y ceidw y diafol ei was.
32. Gwell cariad y ci na'i gas.
33. Na choll dy henffordd er dy ffordd newydd.
34. Gwâg tŷ heb fab.

35 Natur yr hwch fydd yn y porchell.
36 Trydydd troed i hen ei ffon.
37 Ni chŵyn ci er ei daro âg asgwrn.
38 Tynnu bach trwy goed.
39 Nis wyddis eisio ffynnon hyd onid el yn hesb.
40 Ychydig yn aml a wna lawer.
41 A arbedo ei faeh, arbeded ei gunnog.
42 Addaw teg a wna ynfyd yn llawen.
43 A esgynno yn hwyr, ebrwydd y disgyn.
44 Cas yw'r gwirionedd lle ni charer.

45. Deuparth taith ymbarotoi.
46. Wedi traha, tramgwydd.
47. Gwae a gaffo ddrygair yn ieuanc.
48. Toll fawr a wna doll fechan.
49. Y câr cywir, yn yr ing y gwelir.
50. Gwerthodd ei dŷ, ple ceiff lety?
51. Y cyntaf ei og, cyntaf ei gryman.
52. Afrad pob afraid.
53. Eilfam, modryb dda.
54. Gwaethaf anaf , anfoes.
55. Hardd pob newydd
56. Nid llafurus llaw gywrain.
57. Hwyra dial, dial Duw.
58. Llwyra dial, dial Duw
59. Nid oes neb heb ei fai.
60. Gwae oferwr yng nghynhauaf.
61. A fynno glod bid farw.
62 Gwenynen farw ni chasgl fêl.
63 Haf tan Galan, gauaf hyd Fai
64 Nid cynefîn brân â chanu.
65 Gwell synwyr na chyfoeth.
66 Nid chware, chware â thân.
67 Hawdd cymod lle bo cariad.
68 A fynno iechyd, bid lawen.
69 Gwaith y nos, y dydd a'i dengys.
70 Hawdd peri i fingam wylo.

71. Gyda'r ci y cerdd ei gynfFon.
72. A'm caro i, cared fy nghi.
73. Gwell un dyrnod â'r ordd na dau â'r morthwyl.
74. Hen bechod wna gywilydd newydd.
75. Nid oes rhodd ond o fodd.
76. Rhy lawn a gyll.
77. Rhaid i segur beth i'w wneuthur.
78. Ni wna'r môr waeth na boddi,
79. Haws yw dywedyd "mynydd" na myned drosto.
80. Gwell maen garw a'm hatalìo na maen llyfn a'm gollyngo.
81. Gwyw calon gan hiraeth.
82. Pan fydd marw y sarff,
Bydd marw ei cholyn.
83. Gelyn gan gerlyn ei gâr.
84. Ni chŵyn yr iar fod y gwalch yn glaf.
85. Un wennol ni wna wanwyn.
86. Hen arfer, hon a orfydd.
87. Gweithio castell ar ben cawnen.
88. Cymydog da yw clawdd.
89. Llyfnaf y dŵr, dyfnaf y rhyd.
90 Arl gnoc a dyr y garreg.
91. Y gneuen goeg sy galetaf.
92. Ni wiw galw doe yn ol

93. Ni bydd gŵr gwyllt heb ei wae.
94. Gwell tewi na ddrwg ddywedyd.
95. Goreu cyfrwysdra, gonestrwydd.
96. Cydwybod lân, diogel ei pherchen.
97. Amlaf ei gŵys, amlaf ei ysgub.
98. Gwell un hwde na dau addaw.
99. Haws dringo na disgyn.
100. Gwân dy bawl yn Hafren,
Hafren fydd hi fel cynt.

