Diliau Meirion Cyf I/Elias ar ben Carmel

Cân Debora a Barac Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Ahab a Jezebel

ELIAS AR BEN CARMEL
1 BREN. xvii. xviii.

Elias yn datgan wrth Ahab am y newyn—Duw yn gorchymyn iddo ymguddio wrth afon Cerith, lle y porthid ef gan gigfrain Duw yn ei anfon ef i Sarepta i gael ei borthi gan wraig weddw yno, yr hon yr estynwyd ei lluniaeth tra parhaodd y newyn, ac y cyfodwyd ei mab o farw i fyw—orchymyn Duw iddo ymddangos i Ahab—Yn cyfarfod ag Obadiah, yr hwn a ddygodd Ahab ac yntau at eu gilgdd—Ei gerydd i Ahab Ei waith yn gwrthbrofi prophwydi Baal yn gyhoeddus, nad Baal, ond Iehofa, ydoedd Arglwydd, trwy ddwyn i lawr dân o'r nef i ysu y poethoffrwm—Lladd prophwydi Baal—Rhagddywedyd am wlaw wrth Ahab, ac yn lwyddo drwy lawer o weddïo.

RHAN I

ELIAS O GILEAD

Oedd wr mawr gan Dduw, Iôr mâd,
A doniol brophwyd uniawn,
Talentog, mygedog iawn.

Dybu'n genadwr diball—at Ahab,
Hurt ehud deyrn cibddall,
Llew engyrth, a llyw anghall
Anhydrin fyddin y fall.

Neud eres genadwri—hydr ieithydd
A draethai heb oedi
I'r penrhydd fradydd di fri,
Draig annwfn, llawn drygioni.

Fel hyn, heb wâd, drwy fâd fodd,
Wyrth didwyll, wrtho d'wedodd,
Mewn gonestrwydd hylwydd heb
Annynol dderbyn wyneb,


"Gwlith na gwlaw ni ddaw'n ddiau—ith oror,
"Faith hirion flynyddau,
"Ond yn ol gwir reolau
"Gair pur y pen Modur mau."

Gadael y cadno gwed'yn
Wnaeth Elias, gwas Duw gwyn,
Gyda ei halogedig
Farbaraidd wraig ddelffaidd ddig.

Galwad fawreddawg eilwaith—a gafodd,
Drwy deg wiwfyg araith,
Gan Dduw Nêr, mewn mwynder maith,
Hoff ammod, i ffoi ymaith.

"Dianc ag ysbryd eon—o'u cyrhaedd,
"Gerllaw Cerith afon,
"Mewn hedd ymguddia 'min hon,
"Cei lonydd rhag gelynion.

"Pur is haul y perais i—'n garedig,
"I'r adar dy borthi;
"Dithau, ŵr coeth dy deithi—yn gyson
"Diau o'r afon y dw'r a yfi."

Cyrhaedd at afon Cerith—a ddarfu,
Lle ca'dd ddirfawr fendith,
Mewn gwlad oedd bell, tan drom felldith,
Ar bob llaw heb na gwlaw na gwlith.

Y cigfrain eorth yno a'i porthodd
Dros ddyddiau meithion, gwiwlon eu gwelodd
A doniau gorfawr yn dwyn o'u gwirfodd,
Bara a chig maethlawn yn gyfiawn gafodd,

Rhin da 'wyllys, y rhai'n a'i diwallodd,
I'r ammod oleu yr ymdawelodd,
Yn ol ei arfer, yn wyl o'i wirfodd
Ei ddwyfol Luniwr mewn hedd foliannodd;
A dir o'r afon y dw'r oer yfodd,
I feddwl uniawn Duw e foddlonodd;
O mor weddus ymroddodd—dros Dduw Iôr,
Grasol eiddigor, gwir sel a ddygodd.

