Diffaith Aelwyd Rheged
- Yr aelwyt honn a’e goglyt gawr,
- mwy gordyfnassei ar y llawr
- med a meduon yn eiriawl.
- Yr aelwyt honn, neus kud dynat,
- tra vu vyw y gwercheitwat...
- Yr aelwyt honn, neus cud glessin.
- Ym myw Owein ac Elphin,
- berwassei y pheir breiddin.
- Yr aelwyt honn, neus cud kallawdyr llwyt.
- Mwy gordyfnassei am y bwyt
- cledyual dyual diarswyt.
- Yr aelwyt honn, neus cud kein vieri.
- Coet kynneuawc oed idi.
- Gordyfnassei Reget rodi.
- Yr aelwyt honn, neus cud drein.
- Mwy gordyfnassei y chyngrein
- kymwynas kyweithas Owein.
- Yr aelwyt honn, neus cud myr.
- Mwy gordyfnassei babir
- gloew, a chyuedeu kywir.
- Yr aelwyt honn, neus cud tauawl.
- Mwy gordyfnassei ar yr llawr
- med a medwon yn eiryawl.
- Yr aelwyt honn, neus clad hwch.
- Mwy gordyfnassei elwch
- Gwyr, ac am gyrn kyuedwch.
- Yr aelwyt honn, neus clad kywen.
- Nys eidigauei anghen
- ym myw Owein ac Vryen.
- Yr ystwffwl hwnn, a’r hwnn draw.
- Mwy gordyfnassei amdanaw
- elwch llu a llwybyr arnaw.