Diliau Meirion Cyf I/Myfyrdod y Bardd wrth fyned dros Fynydd Hiraethog
← Y Dysgedydd etto | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Coffadwriaeth am y Tywysog Frederick → |
MYFYRDOD Y BARDD
WRTH FYNED DROS FYNYDD HIRAETHOG,
Mawrth 19eg, 1825
BRONYDD a lleithdir brwynawg—a mân-wellt,
Yw Mynydd Hiraethawg,
Lle dyrus a rhwystrus rhawg,
Anaele, ar hin niwliawg.
Lle anial rhwng y Bala—a Dinbych,
Ond ambell gysgodfa;
Lle tirion bryd hinon ha'
Gerwin ar rew ac eira.
Minnau, ar ben y mynydd,—yn guferth
A gofiais am Gruffydd,
Bardd doniawg Hiraethawg, rhydd,
Ffynnon yr hoff awenydd.
Baen uthr bryd, bu'n athraw braf—bu urddwr
I'r beirddion enwocaf;
Adgofio yn effro wnaf
Am y gwron mygaraf.