Diliau Meirion Cyf I/Rhaiadr Cain, Trawsfynydd

Cyfarchiad i Mr. J. Jones, Gof, Tanycoed, ger Towyn Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Hafdy Cader Idris


RHAIADR CAIN, TRAWSFYNYDD

RHAIADR Cain, ei sain arw sydd—derwynllawn
Daranllyd rhwng gelltydd;
Disgyn yn hyll bistyll bydd,
Gwyn fwlwg anhefelydd.


I'r llawr ymdywallt wna'r lli'—a'i gynhwrf
Gannoedd o latheni;
Pwy all yn deg fynegi
Mor fawr yw ei swnfawr si.

Ys canfod ei gerth ddisgynfa—orwyllt,
Sydd erwin olygfa,
Dynion a bensyfrdana,
A'i swn erch eu synu wna.

Uthr ffrochwyllt fawrwyllt ferwog—ymarllwys
Fel morllif trochionog;
Hyd gilfachau'r creigiau crog,
Gwreichiona'n grych ewynog.

Rhaiad' Cain, ei ruad c'oedd—enwoglais,
Fu'n eglur drwy'r oesoedd;
Rhydd etto'n ddiflino floedd
Ruadwy fel yr ydoedd.

Galwyd e 'n un heb gelu—o ddidawl
Ryfeddodau Cymru;

Rhyfedd dan ser y peru
Tra sai'r leithgar ddaear ddu.

Cannoedd a miloedd ymwelant—â'r lle,
O mor llon у tremiant!
A chael i'r pen uwchlaw'r pant
Eu boddio'n fawr y byddant.


Gwedi cael yn hael fwynhau—gwiw elwch
I'r golwg a'r clustiau,
Cân y tafod glod yn glau—i'r gwrthddrych,
Ar lethrau gorwych, drwy lithrig eiriau.


Nodiadau

golygu