101. Ni cheir y melus'heb y chwerw.
102. Ni chel grudd gystudd calon.
103. Ni chwsg Duw pan rydd wared.
104. Gwas da a gaiff ei le.
105. Hawdd cynneu tân ar hen aelwyd.
106. Nid adwna Duw a wnaeth.
107. Gwell cysgod cawnen na dim.
108. Daw haf i gi.
109. Afiach pob trwm galon.
110. Haws boddloni Duw na diafol.
111. Arglwydd gwan, gwae ei was.
112. Y neb a heuo ddrain
Na cherdded yn droednoeth.
113. Cof gan bawb a gâr.
114. Na werth dy iar ar wlaw.
115. Cyfaill blaidd, bugail diog.
116. Ni ddaw gair drwg yn ol.
117. Deuparth bonedd yw dysg.
118. O geiniog i geiniog
A'r arian yn bunt.
119. Dibech fywyd, gwyn ei fyd.
120. Rhaid cof da i ddweyd celwydd
121. Trymaf baich, baich o bechod.
122. Digon Duw da i unig.
123. Taer yw'r gwir am y golau.
124. Angen ddysg i hen redeg.

125. Araf dân wna frfig melus.
126. Un trwyn budr wna gan trwyn glân.
127. A ranno i liaws, rhanned yn hynaws.
128. Ar ni oddefo was, boed was iddo ei hun.
129. Caseg gloff, cloff ei hebol.
130. Cyn ebrwydded yn y farchnad
Groen yr oen a chroen y ddafad.
131. Digon yw digon o ffigys.
132. Fe ŵyr y gath pa farf a lyf.
133. Eang yw'r byd i bawb.
134. Amser a heibio,
Wrth chware, wrth weithio.
135. Awydd a dyr ei wddf.
136. Cludo heli i'r môr.
137. A wnel dwyll, ef a dwyllir.
138. Dal y gath gerfydd ei chynffon.
139. Basaf dwfr, mwyaf llafar.
140. Adar o'r unlliw ehedant i'r unlle.
141. Addewid nas gwneler nid gwiw.
142. Trech gwlad nac arglwydd.
143. Digrif gan bob aderyn ei lais.
144. Llaw lân, diogel ei pherchen.
145. Byr ddrwg anian wna hir ofal.
146. Llawer gwir drwg ei ddywedyd.
147. Ni wiw gyrru buwch i ddal ysgyfarnog.
148. Ni cheir afal per ar bren sur.

 
149. Anhawdd dwyn dyn oddîar ei dylwyth.
150. Na ddeffro y ci fo'n cysgu,
151. Ni bydd doeth ni ddarllenno.
152. Ar ddiwedd y mae barnu.
153. Ar ni phortho ei gath, porthed ei lygod.
154. A wnel dyn Duw a'i barn.
155. Tynnaf y bo'r llinyn, cyntaf y tyr.
156. Bwrw â'th unllaw, cais â'th ddwylaw.
157. Cadarnach yw'r edau'n gyfrodedd nag yn ungorn.
158. Caletach glew na maen.
159. Lladd Genfigen ei pherchen.
160. Rhan Duw'r anwyd fel y rhany dillad.
161. Diboen i ddyn dybio'n dda.
162. A garer neu a gaseir a welir o bell.
163. Gyda'r nos y cyfyd malwen.
164. Goreu cyfoeth yw iechyd.
165. Gwyn y gwel y frân ei chyw.
166. Ni wna'r gwynt waeth na chwythu.
167. Da cael ynys mewn môr mawr.
168. Chwynnwch eich gardd eich hun yn gyntaf.
169. A bryn flawd a bryn eisin.
170. Da gan y naill gi grogi'r llall.
171. Llong i longwr, a melin i felinydd.
172. Llawer a sieryd llawer o wragedd.

