Diliau Meirion Cyf I/Diarhebion ix

Diarhebion viii Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Adgyfodiad Crist

DIARHEBION IX

Er hawddgar dŷ, Doethineb fâd
A loywdeg adeiladodd,
A'i saith ardderchawg golofn lawn
Yn weddus iawn a naddodd.

Ei hanifeiliaid glân, dihaint,
I wledda'r saint, a laddodd;
Ei melus win cymysgu wnaeth,
A'i bwrdd a helaeth huliodd.

Hi yrodd ei morwynion cu
I bur weinyddu'n addas,

A llefain beunydd mae hi'n glau
Ar uchelfanau'r ddinas.

A galw'n daer y clywir hi
Ar ddynion diddichellfryd;
Ac wrth yr annoeth byr ei ddawn,
Diwawdiaith iawn mae'n d'wedyd,

De'wch oll, bwytewch fel doethion wyr
O'm bara pur ddarperais;
Ac yfwch hefyd trwy fawr rin
O'm gloyw win gymysgais.

Llwyr ymadewch â rhai didduw,
A byddwch fyw yn ddoethgall,
A cherddwch hefyd er eich llwydd
Yn ffordd ddidramgwydd deall.

'R hwn a geryddo ddyn afrwydd
Gaiff w'radwydd hyd yr eithaf;
A'r neb a feio ar ddrwg ei fryd,
Caiff hwnw hefyd anaf.

Gwatwarwr na cherydda di
Rhag iddo'th gyfri'n elyn;
Cerydda'r doeth â rheswm teg,
Fe'th gâr yn wiwdeg wedyn.

I'r doeth cyfrana addysg glir,
Fe gyrhaedd wir wybodaeth;
A dysg y cyfiawn mewn ffordd dda,
Chwanegu wna'i ddysgeidiaeth.


Dechreuad gwir ddoethineb rwydd
Yw ofn yr Arglwydd cyfiawn;
Gwybodaeth y dyn santaidd call
Yw llonwych ddeall uniawn.

Can's trwof fi gwneir amlhau
Dy araul ddyddiau eirioes,
Ac y chwanegir i barhau
Yn dyner, flwyddau d'einioes.

Os doeth a fyddi, erglyw'n awr,
I ti daw mawr ddaioni;
Ond os gwatwarwr, gwarth a lớn,
A thi dy hun a'i dygi.

Gwraig ffol a fydd siaradus iawn,
A'i delw'n llawn hudoliaeth;
Ei genau aflan, heb ddim braw,
Sydd yn meginaw gweniaith.

Ar ddrws ei thŷ yr eistedd hon
A golwg ddigon diras;
A'i hudol fainc a esyd ar
Brif leoedd ucha'r ddinas.

I alw ar y neb a fo
Yn myned heibio'n brydlawn,
Y rhai sy'n cerdded, er eu clod,
Eu ffyrdd yn hynod uniawn.

"Pwy bynag sydd yn ehud iawn,
" Tröed yma i mewn heb gyffro;"
A phob dyn ynfyd a digred,
A hi a ddywed wrtho,


"Holl ddyfroedd lladrad nos a dydd,
"Fel osai, sydd felysaidd; "
Ac hefyd gwed â'i thafod rhydd
"Fod bara cudd yn beraidd."

Ond och! ni wyr efe yn chwai
Mai meirw yw'r rhai sydd yno,
A bod ei holl wahoddwyr hi
I'r dwfn drueni'n suddo.


Nodiadau

golygu