Diliau Meirion Cyf I/Cyfraith Duw—Barn y duwiol am dani
← Gofal Duw am y Saint | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Y ddau Adeiladwr → |
CYFRAITH DUW.
BARN Y DUWIOL AM DANI.
Yn ffyrdd d'orchmynion di, Dduw Naf,
Mi redaf mewn hyfrydwch;
Ac yn dy air myfyrio wnaf,
Oddiyno caf ddyddanwch.
Dy eiriau grasol llawn o rin,
Sydd well na gwin i'm genau;
Cyfnerthu maent fy enaid gwan
Rhag suddo tan y tonau.