Dringo'r Andes/Troed yr Orsedd

Cyrraedd Teca Dringo'r Andes

gan Eluned Morgan

Dilyn yr Afon

PENNOD IX.

TROED YR ORSEDD

 ND wele Droed yr Orsedd. Un ystyr sydd gan drigolion y Fro i'r enw, ond y mae gennyf fi ddau. Gorsedd y Cwmwl-dyna enw'r mynydd sydd y tu cefn i'r bwthyn. Fe welir wrth hyn mai purion enw roddwyd ar y cartref. Ond ni ddywedaf ail ystyr yr enw nes cyflwyno y teulu mwyn. Dacw'r hen gyfaill Dalar wedi ein gweled, ac yn prysuro i'n croesawi. Yr oedd cymaint o amser er pan welswn ef a'i deulu mân fel yr oedd yn rhaid i mi gael eu henwau oll yn gyntaf dim, a iechyd i bob Cymro fyddai gwrando arnynt, -Irfonwy, Brychan, Morgan, Sian, Ioan, Briallen, Madryn, Eurgain,-a breintiwyd y plant nwyfus hyn â mam dyner, ddwys, o'r enw Esther. Or.id yw pob calon Gymreig yn dotio at dlysni y rhestr, a chyn mynd i orffwys y noson gyntaf yn y Fro, yr oeddwn wedi dotio mwy ar y plant hyd yn oed na'r enwau.

Tua naw o'r gloch gwelwyd yr hen Feibl mawr yn cael ei ddodi ar y ford, a'r plant bach yn crynhoi gylch yr aelwyd. Mor syml a dirodres y gwneid hyn fel nad oedd dor ar yr ymddiddan, ond wedi gorffen y sgwrs, dyma gör yr aelwyd yn dechreu canu. Nid oedd yno neb ond y fechan hunai ym mynwes ei mam nad oedd. yn canu, y lleisiau bychain pur yn codi yn un anthem o orfoledd. Byddaf yn credu bob amser fod ar Satan fwy o ofn plant bach yn canu hanes Iesu na dim. Gwelais ymwelwyr yn gorfod mynd allan o'r bwthyn wrth droed yr Orsedd pan fyddai ei genhadon bychain ef yn canu eu "Nos Da." Wedi'r canu, caem y darllen, a sylwais mor fanwl fyddai y dewisiad, rhywbeth i nerthu a chalonogi bob amser. Ac yna, caem oll gyd-addoli, cyd-ddiolch am nodded y dydd, a chyd-erfyn am nodded y nos. Yr oeddwn wedi clywed son am aelwydydd fel hyn yng Nghymru lân, ond ni ddaeth i'm ffawd weled yr un, hyd nes teithio i eithafoedd y ddaear at Droed yr Orsedd, a bydd yn yr enw ystyr cysegredig i mi hyd ddiwedd oes.

Yr oedd fy nghyfeillion yn awyddus am i mi orffwys ychydig cyn dechreu teithio i weld y wlad oddiamgylch. Ond yr oedd y cylchynion hyfryd a'r awel iachus wedi'm llanw a'r fath nwyf ac yni fel na allwn fod yn llonydd pe mynnwn. Y peth cyntaf welwn drwy ffenestr fy ystafell bob bore oedd y Mynydd Llwyd, a'i gopa gwyn ym myd y cymylau. Yr oedd yn demtasiwn ac yn swyn anorchfygol i mi, a rhaid oedd ffurfio cwmni i ddringo i'w ben. Nid oedd 'ond un person wedi bod fan honno erioed, a bygythid pethau mawr arnom am ein rhyfyg. Cychwyn wnaethom ar ddiwrnod tawel, hafaidd, ar geffylau, fel pob Patagonwr; yr oedd gennym daith bell cyn dod at lethr y mynydd, a chodi bwganod oedd gwaith y cwmni ar hyd y ffordd. Ond wedi dechreu dringo, yr oedd gan bawb ddigon o waith, edrych ar ei ol ei hun a'i ysgrublyn truan Bu dadl fawr wrth droed y mynydd. Yr oedd ar rai eisieu gadael y ceffylau fan honno, a'i throedio i fyny.

"Wfft i shwd ddwli," ebai bechgyn glew y paith, beth mae'r ceffylau dda?"