Bu enyd yn byw yno—heb wyneb
I'w boenus lesteirio;
Ac anian fawr yn gwawrio—o'i gwmpas,
A'i gwên addas yn teg weini iddo.
Gwedi hir ysbaid o wres tanbeidiawl,
Yr afon sychodd rhyw fodd rhyfeddawl,
A dirper addas ei dw'r pereiddiawl
A dreuliodd weithian allan yn hollawl,
Yna gerwin engiriawl—olygiad
Gwan ddylanwad a ga'i yn ddilynawl.

A gair Duw Nêr, rwyddber iaith,
Ddoeth alwad, a ddaeth eilwaith
O'r nef at yr eirian wr,
Y da fawrwych adferwr,—

"Cyfod, brysia, cerdd oddiyma
"Draw, a gwylia rhag drwg alon;
"Dos, cartrefa yn Sarepta,
"Na arswyda yn nhir Sidon.

Herwydd siars a roddais i—ar guddoeth
"Wraig weddw dy borthi,
"Rhyfeddol ŵr a fyddi
"Yn nghyntedd ei bannedd hi."


Gwed'yn fe bybyr gododd—y doethwr,
I'w daith y prysurodd;
At Sidon drwy fwynlon fodd,
A iawn obaith wynebodd.

A chyn hir trwy'r crindir cras—daeth ar daith,
Heb rith o weniaith, at borth y ddinas,

A gwelai wraig hylaw, rydd,
Bur rywiog, yn hel briwwydd;
Gofynodd y gwiw fwynwr
I'r wraig fåd ddognad o ddw'r,
"Dwg mewn llestr, cei gofrestr gu,
"Ychydig i'm disychedu."

Ac a hi'n myned, weithred wyl,
I'w gyrchu yn bena' gorchwyl,
Llefodd, fe alwodd eilwaith,
Ar ei hol, ddewisol waith,
A d'wedai'r gwir gredadyn,
Oedd ddidwyll i Dduw a dyn,
"Dwg hefyd, wraig ddiwyd dda,
"Firain, im' ddogn o fara
"Yn dy law yn dawel iawn,
"Y ddoniol weddw uniawn."

Hithau atebai weithion,
A braw yn llenwi ei bron,
"Gwyr Duw Naf na feddaf fi,
"Wr addwyo, ddim i'w roddi;
"Oll yn tŷ yw llonaid dwrn,
"Coelia, o flawd mewn celwrn;
"Ys tan doll, ac mewn 'sten dew,
"Gwelir ychydig olew;

"Gwaelaidd wyf, fel y gweli,
"Heddyw fy swydd yn d'wydd di
"Yw hel dau, wrth oleu dydd,
"O sychion freuon friwwydd;
"Prysuraf, teithiaf i'm tŷ
"Annedd, i bar'toi hyny
"I mi a'm mab arabedd
"Serchiadol, ddewisol wedd,
"Etto i'n hoes bwytawn hyn
"I gyd—byddwn feirw gwed'yn."

Dagrau & geiriau'r wraig wyl
Swynodd Elias anwyl,
A dioed wrthi d'wedodd
Mewn siriawl ufuddawl fodd,


"Dy gyfnerth, paid ag ofni,
"A dy nawdd yw ein Duw ni,
"Gwna'n ol d'air, ddiwair wraig dda,
"Hoff agwedd, na ddiffygia;—

"Cofia wneuthur o'r cyfan—a henwaist,
"A hyny'n bur fuan,
"I mi'n gyntaf, rhwyddaf rhan,
"Wrth f'achos, un dorth fechan.

"Ac wed'yn, yn llawn cudab,
"O'th fodd, gwna i ti a'th fab,
"Dy adail yn lle dedwydd,
"Drwy wyrth Nêr, ar fyrder fydd.
"Yn awr, er dy lesfawr lwydd,
"Erglyw bur air yr Arglwydd,
"Dyma'r modd 'r addawodd ef
"O'r lonwech araul wiwnef,—

"Iôr, ei gu eirioes air a gywira,
"Arglwydd y lluoedd, fythoedd ni fetha,
"Yr olew a'r blawd, iawn ffawd ni pheidia,
"Yn ystor helaeth y bydd, nis treulia,
"Hyd nes dyfydd y dydd da—hyfrydwych,
"Attegawl lewych, etto y gwlawia."

