Dros y Gamfa/Cartef Santa Clôs
← Ffoi! Ffoi!! I Ba Le? | Dros y Gamfa gan Fanny Winifred Edwards |
Geirfa → |
CARTREF SANTA CLOS
"BETH WYT YN FEDDWL O FY NGHARTREF?"
XIII. Cartref Santa Clôs
Rhoddai Bob, fel y rhan fwyaf o blant pan y nesha y Nadolig, gryn lawer o le yn ei feddwl i Santa Clôs. Holai ei dad a'i fam yn ei gylch, a bu fwy nag unwaith mewn perygl o gael ei anfon i'w wely yn gynt na'r adeg arferol am ei fod yn ôl geiriau ei fam,—"ddigon a diflasu pawb yn holi ac yn holi o hyd ac o hyd." Syllai hefyd lawer i ffenestri siopau teganau y pentref, gan geisio penderfynu wrtho ei hunan pa degan a hoffai ef ei gael yn ei hosan fore'r Nadolig; neu pa nifer ohonynt tybed ellid eu gwthio i mewn iddi heb i'r hosan na'r teganau fod yn waeth. Meddyliai hefyd weithiau mor ddifyr fuasai cael golwg ar Santa Clôs wrth ei waith, a chael rhyw syniad am faint y sach oedd ar ei gefn a nifer y teganau o'i mewn. Ond er dyfalu llawer, a gofyn iddo ei hunan, ac i eraill, lu o gwestiynau amdano, nid oedd y syniad erioed wedi dod i'w feddwl i'w gymell i ofyn,—"Pa le y mae Santa Clôs yn byw," hyd nes yr aeth i chware ar ôl tê y prynhawn o fewn dau ddiwrnod i'r Nadolig at Benni Stryd y Cefn. Yr oedd yn ddiwrnod oer a gwlyb, ac oherwydd hynny galwodd mam Benni arnynt i'r tŷ, a rhoddodd ganiatâd iddynt i chware yn y gegin ar yr amod nad oeddynt i wneud twrw, nac i wneud llanast. Nid oeddynt yn ddieithr i'r amod yma, a dysgodd profiad hwy hefyd cyn hyn mai ffolineb fyddai ymddwyn yn ddiystyr o'r siars. Fel yr oedd Bob wedi cydnabod o'r blaen,—"nid mam pawb fasa yn gadael i blant chware yn thŷ hi," ac felly rhoddodd y ddau eu pennau ynghyd, a cheisiasant feddwl am y chwareuon â lleiaf o stwr yn perthyn iddynt. Ond er rhoddi prawf ar ddau neu dri, gwaith pur anodd oedd taro ar chware nad oedd rhyw gymaint o dwrf yn perthyn iddo, er cystal ydoedd Benni am ddyfeisio chware newydd. Ond pan oeddynt ar roddi i fyny yr ymdrech, a Bob yn dechreu meddwl y byddai'n well iddo fynd adref, dyna mam Benni yn cofio yn sydyn fod yn rhaid iddi fynd allan i neges. Yn bur ddiymdroi, y mae'n gwisgo ei chôt a'i het ac yn cychwyn. Gynted yr oedd trwy y drws,—"'Rwan," ebai Benni, "beth gawn ni chware?"
"'Dwn i ddim, meddwl di am rywbeth," ebai Bob.
Eisteddodd Benni ar y gadair siglo, ac wedi siglo ei hunan am ryw ddau eiliad neu dri, fel pe bai yn disgwyl i hynny fywiogi ei feddwl, meddai yn sydyn,—"Wyddost ti beth wnawn ni? Mi wnawn ni chware Santa Clôs. Mi af fi yn Santa Clôs, a mi gei ditha gysgu yn y setl, a hongian dy hosan wrth ei throed, a wedyn mi rof finna rywbeth yn dy hosan di. Mae gen mam ddigon o bapur a llinyn. A mi hongiwn ni y sanne ym mhob man gwna nhw sefyll, a mi wnawn bob math o barseli."
