Diliau Meirion Cyf I/Marwolaeth pump o Feirdd yn y flwyddyn 1847
← Y Mormoniaid | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Marwolaeth Ieuan Gwynedd → |
MARWOLAETH PUMP O FEIRDD
YN Y FLWYDDYN 1847.
CAWRDAF a GWYNDAF deg wedd—cadeirfeirdd
Cu, dewrfyg, o Wynedd;
Dau wron roed i orwedd,
Glywiau'r byd, dan gloiau'r bedd.
A'r eirian HYWEL ERYRI,—ddoniawl,
Oedd enwog ei deithi;
A BARDD MEIRION, freinlon fri,—dau ddestlus,
Mae'n wybyddus, sy'n huno mewn beddi.
A'r Eos fwynber awen—ei gathlau
Oedd goethlwys a thrylen;
Cuddiwyd y bardd cu addien,
Hirhoedlawg, dan leidiawg len.
Llithrig, buredig brydydd,—yn ddiau,
Oedd Eos y Mynydd,
Ei Hymnau a'i Salmau sydd—yn orlawn
O ffrwythau uniawn ei ffraeth awenydd.
Y pump llon feirddion a fu—yn addurn
I lenyddiaeth Cymru;
Galar ydoedd argelu
Eu mygredd mewn dyfnfedd du.
Ninnau bawb yn mhen enyd—a'u dilyn
I dyle y gweryd,
Buan bydd taith ein bywyd
Oll ar ben, er allo'r byd.