Drych y Prif Oesoedd 1884/Rhan I Pennod III
← Rhan I Pennod II | Drych y Prif Oesoedd 1884 gan Theophilus Evans golygwyd gan William Spurrell |
Rhan I Pennod IV → |
PENNOD III.
Y RHYFEL A FU RHWNG Y BRYTANIAID A'R BOBL A ELWID Y FFICHTIAID, NEU Y BRITHWYR.
NID yw'r dysgedig ddim wedi cwbl gyduno arno o blegid cyffgenedl neu ach pobl y Ffitchiaid, y rhai a elwid felly o'r gair Lladin Picti, am eu bod yn britho eu crwyn ag amryw luniau, yn enwedig â math o liw glas; ond eu henw yn Gymraeg yn ddilys ddigon yw y Brithwyr; ac felly y galwaf fi hwy yn yr ymadrodd a ganlyn.
Tybia rhai gwŷr diweddar mai Brytaniaid gwylltion anfoesol oeddent, neu yn hytrach y cyfryw rai dewrion, y tu hwnt i Wal Sefer yn y Gogledd, nad ymostyngent ar un cyfrif dan iau y Rhufeiniaid, a bod yn gaethweision dan eu llywodraeth.[1] Ond yn ol yr hen hanesion, pobl grwydredig bellenig oeddent o Sythia, y rhai a diriasant o gylch y flwyddyn 75 ym Mrydain, dan Rodri eu pen capten, wedi eu gyru gan y newyn o'u gwlad eu hun. Ac am y mynai Rhodri a'i wŷr aros yma heb ofyn cenad, heb ddangos dim cydnabyddiaeth, na thâl, na diolch, yna Meurig, un o freninoedd y Brytaniaid, a alwodd yng nghyd ei lu i wybod beth a allai nerth arfau wneuthur. Ar yr ymgyrch cyntaf, pan oedd y fyddin flaen yn dwys ergydio eu saethau, Rhodri a laddwyd yng nghyd â hanner ei lu; ac er coffadwriaeth o hyny, o oes bwy gilydd, y parodd Meurig, Brenin y Brytaniaid, argraffu ar lech y ddau air hyn, “Buddugoliaeth Meurig." Ar hyny y deisyfodd hanner arall y llu ammodau heddwch gan y Brytaniaid; ac ar eu gwaith yn taflu lawr eu harfau ac yn ymostwng, y caniataodd y brenin eu hoedl iddynt, ac a adawodd iddynt gyfanneddu mewn cwr o Scotland, neu Iscoed Celyddon, ym mhell tua'r gogledd. Ac yn gymmaint nad oedd deilwng gan y Brytaniaid roddi eu merched yn wragedd hwy i'r fath ddynion dreigl a'r rhai hyn, yr aeth y Brithwyr hyd yn Iwerddon, ac a gymmerasant y Gwyddelesau yn wragedd iddynt; ac o'r cyfathrach hwnw y tyfodd y fath gyfeillgarwch rhwng y Brithwyr a'r Gwyddelod, fel y buont yn wastadol megys elin ac arddwrn byth wedyn. Ac y mae eu hepil (hyd y dydd heddyw yn siarad Gwyddelaeg) yn byw eto o fewn Brydain Fawr, tuag eithaf gwr y gogledd. Y bobl hyn oeddent fyth yn cynnal yr hen ddefod o fritho eu crwyn ag amryw luniau o adar, seirff, a bwystfilod; dyna oedd eu gwychder hwy; ac o achos hyny a gyfenwyd y Picti, neu y Brithwyr, megys y mae llaweroedd o bobl yr India fyth yn ymdecäu.[2] Heb law fod yr hen hanesion, [3] ac amryw hefyd o'r pen ddysgedigion diweddar,[4] yn maentumio mai pobl dreigl o bell oedd y Brithwyr, mi a feddyliais o hyd mai pobl bellenig oeddent, wrth y ddefod nodedig hon oedd yn eu chwareuyddiaeth, sydd ganddynt mewn amryw fanau o Gymru, yn enwedig ar lan Teifi yn Neheubarth. Canys yn y gamp y maent yn ymranu yn ddwy blaid, dan enw Brithwyr ac Henwyr, y naill yn erbyn y llall. Yr Henwyr yw yr holl rai o'r pedwar enw cynnefin, Ifan, Dafydd, Sion, a Siencyn; a'r Brithwyr yw pawb yn ddiwahân o un enw arall pa un bynag; ac yn fynychaf y mae yr Henwyr, er ond o bedwar enw, yn ennill y maes. Yn awr, wrth Henwyr y meddylir, yn ddilys, yr hen drigolion cyntaf; ac felly y Brithwyr ynt estroniaid a phobl dyfod.
Gan hyny, o gylch y flwyddyn 75, y tiriodd y Brithwyr gyntaf ym Mrydain, y rhai, er iddynt gyfathrachu a'r Gwyddelod, a gadwasant er hyny yn bobl wahân dros rai cantoedd o flynyddoedd; ac ni wyddys eto yn ddilys ddigon, pa un ai eu lladd a gawsant mewn rhyfel, neu fyned yn un bobl â'r Gwyddelod a wnaethant yn y diwedd; canys nid oes son am danynt mewn hanesion er ys wyth cant a hanner o flynyddoedd a aethant heibio [1740].
