Drych y Prif Oesoedd 1884/Rhan I Pennod V
← Rhan I Pennod IV | Drych y Prif Oesoedd 1884 gan Theophilus Evans golygwyd gan William Spurrell |
Rhan II Pennod I → |
PENNOD V.
EILUNOD AMRYW GENEDLOEDD, EILUNADDOLIAETH YR HEN FRYTANIAID CYN AMSER CRIST. EU HOFFEIRIAID A ELWID Y "DERWYDDON." EU MOESAU. YNG NGHYLCH Y IAITH GYMRAEG.
CYN rhoddi hanes neillduol am goel-grefydd yr hen Frytaniaid, cyn amser Crist, nid yw anghymhwys i chwilio allan yr amser y dygpwyd eilunaddoliaeth gyntaf i'r byd. Pa mor gynnar y gwrthgiliodd natur lygredig dyn oddi wrth wasanaeth y gwir Dduw, nid oes dim mynegiaeth sicr; ond gwrthddrychon cyntaf eu haddoliad oedd gwaith y greadigaeth. Hwy a dybiasant mai y tân, neu'r gwynt, neu yr awyr buan, neu gylch y ser, neu ddwfr chwyrn, neu oleuadau'r nefoedd, oeddent dduwiau yn llywodraethu'r byd. (Doeth. xiii. 2.) Ond yr haul, yn anad un peth, oeddid yn ei gyfrif yn dduw, ar ol myned y wybodaeth o'r gwir Dduw ar goll. Am ddelwau ac eilunod, dywedir mai Nimrod, mab Cus, oedd y cyntaf a’u lluniodd gogyfer â'u haddoli. Cymmaint oedd ei barch at ei dad, fel y parodd wneuthur delw ar ei lun ef; ac megys yr oedd efe yn frenin, â'r awdurdod oruchel yn ei law, efe a barodd i'w holl ddeiliaid gymmaint i berchi y ddelw, ag oeddent yn perchi ei dad tra yr oedd efe byw. Y mae hyn
yn gytûn â'r hanes a rydd Solomon, "Y rhai nid allai dynion eu hanrhydeddu yn eu gŵydd, hwy a gymmerasant lun eu gwedd hwynt, ac a wnaethant hynod ddelw brenin, yr hwn a anrhydeddent." (Doeth. xiv. 17.) Nimrod a fu frenin o gylch cant a hanner o flynyddoedd ar ol y diluw.
Aneirif oedd y dychymmygion o hyny allan i ddewis eu duwiau. "Pob cenedl oedd yn gwneuthur ei duwiau ei hun." (2 Bren. xvii. 29.) Duw yr Amoriaid a elwid Moloch, am ba un y mae yr Ysgrythyr yn son yn fynych. Delw fawr o bres oedd hi, â'i phen ar lun tarw, a breichiau ar led megys breichiau dyn.[1] Y ddelw oedd gau oddi fewn, ac ynddi saith o ystafelloedd i dderbyn yr aberthau. Yr ystafell gyntaf a appwyntiwyd i dderbyn blawd gwenith; yr ail at golomenod; y drydedd at ddafad; y bedwaredd at hwrdd; y bummed at lo; y chweched at ych; ac os neb a offrymai fab neu ferch, y seithfed ystafell a agorid. Tybir mai yr un yw'r Moloch yma ag Adramelech, Duw y Sepharfiaid (2 Bren. xvii. 31), ac â Baal, yn Ier. xix. 5.
Y mae yn yr India deyrnas a elwir Guinea (gwlad y Morus duon), lle y maent hyd y dydd heddyw yn addoli y sarff."[2] Math o nadroedd melynion yw y rhai y maent yn eu haddoli, â llain frech bob yn ail restr, ac heb un colyn brath. Fe ddygwyddodd o gylch 30 mlynedd a aeth heibio [1740] i fochyn afreolus drachwantu yng nghig un o'r nadroedd hyn, a'i lladd, a'i bwyta; yr hyn pan wybu y brenin a'r archoffeiriad, nid all geiriau fynegu y syndod yr oeddent ynddo. Ni wasanaethai ddim ddial eu llid a gosod barn cyfraith ar y twrch a wnaethai y gyflafan, eithr rhaid oedd dinystrio yr holl genedlaeth. Ac oni buasai fod y brenin yn caru cig moch, ni adawsid llwdn hwch yn fyw drwy'r holl deyrnas.