Ond yn wir, yn wir, rhyngoch chwi a minnau buasai'n well gennyf ei throedio o lawer; yr oedd gweled yr hen geffylau yn ymladd am eu hanadl ac yn syrthio bendramwnwgl ar draws y cerryg yn boenus i'r eithaf. Ond fry, fry, yr aem o hyd, a min yr awel i'w deimlo yn fwy o hyd. O'r diwedd, daethom i le na allai yr un ceffyl ei basio, ac felly cefais yr hyfrydwch o'u gweled yn gorffwys, tra ninnau yn pelo'n mlaen yn nannedd y gwynt oedd eisoes yn chwythu bygythion.

Wrth son am fynydd, mae dyn yn meddwl am graig gadarn o dan draed o hyd, ond dyma fynydd na saif yn llonydd yr un funud-mynydd anferth o gerryg mân, a dywed Darwin yn ei nodiadau ar Batagonia mai effaith yr ia oesol ar y graig yw hyn, a rhyfedd meddwl fod yr eira distaw yn gallu gwneud y fath waith aruthrol.

Wrth fod y mynydd yn rhoi ffordd o dan ein traed, yr oedd teithio yn waith anawdd ac araf iawn, ac yr oedd y gwynt erbyn hyn yn anterth ei gynddaredd, a hwnnw mor rhewllyd nes yr oedd perygl i ni gael ein parlysu gan yr oerfel, a'r awyr mor fain yn yr uchder ofnadwy nes mai trwy boen dirfawr y gellid anadlu. Ond yr oedd copa'r mynydd yn ymyl, ac O, yr oedd arnom eisieu sefyll ar ei ben-hwb fach ymlaen eto, ond "i lawr a chwi," meddai'r gwynt. Ac fel yna, o gam i gam, yn destyn gwawd i'r gwynt, y cyraeddasom y copa gwyn, ac y sangodd ein traed ar y fath balmant o ia nes mae arswyd lond fy nghalon y funud yma wrth son am dano.

Ceisiasom sefyll ar ein traed er mwyn cael cip ar yr olygfa ogoneddus o'n hamgylch; ond bu raid i bawb wneud hynny yn ei dro, a'r gweddill o honom i ddal fel bachau heiyrn yn yr edrychydd rhag cymeryd o hono adenydd a hedeg fry, fry, uwch y cymylau, lle y gwelem y Condor anferth, brenin yr awyr, fel llong dan lawn. hwyliau, yn hofran yn yr uchelderau aruthr, yn gwylio'r dyffryn am filltiroedd, mewn gobaith am ysglyfaeth, byw neu farw.

Mae'r Condor yn un o ryfeddodau'r byd ymysg yr ednod; prin y mae'n werth i mi ddweyd fod ei dryfesur yn un droedfedd ar bymtheg pan ar ei aden, oblegyd 'chred neb mo honof: mae'n swnio mor anhygoel. Ond i rywun sydd wedi ei weled yn ei gartref mynyddig, mae'n olygfa fythgofiadwy. Mae ei blu mor ddu â chysgod y mynydd yn y nos, a choler o fân-blu gylch ei wddf cyn wynned ag eira'r mynydd ar lawn lloer; mae ei lygaid fel ser y bore'n machlud, a gwrid y wawr o dan bob ael; ei big yn bedair modfedd o hyd, ac fel ellyn dau finiog.

Ei elyn mwyaf yw ei lythineb. Pan gaffo ysglyfaeth wrth ei fodd, fe wledda arno i'r fath raddau fel na all ei ddwy aden, er cryfed ydynt, godi'r corff glwth oddiar y ddaear, a dyna bron unig gyfle'r heliwr; unwaith yr esgynno'r Condor i'w gartref ar binaclau uchaf yr Andes, nid yw saethwyr a gynnau ond megys gwybed iddo—ni all unrhyw allu oddilawr ei ddiorseddu: gall dinistr ddod oddifyny pe digwyddai i Geidwad y Porth erchi

i filwyr y mellt anelu eu saethau tua'r cartref creigiog. Er fod y Condor yn greadur mor ysglyfaethus, anawdd peidio ei edmygu: mae golwg ardderchog arno: mae'n frenin ar fyd mor fawr ac mor wyn.

