Diliau Meirion Cyf I/I ofyn Ysgyfarnog gan Thomas Hartley, Ysw

Fflangell i Borthweision Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Diolchgarwch am у rhodd

I OFYN YSGYFARNOG
GAN THOMAS HARTLEY, YSW. (BARDD IDRIS).

At Fardd Idris ar hyd grisiau—hylithr,
Gan hwylio fy nghamrau,
Yn o swrth 'rwyf am nesâu
Min nos, fel dyn mewn eisiau.

Dyn gwan a â dan gwyno—yn fynych
I'r fan caiff ei wrando;
Angen bair iddo wingo
Heb baid, mae'n rhaid, rhaid rhoi tro.

Minnau'n awr, y mwyn wron,—anturiaf
Cyn tòri fy nghalon
I'ch gwydd yn rhwydd yr awr hon,
Yn nghanol blin anghenion.


Llawer rhodd o'ch llaw'n rhwyddwych—a gefais,
Ond ei gofyn genych;
Un rhodd etto, Gymro gwych,
Yn chwaneg wyf yn chwennych.

Bellach, mi wnaf grybwylliad—obeithiawl,
Pa beth yw'n newisiad,
Nis celaf, mae 'nysgwyliad—ei derbyn,
Ar ol ei gofyn, gan ŵr hael gwiwfad.

Os gyrwch yn o scwarog—i Feurig
Fawrwych ysgyfarnog,
Cewch ganddo, cyn cano cog,—saith englyn,
Neu wyth gwawdodyn o waith godidog.


Nodiadau

golygu