Gwledydd ereill o'r India a addolent ddant yr âb. Pan gymmerth y Cristionogion y dant oddi arnynt, yn y flwyddyn 1554, hwy a gynnygasant lwyth men o aur, ac anrhegion gwerthfawr, er cael y dant yn ol! Ond y Cristionogion, drwy gynghor eu hesgob, a wrthodasant y trysor, ac a losgasant y dant yn ulw. Mewn amryw wledydd o Affrica, y maent yn addoli cathod a llyffaint; ac mewn rhai manau, pen garlleg.
Y mae rhan fawr o drigolion China, gwlad fawr a hyfryd tua chodiad haul, hyd y dydd heddyw yn ddygn anwybodol, yn nhrefn eu haddoliad; canys pan y bônt wedi blino yn addoli eu delw, yna y dechreuant ddifenwi a melltithio. "Tydi gorgi cas," ebe hwy, "ai dyma fel y cawn ni ein trin genyt? Nad ystyriech, y lluman, ym mha fath deml wych y dodasom di; mor hardd y gwisgasom di ag aur a meini gwerthfawr; a maint o aberthau a laddasom i ti? A pha gydnabod sydd genyt ti, yr ysgerbwd brwnt! am hyn oll ?" Yna hwy a rwymant y ddelw â rhaffau, ac a'i dragiant hi hyd yr heolydd, gogyfer â'i chospi am ei bod yn peidio gwrando arnynt. Ond os o ddamwain y daw iddynt yr hyn y maent yn ofyn, yna hwy a ddygant yr eilun drachefn idd ei hen le, wedi ei olchi yn lân. Yno hwy a ymgrymant yn ostyngedig iawn o'i flaen, gan ddywedyd, "Gwir iawn yr oeddem yn ddigon byrbwyll, pan y gwnelem y fath ammharch i chwi; ond oeddech chwithau ar fai i fod mor bengaled? Oni fuasai yn well i chwi fod yn fwyn ar y cyntaf, na dyoddef y fath anfri?"[3]
Mewn talaeth arall o China, o flaen myned yng nghylch unrhyw weithred bwysfawr, yr offeiriad a orwedd ar ei wyneb o flaen y ddelw, ar y llawr gwastad, gan ymestyn ei draed a'i ddwylaw, ac un arall uwch ei ben a fydd yn darllen mewn llyfr, tra fo y rhai o amgylch yn canu clych, ac yn ystwrio. Yn y cyfamser y mae ysbryd yn perchenogi yr hwn sydd yn gorwedd, ac allan o law efe a gyfyd ag edrychiad salw a chethin, ac a rydd ateb, megys dewin, i bob peth a ofynir iddo. "Er ynfyted yw y rhai hyn," ebe gwr dysgedig a duwiol, "fe ellir gweled rhai dan enw Cristionogion mor nawswyllt a direswm a hwythau,—y Crynwyr; canys y maent hwythau yn dechreu yn hirllaes ac yn oerlyd, ac a syrthiant ond odid mewn llewyg: ond wedi dadebru, hwy a floeddiant fel dynion allan o'u cof, gan ddadwrdd yn erchyll yn erbyn pob trefn a phrydferthwch, a rheol a rheswm."[4]
Soniwn bellach yng nghylch delwaddoliaeth yr hen Frytaniaid, cyn amser Crist, y rhai nid oeddent well eu hamcan na chenedloedd ereill; canys gwrthddrych eu haddoliad, ym mysg pethau daiarol, oeddent fryniau uchel ac afonydd,[5] heb law delwau, gwaith eu dwylaw eu hun. Am ba ham yr addolent fynyddoedd ac afonydd, nis gwn i; oddi eithr (1.) eu bod yn credu fod rhyw ysbryd bywiol yn treiddio drwy y byd gweledig, gan mai drwy yd, a ffrwythau'r ddaiar, a dwfr yr afonydd, y mae ein bywyd yn cael ei gynnal, megys y mae Duw wedi eu hordeinio at hyny. (2.) Barn ereill yw fod yr hen Gymry, a hwy eto yn Asia, ar eu hymdaith o Dŵr Babel, yn canfod mynydd Sinai yn crynu ac yn fflamio hyd entrych awyr, ar waith Duw yn rhoddi y deg gorchymmyn i'r Iuddewon; ac o achos hyny, anrhydeddent bob bryn uchel fyth wedyn; a'u bod yn cyfrif afonydd yn sanctaidd, yn ol traws amcan amryw genedloedd ereill, y rhai oeddent yn barnu fod rhyw anian o'r Duwdod yn gymmysg â'r dwfr.[6] Tuag at am eu gwaith yn addoli delwau, pan yr ystyrio neb mor wybodus dynion oedd eu hofferiaid (fel y dangosaf yn y man), y mae yn beth rhyfedd yn wir fod cymmaint o ddygn anwybodaeth ym mysg y bobl cyffredin. Ond fe ellir tybied mai nid ar y ddelw ei hun y gweddïent, ond y gau dduwiau, y rhai oedd cynnifer delw yn eu harwyddocäu.[7] Canys y mae Iul Caisar, yr hwn a ysgrifenodd cyn geni Crist, yn adrodd eu bod yn cydnabod ac yn addoli yr un duwiau, eu bod o'r un farn am eu hamryw awdurdod a'u swyddau, â phobl Rhufain; a chanddynt amryw ddelwau er anrhydedd iddynt, megys hwythau o dir Groeg a'r Ital.