Hyd y gwyddom ni amgen, fe allasai y rhai hyn fod yn bobl led brydferth a llonydd ar y cyntaf; canys nid oes dim hanes am ddim afreolaeth a therfysg a wnaethant dros agos i dri chant o flynyddoedd ar ol iddynt gael cenad i wladychu yma. Megys aderyn gwyllt pan dorer ei esgyll, a fydd yn dychlamu ac yn selgyngian o gylch ty gydag un dof; ond pan dyfant drachefn, efe a ddengys o ba anian y mae; felly y Brithwyr hwythau, ar ol iddynt ymgryfhau, ond yn enwedigol ar ol iddynt gyfeillachu â'r Seison a'r Ffrancod (pobl ag oedd yn byw ar ledrad ac anrhaith y pryd hwnw), rhuthro a wnaethant ar eu hen feistraid, y Brytaniaid, a'u llarpio mor ddidrugaredd ag y llarpia haid o eryrod ddiadell o ŵyn. Ond nid oedd hyn ond ar uchaf ddamwain, pan y byddai cyfle, a llu y Brytaniaid ar wasgar, neu yn bell oddi wrthynt; ond er cynted ag y clywent drwst y saethyddion, hwy a gilient o nerth traed i'r mynydd-dir a'r diffeithwch, tu hwnt i Wal Sefer; megys corgi yn ymddantu â march rhygyngog, os dygwydd iddo gael cernod, yna efe a brysura yn llaes ei gynffon tuag adref. Chwi a glywsoch yn y bennod o'r blaen modd y cododd gan mwyaf holl lu a ieuenctyd y Brytaniaid gyda Macsen Wledig tuag at ei wneuthur yn ben ymherawdr byd; ac hefyd fel y darfu i Falentinian a Grasian roddi llongau ac arfau, ac arian, i bobl Sythia, a'u danfon i Frydain, a'u hannog i wneuthur pa ddrygau oedd bosibl, gan hyderu y dychwelai Macsen Wledig ar hyny adref i achub ei wlad ei hun; ac er eu bod yn llu cadarn o honynt eu hunain; eto, rhag na buasai hyny ddigon, gwahoddasant y Seison a'r Ffrancod i fod yn gynnorthwy iddynt, fel y gallent, o byddai bosibl, lwyr ddyfetha cenedl Ꭹ Brytaniaid, a rhanu'r wlad rhyngddynt. Yn awr, dyma'r amser, sef o gylch y flwyddyn 386, ac o hyny allan, y teimlodd ein hynafiaid hyd adref bwys digofaint y Goruchaf am eu hannïolchgarwch yn ei erbyn. Canys dyma bedair cenedl ysgymmun a ffyrnig, y Seison, y Ffrancod, y Brithwyr, y Gwyddelod, wedi cyfrinachu i dywallt gwaed a difrodi, digrifwch y rhai oedd poenydio, rhwygo, a llosgi dynion; a chyn belled o ddim tosturi a theimlad, fel mai'r gerdd felusaf ganddynt a fyddai clywed ocheneidiau a griddfan y lladdedig; "Eu bwäu a ddrylliodd ein gwŷr iefaine, wrth ffrwyth bru ni thosturiasant: eu llygaid nid eirchiasant y rhai bach.' Pan oedd pedair cenedl annhrugarog (wedi eu meithrin i dywallt gwaed o'u mebyd) yn ymryson pwy fyddai gïeiddiaf i boenydio dynion, megys pedair arthes wancus yn ymgrafangu wrth ddifa carw, pa dafod a all fynegu y galanasdra a wnaethant? ond yn anad dim, pan nad oedd yn y wlad ond prin wr wedi ei adael i daro ergyd yn eu herbyn? Y dinasoedd caerog, yn wir, a ymgadwasant heb nemawr o daraw, ond y mân drefydd oeddent megys cynnifer goddaith yn fflamio hyd entrych awyr, a'r trigolion druain yn rhostio yn fyw yn eu canol, tra yr oedd y Brithwyr hwythau a'u cyfeillion (plant annwn) yn agor eu safnau cythreulig o grechwen.
Yn y cyfamser, nid oedd Macsen Wledig ddim yn anysbys o gyflwr gresynol ei wlad; ac er cynddrwg dyn y bernir ef gan rai, eto ar hyn o bryd efe a anfonodd trosodd ddwy leng, hyny yw o gylch pedair mil ar ddeg;[5] ac fe allasai hebgor hyny yn hawdd ar hyn o dro; canys yr oedd efe eto yn Ffrainc, a'r holl deyrnas hono a'i chyffiniau wedi ymddarostwng dan ei lywodraeth.[6] Erioed ni bu llu o wŷr arfog mor gymmeradwy na phan diriodd y llu hwn yn gymhorth cyfamserol i'r Brytaniaid. Y gelynion oeddent o leiaf dri chymmaint o nifer, ac ar hyn o bryd wedi gwasgaru yn finteioedd o fesur pedwar neu bum cant yng nghyd, dros wyneb y deyrnas; a chyn cael odfa na chyfle i ddyfod yng nghyd yn gryno, y rhai o gylch Caint, a Llundain, a chanol Lloegr, a gwympwyd bob yn fintai agos i gyd; ond y rhai o gylch Cymru, ac agos i lan y môr, a ddiangasant yn eu coryglau3[7] i'r Iwerddon.