Hi aeth, ac a wnaeth yn ol
Gair dien y gwr duwiol;
Cawsant i gyd mewn cysur,
A mawr rin, ymborthi'n bur,
Drwy radau, gwyrthiau Daw gwyn,
Heb luddias, ysbaid blwyddyn.

Ystor yr olew nis treuliodd—a y blawd
O eu blaen ni phallodd,
Dwys geinwaith, nes disgynodd
Gwlaw graslon drwy ferthlon fodd.

Yno bu'r teulu anwyl
Hir enyd mewn hyfryd hwyl,
Dan fyged nodded y Nef,
A heddwch yn eu haddef.

Ar ol hyn daeth dychryn du
Toliawg, i blith y teulu,
Y mab bychan hoff lân a filar,
A glafychodd o glwyf echur,
Nes yr aeth, ow! saeth yw son,
Mor waelaidd a'r marwolion!
Ei anadl aeth o hono,
Rhyw ergyd trymllyd fu'r tro!
Ei fam, ni wiw mo'r ammhau,
Wnai drwst erch, gan wyw dristâu;


Codi llef a wnaeth hefyd
Yn ei braw ar hyn o bryd,
Ei huchenaid a'i chwynion
Oedd rwygiad a brathiad bron;
Yno mewn chwerwder enaid
Gruddfanu y bu'n ddi baid;
Ei threm oddiwrtho ni throdd,
A diwâd fel hyn d'wedodd,—

"O, ŵr Duw, 'rwy'n cofio'r dydd
"Y daethost fel ymdeithydd,
"A rhydd genadydd y nef,
"Yn hyddestl iawn i'n haddef;
"Da gwn mai ein digoni
"Ar fyd tost a ddarfu ti:
"Ond yn awr, brophwyd mawr a mâd,
"Ofnadwy yw'r cyfnewidiad!
"Dylif o ddybryd alaeth
"I'm hoerion ddwyfron a ddaeth;
Pa irad fai fu'n peri
"Iť ladd fy mab arab i ?
Ha! addien fab, heddyw'n fyw,
"D'wedaf, och fi! nid ydyw!
"Dyddanwch, er dydd ei eni,
"Ow, ow, fy mab! a fu i mi:
"Trwm hiraeth tra anmharol,
"Ow! gwae fi! a gaf o'i ol.
"Fy mab, fy mab, ni chaf mwy
"Dy gyfarch drwy deg ofwy!
"Mae'n swrth yn fy mynwes i
"Yn awr, a'i gnawd yn oeri!
"Fy mab llâd, mad yn mhob modd,
"Drwy ingawl boen a drengodd!


"O na chawn, ddewislawn waith,
"Ei weled yn fyw eilwaith!"

Elias ffyddiawg, selawg, a sylwodd,
Ar ei gruddfanau diau gwrandawodd,
A'i fâd ystyriaeth efe dosturiodd,
Ag araith odidawg wrthi d'wedodd,
I weini arfoll yno o'i wirfodd,
"Moes dy fab dawnus, hoenus, a hunodd."
Hithau i'r byddestl ddoethawr a'i rhoddodd,
Hynt digamwri, yntau'i cymerodd,
I'w 'stafell iachus sawrus prysurodd,
A hynaws wed'yn ei iawn osododd

Ar ei wely, ac yna eiriolodd,
A moesau tyner arno 'mestynodd,
Dair gwaith olynol graddol gorweddodd,
Hefyd ar Dduw fe a daer weddiodd,

A dwys galon wrtho y dysgwyliodd,
O wraidd ei fynwes fe a ruddfanodd,
Am ei adferiad sywfad deisyfodd,
Gwrandawiad prydlon yn gyfion gafodd,

Daw Abra'm a'i dadebrodd,—ei delaid
Graff loew enaid â'i gorff a ail unodd,

Elias â hwyl lawen—fawladwy,
Gofleidiodd y bachgen,
Mewn mwyneidd—dra gyda gwên
Siriolaidd is yr haulwen.