173. Mae modfedd yn ddigon er dianc.
174. Balch yw hwyaid ar y gwlaw.
175. A geir yn rhodd a gerdd yn rhwydd.
176. Cosyn glân o glaswsllt budr.
177. Gwae hen heb grefydd
178. Manwl pob rhan, hardd pob cyfan.
179. Nid o rym corff y cenir telyn.
180. Na chais gellwair â'th gas.
181. Er na wnei ddrwg, na wna debyg.
182. Nid gwaeth cywir er ei chwilio.
183. Haws gwneuthur da na drwg.
184. Goreu o'r campau, bod yn llonydd.
185. Gwell trugaredd na chreulonder.
186. Goreu pob meddiant, llaw gelfydd.
187. Gwell angen na chywilydd.
188. Nid dysg, dysg heb ei ddilyn.
189. Nid rhy hen neb i ddysgu.
190. A el i'r chware,
Gadawed ei groen gartre.
191. Amlwg gwaed ar farch gwelw.
192. Ar ni roddo a garo, ni chaiff a ddymuno.
193. Cynt y llysg yr odyn na'r ysgubor.
194. Chwarddiad dŵr dan ia.
195. Da yw dant i atal tafod
196. Dall pob anghyfarwydd.

197. Goreu defod, daioni.
J98. Gwas i was chwibanwr.
199. Llunio'r gwadn fel bo'r troed.
200. Nid ar redeg y mae aredig.
201. Drwg yw'r ffordd ni cherdder ond unwaith.
202. Gweddw crefft heb ei dawn.
203. Hawdd yw clwyfo claf.
204. Helynt flin yw pobi heb flawd.
205. Gwell am y pared â dedwydd nac am y tân â diriaid.
206. Hwy y pery clod na hoedl.
207. Nid iach ond a fo marw.
208. Deuparth gwaith ei ddechreu.
209. Goreu meddyg, meddyg enaid.
210. Ni weryd hiraeth am farw.
211. Gwell y drwg a wyddis na'r drwg na wyddis.
212. Hawdd yw tynnu cleddyf byr o wain.
213. Hir y byddir yn cnoi tamaid chwerw.
214. Nid hawdd chwythu tân a blawd yn y genau.
215. Ni raid rhoi cloch am wddf ynfyd
216. Gan y gwirion ceir y gwir.
217. O flewyn i flewyn a'r pen yn foel,
218; Oni cheffi gennin, dwg fresych.

219. Gwell y ci a gyfartho na'r ci a gno.
220. A fo ysgafn galon a gân.
221. Goreu difyrrwch, cân adar bore.
222. Ni omedd yr haul ei des i'r ynfyd a boer yn ei wyneb.
223. Goreu tangnef, tangnef Duw.
224. Nid hawdd taw ar gydwybod.
225. Cas gan ddrwg ddrwg yn arall.
226. Gwaethaf gelyn, calon ddrwg.

227. Nid oes dim heb ryw rinwedd arno.
228. Gwell un gair gwir na chan gair teg.
229. A fynno lwyddiant, gofynned gennad y diogi.
230. Goreu adnabod, adnabod dy hun.
231. Ni adawodd Duw neb heb nerth a
weryd o bob ffolineb.
232. Un gyflwr pawb yn angau.
233. Tlawd pawb nas gwel eu digon.
234. Mwyaf y ffrost, mwyaf y celwydd.
235. Po ddyfnaf yr afon, lleiaf ei thrwst.
236. Gwna ddaioni, a gwna'n ddiaros.
237. Nid hawdd dileu cariad.
238. Nid da rhy o ddim.
239. Oni heuir, ni fedir.
240. Pilio wy cyn ei rostio.
241. Gwell bodd pawb na'i anfodd.
242. Noswyl iar, gwae a'i câr.
243. O bob trwm, trymaf henaint.
244. Dyfna'r môr, diogelaf i'r llong.
245. Pryn hen, pryn eilwaith.
246. Y llaw a rydd a gynnull.
247. Ymhob rhith y daw angau.
248. Pob anwir, difenwir ei blant.
249. Nid y bore mae canmol tywydd teg.
250. Gwell câr yn llys nag aur ar frys.

251. Ffo rhag drygtir, na ffo rhag drwg arglwydd.
252. Ymryson â ffol, ti fyddi ffolach.
25t3. Cabl yr ynfyd ei wrthban.
254. Yr oen yn dysgu'r ddafad bori.
255. Gall y gwaethaf ddysgu bod yn oreu.
256. Ymhob pechod mae ffoledd.
257. Gwell y wialen a blygo na'r wialen a dorro.
258. Mwya'r brys, mwya'r rhwystr.