Eisieu rhagweled pethau mewn amser a fu yn dramgwydd i filoedd; ac yn nyddiau dysglaer, i esgeuluso barotoi rhag dryghin yw rhan yr ynfyd. Ac felly ar hyn o bryd, ar ol cael y trechaf ar eu gelynion, nid oedd yr hen Frytaniaid ysmala hwy yn pryderu rhag un ymgyrch arall; ond diswyddo eu milwyr a wnaethant, megys pè na buasai dim rhaid wrthynt mwyach. Nid oes yn wir ddim hanes neillduol o blegid pa ddrygau a wnaeth y Brithwyr a'u cyfeillion dros rai blynyddoedd ar ol eu herlid y waith hon, oddi eithr eu bod yn lledrata gyr o dda a defaid, a llosgi ambell bentref, yn awr a phryd arall, ac yna chwipyn ar gerdded; megys barcut ar gip yn dwyn cyw, ac yna ymaith gynted ag y gallo. Ond pan gydnabu y Brithwyr fod y Brytaniaid wedi gadael eu cleddyfau i rydu, a bod math o hurtrwydd wedi eu perchenogi, megys rhai yn dylyfu gên rhwng cysgu a pheidio, yna danfon a wnaethant at eu hen gyfeillion, y Ffrancod a'r Seison, a'u gwahawdd trosodd i wneuthur pen ar bobl ddidoraeth a musgrell, nad oeddent dda i ddim ond i dwymno eu crimpau wrth bentan, ac ymlenwi.
Y Brytaniaid yn ddilys ddiammheu ar hyn o amser, oeddent wedi dirywio yn hagr oddi wrth eu gwroldeb gynt; canys yna, ar waith y Brithwyr a'u cyfeillion yn rhuthro arnynt, nid oedd galon yn neb i sefyll yn eu herbyn, mwy nag a all crug 0 ddail ar ben twyn sefyll yn erbyn gwth o wynt. Er lleied o wŷr arfog oedd y pryd hwnw ym Mrydain, eto pe buasent yn galw ar Dduw am ei gymhorth, ac yn ymwroli, byth ni fuasai i fath dreigl ladronach ag oedd eu gelynion yn awr yn eu sathru mor ddidaro, ac heb godi llaw yn eu herbyn; ond hwynt-hwy digaloni a wnaethant, ac yn lle arfogi eu hieuenctyd, a'u hannog i hogi eu cleddyfau, a anfonasant lythyr cwynfanus at eu hen feistraid, y Rhufeiniaid, yn taer ymbil am gymhorth i yru y barbariaid allan o'u gwlad. Prin y gallasent ddysgwyl y fath ffafr y pryd hwnw, am fod mwy na gwaith gan y Rhufeiniaid gartref, ac hefyd yn eu cof yn ddigon da wrthryfel Macsen Wledig; eto yr ymherawdr a dosturiodd wrthynt, ac a ddanfonodd leng o wŷr dewisol, h.y., o gylch saith mil, neu medd ereill, 6666. Cyn gynted ag y tiriasant, y chwedl a aeth allan (a chwedl a gynnydda fel caseg eira) fod yma bump lleng wedi dyfod;[8] ac ar hyny y Brithwyr y rhai oeddent yn anrheithio canol y wlad a ffoisant ymaith y tu hwnt i Wal Sefer, i'r anialwch, ac i'r Iwerddon; ond y rhai o gylch Llundain a glan Tafwysg[9] a wanwyd â chleddyf y Rhufeiniaid. O gylch oedran Crist 418 Ꭹ bu hyny.
Ac yno y Rhufeiniaid, fel cynghorwyr da yn ysbysu pethau buddiol er diogelwch y deyrnas, a annogasant y Brytaniaid i adgyweirio bylchau ac adwyau Gwal Sefer, gan hyderu y byddai hyny yn beth rhwystr ar ffordd eu gelynion ciaidd rhag eu merthyru. Ac yn ddiammheu hi fuasai yn amddiffynfa gadarn pe ei gwneuthid fel gwal caer o galch a cheryg; ond nid oedd hon ddim ond gwal bridd,[10] o fôr i fôr, ag ambell dŵr neu gastell yma ac acw, ac felly ond ychydig lesâd i'r hen Frytaniaid rhag rhuthrau eu gelynion. Canys prin oedd y Rhufeiniaid wedi dychwelyd adref i'r Ital, ond wele y Brithwyr yng nghyd â'r Gwyddelod, yn tirio drachefn o'u coryglau yn aberoedd y gogledd o'r Iwerddon, ac yn difrodi y waith hon, pe byddai bosibl, yn fwy llidus nag o'r blaen. Torasant fylchau yn y clawdd, lladdasant y ceidwaid, llosgasant y trefydd, bwytasant yr anifeiliaid ond odid yn ammrwd yn eu gwanc a'u cythlwng; megys pan fo cnud o fleiddiaid, wedi eu gyru yn gynddeiriog gan newyn, yn rhuthro i ddiadell o ddefaid, yna pa alanasdra a fydd ym mysg y werin wirion hòno! a'r hon a fo mor ddedwydd a diane fydd a'i chalon o hyd yn ysboncio, ac yn tybied fod blaidd ar ei gwar, os bydd ond dalen yn cyffro mewn perth; felly y Brithwyr hwythau (y rhai, ebe Gildas, oeddent ddynion blewog, cethin, ac ofnadwy, a go debyg i Nebucodonosor, ar ol ei droi ar lun anifail) oeddent genedlaeth annhrugarog a chreulawn, digrifwch y rhai oedd lladd a dyfetha, megys y teimlodd y Brytaniaid y waith hon, ac amryw brydiau ereill hyd adref; a'r rhai a ddiangasant i ogofeydd a'r anialwch oeddent o hyd yn eu hofn, rhag i'r Brithwyr ddyfod am eu penau, a'u taro bob mab gwraig yn ei dalcen yn ddisymmwth. Nid oes dim crybwyll fod y Ffrancod a'r Seison y waith hon gyda'u hen gyfeillion; mae yn debygol mai arnynt hwy y disgynodd dyrnod y Rhufeiniaid drymaf, gan eu bod hwy yn cadw tua'r dwyrain, y lle y tiriasant gyntaf, o gylch Caint a glan Tafwysg.
