Diwrnod yn Nolgellau/Sefydliadau

Arweiniad i mewn Diwrnod yn Nolgellau

gan Robert Thomas Williams (Trebor Môn)

Yr addoldai ymneillduol

YR WNION [1] (GWYNION)

Dyfrheir coedwigoedd a dyffryn y dref gan yr afon dlos hon, ag sydd fâs a llydan, ac a rêd oddidan Ddolgellau, tros ba un y ceir pont o saith-bwa-maen, a sylfaenwyd yn 1638, ond yn ddiweddar a helaethwyd, ac a ëangwyd. Una â'r afon Mawddach yn ymyl Llanilltyd, oddeutu dwy filltir islaw. Rhêd y Maw, neu'r Fawddach, o'r mynyddau, yn y gogledd-ddwyrain, gan gyfeirio a rhedeg hyd Lanilltyd, ac y mae hi a'r Wnion yn gyfoethog o ëogiaid a brithylliaid. Medi 8fed a'r 9fed, 1903, trwy dymhestl enfawr o wynt a gwlaw, bu i'r Wnion a'r Aran neidio dros eu herchwynion a haner boddi'r dref. Yn Heol-y-bont mesurwyd y dyfroedd yn yr annedd-dai yn chwe' throedfedd. Nofiai counters y maeldai a dodrefn y tai, a gwelwyd yr Aran yn gwneyd llwybr newydd iddi ei hun ger Swyddfa'r "Goleuad." Cyfrifid dyfnder y dyfroedd cythryblus ger Pont y dref yn 15 troedfedd, a bu i'r genllif ddinystriol dori'r bont yn ddwy. Y grog-bont newydd o haiarn, a godwyd a'r draul o £100 gan y dref, a gariwyd oll ymaith, a chwalwyd oddeutu 150 o latheni o Reilffordd Cwmni'r Great Western cydrhwng Dolgellau a Drws y Nant. Ger pont yr Wnion saif Gorsaf Rheilffordd Cwmni y Great Western o Gaerlleon i'r "Bermo," lle ei cysylltir â'r Cambrian. Agorwyd y darn rheil- ffordd o'r Bala i Ddolgellau oddeutu 34 mlynedd yn ol.

LLYS Y DREF.

Cyfodwyd yr adeilad rhagorol hwn yn 1825, gyda'r draul o £3000. Mae'r oll o'r ystafelloedd wedi eu trefnu allan yn y modd goreu gogyfer a'r oll o'r hedd-swyddogion. Ceir yn y brif-ystafell ddarlun godidog o Syr R. W. Vaughan, o waith brws a phaent y talentog Syr M. A. Shee, R.A., gynt Llywydd yn yr Athrofa Fren- hinol. Hyd y Llysdy ar ei wyneb yw 72 tr. ac 8 mod., a saif yn nghyraedd murmuron dibaid yr Wnion. Ceir yr hen Lysdy, dan nodau trymion henaint, ger porth dwyreiniol y corphlan, yn Lombard Street, a'i wasanaeth heddyw yw bod yn swyddfa cyf- reithwyr.

Y CARCHAR.

a'i ystafellau aml ac eang, a adeiladwyd yn 1811, gyda'r draul o £5000. Bu i'r carchar hwn gael ei hynodi trwy ddienyddiad yr "Hwntw Mawr," am ladd lodes o forwyn, ger Talysarnau, oddeutu 90 mlynedd yn ol; yna Cadwaladr Jones, am lofruddio a darnio Sarah Hughes, oed 37, morwyn i'w dad, yn Nghefnmwsoglog, Meh. 4, 1877. Dienyddiwyd ef ar ddydd Gwener, Tach. 23, a'r croesaw a ga'dd y crogwr (Marwood) gan y dosbarth isaf o'r trefwyr ydoedd, ei hwtio, a'i ddilyn â chawod o dywyrch, pa un wedi ei ddiogelu gan yr heddgeidwaid a chael i'r trên, a'u llongyfarchai â "Dydd da," a gobeithio y cai ddyfod i ymweled â hwy oll yn fuan drachefn.