"Reit dda, Benni," ebai Bob. "Oes gen ti hen sach i gario y parseli ar dy gefn?"
"Oes, a digon o wlan gwyn yn y cwpwrdd i wneud gwallt a locsus, a mi gymeraf fenthyg shôl goch mam i wneud mantell."
Ac ar unwaith dacw y paratoadau yn dechreu, a phob munud yn bwrlymu drosodd o ddifyrrwch a hwyl. Ac yn fuan iawn yr oedd yr hosanau yn hongiwn yma ac acw yn y gegin, a Santa Clôs yn barod i gychwyn ar ei daith, a Bob yn gorwedd â'i lygaid yng nghau ar y setl, ond nid mor gaeedig fel nad oedd yn gallu gwylio symudiadau Santa Clôs, er mawr ddifyrrwch iddo ei hunan. Yr hosan gyntaf i gael ei llenwi oedd yr un a hongiai ar ddwrn y popty, ac ebai Santa Clôs:
"Dyma hosan Lisi Meri. Mae gen i barsel go fawr iddi hi," gan wthio i'r hosan un o'r parseli mwyaf oedd yn ei sach. Ac felly gan enwi perchenogion yr hosanau yr aeth o hosan i hosan, gan roddi rhywbeth ym mhob un. Ac wedi gwthio dau barsel i hosan Bob, aeth at yr hosan olaf a hongiai wrth bost y grisiau, a chan afael ynddi, meddai, gan ysgwyd ei ben:
"Dyma hosan Benni Stryd y Cefn. Ond 'does yna ddim presant i roi yn hon. Mae'r presant olaf wedi mynd."
Wrth glywed hyn, er wedi cael gorchymyn pendant i beidio symud hyd amser neilltuol, cododd Bob i fyny yn syth, ac meddai,—
"Tydi hynna ddim yn deg, mae'n rhaid cael presant i roi yn dy hosan di, beth bynnag, Benni."
"Na," ebai Benni, "fydda i byth yn cael. Mi hongiais i fy hosan y Nadolig diweddaf, a Nadolig cynt, a ches i ddim byd. Tydw i ddim am 'i hongian hi o gwbl y tro yma. Well gen i gweld hi ar y gadair fel bob bore arall, nac edrych arni yn hongian yn wâg wrth droed y gwely."
"Wel, pam na chei di beth ynddi?" gofynnai Bob, gan edrych fel pe bai, ac fel yr oedd yn wir, wedi cyfarfod y broblem fwyaf dyrys gyfarfyddodd erioed.
"'Dwn i ddim," atebai Benni, "Mae mam yn meddwl mai am fod tŷ ni ar ben y rhes, a bod Santa Clôs wedi rhannu popeth cyn cyrraedd yma."
"Wel, pam na wnaiff o ddechreu yn y pen yma weithiau?"
"Ella mai o'r ffordd arall mae o'n dwad."
Wedi moment o ystyried, ebai Bob drachefn,—"Wyddost ti lle mae o'n byw, Benni?"
"Na wn, wir. Chlywais i erioed."
Ar hyn daeth mam Benni i'r tŷ, ac wedi dotio at ei fedrusrwydd yn gwisgo ei hunan mor debyg i Santa Clôs, meddai,—"Ond tyn amdanat, 'rwan, i ti gael swper a mynd i dy wely, ac ewch chitha adre, Bob, cyn iddi fynd yn dywyll ac i'ch mam fynd yn anesmwyth."
Ac wedi dweyd "Nos Da" wrth Benni, y mae Bob yn cychwyn am ei gartref, a'r cwestiwn ofynnodd i Benni,—"Ym mhle, tybed, mae Santa Clôs yn byw?" yn llanw ei feddwl ar hyd y ffordd.