Yn awr, y gau dduwiau y rhai yr oedd yr hen Frytaniaid, yn gystal a'r rhan fwyaf o genedloedd Ewrop a rhan o Asia, yn eu haddoli, a elwid Sadwrn, Iupiter, Mars, Apollo, yn enwedig Mercher, a bagad ereill. Ac enwau rhai o'u duwiesau oedd Rhea, Iuno, a Fenus. Nid oedd y duwiau hyn ddim amgen na dynion marwol, o'r un anwydau â dynion ereill; ond am eu bod yn wŷr enwog yn eu cenedlaeth, eu hwyrion a’u tras, ar ol eu dyddiau, a berswadient y bobl cyffredin mai duwiau oeddent. Ac yn gymmaint a bod y fath gred er mantais i'r gwŷr mawr, eu cyd-dylwyth, tuag at gadw eu hawdurdod, sef fod y cyffredin yn coelio mai duwiau oedd eu hen deidiau; o blegid hyny, meddaf, y gosodwyd cyfraith i amddiffyn y fath opiniwn gwyrgam, rhag y bai neb feiddio ddywedyd yn erbyn hyny. Y fath yw llygredigaeth natur dyn rhyfygus! Ac yno fel y greddfai yr opiniwn cyfeiliornus hwn yn ddyfnach eto ym meddyliau y werin bobl, galwyd y saith planed, ac hefyd ddyddiau yr wythnos, ar enwau y rhai enwocaf o honynt; megys dydd Sul,[8] dydd Llun,[9] dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn.
Ac yma, pe y dywedwn mai Cymry oedd y duwiau hyn, y rhai oedd Ewrop ac Asia yn eu haddoli, yn amser yr anwybodaeth gynt, mi wn eisys y bydd rhai yn barod i chwerthin yn eu dwrn, a dywedyd, "Nid yw hyn ddim ond ffiloreg." Ond gan fod genyf awdurdod y gwirionedd i sefyll o'm blaen, mi a ddywedaf yn hy mai Cymry oeddent. Cymro oedd Sadwrn, Cymro oedd Iupter, Cymro oedd Mercurius, Cymry oedd y lleill. Nid wyf fi ddim yn dywedyd mai Cymry oeddent o'r wlad hon; nac wyf: mi wn well pethau; ond gwŷr oeddent o hiliogaeth Gomer, o'r un ach â'n Cymry ninnau, ac yn siarad yr un iaith. Ac yn wir y mae eu henwau (pe delid craff ar hyny) yn ysbysu yn eglur o ba genedl y maent; canys nid ynt na Lladin, na Groeg, ond Cymraeg lân loew. Sadwrn yw gwr nerthol o fraich i ryfela; ei wir enw yw Sawd-dwrn. Ei wraig a elwid Rhea, ac yn Gymraeg ddilediaith Rhiain. Eu mab a elwid Iupiter; ond yn Gymraeg Iou, neu Iefan, o blegid efe oedd yr ieuengaf o feibion ei dad. Enw ei wraig oedd Iuno: hyny yw, Ioan, neu Suan. Mars, neu Mavors, oedd y gau dduw a gyfrifid yn ymgoleddwr y gwŷr arfog yn rhyfela, a'i enw Cymraeg yw Mawr-rwysg. Mercurius oedd dduw eu teithiau, a'i wir enw yw Marchwr. Apollo oedd Dduw yn cyfranu doethineb i ddynion, a'i gywir enw yw Ab y Pwyll; neu, fel y dywedai yr hen bobl, Y Poell. Diana oedd dduwies diweireb a gonestrwydd, a'i gwir enw yw Dianaf. Fenus oedd dduwies y cariad, a'i henw ar y cyntaf oedd Gwen.[10] Y neb a dybio mai chwedlau gwneuthur yw y rhai hyn, darllened, atolwg, waith y Doctor dysgedig Pezron[11] (gwr o Lydaw, o deyrnas Ffainc); ac os gall efe ateb ei resymau a'i awdurdod ef (yr hyn nis gallodd neb eto), o'r goreu; os amgen na farned arnaf fi. Cymmaint a hyn am eu duwiau.
