Diliau Meirion Cyf I/Marwnad yr Heliwr
← Nodiadau ar gymhwysderau Beirniaid Eisteddfodau | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Claddedigaethau Celwyddwyr, Cybyddion, Meddwon, Godinebwyr, a Lladron → |
MARWNAD YR HELIWR,
NEU DDAMMEG Y PRYF LLWYD.
Y LLWYDAIDD bryfyn llidiog—a lithrodd
O lethrau Maentwrog
I lechu, rhag gwlychu'i glog,
Mewn man sydd yn min mawnog.
Y pry' llwyd, ' rol darpar lle—ni erys
Yn hir oddicartre',
Pan wel dipyn o ole',
I'w ffau fawr y ffy efe.
Os egyr ddrws ei ogo'—mewn dychryn
Mae'n dechreu clustfeinio,
Rhag i gwn, frathgwn y fro,
Draw o'r wig droi i'w rwygo.
Y Sabbath ni fyn seibiant—mae'n gwibio
Mewn gobaith am borthiant;
Ni wna swn corgwn ddau cant
Ei drechu i ladd ei drachwant.
Heria bawb (hir yw ei ben)—y Sabbath,
Gau swbach aflawen;
E ddaw'r nos, pan dduo'r nen,
I'w geudwll yn un goden.
Ac yno bydd coginiaeth—heb attal,
A bwyta'r ysglyfaeth,
Fu'n hela i'w gigfa gaeth
Hyd y fro, mewn difrïaeth.
Wyn gwâr, ac adar gwiwdeg—yw'r abwyd,
A reibia'n ddiattreg;
Gwedyn, â phoer gwyn o'i geg,
Chwennych ysglyfio 'chwaneg.
Ar fyr fe ddaw ryw forau—ddaeargwn
Yn ddirgel fel bleiddiau
Dros y ffos, ar draws ei ffau
Ddrewllyd, i'w dynu'n ddrylliau.
Ac wed'yn gwneir ergydio—ei esgyrn
Ar wasgar oddiyno;
A gerwin fydd y gawrio
Darfu ei rwysg dirfawr o.