"Pe gwyddwn i," meddai wrtho ei hunan, "mi awn yno bob cam i ofyn iddo roi presant yn hosan Benni." Toc daeth y syniad i'w feddwl y gallai ei fam fod yn gwybod, a pharodd hyn iddo gyflymu ei gamrau, a chyrhaeddyd y tŷ â'i wynt yn ei ddwrn. Wedi deall bod ei fam yn y gegin fach, y mae'n myned yn syth ati ac yn gofyn heb ragymadrodd o fath yn y byd,—"Mam, lle mae Santa Clôs yn byw?" Gan ei fod, fel y sylwyd eisoes, yn dueddol iawn i holi, a'i fam ar y pryd yn bur brysur ei goruchwylion, oherwydd agosrwydd y Nadolig yn amlhau, meddai wrtho,—"Paid a dechreu holi, da chdi. Bwyta dy swper; mae dy lefrith ar y pentan a'r frechdan ar y bwrdd. Brysia, tyn am dy draed, 'rwyt ti wedi bod allan rhy hwyr o lawer."
Ac ymaith â hi o'r gegin, a Bob yn galw ar ei hôl, gan ddechreu datod ei esgidiau:
"Lle mae tada?"
"Mae o yn y gegin ffrynt hefo dyn diarth, a chymer ofal nad ei di ddim yno."
"Dyna dro," ebai Bob wrtho ei hunan, "fedra i ddim gofyn i tada 'rwan lle mae Santa Clôs yn byw. Ond peth siwr ydi o, mae'n rhaid i mi gael gwybod gan rhywun yfory." Ac yng nghwmni y penderfyniad yna aeth i fyny y grisiau ac i'w wely, a'r penderfyniad fel pe'n gofalu cadw cwsg ymhell oddiwrtho. Ond pan glywodd ei dad a'i fam yn dod i fyny y grisiau, cauodd ei lygaid a chymerodd arno ei fod yn cysgu ers meityn. Nid oedd am i'w fam ei ddal yn effro, pan y deuai yn ol ei harfer i'w ystafell cyn noswylio. Nid oedd heb wybod mai canlyniad hynny fyddai cael ei ddwrdio yn dost neu ddos o ffisyg. Ond cyn gynted ag yr aeth ei fam i'w ystafell, ac y clywodd hi yn cau y drws ar ei hôl, y mae'n agor ei lygaid eto, a dyna'r un cwestiwn yn mynd ac yn dod trwy ei feddwl, nes ymhen hir a hwyr, wedi i bob sŵn yn y tŷ ddistewi, y mae'n gofyn yn uchel, heb yn wybod bron iddo ei hunan,—"Ym mhle, tybed, mae cartref Santa Clôs?"
Ac ar hynny dyna rhyw lais peraidd yn ateb o'r ochr arall i'r ffenestr,—"Agor y ffenest, mi gei wybod." Heb oedi cymaint ag eiliad i synnu, rhyfeddu, nac ofni, dacw Bob o'r gwely ac yn agor y ffenestr. Yr oedd y ffenestr ar ffurf drws, ac yn sefyll o'i blaen gwelai gerbyd bychan, isel, di-olwynion, yn cael ei dynnu gan garw mawr corniog. Hefyd, sylwodd fod y cerbyd a'r un oedd ynddo wedi ei guddio yn llwyr â chroen blewog, a chlywai'r un oedd yn y cerbyd yn gofyn,—"Hoffet ti weled cartref Santa Clôs?"
"Hoffwn, yn siwr. 'Rwy'n dymuno yn fawr cael gweld Santa Clôs. Mae arnaf eisio gofyn rhywheth iddo, cyn iddo gychwyn ar ei daith, nos fory."
"Dyma dy gyfle. Tyrd i mewn i'r cerbyd yma yn ddiymdroi, a chei dy ddymuniad."