Yna trwy rin yn ddinam,
Fe'i dygodd o'i fodd i'w fam,
Yn ddidwyll iawn, gan dd'wedyd,
Mewn parchus, fawreddus fryd,
"Gwel, siriol wraig lwys arab,
"Byw yw dy gain firain fab;


"I'r Duw mawr, gorseddfawr Sant;
"Ti a'th fab fo'n cydnabod
"Ei fawredd rhyfedd dan rhod,
"Dihafal wyrthiau Dofydd
"Yn destun mawl fythawl fydd."
"Y wraig hawddgar, weithgar, wyl,

Dderbyniai'i hardd fab anwyl
O law yr hen Elias,
Drwy ddwyfol waredol ras;
Llanwyd hi â llawenydd,
Da ffawd, a nerthwyd ei ffydd.
Yn onest d'wedai'n union,
Mewn tymher hwylusber long

"'Nawr gwn dy fod yn wir gènad
"Oddiwrth Dduw Nêr, y Muner mâd,
"Prophwyd mawr dieisiawr wyt,
"A dedwydd ŵr Duw ydwyt;
"A gwir teg ydyw gair tau
"Duw uniawn yn dy enau."


RHAN II

Yn ffraw ar ol dyddiau lawer—daeth
Gair Duw o'r uchelder,
Trwy wiw rin at yr ener
Elias, anwylwas Ner.

"Ti, ŵr glân, seirian, prysura—godi,
"A gadael Sarepta;
"Yn hydr dos, genadwr da,
"Syw, mirain, i Samaria."


"Yno'n hybur wyneba—'r hen Ahab,
"Deyrn ehud—nac ofna
"'R bradychwr, treisiwr llawn tra,
"Satanaidd Palestina.

"Diau ar y ddaear ddu
"Doddfawr, gan wres sy'n dyddfu,
"Eirioes wlith ac eres wlaw
"A roddaf i'w hireiddiaw."

Myned drwy barch wrth archiad—Iehofa,
Yn ddihafal gènad,
A ddarfu'r mwyngu wr mâd,
Teilwng, heb un attaliad.

Niweidiawl drwm newyn ydoedd—bryd hyn,
Er braw tost i filoedd,
Trwy'r holl wlad, a'i daeniad oedd
Yn ysawl mewn dinasoedd.

Elias i Galilea—y dydd
Y deddodd ef gynta ',
Cyfarfu'r dewrgu ŵr da
A'r duwiol Obadïa.

Hwn oedd fâd wir gredadyn,
Yn ofni Duw'n fwy na dyn,
Breiniol benteulu'r brenin,
Meddiannol ar reddfol rin:
Y tirion ŵr ceinlon cu,
Wynebus, a'i hadnabu;
A gwiwferth wedi'i gyfarch
Yn wylaidd, drwy buraidd barch


Syrthiodd o'i lwyrfodd i lawr
Ar ei wyneb eirianwawr,
Ac mewn hawddgar, feiddgar fodd,
Diwawdiaith, wrtho d'wedodd,—

"Onid ti weithion y gwron gwiwras,
"Gloewaidd ei lewyrch, yw f'arglwydd Elias?
"Prophwyd agwrddawl, praff o deg urddas,
"Uthr a diwyrni athraw y deyrnas;
"Am arweddu mor addas—dy gywir
"Glod a daenir drwy bob gwlad a dinas."

Rho'i yntau ar amrantiad
Ateb gwâr, mwyngar a mâd,—

"Myfi, sy'n ffraw rybuddiaw'r byd,
"Ydyw, mal 'rwyt ti yn d'wedyd.
"Dos, gwed i'th glwth, gegrwth gas
"Lywydd, it weld Elias:
"Dos, brysia, mynega'n awr
"I'r bwystfil chwerw a bostfawr,
"Y safaf, deuaf liw dydd,
"O flaen y teyrn aflonydd;
"Fy ngwaith i'r pen orphenaf,
"Derbyn wyneb neb ni wnaf."