Y fath oedd lleithder a meddalwch y Brytaniaid o hyd, fel y goddefasant eu herlid i dyllau, a newynu, yn hytrach na chymmeryd calon ac ymwroli; ond ar hyny, y penaethiaid a ymgyfarfuant, ac, ar ddewis chwedl neb, nid oedd dim i wneuthur ond anfon cenadwri eto at eu hen feistraid i Rufain, i ddeisyf cymhorth, a chynnyg y wlad dan eu llywodraeth: sef oedd enwau y gwŷr a ddanfonwyd Peryf ab Cadifor, a Gronw Ddu ab Einon Lygliw. Prin iawn yn wir y gallasent ddysgwyl gael eu neges y tro hwn yn anad un pryd arall, gan fod y Rhufeiniaid â'u dwylaw yn llawn gartref, a'r ffordd yn faith i Ynys Brydain; eto, trwy fawr ymbil, tycio a wnaethant; a chawsant leng o wŷr arfog gyda hwy drachefn i dir eu gwlad: a chwedi cael y fath gefn, y Brytaniaid yno a ymchwelasant ar eu gelynion, a thrwy borth y Rhufeiniaid a wnaethant laddfa gethin yn eu mysg: ond Dyfodog, pen y gâd, a ddiangodd yng nghyd â dwy fil a phum cant o wŷr gydag ef i'r Iwerddon. O gylch y flwyddyn o oedran Crist 420 y bu hyn.
Mae yn ddilys fod y Brytaniaid ar hyn o amser, yn weinion eu gwala, pan y gallasai un lleng fod er cymmaint o wasanaeth iddynt; a'r achosion o hyny ynt—1. Am fod y Rhufeiniaid, o amser bwygilydd tra fuont hwy yn rheoli yma, yn arllwys y deyrnas o'i gwŷr iefainc, ac yn eu cipio y tu draw i'r môr i ymladd drostynt mewn gwledydd pellenig. 2. Am i'r rhan fwyaf o'r ieuenctyd a gwŷr arfog, y rhai a adawyd yn y wlad, fyned ar ol Macsen Wledig i Ffrainc ac i'r Ital, y rhai ni ddychwelasant fyth i Frydain; megys yr aeth llu mawr hefyd gyda Chystenyn, gan fwriadu ei wneuthur yntef yn ymherawdr, fel y darllenasoch eisys. 3. Am fod i'r ieuenctyd ag oedd y pryd hwn ym Mrydain heb eu haddysgu i ryfela; ac ni wna gwr dewr heb fedr ond sawdiwr trwsgl. Dyma ba ham yr oedd y Brytaniaid mor llesg ar hyn o bryd, y rhai oddi eithr hyny, oeddent mor fedrus i drin arfau rhyfel, ac hefyd mor galonog ag ond odid un genedl arall dan wyneb yr haul. A hynod yw yr enw y mae Harri yr Ail, Brenin Lloegr, yn adrodd am danynt mewn llythyr a ddanfonodd efe at Emanuel, Ymherawdr Constantinopl. "Y mae," eb efe, "o fewn cwr o Ynys Brydain, bobl a elwir y Cymry, y rhai sy mor galonog i amddiffyn eu hawl a braint eu gwlad, megys ac y beiddant yn hyderus ddigon, ymladd law-law, heb ddim ond y dwrn moel, â gwŷr arfog â gwaewffon, a tharian, a chleddyf."[11] Ond i ddychwelyd.
Nid oedd bosibl i'r Rhufeiniaid gymmeryd y fath ymdeithiau peryglus hirfaith cyn fynyched ag y byddai eu rhaid wrthynt ym Mrydain; felly, hwy a gynghorasant benaethiaid a chyffredin i fod yn wrol o chalonog i amddiffyn eu gwlad rhag gwibiaid disberod, nad oeddent mewn un modd yn drech na hwy, pe bwrient ymaith eu musgrellni a'u meddalwch. Ac yna, heb law addysgu eu hieuenctyd y ffordd i ryfela, a byddino llu yn drefnus, yn lle yr hen wal bridd, rhoisant fenthyg eu dwylaw yn gariadus i'r trigolion tuag at wneuthur gwal geryg[12] deuddeg troedfedd o uchder, ac wyth o led, ac a adeilasant amryw gestyll ychwaneg nad oedd o'r blaen. Yr oedd cymmaint o dir rhwng un castell a'r llall ag y clywid cloch o un bwygilydd.