Y funud nesaf yr oedd Bob yn y cerbyd clyd, ac yn cael ei gludo gan y carw yn gynt nac y gwelsai yr un modur yn mynd erioed. Yr oedd fel pe'n hedeg gan fyned dros fynyddoedd o rew ac eira, a'r lluwch fel cymylau o'u cwmpas. Yr oedd yn mynd yn rhy gyflym i Bob allu meddwl o gwbl. Nis gallai ond yn unig syllu o'i flaen. A syllu y bu am amser maith, hyd nes y daethant at fur llydan, uchel, o eira a rhew. Yr oedd y mur mor uchel fel nad oedd modd gweled a amgylchynai rywbeth, ac os y gwnai, pa beth ydoedd. Ond wedi gyrru o gwmpas y mur am beth amser, deuent at borth eang, ac heb arafu o gwbl, â'r cerbyd i mewn drwyddo gan sefyll yn sydyn o fewn rhyw ddwy lath i'r ochr arall iddo, ac o fewn rhyw ddeg llath i gastell mawr, a thyrau uchel arno. Castell wedi ei wneud er syndod i Bob, o galonnau, calonnau bach a chalonnau mawr, ond yr oll ohonynt wedi eu gwneud o aur. Ac er fod Bob, fel y sylwyd, yn synnu ato, cafodd wrth sylwi arno destun i fwy o syndod. Nid oedd y castell wedi ei orffen; yr oedd yn llawn o fylchau. Tra yn rhyfeddu at hyn, dacw Santa Clôs yn dod yn araf drwy un o byrth y castell ac yn nesu ato. Nid oedd modd ei gamgymeryd, yr oedd yn hynod o debyg i aml i ddarlun a welsai Bob ohono, ond yn unig ei fod yn cerdded yn syth, am nad oedd yr un sach ar ei gefn, ac ni theimlai yr un iâs o'i arswyd, yr oedd golwg mor garedig a chamaidd arno. Ac wedi iddo ofyn yn dyner iddo,—"Beth yw dy neges, machgen i?"
Atebodd yntau:
"'Rwyf wedi dod yma i ofyn wnewch chwi roi rhywbeth yn hosan Benni Pen y Stryd nos yfory?" Heb ateb gair iddo y mae Santa Clôs yn estyn ei law ac yn ei helpu allan o'r cerbyd, ac yna yn ei arwain yn araf o gwmpas y castell, a Bob yn cael testun ar ôl testun i'w edmygu yn yr adeilad gwych, ond er y cwbl yn methu'n lân â pheidio gresynu a theimlo'n brudd wrth weled yr holl fylchau yn y castell. Ac wedi iddynt ddod yn ôl i'r fan lle y cychwynasant, ebai Santa Clôs wrtho:
"Beth wyt yn feddwl o fy nghartref?"
"Mae'n ardderchog," ebai Bob, "ond piti fod yna gymaint o fylchau ynddo."
"A wyt ti wedi sylwi beth yw ei ddefnydd?" "Do, calonnau bach a mawr."
"Hoffet ti gael rhoi calon i lenwi un o'r bylchau?"
"Hoffwn yn fawr iawn."
"Wel, dyma fi'n rhoi cynnig teg i ti. Fe glywais i fod gen ti swllt yn dy 'Gadw-mi-gei' gartref at gael pêl droed. A ydyw hynna yn wir?"
"Ydyw," ebai Bob, gan synnu wrtho ei hunan fod Santa Clôs yn gwybod cymaint o'i hanes.
"O'r goreu. Os wyt ti yn foddlon rhoi y swllt i dy fam a gofyn iddi ei anfon i mi, mi ofala inna fod yna galon yn cael ei rhoi yn un o'r bylchau a bod Benni Pen y Stryd yn cael rhywbeth yn ei hosan nos Nadolig."
"'Rydw i'n foddlon iawn," ebai Bob. "Mi rof y swllt i mam pen bore fory i'w anfon i chwi, a byddaf yn siwr o fynd i ddweyd wrth Benni am hongian ei hosan."
"Ie, ond paid a dweyd dim arall wrtho. Paid a sôn am yr hyn wyt wedi ei weled a'i glywed yma."