Y gwaraidd swyddog eirioes,
Di rith atebiad a roes
Yn ddioedi, gan dd'wedyd,
Mewn moesgar, fireingar fryd,

"Pa bechod mawr, drygsawr drais,
"Eithradwy, a weithredais,

"Pan fyni roddi'th rwyddwas
"Yn nwylaw y cadnaw cas?
"Ei fryd sydd am ddifrodi
"Dy fywyd duwiolfryd di:
"Nid oes llin na breniniaeth
"Is nen, nad dy geisio wnaeth,
"Mewn chwerwder a digter du,
"Diachos, i'th fradychu.
"Ond yn awr, glodfawr ŵr glân,
"A siriol brophwyd seirian,
Wrthyf fi y d'wedi, Dos,
"A dychwel, gan fod achos,
"At Ahab gerth, anferth wr,
"Trahanswyllt, ddybryd dreisiwr,
"Iawn osb, i'w wneud yn hysbys,
"Mewn tymher lwysber ddi lys,
"Heb os yr ymddangosi
"Ger ei fron mewn hygar fri:
"Yr wyf weithion bron mewn braw
"Yn tra isel betrusaw;
"Ofnwyf, pan adawwyfdi,
"Dda awdwr, yn ddioedi
"Ysbryd Ner wna'th gymeryd
"Ar fyrder i bellder byd;
"Yna'n ffrom, os ca'i siomi,
"Y llewaidd wr a'm lladd i.
"Ofni'r uchel Dduw Celi
"Drwy f'oes o'm mebyd 'rwyf fi.
"Gwyddost, f'arglwydd, im'guddio can' prophwyd
"Neud da mynegwyd i ti, mewn ogo',
"Dibaid hefyd eu bwydo—wrth reol,
"Yn eithaf manwl, a wnaethum yno.
"Gonest iddynt yn gweini
"O hyd fy mywyd fum i.


"Yn awr, ai myned a wnaf,
"Neu aros, beth sy'n oraf?
"Gomedd, nid yw'n deg imi,
"Ufuddhau i d'eiriau di;
"Ond pa fodd gwnaf adroddi
"Ger bron yr anraslon ri ?
"Hen adyn creulon ydyw,
"Di barch i waith y Duw byw,
"A gelyn hyf dig'wilydd
"I wir brophwydi'r bur ffydd."

Yn union ar un anadl,
Drwy wir ddysg, i dòri'r ddadl,
Diorn wrth Obadia,
Wr pwyllgar, doethgar, a da,
Heb liwiant, eb Elias
Ysbrydawl, ddewisawl was,—

"Heddyw, cred, dan nodded Naf—yn berffaith
"Ddi wanobaith i'w wydd y wynebaf.
"Tithau, dos ato weithian
"Yn gènad rwydd—gwna dy ran;
"Brysia, ymwria, fy mab,
"Yn eofn o flaen Ahab."

Yna Obadïah'n der
A redodd mewn gwir hyder,
I'w ffraw rybuddiaw yn bur
A'i lwys hyglyw lais eglur.

Ac Ahab, drygfab di ras—a gerddodd
I gwrdd ag Elias,
Gan ofyn, fel cecryn cas,
A dieflig eiriau diflas,—


"On'd ti, i'w gyfri'n un gwael—aflonydd,
"Sy'n hir flino Israel
"Mor hyf? da genyf dy gael
"Yma'n gyfan mewn gafael."