259. Ymhob gwlad y megir glew.
260. Na ad i'r nos ddwaethaf fod yn waethaf.
261. Ni thawdd dyled er aros.
262. Na chais fynd i'r nef wrth fod yn chwerw.
263. Ceisied pawb ddwfr i'w long.
264. Llawer teg, drwg ei ddefnydd.
265. Angel pen ffordd, diafol pen pentan.
266. Ni chel drygtir ei egin.
267. Drwg ei hun a debyg arall.
268. A ddywed y peth a fynno, a glyw y peth nas mynno.
269. Cadw dy afraid, ti a'i cei wrth raid.
270. Gwell bach mewn llaw na mawr gerllaw.
271. Fe dyf y draen a'i flaen arno.
272. Gŵr dieithr yw yfory.
273. Gwae ieuanc heb ddysg.
274. Na waria'th geiniog cyn ei chael.
275. Gwell yn y crochan nag yn y tân,
276. Llawer gwan da ei araeth.
277i Goreu sant, sant o bell.
278. Ni edrych Angeu pwy decaf.
279. Tlawd yw athraw heb amynedd.
280. Da cael us gan ddrwg dalwr.

281. Eli i bob dolur yw amynedd.
282. Gwell rhinwedd cardotyn na mawredd brenin.
283. Ni pharch diriad ei well.
284. Llawer tlawd a wêl ei ddigon.
285. Nid dedwydd ond diddrwg.
286. Dod i gadarn ei ran, ne fe'i myn.
287. Fe wnai ddrwg rhwng cardotyn a'i gwd,
a rhwng y cwd a'r llinyn.
288. Gwell yr heddwch gwaethaf na'r rhy fel goreu.
289. Nid o nerth braich ac ysgwydd y mae canu crwth.
290. Gwell câr llaw na châr tafod.

291. Giair gŵr o gastell.
292. Oenau mwyalch ac arch blaidd.
293. Nid erys Malldraeth er Owen.
294. Nid proffwyd neb yn ei wlad ei hun.
295. Os caiff yr afr fynd i'r eglwys, a i'r allor.
296. Gwell un blaidd cloff na dau iach.
297. Gwisg oreu merch yw gwylder.
298. Hawdd tynnu carrai hir o groen un arall.
299. Namyn Duw nid oes dewin.
300. Llawer a weddill o feddwl chwannog.
301. Glew a fydd llew hyd yn llwyd.
302. Hawdd cysgu mewn croen cyfa.
303. Llon llygod lle ni bo cath.
304. Gwae cymdogaeth heb gariad.
305. Ni ad annoeth ei orfod.
306. Mab heb ddysg, tŷ a lysg.
307. Hir y bydd y mud ym mhorth y byddar.
308. Golwg y perchen yw cynnydd y da.
309. Melus geirda am a garer.
310. Buan y dysg mab hwyad nofio.
311. Hai gyda'r ci, hai gyda'r ysgyfarnog.
312. Nid gwaradwydd gwellhau.
313. Goreu canwyll, pwyll i ddyn.

314. Hawdd eiriol ar a garer.
315. Meddiant bychan i ewyllys drwg.
316. Na fydd frad fugail i'r neb a'th gredu.
317. Nawf maen hyd waelod.
318. Na werth nef er benthyg byd.
319. Na wrthod dy barch pan ei cynhygier.
320. Ni châr ffol y neb a'i cynghoro.
321. Rhaid i'r dderwen wrth gysgod yn ieuanc.
322. Pechodau athrawon yw athrawon pechodau.
323. Glân y gwel yr air ei myn,
Boed ef ddu, boed ef wyn.
324. Na chais gyngor gan Iwfr.
325. Y mae'r dwfr lle bo brwyn.
326. Nac ymddiried i'r neb ath fygythîo.
327. O egin y meithrinir das.
328. Na chais Iwyddianfc o esgeulasdod.
329. Na ddos i*r cyngor oni 'th alwer yno.
330. Allwedd tlodî, seguryd.
331. Na chwsg Fehefin rhag rhew Ionawr.
332. A ddysger ddydd Sul, fe'i gwyddis ddydd Llun.
333. Corn byr i'r eidion barus.
334. Hwde i ti, moes i minne.
335. Yn gyntaf bodd Dduw, yn ail bodd ddynion.