Addawodd Bob wneud fel yr oedd Santa Clôs yn dymuno, ac yna, gan ei ddilyn, y mae'n myned at y cerbyd ac yn cael ei gynorthwyo ganddo i mewn iddo, ac meddai Santa Clôs, wedi i Bob ddiolch iddo am ei garedigrwydd yn dangos ei gastell iddo,—"'Rwyf yn disgwyl, pan y cei ddod eto, y bydd llawer o'r bylchau wedi eu cau, a phan y bydd pob bwlch yn llawn, ni fydd raid i'r un plentyn hongian ei hosan yn ofer."
Cyn i Bob gael hamdden i wneud un sylw o hyn, cafodd y gyrwr amnaid gan Santa Clôs, a throdd ben y carw, a gyrrodd gyda chyflymder digyffelyb drwy y porth, ac wedi iddo amgylchynu rhan helaeth o'r mur, cyfeiriodd y cerbyd at gartref Bob, a chan mor gyflym yr elai, y mae'n ei gyrraedd ymhen ychydig iawn o amser. Fel ar y dechreu, safodd y cerbyd o flaen ffenestr y llofft, ac yn bur ddiymdroi aeth Bob allan ohono, ac i mewn i'r ystafell ac yn syth i'w wely, a chysgodd yn dawel hyd y bore. Pan ddeffrodd yr oedd ei anturiaeth yn ystod y nos yn fyw iawn yn ei gof, ond rhywsut nid oedd yn gallu sylweddoli nemawr ddim arni, ond ei fod wedi addaw rhoi y swllt oedd yn ei "Gadw-mi-gei" i'w fam i'w anfon i Santa Clôs, ac heb oedi munud wedi codi, y mae'n cyflawni ei addewid, gan sicrhau ei fam os byddai iddi wneud fel yr oedd ef wedi addaw, y cawsai Benni Pen y Stryd anrheg yn ei hosan fore'r Nadolig. Nid oedd raid iddo ond prin ofyn i'w fam nad oedd yn barod i wneud ei gais, ond cafodd gryn waith i berswadio Benni addaw hongian ei hosan, a diameu na fuasai wedi llwyddo onibai i fam Benni hefyd bwyso arno i wneud yr hyn geisiai Bob. "Gwna am y tro yma," meddai, "i blesio Bob."
"O'r goreu," ebai Benni, "mi wna i am y tro yma."
Ni fu Bob erioed mor awyddus am weled bore Nadolig a'r tro hwn. Ac er mor falch ydoedd o'i hosan lawn ei hunan, gynted ag y cafodd ei frecwast, y mae'n rhedeg i gartref Benni, a'i bryder yn fawr. Yr oedd rhywbeth yn mynnu sibrwd yn ei feddwl. "Beth pe bai Benni wedi ei siomi?" Ond fel yr elai i fyny y llwybr at y tŷ, taenai gwên hapus dros ei wyneb wrth glywed Benni yn chwerthin, ac hefyd wrth glywed rhyw sŵn arall a adwaenai yn dda yn llenwi'r ystafell. Aeth i mewn ar ei union drwy y drws agored i'r gegin, a dyna lle 'roedd Benni yn eistedd ar y _mat_ o flaen y tân, a motor car yn mynd fel y gwynt o gwmpas y llawr, a'i fam yn mwynhau edrych arno bron gymaint ag yntau.
"Sbia," ebai, pan welodd Bob, "dyma i ti fotor da ges i gen Santa Clôs, y mae'n dda gen i 'rwan mod i wedi hongian fy hosan, a mi ges afal ac oren a hances poced."
"Reit dda, wir," ebai Bob, ac wedi edmygu y motor i'r eithaf, y mae'n gwahodd Benni i weled yr hyn a gafodd yntau yn ei hosan, ac yna yn prysuro gartref, gan deimlo ei lawenydd wedi dyblu gan y ffaith fod Santa Clôs wedi cofio Benni hefyd, a bod ganddo yntau rhyw ran mewn rhoddi achos i Benni i lawenhau.