Y dewrwych brophwyd eisioes
Di rith atebiad a roes,
Yn dda odiaeth, gan dd'wedyd,
Heb gabldraith, gweniaith, na gwŷd,
O flaen y sarff,—" Ni flinais i
"Mo'r genedl â mawr gyni,
' Dydi, a thylwyth dy dad,
"Gerwinfeilch gawri anfad,
"Iolwyr, cabolwyr Baalim,
"Un nad yw Dduw, na da i ddim,
"Fu'r achos i frawychiad
"A chyni orlenwi'r wlad;
"Ynfydion ffeilsion gau ffydd
"Eich gwelir gyda'ch gilydd,
"Dylion addolwyr delwau,
"A gâlon meflion Duw mau.

"Gan hyny, dwg yn hoenwych
"Holl Israel, y gwael a'r gwych,
"Y lluon sydd yn llawn sel,
"Bwnc gormwyth, i ben Carmel;
"Hafal gwna gasglu hefyd
"Brophwydi Baal gwamal i gyd;
"Pedwar cant rhifant y rhai'n,
"A dygyrch ddeg a deugain,
"Na âd, mewn modd niweidiol,
"Yr un o honynt ar ol"


Ac Ahab y teyrn cyhoedd—a wysiai'r
Lluosawg fynteioedd
I ben Carmel uchel, oedd
Eresawl gyrchfa'r oesoedd.

Elias dduwiol eofn
A ddaeth, heb gyllaeth nac ofn,
Ger bron, yn hawddgar ei bryd,
A gwên ddidwyll, gan dd'wedyd,
"Pa hyd, rai chwaethlyd, 'rych chwi,
"Cwla effaith, yn cloffi,
"Trwy anfad ymddygiad ddwl,
"A di fudd, rhwng dau feddwl?
"Os Dofydd sy ddieilydd Dduw,
"I'w iawn arddel yn wir—Dduw,
"A breiniawl Bor y wiwnef,
"Araul Iôr, ewch ar ei ol ef;
"Ond os Baal, ar sal seiliau,—tan furmur,
"Orwael antur, ewch ar ei ol yntau."

A geiriau ffraeth ni wnaeth neb
Etto roi iddo ateb.
Yna Elias anwyl,
Wrolwych, mewn harddwych hwyl,
Yn bwyllgar wnai lefaru
Wrth y dorf oedd dan warth du,—

"Dyger dau fustach digoll,
"Heb ' run nam, ger ein bron oll,
"At yr allawr gostfawr gu,
"Heb wrthddadl, i'w haberthu.
"Yn awr caniatâu a wnaf—ar gyhoedd,
"I chwi sy gantoedd, ddewis ŷch gyntaf.

"Gwedyn ar goed yn gudeg
"Gosodwch, darniwch e'n deg;
"Ond na feiddiwch, trwch yw'r tro,
"Roi tân o un rhyw tano;
"Minnau, meddaf, wnaf 'run wedd
"Yn dawel cyn y diwedd.

"Yna'n fflwch gelwch mewn golau—ar enw
"Eich gorweiniaid dduwiau;
"Ac ar Dduw myg, Meddyg mau,
"Fy enaid, galwaf finnau.

"A'r Duw atebo drwy dân
"O'r nef fawr, orawr eirian,
"Hwnw a wna wyrthiau hynod,
"Sy ddilyth Dduw fyth i fod."

Hwythau'n eglur drwy bur barch,
Atebai'r prophwyd hybarch,
Mewn mâd addefiad ddifeth
D'wedai pawb,—"Da ydyw'r peth."

Y bustach addas a gymerasant,
Y pryd dewisawl, ac a'i parotoisant,
Ac ar enw Baal y gerwin ymbiliant,
Yn gâd, am oriau hwy gydymwriant,
Wrth eu duw disas dan warth dywedasant,
"Gwrando arnom heb siomiant—dy weision
"O'u dwys galon o'th flaen y dysgwyliant."
Er bloeddio'n hir heb lwyddiant—dim ateb,
Na iach oseb gan Baalim ni chawsant.