Bu y diweddar Ieuan Ionawr yn turnkey yma am hir flynyddau. Gŵr sarug, ac o dymherau blinion ydoedd Ieuan, a phan garcharwyd y diweddar Ddewi Hafhesb am adael ei wraig a'i blant, yn ddiamddiffyn, disgwyliai'r englynydd medrus fwy o diriondeb ganddo nag i ereill o'i gyd-garcharorion, yn nghysgod llên a barddas, ond yn hyn fe'i siomwyd ef. "Gwneuthum englyn iddo," meddai Dewi, "ac adroddais ef wrth y cythraul yn y drws wrth wrth ymadael, a diau yr ysgyrnygai'r hen warder hynny o ddannedd oedd ganddo ar yr englynydd pert. Weler englyn :—

Hen wyneb Ieuan Ionawr.— o'm blaen
Saif i'm blino'n, ddirfawr
O'r hen dennyn melynwawr,
Gwag ei fol, efo'i hen geg fawr.

Nid gwiw i'r ymwelydd ddisgwyl taro'i lygaid ar unrhyw droseddwr o fewn i'r adail enfawr hon heddyw, na chlywed sŵn troed torrwr deddf yn myned i mewn na dyfod allan, oblegid y mae hen garchar Dolgellau, wedi ei hir wasanaeth, yn cyfrannu rhyddid, anrhydedd a mwynhad cyfreithiau Prydain Fawr, fel ag y gellid ei osod i lawr ar fap Meirion a'r byd.

Y Crocbren o'r nennawr a dynnwyd i lawr
Fe'i gwnaed gynt i grogi; yr — hen Hwntw Mawr,—
A weithian heb arswyd fe'i Codwyd mewn cell
Swydd newydd roed iddo, ddiguro, ddau well
Ni chrogir ym Meirion ddim lladron rhag llaw —
Na chreulon, annhirion lofruddion dan fraw
Alltudir hwy bellach fel bawiach y byd.
I ganol gwlad estron, yn gaethion i gyd.

Y PERIGLOR DY

A genfydd y teithydd am yr afon Wnion a'i phont, ar lethr chwith y ffordd a arweinia am y Bala. Mae'n dy^ cryf a rhagorol ei olwg, ac y mae wedi newid preswylwyr yn lled aml yn y blynyddoedd diweddaf. Yr un a fywiai ynddo yn ystod helynt y Parc ydoedd y diweddar Hybarch Canon E. Lewis (Deon Bangor, wedi hyn), ac efe oedd cysurydd ysbrydol Cadwalader Jones. Meddai Mr Lewis ar ysbryd lletygarol, a throdd allan draethawd ar yr Olyniaeth Apostolaidd, yn y fl. 1869, ond ei arddelwad wrtho ydyw "Offeiriad Cymreig" yr hyn i'm tyb i, a arwyddai nad oedd gan yr awdur fawr o gred yn ei nerth ei hun. Ceir rhifires fawr o esgobion, &c.yn ffurfio'r gadwyn, ond ugeiniau ohonynt yn bydredig trwyddynt. Cynnyrch y ddadl frwd a fu cydrhwng y Deon a'r diweddar Dr W. Davies (W.), Bangor, ar faes yr Herald Cymraeg, ym 1859, ar Uchel—Eglwysyddiaeth yw y llyfr uchod, a'r ddarlith ar y testun uchod a draddodwyd ym Methesda gan Mr Davies, ac a gyhoeddwyd yn llyfryn 6ch. Perigloriaeth yw y fywoliaeth, yn Archddeoniaeth Meirionydd, ac esgobaeth Bangor, ac yn nhadogaeth y Goron. Neilltuwyd tua phum erw o dir, a achubwyd oddi ar afradlonedd yn y fl. 1811, o gylch tair milltir i'r dref, at wasanaeth gweinidogion yr Eglwys Wladol. Y periglor presennol yw J. Lloyd.

EGLWYS ST. MAIR

Sydd adail brydferth, ac wedi ei gwneud o galchfeini amrywiol, o gynllun Groegaidd, ar uchaf y tir, yng nghanol y dref, yn helaeth gyda thwr ysgwâr, clychau, ond heb addurniadau mewnol nac allanol. Ym mynwent hon tery'r ymchwilydd â chofadail hen a hynod, yn dwyn ardeb (portrait) o fonheddwr mewn arfogaeth a chi yn ei ymyl, yn coffáu teulu henafol Fychaniaid o Nannau, sef Meurig ap Fychan ab Ynyr Fychan, y pumed mewn achau o Cadwgan ap Bleddyn ap Cynfyn, preswylydd Nannau, a disgynnydd o honno ef yw boneddigion y lle hwn heddiw. Darlinir ef mewn gwisg fail (hollow dress), cledd yn ei law, arf-dariain yn cario llew, ac yn drwyn yr arwyddair, HIC JACET MAURIC FILIUS YNYR FYCHAN, hynny yw Yma gorwedd Meurig fab Ynyr Fychan. Y mae parwydydd yr eglwys yn orlawn o dabledi, rhy luosog i'w gosod yma, o un i un am wahanol foneddigion, hen a diweddar, o'r plastai a geir yn britho cymoedd y dref, ac yn eu plith feddargraff helaeth yn y Lladin,i'r Parch. J. Jones, Archddeon Meirionnydd. At yr oll cyfeiriaf Ymwelydd â Dolgellau, er diddori ei feddwl a meddiannu rhagor o gyfoeth i'w ben, i'r cysegr hwn, i'w darllen oll yn ystyriol

YR YSGOL RAMADEGOL.

