Diliau Meirion Cyf I/Pa beth yw dyn i ti i'w gofio?
← Y ddau Adeiladwr | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Y Cristion buddugoliaethus → |
PA BETH YW DYN I TI I'W GOFIO!
O Arglwydd Dduw, pa beth yw dyn
I ti dy hun i'w gofio?
Na mab dyn gwael i ti un waith
Ymweled chwaith ag efo?
Ond er mor isel ac mor wael
Yr aeth wrth gael ei dwyllo,
Darparaist drwy'r cyfammod gras
Ymgeledd addas iddo.
Eiriolaeth Crist a'i farwol glwy'
A'i dyg i fwy anrhydedd
Na'r engyl glân, ardderchog lu,
Sy'n amgylchynu'r orsedd.
O mor ysblenydd ddydd a ddaw,
Fry ar ddeheulaw'r Barnydd,
Y gwelir etifeddion gras
Yn Salem, ddinas hylwydd.
Eu hyfryd waith mewn nefol hwyl,
o flaen ei anwyl wyneb,
Fydd moli Crist, eu Prynwr da,
Hyd eithaf tragwyddoldeb.