Ar hanner dydd, yr hen ŵr da
Yn gadarn yno a'u gwawdia';

Atynt ei dremynt a drodd,
A diwâd fel hyn d'wedodd,—

"Cydfloeddiwch, gwaeddwch heb gel,
"Parhewch â llais pur uchel;
"Hwyrach ei fod mewn rhyw wych fan
"Meddyddawl yn ymddyddan;
"Neu erlid y mae'n orlawn
"O rwysg, a rhyfyg mawr iawn,
"Neu ei waith yw ymdeithio
"Mewn rhyw estron freinlon fro.


"Gall fod, un hynod, yn huno—dichon
"Bod achos ei ddeffro;
"Chwyrnwyllt grochlefwch arno,
"Duw o ryw fath dir yw fo.


"Daliwch i waeddi a dulio—mewn hwyl,
"Os yw ddaw anwyl, nes ei ddihuno."

Yna'n ddigysur, mewn llafur llefant,
Fel rhyw wallgofiaid a bleiddiaid bloeddiant,
Yn hyll eu moesau yno llamasant,
Dan erchyll loesau'u cnawd archollasant,
A'u gwaed oedd ffrydiawg, ferwawg lifeiriant,
Rhaib ynfydrwydd, rhoi heibio ni fedrant,
Er gwaeddi dan hir goddiant—a chreulon
Floeddiaw'n annoethion, aflwyddo wnaethant.

Bellach, eu gobaith ballodd,
A'u helwch yn dristwch drodd!

Elias hyf, â'i lwys iaith,
A alwodd eu sylw eilwaith,

Gwiwdeg wrth bawb y gwedai,
Er eu bod mor fawr eu bai,—

"Neswch cyn y gwna nosi,
"Oll ar fyr i'r lle 'rwyf fi."
Yn y fan seirian brysuro—a wnaeth
Yn eithaf digyffro,
I gywrain adgyweirio—yn glodfawr,
Y dêr allawr oedd wedi ei dryllio.

Gwedi'i mâd adeiladu—trwy dda ffawd,
Torodd ffos o'i deutu,
Trefnus a gofalus fu—' r gwr duwiol
I goeth fanol wneud y gwaith i fynu.

Drachefn y coed a drefnodd—a'r bustach
Heb air bost a ddarniodd,
Ac a'i sywdeg osododd
Ar y rhai'n drwy firain fodd.

Gorchymyn wed'yn a wnaeth
A'i dd'wediad oedd dda odiaeth,—

"Dygwch mewn sel, y telaid,—wŷr ffodiawg,
"Dri phedwar celyrnaid
"O ddw'r, yn ngwydd gau ddiriaid—gwallgofus,
"A chroes anweddus echrys swynyddiaid.

"Cofiwch dywallt y cyfan—ar y coed,
"Er cael prawf diyngan
"Nad oes gwreichionen o dân,
"Neu dwyll i'w nodi allan."

Yn ol geiriau hoff y prophwyd—difroch
Y dyfroedd dywalltwyd
Yn llynau, nes y llanwyd
Yr holl le gan y dw'r llwyd.

Pan ddaeth yr awr fawr i ferth—ffraw ammor
Offrymu'r hwyr aberth,
Danfon wnai'r prophwyd iawnferth
Weddi gref i'r nef mewn nerth,—

"O Dduw Ner yr uchelderau—Arglwydd,
"Erglyw fy ngweddïau;
"Ateb o'r nef fy llefau,
"Er mwyn dy enw, Iôr mau.

Dyro fâd amlygiadau—o'th 'wyllys,
"A'th allu i wneud gwyrthiau;
"Yn llusern i'r holl oesau,
"Pur o hyd 'rwyt ti'n parhau.

"O Dduw'r hedd, gwrando daer weddi—dy was,
"Duw wyt llawn tostari;
"Ein Tad oll, pwy ond tydi
"A ddylem ei addoli ?

"O Arglwydd yr arglwyddi,
"Ein Tarian wyt a'n Twr ni;
"Dangos heb ball dy allu,
"Er llwyr argyhoeddi'r llu;
"Oddiwrth Baal dychwel bob calon,
"Duw Iôr fy Rhi, o'r dorf fawr hon."