Saif yr ysgol hon yn Penbryn, a sylfaenwyd yn 1665, gan y Parch. John EIlis, D.D., periglor y plwyf, gan roddi cymynrodd o dyddyn o enw y Penrhyn yn Llanaber, er addysgu 12 o fechgyn tlodion : gadawodd Y Parch Ellis Lewis waddol, a gyfrifir yn ddyddiedig Awst 21ain, 1727, yr hwn ficer hefyd a roddodd dyddyn a elwir Cilgwyn, yn Llandrillo-yn-Rhos, a £50 at adeiladu ysgoldy. Ychwanegwyd drachefn £300 gan yr Hybarch Tamerlain, y periglor diweddar. Eglwyswr a benodir Swydd hon gan offeiriaid Dolgellau, a gofynnir iddo raddio yn Rhydychen neu Gaergrawnt, ac nid all dderbyn swydd Eglwysig ar wahân i'w alwedigaeth. Gwnaed atgyweiriad cyflawn ar yr ysgol hon yn 1852.

CWRT PLAS YN Y DREF

Sef gweddillion hen Senedd-dy Owain Glyndŵr, a erys ym mhlith siopau eang, ger gwesty'r Ship. Cynhaliodd Owain ei Senedd yma yn 1404, wedi iddo syrthio i gynghrair gyda Siarl I, brenin Ffrainc. Yn ystod y rhyfeloedd cartrefol, pa rai a fu'n achos, neu achlysur i farwolaeth Siarl, ymgymerodd dosbarth neilltuol, oddeutu 100 o'r milwyr brenhinol, âr gorchwyl o godi gwarchae'r dref, er ei amddiffyn oddi wrth y galluoedd Seneddol, ond hyn a rwystrwyd gan Ed. Fychan, yr hwn oedd arweinydd ei restr ymosodol, ar un hefyd a chwalodd y terfysgwyr, gan gymeryd eu blaenor yn garcharor.

Gair am Owen Glyndŵr. Ganwyd yr arwr byd enwog hwn Mai 28ain, 1349. Hanai o du ei dad, Gruffudd Fychan, o Bleddyn ab Cynfyn, tywysog Powys, ac o du ei fam, Elin, ferch Tomos ab Hywel, o Llewelyn, tywysog olaf Cymru. Talfyriad yw Glyndŵr o Glyn Dyfrdwy, a cheir ei dreftadaeth ac olion ei balas yn aros eto ger Llansantffraid-Glyndyfrdwy; ond ei brif balas ydoedd Sycharth, wrth Lansilin.

Ei wraig oedd Margaret, merch i Syr Dafydd Hamner, o Sir Fflint, un o farnwyr ieuainc Rhisiart II. Dengys wrhydri dihafal fel cynghorydd mewn câd, ac fel cyfaill i'w gydgenedl, dros ei hiawnderau cynhenid, a'i hannibyniaeth genedlaethol. Anfonodd ei Ganghellydd, Gruffydd Younge, LL.D., Archddeon Meirionydd, a Syr John Hanmer, ei garennydd, yn llysgenhadon drosto i Baris at Siarl, a ffurfiwyd cynghrair rhyfel, ym mha un yr ymgyfenwai yn Dywysog Cymru.