[13] Eu hamcan yn hyny o beth oedd, os y gelynion a dirient, i ganu cloch y castell fyddai nesaf at y porthladd, fel y clywai yr un nesaf ato yntef, ac i hwnw ddeffro un arall, ac felly o'r naill i'r llall fyned y newydd ar unwaith drwy yr holl wlad, i'w rhybuddio i barotoi yn erbyn y gelynion. Ac ar ol gorphen pob peth, y danfonwyd gwŷs i holl randiroedd Cymru a Lloegr i erchi y pendefigion i Lundain rai dyddiau cyn ymadawiad y Rhufeiniaid adref; a gwedi eu dyfod, Cyhelyn, yr archesgob, a bregethodd yn y wedd hon:—"Arglwyddi," eb efe, "archwyd i mi bregethu i chwi; ys mwy y'm cymhellir i wylo nag i bregethu, rhag truaned yr ymddifeidu a ddamweiniodd i chwi wedi ysbeilio o Facsen Wledig Ynys Brydain o'i marchogion a'i hymladdwyr; ac a ddengys o honoch chwi, pobl anghyfrwys ydych ar ymladd, namyn eich bod yn arferedig i ddiwyllo daear yn fwy na dysgu ymladd. A phan ddaeth eich gelynion am eich penau, y'ch cymhellasant ar ffo megys defaid heb fugail arnynt, gan na fynasoch ddysgu ymladd. Ac wrth hyny pa hyd y ceisiwch bod gwŷr Rhufain yn un â chwi, ac yr ymddiriedwch ynddynt rhag yr estron-genedl ni bo ddewrach na chwi, pe ni atech i lesgedd eich gorfod? Adnabyddwch fod gwŷr Rhufain yn blino rhagoch, a bod yn edifar ganddynt y gynnifer hynt a gymmerasant ar fôr ac ar dir drosoch yn wastad yn ymladd; ac y maent yn dewis maddeu eu teyrnged i chwi weithian, rhag dyoddef y llafur cyfryw a hwnw drosoch bellach. Pe byddech chwi yr amser y bu y marchogion yn Ynys Brydain, beth a debygech chwi? A ffodd dynol anian oddi wrthych? Ni thebygaf fi golli o honynt eu dynol anian er hyny. Ac wrth hyny gwnewch megys y dylai dynion wneuthur. Gelwch ar Grist hyd pan roddo efe lewder i chwi a rhydd-did."[14] Ac yna brysio a wnaeth y Rhufeiniaid tuag adref i'r Ital; a dywedasant wrth y Brytaniaid i ymwroli os mynent; ac onid e, arnynt hwy y disgynai pwys y gofid; canys ni wrandewid eu cwyn mwyach yn Rhufain.
Dros o gylch tair blynedd y bu tawelwch yn y deyrnas ar ol hyn; canys rhwng bod y Brytaniaid ryw ychydig yn awr ar eu dysgwylfa a'u llygaid yn effro, a rhag ofn fod gwŷr Rhufain wedi cymmeryd y wlad dan eu hymgeledd, y Gwyddel gyflachog, a'r Brithwr blewog yntef, a arosasant yn llonydd yn yr Iwerddon a'r ynysoedd o amgylch. Ond ym mhen ychydig amser, sef o bobtu'r flwyddyn 425, y tiriasant drachefn yn Ynys Fon, a'r Seison hwythau[15] (megys cynnifer barcutan yn gwibio am ysglyfaeth) a heidiasant o gylch yr un pryd o ddeutu Caint a'r wlad o amgylch; a rhwng y naill a'r llall, mae yn hawdd i un dyn farnu pa gyflafan a thywallt gwaed oedd agos dros wyneb y deyrnas, ond yn anad un lle tua Llundain a Gwynedd. Yr oedd gwaith y barbariaid hyn yn difrodi yn ddilys yn farnedigaeth drom; ond drwg fuchedd yr hen Frytaniaid a haeddai ychwaneg eto. Canys o gylch yr amser hwn, y tramwyodd i Frydain, heresi Morgan,[16] nid ganddo ef ei hun, o blegid ei fod efe y pryd yma tua Chaersalem, ond gan rai o'i ddysgyblion; a hi a bregethwyd yn ddirgel mewn teios, ac a ddadymchwelodd ffydd aneirif o'r werin anwastad, y rhai ni sefydlwyd yn egwyddorion crefydd. Ergyd ei athrawiaeth oedd, "gan i Iesu Grist foddloni cyfiawnder Duw dros bechod dyn, y gallai pob Cristion foddhau Duw, a bod yn gadwedig, heb nerth ei ras ef." Ac yma, mae yn debygol nad oedd Brytaniaid yr oes hòno ddim hyddysgach yn yr Ysgrythyrau, nag oeddent i drin arfau rhyfel; canys fel y danfonasant o'r blaen i'r Ital am borth yn erbyn eu gelynion y Brithwyr, felly hefyd yn awr yr anfonasant at eu cymmydogion yn Ffrainc,[17] i ddeisyf cymhorth eu gwŷr dysgedig i wrthbrofi heresi Morgan. Ar hyny daeth drosodd ddau esgob rhagorol, sef Garmon a Lupus, y rhai, drwy awdurdod yr Ysgrythyr, tystiolaeth y brif Eglwys, a chadarn resymau difynyddiaeth, a amddiffynasant mor wrol y ffydd gatholic, fel y cydnabu pawb fod Duw gyda hwy; er cywilydd a gwarth i'r gwrthwynebwyr, a chysur tra mawr i'r iawnffyddiog.
