Diliau Meirion Cyf I/Adgyfodiad y Saint
← Adgyfodiad Crist | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Gofal Duw am y Saint → |
ADGYFODIAD Y SAINT
FE welir cyrff y saint
Yn ddysglaer fel y wawr,
Yn d'od i'r lan o'r bedd,
Pan gano'r udgorn mawr;
Cânt etifeddu teyrnas Dduw
Ar ddelw hardd eu Prynwr byw.
Mor hawddgar fydd eu gwedd
O flaen yr orsedd fry,
A mynwes lawn o hedd,
Yn lân, ogonedd lu;
Mwynhant lawenydd pur dilyth
Yn Ngwynfa, na ddybena byth.
O, wynfydedig rai,
Annhraethawl fydd eu braint,
Heb bechod nac un bai,
I gyd yn berffaith saint;
Yn rhoi heb dawl ryglyddawl glod
I'r Gwr a'u carodd cyn eu bod.