Diliau Meirion Cyf I/Ellis Roberts (Eos Meirion)

Peiriannwaith Brethynau Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Calenig i Gymdeithas Lenyddol y Bala

MR. ELLIS ROBERTS
(EOS MEIRION)
TELYNOR TYWYSOG CYMRU

Ys mawrwych Eos Meirion—a ddenwyd
I ddinas y Saeson;
Hanodd y mad wr llad llon
O bur wythi y Brython.

Dylanwad prif Delynawr—ein henwog
Dywysog dieisiawr,
Dros holl Frydain firain, fawr,
A gyrhaedd i bob gorawr.

Yn Ewrob nid oes un arall—fesur
Iawn fiwsig mor ddiball;

Pergoeth i bob nôd purgall
Etyb ef, heb iot o ball.

Gwalia o benbwygilydd—er adfer
Gwir redfa llawenydd,
Mewn hwyl sy'n dysgwyl bob dydd
Am Ellis rhwng ei moelydd.


Nodiadau

golygu