Ond y gelynion, y Brithwyr, y Gwyddelod, a'r Seison oedd o hyd yn y wlad yn difa ac yn difrodi mewn rhyw gwr neu gilydd yn wastadol. Yr oedd cad ar faes gan y Brytaniaid hwythau, eto yn ofnus a meddal galon, yr hyn pan gydnabu Garmon a Lupus, hwy a ddywedasant, "Na feddalhäed eich calon, na synwch, ac na ddychrynwch rhag eich gelynion; nyni a fyddwn yn flaenoriaid i chwi, a'n porth sydd yn y Duw byw, Arglwydd y lluoedd." Ac yna, wedi cael ysbysrwydd am gyrchymdaith y gelynion, yr esgobion a roisant orchymmyn i'r fyddin am orwedd mewn dyffryn coediog, ac na syflent oddi yno hyd oni ddelai y gelynion heibio; a pheth bynag a welent hwy hwynt—hwy yn ei wneuthur, gwnelent hwythau yr un modd. Ac ym mhen ennyd fechan, wele y Brithwyr, &c., yn troedio drwy'r dyffryn; a chododd y ddau esgob ar eu traed, ac a waeddasant, "Haleliwia! haleliwia! haleliwia!" Ac ar hyny, dyma'r sawdwyr i gyd un ac arall, yn neidio yn chwipyn ar eu traed, gan lefain o nerth pen, "Haleliwia!" &c., gyda'r fath floedd, nes oedd y dyffryn yn dadseinio oll: a dododd hyny y fath arswyd a braw yn y Brithwyr, megys ag yr aethant oll ar ffo, a boddodd llawer iawn o honynt wrth eu gwaith yn brysio drwy Alan, afon ag sydd yn ffrydio drwy'r dyffryn.[18] Dygwyddodd y frwydr hon ryw ychydig ar ol gwyl y Pasc, o gylch y flwyddyn 427, yn agos i Wyddgrug, yn rhandir Fflint: a'r lle hwnw a elwir Maes Garmon hyd heddyw.
Ar ol hyn, peidiodd hyfder y Brithwyr a'r gwibiaid ysgeler ereill dros ennyd. Canys cyhŷd ag y bu y Brytaniaid yn ofni Duw ac yn cilio oddi wrth ddrygioni, cyhŷd ag hyny yr arosodd y gelynion gartref; ond pan ddechreuasant anghofio Duw a'i addoliad, yna y gelynion hwythau a barotoisant i ymweled â hwy drachefn. Er fod y Brytaniaid gan mwyaf yn Gristionogion, eto, gan mwyaf, Cristionogion drwg fucheddol oeddent. Tra y bu Garmon a Lupus gyda hwy, yr oeddent yn ddynion crefyddol, neu o'r hyn lleiaf yn ymddangos felly; ond ar ol ymadawiad y ddau wr duwiol, yna y llaesodd eu sel at grefydd ac a ddechreuasant gellwair a chrechwenu, ac o fesur cam a cham i ymroddi i bob ofergamp a maswedd, nes llwyr anghofio eu gorthrymderau gynt; ac ym mhen talm o amser, syrthiasant, frodor a pheriglor, boneddig a gwreng, i bob math o ysgelerder a drygioni, cyfeddach a meddwdod, godineb ac anniweirdeb, cybydd—dod ac ocraeth, cenfigen a chas, gyda phob diystyr ac ammharch ar orchymmynion Duw, ag a ydyw natur lygredig dyn yn dueddol iddynt. "Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir." (Jer. v. 30.) Felly nid yw rhyfeddi farnedigaethau'r Goruchaf, sef rhyfel, haint, a newyn, ymweled â hwynt. "Oni ymwelaf am y peth hyn? medd yr Arglwydd; oni ddïal fy enaid ar gyfryw genedl a hon?" (Jer. v. 29.) Wele y Brithwyr yng nghyd â'r Gwyddelod, yn llu cethin arfog, yn tirio eto, yn lladd ac yn llosgi mor ddidrugaredd a chynnifer cethern o waelod uffern. A chan ystyried gyhŷd o amser y buont yn gormeilio o'r naill gwr i'r llall dros wyneb y deyrnas, prin y gall synwyr dyn amgyffred, na thafod dewin fynegu, pa gyflafan, ac anrhaith, a dinystr, a wnaethant; canys hwy a fuont ysbaid deng mlynedd yn gwanu y trigolion meddal, heb arbed na phlentyn sugno, na gwraig, nac henafgwr; ond y rhan fwyaf a ymadawsant â'u dinasoedd a'u tai annedd, a myned ar encil i'r diffaethwch, a hyny yn gystal i geisio nawdd a diogelwch y creigydd, ag i gael rhyw ymborth, er ei saled, i dori cythlwng a chwant bwyd. Ac yn yr anialwch nid oedd dim i'w gael ond ambell fwystfil ac aderyn, gwraidd coed, a grawn surion yn eu hamser; ond nid oedd ar hyn o bryd ddim gwell ammeuthyn gan y rhan fwyaf o'r Brytaniaid.[19] Dyma a ddaw o ymddigrifwch mewn pechod, ac ymwrthod â Duw a'i sanctaidd gyfreithiau.
"Pechod yw gwaelod galar—echrydus
Ac ochain a charchar;
Cafod o boen, gofid bâr,
Dial Duw, diluw daiar.
"Hir adwyth, a mwyth, a meithder o ddig
Ddaw o ysgelerder;
Gwna gaerau'n garneddau gwer,
A bro naid oll yn brinder."
Ond o'r diwedd, wedi goddef hir gystudd, gorthrymder, newyn, ac oerfel, eu cynghor oedd i anfon un genadwri eto at eu hen feistraid y Rhufeiniaid, i edrych os ar antur a drugarheid wrthynt. Ac a hyny, o gylch y flwyddyn 446, ysgrifenwyd llythyr gydag Ednyfed ab Gwalchmai, at Esius, rhaglaw dan yr ymherawdr yn Ffrainc, yn y geiriau galarus hyn:"Griddfan y Brytaniaid at Esius y tair—gwaith uchelfaer. Y barbariaid a'n gwthiant i'r môr, a'r môr yn ein gyru yn ol at y barbariaid; a rhwng y naill a'r llall, nid oes dim cyfrwng ond naill ai cael ein lladd neu foddi." Nid yw hyn ond darn o'r llythyr,[20] ond hyn yw'r cwbl sydd genym ni wedi ei gadw: ac oddi wrth yr ychydig yma, mae yn hawdd i farnu ym mha gyflwr tosturus a gresynol yr oedd y Brytaniaid ynddo ar hyn o bryd. Ond er hyny ni allodd y Rhufeiniaid ond dymuno yn dda iddynt; a phrin oedd hi bosibl iddynt eu cynnorthwyo chwaneg, am fod yr ymherodraeth yn llawn terfysg a gwrthryfel ym mhob man; megys hen balas mawr wedi adfeilio, a phob cymmal yn siglo, a'r trawstiau oll yn ysboncio ar uchaf awel o wynt rhyferthwy.