336. Na fynega i leîdr ple mae dy drysor.
337. Gwna dda ni waeth i bwy.
338. Cynt cyferfydd dau ddyn na dau fynydd
339. Da gan y gath bysgod, nid da ganddi wlychu ei thraed.
340. Daw hindda wedi drycin.
341. Y ci a gysgo a newyna, y ci a gerddo a gaiff.
342. Gwerthu mel i brynnu peth melus.
343. Gwell cysgu heb swper na deffro mewn dyled.
344. Gwae a fo'n ffôl, ac a gymer arno fod yn ffolach.
345. Aelwyd ddiffydd, aelwyd ddiffaeth.
346. Ni thycia ffoi rhag angau.
347. Y cynta i'r felin gaiff falu
348. Hawdd dywedyd "Dacw'r Wyddfa;"
Nid eir drosti ond yn ara.
349. Ni fu Arthur ond tra fu.
350. Gwell gŵr o'i barchu.
351. Oni byddi gryf, bydd gyfrwys.
352. Rhoi'r dorth, a gofyn y dafell.
353. Nid oes allt heb oriwaered.
354. Ni bydd doeth yn hir mewn llid.
355. Gwell goddef cam na'i wneuthur.

356. Ni wêl cariad ffaeleddau.
357. Y goreu mewn'rhyfel fydd ddiogelaf mewn heddwch.
358. Nac addef dy rîn î was.
359. Adwyog cae anhwsmon.
360. Mae meistr ar meistr Mostyn.
361. 'Can câr fydd i'r dyn a chan ych. .
362. Nîd oes gwyl rhag rhoi elusen.
363. A Duw nid da ymdaraw.
364. Gormod esmwythder, anhawdd ei drin.
365. Anaml elw heb antur.
366. Gwynfyd herwr yw hirnos.
367: Gwell cysgu ar wellt nag ar lawr.
368. Heb ei fai heb ei eni.
369. Ni ddaw henaint ei hunan.
370. Ceisio ei gaseg, a'i gaseg dano.
371. Melus, moes mwy.
372. Diofal cwsg potes maip.
373. Ni cheir da o hir gysgu.
374. Rhy uchel a syrth.
375. Tywynned graienyn ei ran.
376. Gwaith celfydd celu rhin.
377. Ni fawr ddiolchir am rodd gymhell.
378. Nid gwaradwydd ymwellhau.
379. Nid uniaith bronfraith a brân.
380. Ni chwery cath dros ei blwydd.

381. Gwell "nag" na gau addewid.
382. Y mud a ddywed y gwir.
383. Gwell bendith y tlawd na meistrolaeth y cadarn.
384. Ni cheir gan y llwynog ond ei ei groen.
385. Tŷ ni fynno Duw ni lwydd.
386. Ni ddaw doe byth yn ol.
087. Goreu cam, cam cyntaf.
388. Gwell gwegil câr na gwyneb estron:
389. Nid wrth ei big mae prynnu cyffylog.
390. Y neb a fo a march ganddo gaiff farch yn fenthyg.
391. Gwell dod yn hwyr na pheidio dod byth.
392. Ni cholles mam amynedd.
393. Rheded maen oni chaffo wastad.
394. Nid gwiw canu i'r byddar.
395' Gwell ci da na dyn drwg.
39G- Ni hena hawl er ei hoedi.
397- Mae gwehilion i'r gwenith.
398. Mwya'r llanw, mwya'r trai.
309. Pob llwybr mewn ceunant, i'r unffordd a redant.
400. Gair drwg anianol
A lusg ddrwg yn ei o
401. Aml ar eiddil ofalon.