Ond bu raid ymysgwyd o'r holl fwyniannau hyn, canys gwelem er ein dychryn fod yr haul bron machludo, ac y buasai yn amhosibl i ni gyrraedd diogelwch cyn y nos, ac i ni fyned yn ol yr un ffordd ag y daethem. Ond nid oedd neb wedi myned i lawr ar yr ochr ogleddol erioed! Wel, yr oedd yn rhaid i ni fyned, neu rewi ar y mynydd, ac yr oeddym bron yn y cyflwr hwnnw eisoes.

Erbyn dod i olwg y disgyniad ar yr ochr ogleddol, safem yn fud mewn arswyd ac ofn, ond yn fy myw ni allwn beidio teimlo mor fendigedig ydoedd yr olygfa.

Edrychwch, dyma flodau ynghanol yr eira a'r oerni: maent yn edrych mor siriol â phe mewn nyth o fwswgl, ac mor bersawrus a'r briallu yn y coetir, a rhyfedd mor debyg i'r friallen ydynt o ran en ffurf, ond fod y lliw fel glas y nen. Yr oedd awydd arnaf dynnu tusw, ond edrychent mor bur ac mor ddedwydd fel na allwn eu cyffwrdd, dim ond sisial," Ffarwel, flodeuyn bach, eiriol drosof fi."

Gwelwyd nad oedd ddiben i ni ein hymddified ein hunain ar y ceffylau mwyach: yr oedd y disgyniad yn rhy serth. Felly, gollyngwyd hwy i ymdaro oreu gallent, gan obeithio y deuem o hyd iddynt rywle tua godre'r mynydd. Ni allem ninnau gerdded i lawr, dim ond llithro a'n llywio'n hunain â'n dwylaw ac â'n traed oreu gallem. Wedi i ni ddechreu cynefmo â'r gwaith, cawsom hwyl yn iawn. Llawer chwerthiniad iachus glywyd yn adsain rhwng y creigiau cylchynnol, a phan ddeuem i ddarn go wastad, torrem allan i ganu ambell i hoff emyn. Cyraeddasom y gwaelod yn ddiogel, wedi anghofio ein holl ofidiau, a chan feddwl am y gwynfyd a'r mwyniant gawsem.

Gwyddem fod tŷ y cyfaill Jacob Morgan heb fod nepell, ac y caem lety clyd a chroesaw cynnes gan y deulues hawddgar. Beth pe dywedwn hanes y tê arbennig hwnnw wrthych ar ol bod o godiad haul hyd ei fachludiad yn teithio yn awel y mynydd, heb dorri newyn unwaith? 'Rwy'n sicr fod gan Mrs. Morgan gof byw am y pryd bwyd hwnnw, ond nid wyf fi yn mynd i ddweyd yr hanes heb ganiatad y cwmni.

Yr oedd yna ryw obaith distaw ymysg y cwmni y buasai Eluned wedi blino gormod i gychwyn taith arall drannoeth. Ond cefais y fath noson o gysgu ardderchog, fel yr oeddwn yn teimlo fel ewig fore trannoeth; a phan aethpwyd i sôn am y Dyffryn Oer a'r llyn hyfryd oedd yno, a thaith drwy goedwigoedd a chorsydd i fynd yno, parod fi ar y funud. Ond aeth y cwmni ar y streic. Mynnai pedwar fynd adref. Arhosodd un gyda mi, ac unodd Mrs. Morgan, fel yr oeddym yn dri yn cychwyn i'r Dyffryn Oer,-trineg milltir o ffordd, a buom yn teithio o naw y bore hyd naw y nos drwy erddi o fefus addfed hyfryd, drwy goedwigoedd tewfrig, drwy gorsydd lleidiog, i fyny ac i lawr y cymoedd.

Nid oedd ond un bwthyn bugail unig yn yr holl ddyffryn, ond pe buasai yn balas y Tylwyth Teg, ni fuasem falchach o'i weled. Byddaf yn credu'n ddistaw fod y bugail wedi ein cymeryd ni fel rhai o drigolion Gwlad Hud y noson honno, gan mor anisgwyliadwy ein hymweliad ar awr mor hwyr o'r nos. Ond bydd gennyf gof melus am groesaw'r bugail a lloches ei fwthyn unig, a murmur y nant a'm suodd i gysgu, a swn tonnau tryloewon y llyn a'm deffrodd yn y bore, a'r bugail caredig ei galon farchogodd dair milltir yn oriau mân y bore er mwyn i'r teithwyr gael llaeth iachus i'w boreufwyd.

Nodiadau

golygu