Diliau Meirion Cyf I/Rhagymadrodd

Anerchiadau i'r Gwaith Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Rhagdraeth

RHAGYMADRODD

ANWYL A HOFF GYDWLADWYR, yn Feirdd a Llenorion Cymreig o bob graddau,-Wele fi wedi achub y cyfleusdra presenol i gasglu yn nghyd ac argraffu ychydig o’m Cyfansoddiadau Barddonol, y rhai a gyfansoddais ar wahanol amserau, ac ar amrywiol destunau. Nid ydyw y Casgliad hwn yn cynnwys hanner fy ngweithiau ; oblegid dechreuais gyfansoddi pan yn fachgenyn o saith i wyth oed, ac aeth lluaws o ffrwyth fy myfyrdodau yn yr adegau hyny ar ddifancoll o herwydd fy esgeulusdra i ddiogelu yr ysgrifau gwreiddiol. Yr wyf yn gwybod am bymtheg o gerddi, a deuddeg o garolau, heblaw cannoedd lawer o englynion, sydd wedi myned ar goll. Nid wyf yn honi perffeithrwydd mewn dim o'm cyfansoddiadau, ac ni anturiais ymgyrhaedd at ryw bethau mawrion, namyn ychydig awdlau byrion, englynion, ac ambell gân rydd.

Oddeutu hanner can’ mlynedd yn ol, cefais rai misoedd o gyfeillach yr hen fardd athrylithgar Thomas Edwards (Twm o'r Nant ) yn y Bala, a dygwyddodd i mi yfed cryn lawer o'i ysbryd, can belled ag yr oedd yn milwrio yn erbyn egwyddorion treisiawl a gorthrymus; ond ymgedwais, hyd y gellais, rhag ymyraeth mewn un modd â chymeriadau personol neb, gan gofio ychydig linellau a welais yn un o ysgrifau yr hen fardd uchod, y rhai, yr wyf yn meddwl, oedd yn debyg i hyn,

"—Gorau'r lleia' siarado,
Gan y cynhyrfa llawer un swrth,
Mae'n debygol, wrth ei bigo. "

Felly cymerais addysg oddiwrthynt; ac yn hytrach na gwneud caniadau tuchanol i bersonau unigol, ymosodais ar egwyddorion a ymddangosent i mi yn ddrwg, a phleidiais, hyd y gellais, egwyddorion da. Gwel y darllenydd fod y Casgliad hwn yn cynnwys ymosodiadau collfarnol ar bron bob pechod gwaradwyddus a gyflawnir yn y byd drwg presenol. Yn awr, nid oes genyf ond ei gyflwyno fel y mae i sylw a nawdd fy nghydwladwyr caredig, yn Eglwyswyr ac yn Ymneillduwyr, o bob graddau, y rhai sydd wedi dangos cymaint o’u hewyllys da i'm cynnorthwyo yn fy anturiaeth bwysig, a hynny gyda'r sirioldeb a'r parodrwydd mwyaf. Gallai y cyferfydd rhai ag ambell erthygl yn y llyfr na fydd yn cyd - daro yn dda â'u harchwaeth ; ond nid oes genyf well cynghor i'w roddi iddynt na choffâu hen englyn o waith Jonathan Hughes, yn ei gyflwyniad o'i lyfr, " Bardd y Byrddau," i'w gydwladwyr gynt, a dyma fo, os wyf yn cofio,

"Praw'r seigiau, byrddau diball,—o'r dysglau
Pirun orau, praw' un arall;
Oni ddoi yno'n ddiwall,
Cymro llon, cymer y llall."

Felly, yr wyf yn meddwl fod yn y Diliau hyn gymaint o amrywiaeth ag sydd mewn un llyfr o'i faintioli a ymddangos odd etto yn y Gymraeg, er nad yw heb lawer o wallau.

Tybiwyf nad anmhriodol fyddai crybwyll yn mhellach, er fy mod yn bleidiwr gwresog i'r mesurau caethion, ni chyfansodd ais erioed ond ar saith neu wyth o honynt; ac ni ddilynais y rhai hyny yn gwbl fel y sefydlwyd hwynt gyntaf, ond arferais roddi ychwaneg o linellau yn rhai o honynt, sef Hir a Thoddaid, a Byr a Thoddaid. Hefyd, ni phetrusais roddi 8 sill yn lle 7 weithiau mewn llinellau Deuair Hirion, ac esgyll Englyn Unodl Union, os gwelwn fod y synwyr yn gadarnach drwy hyny.

Dymunwn gyflwyno fy niolchgarwch gwresocaf i bawb sydd wedi bod mor ymdrechgar i gasglu enwau Tanysgrifwyr at fy Llyfr: taled yr Arglwydd yn ddau-ddyblyg iddynt am eu cymwynasgarwch.

Terfynaf yn awr, gan ddeisyf eich nodded a'ch cydymdeimlad â henaint a phenllwydni, yr hyn yn ddiau a wna y Beirdd a'r Llenorion campus a diragfarn, er nad wyf yn dysgwyl hyny oddiwrth y crachfeirdd a'r crachfeirniaid . Byddwch wych, Gyfeillion anwyl, yw gwir ddymuniad

Eich gostyngedig Ewyllysiwr da,

MEURIG EBRILL.

DOLGELLAU, Meh. 27, 1853.