Yna gwrandawiad gwiwfad a gafodd,
Tân melltenawl asgenawl ddisgynodd!

Ba wyrth ddieisawr? Yr aberth ysodd!
Y coed a'r glodfawr allawr a ddrylliodd!
A'r dw'r, oer wlybwr, leibiodd—mewn eiliad,
A phwys ei d'rawiad y ffos o dreiodd!

Yna'r holl dorf ar unwaith,
Wrth weld y fath aruthr waith,
Yn y fan, bron diflanu,
Ar y llawr y syrthiai'r llu.

Drylliawg oeddynt gan drallod—a hagrwyn
Euogrwydd cydwybod;
Diochel farn Duw uchod—a'u daliodd,
A'i lid a'u gwasgodd i le digysgod.

Codent lef tua'r nefoedd,
Gan dd'wedyd i gyd ar g'oedd,
"Duw'r hedd, hawdd gweled heddyw,
"Y da Bôr, yw y Duw byw."
Llyna'r unol dystiolaeth
O'u geneuau'n ddiau ddaeth.
Y dawnus brophwyd uniawn,
Yn bwyllgar, wareiddgar iawn,
I bybyr arwyr eirioes,
Mwyn reddf, gorchymyn a roes,
"Deliwch, ebe'r gwr dilys,
"Gwnewch ruthrawl ddifrifawl frys,
"Anferth brophwydi ynfyd,
"Yr eulun gwrthun i gyd."

Hwythau cyflawni wnaethant
Air treiddiawl y siriawl sant;
Dygwyd, dirfrysiwyd o'r fron
Y llu cas, gerllaw Cison;

Yno pob gradd o naddun
A laddodd, ni ddiangodd un.

Y didwyll brophwyd odiaeth
Ail esgyn wedyn a wnaeth
Yn llawn ffydd, i'r mynydd mawr,
Arwyre uwch yr orawr,
I ddyhewyd weddiaw
Ar Ner am lawnder o wlaw;
Am wlaw mâd, drwy rad yr Ion,
Dysgwyliai à dwys galon.

Tra bu'r ffyddlawn uniawn ŵr
O flaen ei ddwyfol Luniwr,
Yn dwys weddïo'n ddidawl,
A'i ffydd yn anniffoddawl,
Fe ddaeth ei was addas o
I'w gu seirian gysuro;
Ac wrtho'n deg mynega
Fod yn ei wydd arwydd dda,—

"Cwmwl glân bychan heb wâd,
"Fel'llaw gwr,' lliwiog wawriad,
"A welaf yn dyrchafu
"O oror y dyfnfor du. "

"Dos weithion, un eon wyd,
"Pur wiwffel, " ebe'r prophwyd,
"At Ahab, drygfab sydd draw,
"'N orwag iawn ar ei giniaw,
"Fel hyn wrth y gelyn gau,
"Yr awr'on, ar fyr eiriau,
"Yn drefnus, barchus drwy bwyll,
"Y d'wedi mewn modd didwyll,—


"Rhwym yn gain, drwy firain foes,
"Dy araul gerbyd eirioes;
"Na hir aros, dos liw dydd,
"O'r bryniawg fanawg fynydd
"I fro îs, a gwna frysiaw
"Trwy'r glyn, fel na'th rwystro'r gwlaw. "

Y santaidd Elias yntau—'n rymus
A rwymodd ei lwynau;
Hyd serthawg, lithrawg lethrau—prysurodd,
Do, fe redodd yn llawn da fwriadau.

A llaw Duw mâd, Ceidwad cu,
Yn wyrthiawl oedd i'w nerthu;
Y gwr ffel, cry' gorffolaeth,
I Jesreel cyn nos yr aeth.

Yr enyd, a'r awr hono—y nefoedd
Gan nifwl wnai dduo,
Yn ffraw dechreuodd wlawio—a'r tir cras,
A gloyw—wawr addas, gai'i ail ireiddio.


Nodiadau

golygu