Yn y cyfamser yr oedd y newyn yn dost ym Mrydain; canys heb law fod y Brithwyr, fel llwynogod Samson, yn llosgi'r ydau a phob rhyw luniaeth, oddi eithr yr hyn oedd gyfreidiol iddynt eu hunain; heb law iddynt yru y Brytaniaid ar encil i'r diffaethwch, lle nid allai fod nac âr na medi; heb law hyn, meddaf, yr oedd y blynyddoedd yn oer a gwlybyrog, yn gymmaint ag nad addfedodd yr ychydig a hauwyd. Ond er y gorthrymderau hyn oll—y cleddyf a'r newyn—dynion pechadurus gwargaledion oeddent: rhai aethant yn gaethweision i'r Brithwyr, er cael tamaid o fara yn eu cythlwng; ereill a ddewisasant drengu yn yr ogofäu a chromlechydd y creigiau cyn yr ymostyngent i'r gelynion; ond ychydig iawn a alwasant ar yr Arglwydd eu gwared o'u cyfyngdra a'u cystudd; a phe hyny a wnaethent o galon ddifrifol, ni fuasai raid wrthynt arswydo rhuthr un gelyn, ac byth ni welsent estron—genedl yn trawsfeddiannu eu gwlad; o blegid "tŵr cadarn yw enw yr Arglwydd; ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel."
Ond yno ym mhen talm (ar ol derbyn y wobr ddyledus idd eu pechodau yn y byd hwn) y gwelodd yr Arglwydd yn dda i gyffwrdd â'u calonau; a daethant, fel y mab afradlawn, i bwyll ac ystyriaeth, gan ddychwelyd yn edifeiriol at yr Arglwydd eu Duw. Ac er nad oeddent y pryd hwnw ond ychydig o drueiniaid methedig, wedi eu curo gan yr oerfel a newyn, eto cawsant eu nerthu gan Dduw fel na allodd cad y Brithwyr, er lluosoced oedd, eu gwrthsefyll. Sathrwyd eu byddinoedd, megys pan fo dyn yn ysgythru mân—goed â bilwg: ac er iddynt gael aml borth o wŷr ac arfau allan o'r Iwerddon, eto ni thyciodd iddynt ennill un maes; canys y Brytaniaid oedd â'u hyder yn yr Arglwydd Dduw. Ac ar hyny, Cilamwri Mac Dermot O'Hanlon, ac Huw Mac Brian, ac Efer Mac Mahon (pen capteniaid y Brithwyr a'r Gwyddelod), a ffoisant, hwynt—hwy a'u gwŷr yn archolledig, tu draw i Wal Sefer, i fynydd—dir Isgoed Celyddon, ac ereill dros y môr i'r Iwerddon.[21] Hwyr y tygasai neb y buasai y cyfryw ddynion yn gollwng Duw mor ebrwydd yn anghof: fe debygai dyn y buasent yn ofni Duw 'gyda gwylder a pharchedig ofn," gan ystyried eu bod yn gweled (pe gosodasent hyny at eu calonau) y fath arwyddion mawr a hynod; canys hwy a welsant y dialeddau trymion, y distryw, y newyn, a'r difrod ag oedd o hyd yn eu cydganlyn, tryw, y newyn, a'r difrod ag oedd o hyd yn eu cydganlyn, tra yr oeddent yn ddiareb ym mysg eu cymmydogion am eu dirasrwydd a'u meddalwch. Gwelsant hefyd y bendithion haelionus, y dyddanwch, y breswylfod ddiogel, a gawsant tra yr oeddent yn Gristionogion da, ac yn gwneyd cydwybod o'u dyledswydd at Dduw a dyn. Ond er hyn i gyd, dynion drwg anufudd a gwrthryfelgar oeddent. Wedi iddynt yru ymaith y gelynion, a byw yn llonydd yn eu gwlad, hwy ymosodasant i lafurio'r ddaiar, a chawsant y fath gnwd o yd, a'r fath amlder o ffrwythau y flwyddyn hon, fel na welwyd erioed eu cyffelyb.[22] Ond ym mhen dwy flynedd neu dair, (amser byr!) ar ol iddynt gael preswylfa ddiogel yn eu caerydd a'u cestyll, ac hefyd eu İlenwi o bob danteithion, ammeuthyn fwydydd, ac ail seigiau, hwy a aethant yn hyfach (pe buasai bosibl) i bechu yn erbyn Duw nag y buont erioed. "Iesurun a aeth yn fras, ac a wingodd." (Deut. xxxii. 15.) Eneiniwyd breninoedd, nid y cyfryw a wnaent gydwybod i rodio gyda Duw, ond y sawl oeddent greulonach a melltigedicach nag ereill; a chyn pen ychydig, hwy a leddid gan y sawl a'u heneinodd (nid o achos y gwirionedd), a dewisid rhai creulonach eto yn eu lle.[23] O byddai rhyw neb un yn chwennych byw yn brydferth a llonydd, ac yn "symmud ei droed oddi wrth ddrygoni," hwnw a gaseid gan bawb, a phrin y gellid ammharchu digon arno; ond pa fwyaf ysgeler, diriaid, a diras a fyddai neb, mwyaf i gyd a fyddai parch ac anrhydedd hwnw. Ac nid y gwŷr lleyg yn unig oeddent fel hyn yn ymhyfrydu mewn camwedd, ac yn casau y wybodaeth o Dduw, eithr y gwŷr llên hefyd, neu yr offeiriad, "a ymadawsant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch." (Diar. ii. 13.) Canys yn lle gofalu dros eu diadellau, eu teml hwy a fyddai cegin tafarnau, ac ymdordynu a chanu maswedd;[24] am ba ham y canodd un o'u prydyddion, gan edliw iddynt:—
"Y 'ffeiriaid oent euraid cyn oeri—crefydd;
Cryf oeddent mewn gweddi:
Yn awr meddwdod sy'n codi
'Nifeiliaid yw'n bugeiliaid ni."