Eu hoffeiriaid a elwid gynt yn yr hen iaith, y Druidion, neu y Derwyddon, am eu bod, megys cenedloedd ereill o gylch Ierwsalem, yn aberthu i'r eilunod, mewn llwyni o goed, yn enwedig dan gysgod deri cauadfrig. (Ezec. vi. 13. Hos. iv. 13.) Gwŷr dysgedig a gwybodol oedd y rhai hyn, ac yn farnwyr mewn achosion dadl ac ymryson, yn gystal ag yn offeiriaid mewn perthynasau crefydd. Felly, a hwy yn farnwyr ac yn offeiriaid, y mae yn hawdd barnu mai hwy oedd pen dysgedigion y deyrnas; a'u barn a gyfrifid mor ddidueddol a chywir, fel nad oedd rydd i'r pendefig mwyaf o fewn y deyrnas lai na sefyll wrthi. Ac os rhyw un cyndyn a beidiai ymostwng, efe a ysgymmunid allan o law, a'i gymdeithas a ochelid fel petai'r pla arno. Hwynt-hwy oedd yn ysgrifenu hanesion a bywyd eu breninoedd; a pha beth bynag hynod a ddygwyddai ar fôr, ar dir, ac ar y wybr. Ond am y gelfyddyd y dysgent eu dysgyblion ynddi, ni chynnygient osod hyny ar bapyr, rhag i'r athrawiaeth fyned yn gyffredin a diystyr. Eu gwŷr iefainc a ddysgent mewn astronomi a chwrs y planedau; yng nghylch maintioli'r byd; yng nghylch mor gywrain oedd pob aelod a chymmal wedi ei osod mewn dyn ac anifail; yng nghylch natur a rhywogaeth llysiau; ac yn fyr, yng nghylch pob peth a elwir philosophi. Yr oeddent yn maentumio anfarwoldeb yr enaid; ond hyn oedd eu camsyniad: eu barn hwy oedd, fod yr enaid, ar ol ei ymadawiad â'r corff, yn myned i ysbrydoli rhyw un arall;[12] a'r athrawiaeth hon a bregethasant yn ddwys i annog eu gwrandawyr i wroldeb a syberwyd moesau; drwy beri iddynt gredu y byddai eu heneidiau yn y to nesaf mewn arglwyddi a phendefigion. Pa un ai bod yn ddewiniaid, nis gwn i; ond y mae yn ddilys fod y cyffredin yn coelio hyn am danynt, megys y tystia hen ddiareb, "Nis gŵyr namyn Duw a dewinion byd, a diwyd Dderwyddon." Y mae yn ddiammheu eu bod yn cymmeryd poen afrifed yn dysgu y gelfyddyd i'w dysgyblion; canys ni chyfrifid neb yn athrawon nes eu bod 15, ïe a rhai 20, mlynedd yn astudio. Heb law pethau ereill, hwy a ddysgent, ar dafod leferydd, filoedd a miloedd o bennillion ac odlau. Tybia Mr. Edward Llwyd, ac ni wni pwy a wyddai well, mai y mesura elwir " Englyn Milwr" oedd mesur eu pennillion. Mi a chwanegaf yma rai o honynt, hen yn ddiammheu, os nid gwir odlau y Derwyddon eu hun. Ond gwybydder nad yw y ddwy fraich gyntaf ond megys geiriau llanw; yr olaf sy'n cynnwys ynddi ystyr y chwedl:—
"Marchwiail bedw briglas
A dyn fy nhroed o wanas:
Nac addef dy rin i was.
