Diliau Meirion Cyf I/Job xiv
← Mary Jones, merch fechan Mr. a Mrs. Jones, Liverpool House, Dolgellau | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Diarhebion iv → |
ARALLEIRIAD
O amrywiol ranau o'r Ysgrythyrau.
JOB XIV
Dyn o'i fabandod, hyn sydd wir,
Amgylchir gan drallodion,
A'i ddyddiau sydd yn fyrion iawn,
A rhei'ny'n llawn helbulon.
Daw allan fel planhigyn îr,
Ond chwai ei tòrir ymaith,
Ac megys cysgod cilio wna,
Ni bydd ei yrfa'n hirfaith.
O Arglwydd, a agori di
Ar fy math i dy lygad?
A ddygi di y fi i farn,
Fy anwyl gadarn Geidwad?
Pwy ddyry allan un peth glân
O aflan? sydd ofyniad;
Ni ddichon neb o ddynolryw
Wneud hyny, yw'r atebiad.
Holl ddyddiau dyn, mor glir a'r gwawl,
Gan Dduw hysbysawl ydynt;
Rhifedi'i fisoedd sydd dan glo,
Fel na chyrhaeddo drostynt.
Tro'th lid oddiwrtho enyd awr,
Esmwytha'i ddirfawr drallod,
Nes y gorpheno yn ddigas
Fel cyflog was ei ddiwrnod.
Gwir yw fod gobaith o bren gwael,
Er iddo gael ei ddri,
Y daw o'i foncyff flagur cu,
I gadarn dyfu gwedi.
Er i'w brydferthwch yn y tir,
A'i wreiddyn îr heneiddio,
A'i foncyff, oedd yn iraidd iawn,
Mewn priddell lawn farweiddio,
Fe ail Alagura'n deg ar g'oedd,
Wrth arogl dyfroedd wed'yn,
A bwria allan yn ddigel
Ganghenau fel planhigyn.
Ond gwr fydd marw'n wael ei fri,
Caiff ef ei dòri ymaith;
A dyn a drenga, p'le mae fo?
A welir mo'no eilwaith?
' Run fath a'r dyfroedd, fu'n ystôr
O'r eang fôr, yn pallu;
A'r afon oedd a'i ffrydiau'n bur,
Mae hdno'n prysur sychu.
Ac felly gwr, yn ngwaelod bedd
Fe orwedd ei ran farwol,
Hyd gyfnewidiad daear lawr,
A'r nefoedd fawr wybrenol.
Gan faint ei drallod yn y byd,
Mae lawer pryd yn wylo;
Chwennycha'n fynych yr un wedd
Gael yn y bedd ei guddio.
Gwr a fydd marw, [1] hyn heb wâd
Sydd yn osodiad dwyfol,
Ac adgyfodir ef drachefn,
Yn ol y drefn arfaethol.
Dysgwyliaf, meddai Job, yn glau,
Holl ddyddiau fy milwriaeth,
Y cyfyd Crist fy nghorff yn fyw,
Er profi briw marwolaeth.
Ti elwi arnaf, o Dduw mau,
A minnau a'th atebaf;
Chwennychi waith dy ddwylaw mâd,
Sydd o'th wneuthuriad harddaf.
Fy nghamrau 'nawr mewn anial dir
A rifi'n gywir hynod;
Ac onid ydwyt (dyna 'nghred)
Yn gwylied ar fy mhechod?
Mewn côd gauedig, Duw fy rhi,
Y seliaist di fy nghamwedd;
A gwnïo wnaethost, Arglwydd cu,
I fyny fy anwiredd.
Y mynydd cribog syrthio wna,
Ac a ddiflana hefyd,
A'r graig gadarna' dan y ne'
Caiff hon o'i lle ei symud.
Y dyfroedd treulio'r ceryg wnant,
A llwyr y golchant ymaith
Y pethau dyfant yn mhob dull,
A dyn a gyll ei obaith.
Gorchfygu'r ydwyt ei holl nerth
Trwy ofid certh a phrudd—der,
A chan mor salw yw ei wedd,
Fe syrth i'r bedd ar fyrder.
Ac felly rhybudd teg a roi
I ddyn osgoi ffolineb,
Am fod ei gred a'i obaith gwan
Yn llawn o annoethineb.
Ei feibion gyfyd dan y ser,
A chyfoeth lawer ganddynt;
Ond gan ei gur a'i ofid llym,
Nis gŵyr ef ddim oddiwrthynt.
Ei gnawd dolurio arno wna,
Fe guria dan ei gerydd;
Galara ynddo'i enaid tau,
Gan faint ei boenau beunydd.
O! 'r fath drueni ddygodd dyn
I'w ran ei hun drwy bechod;
Ond trefn i'w lwyr iachâu a gaed
Drwy santaidd waed y cymmod.
Gan hyny, na foddloned neb
Ar lai na phurdeb crefydd,
Fel gallo sefyll yn ddifraw
Ar ddeheu law y Barnydd.
Nodiadau
golygu- ↑ Nid os o ammheuaeth sydd yn yr adnod, oblegid credai Job athrawiaeth yr adgyfodiad mor gadarn a marwolaeth y corff.