Ar fyr eiriau, ni lysodd un gradd, na boneddig na gwreng, na gwŷr llên, na gwŷr lleyg, â dim ysgelerder, a direidi, ac annuwioldeb, ag ydyw natur lygredig dyn yn dueddol iddo. "I'r bobl hyn yr oedd calon wrthnysig anufuddgar; hwynthwy a giliasant ac a aethant ymaith." (Ier. v. 23.) Yng nghanol y gloddest a'r anniweirdeb yma, dyma newydd yn ddisymmwth yn ymdaenu dros y wlad, fod y Brithwyr a'r Gwyddelod wedi tirio. Fe weithiodd hyny, yn wir, ryw gymmaint o fraw ynddynt, ac a wnaeth i'w calonau ysboncio ychydig; megys y gwelwch ddyn yn cilio yn drachwyllt wrth ganfod neidr yn ddiswta yn gwanu ei chonyn, ac yn llamsach mewn perth. Ond hyny o fraw a ä yn ebrwydd heibio; felly yr un modd y Brytaniaid hwythau, wedi cael ysbysrwydd nad oedd y cwbl ond larwm a chwedl gwlad, a aethant yn ebrwydd ar ol eu hen arferion, yn bendifaddeu i ymlenwi ac ymbleidio. Ac ar hyny, gan na chymmerent addysg, yr Arglwydd a anfonodd bla angeuol yn eu mysg, a elwid Brad Cyfarfod, yr hwn a ysgubodd ymaith y fath luaws anfeidrol o bob gradd ac oedran, fel prin y gallodd y byw gladdu'r meirw. "Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, yna y gwna yr Arglwydd dy bläu di yn rhyfedd, sef pläu mawrion a pharhäus, a chlefydau drwg a pharhäus." (Deut. xxviii. 58, 59.) A chyn pen nemawr o amser ar ol hyn, sef ar ol i'r pla laesu ychydig, wele y Brithwyr wedi dyfod yn ddiau ddigon; a rhwng y difrod a wnaeth y pla, a'r gelynion yn llosgi eu trefydd ac yn rhuthro arnynt, a hwy yn weinion ac yn gleifion, y mae yn hawdd i neb farnu pa mor resynol oedd eu cyflyrau. Hyny wnaeth iddynt alw am y Seison, y rhai a fuont yn waeth eto nag un pla na Brithwr.
Nodiadau
golygu- ↑ Camd. sub. Picti. Baxt. Gloss. Antiq. Brit. p. 195.
- ↑ Dampier, vol. 1, c. 18, p. 514.
- ↑ Bed. His. Eccles. lib. 1, cap. 1. Galf. lib. 4. c. 17, Pont. virumn, 1. 5. p. 30
- ↑ Uss. Primord . p. 302. Stillingfleet Orig. Brit. c. 5, p. 246, &c.
- ↑ Galf. Hist. Brit. lib. 5, cap. 16.
- ↑ Brower in Venut. Fortun. lib. 3, p. 59.
- ↑ Carruca, Gild. p. 15.
- ↑ Ita. Mss. Gildas vero et Beda nonnihil secus.
- ↑ Thamisis
- ↑ Muros inter duo maria non tam lapidibus quam cespitibus factus. Gild. p. 13.
- ↑ Ut nudi cum armatis congredi non vereantur. Girald. Des. Cam. p. 256.
- ↑ Gild. p. 12. Bed. 1. 1, c. 12
- ↑ Ford. Scotichron. lib. 3, c. 4.
- ↑ Dyma eiriau'r cronicl air yn air.
- ↑ Bed. Hist. Ecles. lib. 1. c. 20.
- ↑ Gwel rhan 2, pen. 2.
- ↑ Ond odid o Lydaw, lle yr oedd eu cydwladwyr.
- ↑ Vide Uss. Primord, p. 179, ubi hæc fusius.
- ↑ Tam crebris direptionibus vacuaretur omnis regio totius Cibi baculo, excepto venatorie artis Solatio . Gild. p. 16, 6.
- ↑ Et post pauca querentes repellunt barbari, &c.` Gild. p. 16, 6.
- ↑ Gwel Deut. xxviii. 7.
- ↑ Tantis abundantium copiis insula affluebat, &c. Gild. 9. 19, p. 17.
- ↑ Ibid. p. 18
- ↑ Vino madidi torpebant resoluti. Gild. p. 18. 6.