402. Mae gorffwysfa lle bo croes
403. Gofyn i mam a wyf fi leidr.
404. Goreu cydymaith ceiniog.
405. Gwae a fo a'i fefl yn ei fynwes.
406. Nid da ond dwyfol.
407. Aml anaf ar annoeth.
408. Gwae ieuanc ni wnel gyngor.
409. Nid rhy hir aros daioni.
410. Gwell Duw na dim.

DIARHEBION AC ESBONIAD.

Uchenaid Gwyddno Garan Hir
Pan droes y don dros ei dir.

Dywedir y ddihareb hon am rywun fo wedi cael colled drom. Dywed traddoddiad mai brenin Cantre'r Gwaelod oedd Gwiddno Garan Hir. Gadawodd Seithenyn Feddw y llifddorau'n aored ryw noson, a thorrodd y môr dros y wlad wasted a orweddai gynt rhwng Pwllheli ac Aberystwyth.

Edifeirwch y gŵr a laddes ei gi.

Cyfeirio y mae hon at hanes Llywelyn Fawr yn lladd Gelert, ac yn edifarhau pan welodd mai gwaed y blaidd, nid gwaed ei blentyn, oedd ar ei safn.

Gwenhwyfar ferch Ogyrfan Gawr,
Drwg yn fechan, gwaeth yn fawr.

Dywed traddodiad mai drwg oedd Gwenhwyfar, ddaeth yn wraig Arthur, hyd yn oed pan yn fechan. Ei phechod hi, yn ol rhai rhamantau, fu'n ddinistr i'w gwlad.

Beibl i bawb o bobl y byd.

Llinell o englyn yw hon, gwaith Robert William y Pandy, ger y Bala, oedd yn byw tua diwedd y ganrif o'r blaen.

Hir hun Maelgwn yn eglwys Rhos.

Un frenhinoedd galluocaf Gwynedd oedd Maelgwn. " Daeth haint echryslawn,—y Fad Felen, —i'r wlad. Dihangodd y brenin i eglwys Rhos, gan dybied y byddai 'n ddiogel yno. Ond dywed yr hanes i'r Fad Felen edrych arno drwy dwll y clo.

DIARHEBION AC ENWAU.

Cas gŵr na charo'r wlad a'i mago,
Catwg Ddoeth.


A wado hyn, aed a hi,
A gwaded i r haul godi.
DEWI WYN O EIFION.


Ni chuddir Dyffryn Clwyd â mŵg y dre.
TWM O'R NANT.


Ni waeth beth ddywedo ffyliaid; nid eu
gair hwy a saif.
MORGAN LLWYD.


Mae disgleirdeb Duw ar enaid dyn.
MORGAN LLWYD.


ARWYDDEIRIAU.

Goreu awen gwirionedd.
PRIFYSGOL CYMRU


Nid byd, byd heb wybodaeth.
COLEG PRIFYSGOL CYMRU.


Nerth gwlad ei gwybodau.
COLEG PRIFYSGOL Y DE.


Goreu dawn deall.
COLEG PRIFYSGOL Y GOGLEDD.


Gair Duw goreu dysg.
COLEG DEWI SANT.


Goleuni y bywyd.
COLEG Y BALA.


Heb Dduw heb ddim.
YSGOL Y BALA.


NERTHOEDD.

Nerth gwenynen, ei hamynedd.
Nerth morgrugyn, ei ddiwydrwydd.
Nerth bardd, ei awen.
Nerth awenydd, ei fyfyrdod.
Nerth swyddog, ei feddwl gwastad
Nerth mab, ei ddysg.
Nerth plentyn, ei ddiniweidrwydd.
Nerth ieuanc, ei ufudd-dod.
Nerth hen, ei gyngor parod.
Nerth athraw, ei wybodau.
Nerth cryf, ei drugaredd.
Nerth gwlad, ei gwybodau.
Nerth deall, ei ymgais

—————————————

GWRECSAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES A'I FAB

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.