Diliau Meirion Cyf I/Y Ffordd o Dremadog i Faentwrog
← Martha, y Dafarnwraig | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Telyn Egryn → |
Y FFORDD
O DREMADOG I FAENTWROG.
MUDAIS oddiwrth Dremadog—drwy dywod
A daear wlybyrog,
Daethym mor gyflym a'r gog
Mewn teirawr i Maentwrog.
Ffordd domlyd, fawlyd, anfelys,—geisym,
Un gas a pheryglys,
Llaid a baw, nid oedd lled bys,
Felly, yn ol fy 'wyllys.