Draw mi welaf ryfeddodau
← Tyred, Arglwydd, tyrd yn fuan | Draw mi welaf ryfeddodau gan William Owen (Gwilym Alaw) golygwyd gan Morris Davies, Bangor |
O! Am dreiddio i'r adnabyddiaeth → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
86[1] Bwriad grasol Duw.
87. 87. D.
1.DRAW mi welaf ryfeddodau
Dyfnion bethau Tri yn Un,
Cyn bod Eden ardd na chodwm—
Grasol fwriad Duw at ddyn:
Ethol meichiau cyn bod dyled,
Trefnu meddyg cyn bod clwy',
Caru gelyn heb un haeddiant;
Caiff y clod tragwyddol mwy.
2.O! dragwyddol iechydwriaeth,
Yn yr arfaeth gafodd le,
I gyfodi plant marwolaeth
I etifeddiaeth bur y ne':
Cariad bore, mor ddiddechrau
Ag yw hanfod Tri yn Un,
Yn cofleidio meibion Adda
Yn yr Alpha mawr ei Hun.
P 1. O gasgliad 1af Morris Davies.Bangor
P 2 William Owen (Gwilym Alaw)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 86, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930