"Marchwiail derw mwyn llwyn,
A dyn fy nhroed o gadwyn:
Nac addef dy rin i forwyn.
"Marchwiail delw deiliar
A dyn fy nhroed o garchar:
Nac addef dy rin i lafar.
"Eiry mynydd, pysg yn rhyd ,
Cyrchai Carw Cilgrwm Cwmelyd:
Hiraeth am farw ni weryd.
"Eira mynydd gwynt a'i tawl ,
Llydan lloergan glas tafawl:
Odid dyn diriaid di hawl."
"Dywed rhai mai eiddo y Derwyddon yw'r modrwyau gwydr a elwir "glain y nadroedd," a bod eu dysgyblion yn eu gwerthu i'r bobl cyffredin, i'w gwisgo megys swyn-gyfaredd rhag aflwydd. Nid ychydig o orfoledd a fyddai gan y Derwyddon i gael derwen lle y byddai y llysieuyn a elwir "Uchel-wydd"[13] yn tyfu, am eu bod yn barnu mai ffafr y duwiau oedd cael y fath. Eu seremoni ar hyny a fyddai: (1.) Ddyfod at y pren dan ganu, ym mhen chwe diwrnod ar ol newid y lleuad: (2.) Yr offeiriad a ddringai ac a dorai y llysieuyn â bilwg aur, tra y byddai ereill obry ar y llawr yn ei dderbyn mewn arffedog wen: (3.) Yno fe ddygid dau fustach, gwyn i gyd oll, difai dianaf, ac a'u haberthid ar uchaf cromlech. A'r cyfryw aberth a dybid yn swyn-gyfaredd odidog rhag gwenwyn, a haint, ac anffrwythlondeb.[14]
Ond yr aberth goreu a dybiasant a ryngai fodd y duwiau oedd drwg weithredwyr y rhai oedd cyfraith y tir wedi eu gadael i farw, megys mwrddwyr a lladron. Hwy a gedwid yn garcharorion mewn cistfeini (y rhai sydd i'w gweled mewn amryw fanau eto yng Nghymru) nes cael oedfa i alw yng nghyd yr holl wlad i weled eu haberthu. Yn awr, cistfaen yw gwâl, neu loches, a wneir o chwech careg, megys prenfol, neu gist; sef un gareg waelod, o gylch saith neu wyth troedfedd o hyd, dwy bob ochr, un wrth bob pen, ac un fawr arall yn glawr. Y fath gistfaen a hon yw Ty Illtyd, ar ben twyn, yn Llanhamlwch, ger llaw Aberhonddu; Carn Lechart, o fewn plwyf Llangyfelach, ym Morganwg: Gwâl y Filast, o fewn plwyf Llanboidy, is law Caerfyrddin; y Gromlech, ym mhlwyf Nyfern, yn rhandir Penfro; Llech yr Ast, ym mhlwyf Llangoedmor, ger llaw Aberteifi; Ceryg y Gwyddel, ym mhlwyf Llangristiolus, yn Ynys Fon; Carchar Cynrig Rhwth, ym mhlwyf Ceryg y Druidon, yn sir Dinbych; ac amryw fanau ereill nas gwn i oddi wrthynt. Yn awr pan y byddai llawer o ddrwg weithredwyr wedi eu condemnio, y Derwyddon a roddent orchymmyn i wneuthur aberth-eilun, i aberthu i'r duwiau. Yr aberth-eilun yma a wnaed ar lun dyn, eithr aruthrol o faint, o gangau coed, a'i freichiau a'i draed ar led; ac a sicrheid megys bwbach mawr, yn y ddaiar, ger llaw i ryw garnedd. Ac yno y carcharorion a ddygid allan o'u cistfeini, ac a sicrheid wrth raffau, yma ac acw, wrth y clofenau; ac yn ddiattreg y cynneuid tân oddi tan y bwbach, i rostio y drwg weithredwyr yn fyw. A hon oedd yr aberth oreu, yn ol eu barn hwy, a ryngai fodd y duwiau.[15] Ambell waith yn wir, pan na byddai ond un neu ddau, y drwg weithredwyr a aberthid ar allor, ger llaw y gistfaen; ac odid un gistfaen, onid oes yno garnedd a chromlech, neu allor, ger llaw.
