Diliau Meirion Cyf I/Gwerthfawrogrwydd y Gair
← Achau Dafydd Frenin | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Flangell i'r Tyngwyr → |
GWERTHFAWROGRWYDD Y GAIR
Gair Duw Iôr, gwir diwyro—sy'n llusern
Llesawl i'n goleuo,
Wrth ei wawl pelydrawl o
Mae'r doethion am wir deithio.
Puredig arf ysprydawl—cry' astalch
I'r Cristion milwrawl,
Cleddyf prydferth a nerthawl
Yw Gair Duw, a gur y diawl.
Gair Iesu, ein Duw grasawl—drwy'r oesoedd,
Sy'n drysor annhraethawl;
Drwyddo caid bendigaid wawl
I ddynion anhaeddiannawl.
Dengys yn ysbys i ni—yn dorfoedd
Ein dirfawr drueni,
A'n Ceidwad ddaeth i'n codi,
Mor rasol i freiniol fri.
Yn unawl parchwn ninnau—ei ddethawl
Ddoethaidd addysgiadau,
Didawl fo'n myfyrdodau
Yn Ngair pur ein Modur mau.
Yn y farn y Gair hwn a fydd—clirwych
Deg glorian y Barnydd;
Ofnwn, gan wneud iawn ddefnydd
O'n tymmor cyn delo'r dydd.
Astudiwn o'n wastadol—a llefwn
Am y lleufer nefol,
I'n dysgu weinyddu'n ol—ei helaeth
Bur hoff athrawiaeth, a'i berffaith reol.
Ymroddwn gan ymarweddu—' n deilwng,
Gan delaid broffesu,
Dan arweiniad coethfad cu
Dewisol Ysbryd Iesu.