Dechreuai ei gylchlythyr o[2] Senedd-dy Dolgellau fel hyn:— Owinus Dei gratia Princeps Walliæ. Datum apud Doleguelli 10 die mensis Maii, MCCCC., quarto, et principatus nostri quarto. Arwyddwyd eu papyrau yn Nolgellau, a chadarnhawyd hwy gan Glyndŵr yn nghastell Llanbadarn, Ion. 12fed, 1405, a chawsant y derbyniad mwyaf brwdfrydig gan y Canghellydd Ffrengig ai gyd-swyddogion. Wedi hyn, safodd Ffrainc o'i blaid fel y graig ddiysgog, a a bu iddynt daflu y cynorthwyon gorau iddo ef ai gydgenedl orthrymedig, mewn gwahanol gadau o'r pwys mwyaf mewn buddugoliaeth. Dangosodd y gwroldeb uchaf ar y cadfaes efo Rhisiart II. a Harri IV., ac nad dyn ydoedd i chware ag ef, pan roddid rhyddid gwlad ac iawnder cenedl gyfan yn y clorian, er — gwaethaf y ddau frenin a nodwyd, a Reginald de Grey, Ieuan ab Meredydd o Gefn y Fan, a Hwlcyn Llwyd o Lynllifon, dau elyn calon iddo. Gwnaeth "Y Croesau", dernyn o dir gerllaw Rhuthun, yn asgwrn y gynnen i dynnu gorsedd Prydain a'i phenaduriaid yn ei ben, er amddiffyn ei wlad, a tharo traha y Saeson i'r llawr, a bu llwyddiannus am flynyddau i dorfynyglu anghyfiawnder estroniaid, ac i dynnu gyddfau yr hen genedl o iau caethiwed. Llosgodd Rhuthun,—lladdodd ugeiniau o Saeson o gylch mynydd Pumlumon. Dioddefodd swydd Drefaldwyn yn enbyd ganddo; llosgodd y brif dref ar Trallwm, a lladdodd 60 o geidwaid Castell Maesyfed, — chwalodd y Saeson ar lannau'r Hafren,—lladdodd 2000 o Saeson o dan Grey ar lannau'r Fyrnwy,— cymerodd Grey yn garcharor a deolodd ef yn garcharor i Eryri, llosgodd Gefn y Fan, a Glynllifon, a mynachlogydd Bangor a Llanelwy,—gorchfygodd Syr Edm. Mortimer,—daliodd Syr Dafydd Gam, ei fradwr ai frawd-yn-nghyfraith, a chaethiwodd ef am 10 mlynedd, — bu'n ymguddio'n min môr wrth Langelynin, yn Ogof Owen, lle porthid gan gyfaill o fonheddig o'r enw Ednyfed ab Aron, a chanodd Iolo Goch, ei fardd, Gywydd i Owen Glyndŵr wedi ei fyned ar ddifancoll. Gwersyllodd ar Woodbury Hill, naw milltir o Worcester, gan gael ei gynorthwyo gan y Ffrancod, i wrthladd y Saeson, yn 1405 (Awst 7fed), a daliodd ei dir i wrthsefyll holl allu Lloegr gydag arfau Ffrainc (yn achlysurol), a gwenau'r Ysbaeniaid, hyd 1415. Bu Glyndŵr farw yn nhŷ ei ferch yn Monington, Medi 20fed, 1415, yn 61 mlwydd oed, a'r holl genedl a alarodd am dano Dechreua cywydd Iolo Goch i Glyndŵr fel hyn:—

Y gwr hir, nith gâr Harri,
Adfyd aeth, a wyd fyw di?

Ceid cywyddau eraill iddo gan yr un awdur—y naill cyn iddo godi mewn rhwysg yn erbyn Harri, ar llall pan oedd ef fwyaf ei ddylanwad. Gwel "Gorchestion Beirdd Cymru," tud. 114-7-9, Arg. H. Humphreys. Ni chaniata gofod i ni gyfleu ei Lythyrau ef a H. Percy oddiyma at Frenin Ffrainc, er cystal eu dyddordeb, eithr ymofyned y darllenydd am danynt yn yr hen" Wladgarwr," "Cantref Meirionydd," a llyfrau ereill. Methai y diweddar Mr. Wynne, Peniarth, a chael y Cwrt" yn foreuach na'r 16eg ganrif, na Mr. A. B. Phipson ef tros y 15fed ganrif, ond adnabyddid ef o hynny i lawr gan y bobl â'r enw "Senedd-dy Owain Glyndwr:" ond, modd bynag, tynodd y Bwrdd Lleol ef i lawr yn 1881. Pe troisid ef yn gywreinfa, buasai'n gaffaeliad gwerthfawr i'r dref.

Nodiadau

golygu
  1. Ar faes llên a barddas arddelwa beirdd o fri eu hunain ar enw'r afon. brydferth hon, nid amgen Glan Wnion, Dolgellau, a'r Parch. E. Wnion Evans, Derwenlas, Machynlleth.
  2. Am hanes diddorol a darlun o'r Senedd-dy (gweddillion yr hwn a erys eto) ym Machynlleth, gweler Y Gwladgarwr, 1836, tud. 37; ar un yn Nolgellau yn Ngweithiau Glasynys, 1898, casgledig gan Mr O. M. Edwards, M.A