Ar nos galan Mai y cynneuid tân ar ben pob carnedd drwy'r ynys, lle y byddai un o'r Derwyddon, yng nghyd â'r bobl o'r gymmydogaeth hòno, yn aberthu i'r tadolion dduwiau, er cael rhad a bendith ar gnwd y ddaiar; ac ar nos galan Gauaf y gwnaed yr un peth, er talu diolch, wedi cael cnwd Ꭹ ddaiar yng nghyd. Ar y ddau amser hyn yr oedd pawb, o ba radd bynag, yn rhwymedig i ddiffodd y tân yn eu haelwydydd; a than benyd ysgymmundod, i ailennyn ef â thewyn oddi wrth y carneddau.
Yn Ynys Fon, yn anad un lle arall o fewn yr holl deyrnas, yr oedd eisteddfod benaf yr hen Dderwyddon, megys y mae rhai o weddillion eu crefydd i'w gweled hyd heddyw, er yn rhwygiedig ac yn gandryll; megys amryw garneddau, cistfeini, ac allorau. Ac hefyd amryw o enwau lleoedd, hyd y dydd hwn, sydd yn cadw coffadwriaeth eu hen feistraid, megys Tre'r Dryw, yng nghwmmwd Mene, ac o'i amgylch megys tair troed trybedd, Bod y Druidion, Bod Owyr, a Thre'r Beirdd. Yn Nhre'r Dryw yr oedd Pendog y Druidion yn trigo, canys yr oedd un yn ben ar y lleill, megys yn Bab, neu Archoffeiriad. Yn Ꭹ lle a elwir Bod y Druidion yr oedd Dinas y Derwyddon, y nesaf mewn awdurdod ato. Ym Mod Owyr yr oedd yr Ofyddion, y rhai, yn benaf dim, a astudient physigwriaeth. Ac yn Nhre'r Beirdd yr oedd y Prydyddion yn canu yn gelfyddgar hanesion eu gwyr enwog. Cymmaint a hyn am y Derwyddon.
Taclusrwydd eu cerbydau rhyfel, eu medr mewn arfau, a soniwyd am dano eisys. Mi a chwanegaf air yng nghylch nodau march rhyfel; sef yw hyny, "Cadfarch cadarn-dew, cerdded-ddrud, llydan-gefn, bron-eang, gafl-gyfyng, carngragen, ymdeith-wastad, hywedd-falch, drythyll, llamsachus, ffroenfoll, a'i lygad yn frithlas dratheryll." Dyna nodau'r march rhyfel, o ddewis yr hen Frytaniaid. Hwy a fedrent ddarllen ac ysgrifenu er ys o leiaf fil o flynyddoedd cyn geni Crist. Ac y mae yn debygol fod ganddynt ychwaneg o gelfyddydau nag a gred bagad yn awr; ïe, ac ambell peth na wyr holl gynnildeb yr oes bresennol ddim oddi wrtho; canys yr oedd gan yr hen Frytaniaid fath o felinau yn troi heb na gwynt na dwfr. Mewn lle a elwir Bryn y Castell, yn Edeyrnion, yn yr oes ddiweddaf, y cafwyd yn y ddaiar baladr melin, o haiarn, wythochrog, cyn braffed a morddwyd gwr, a phen clwm ar y naill ben iddo, megys y lle y buasai yr olwyn; a'r pen arall wedi ei ysu gan rwd. Yno y cafwyd maen melin o gylch llathen o eithaf bwygilydd: ac meddant hwy, yr oedd y bedwaredd ran o olwyn y felin hòno o haiarn, a'r rhelyw o goed. Ac yr oedd maen tynu (adamant yw hwnw), neu glicied wisgi, neu bob un o'r ddau, y rhai a barai iddi droi o honi ei hun, pan y gosodid.[16] Eu bath cyffredin oedd bres, a modrwyau haiarn; ond mae yn ddilys fod ganddynt hefyd fath arian, a math aur. Cafwyd ym mhlwyf Penbryn fath aur o eiddo yr hen Frytaniaid, heb ddim llythyrenau, ond lluniau dyeithr, ni wyddys beth yw eu hystyr.Llwyd's Annot. in Camd. p. 697. Ac y mae bath Caswallon, a ymladdodd â Iul Caisar, eto i'w gweled. