Diliau Meirion Cyf I/Humphrey Evan, Brithdir
← Y Parch Benjamin Price (Cymro Bach) | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Vicar Conwy → |
HUMPHREY EVAN,
BRITHDIR, GER DOLGELLAU.
HOFF ŵr ufudd yw Humphrey Evan—pur,
Yn cael parch yn mhobman;
Dewr siriol frodor seirian,
Mawr ei glod, a Chymro glân.
Dyngarwr â doniau gwiwrwydd—ydyw,
Odiaeth ei onestrwydd;
Da wr oediawg diw'radwydd,
Fel hen sant cyflawna'i swydd.
Yn ddiddig mewn naw o ddyddiau—teithia
At waith mynydd Bucklau;
A daw'n ol o dan hwyliau—yn deilwng,
Drwy ddal a gollwng, i dre' Ddolgellau.
Ei ddewisol ddau asyn—cwplysog,
Pleser yw eu canlyn;
Diochri, heb ofn na dychryn—i'w taith,
Yr ânt ar unwaith, ni wyrant ronyn.
Dan gerdded yn agwrddol—y draulfawr
Bedrolfen gysgodol
A lusgant, tynant o'u hol
Yn araf ac yn wrol.
Dau ydynt, mae'n hawdd d'wedyd, odiaethol,
Gydweithiant yn unfryd;
Rhy anhawdd unrhyw enyd
Cael dau o'u bathau drwy'r byd.
Ercher mawr lwydd rhwydd dan rhod—i'r gwron,
A'r gwaraidd asynod;
Na chaed tramgwydd afrwydd dd'od
Cwyf erfawr, i'w cyfarfod.
Boed iachus, hapus oes hir,—i gludydd
Hyglodus y Brithdir;
Ni feiddiodd wneud, fe wyddir,
Un tro sal yn y tair sir.
Aethus, ddirwgus ddreigiau,—e goelir,
A giliant o'i lwybrau;
Hen ellyllon gwyllion gau
A ffoant draw i'w ffauau.
Bri mawr a gaiff bro Meirion—o herwydd
Ei harwr mwyneiddlon;
Pery ei enw pur union
Drwy y sir wedi'r oes hon.