Diliau Meirion Cyf I/Marwolaeth Hannah a Ruth, Llanymawddwy
← Marwolaeth Lydia Jones, Dolgellau | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Marwolaeth Morgan Jones, Gwernbarcud → |
MARWOLAETH HANNAH A RUTH,
LLANYMAWDDWY.
Bu y flaenaf farw Meh. 6, 1846; a'r olaf Ion. 22, 1852.
HANNAH a Ruth, ddwy hynod—o glodus,
A gludwyd i'r beddrod;
Seirian ddwy wraig ddisorod,
Dwy erfai ryglyddai glod.
Dwy oeddynt anrhydeddus—dwy luniaidd,
Dwy lân a darbodus,
Dwy ddianair, dwy ddawnus,
O natur iawn, nid rhyw ûs.
Gweddus heirdd wragedd gwiwdda—i'r eithaf,
Oedd Ruth a'i chwaer Hannah;
Dia'mharch i'r byd yma,
Di dwyll yn ngwaith eu Duw da.
Cur blwng oedd hebrwng y ddwy—ryglyddfawr,
I'r gladdfa lygradwy,
O'r Pennant, lle tarient hwy,
Meddynt, i Lanymawddwy.
Gorphwysant, hunant enyd,—ddwy anwyl;
Oddiyno i wynfyd
Duw Ddofydd, Barnydd y byd,
Deg ofwy, a'u hadgyfyd.
Ail unir, drwy lawenydd,—hynodawl,
Eu heneidiau dedwydd,
A'u cyrff mewn trefn, o ddefnydd
Ysbrydol,—anfarwol fydd.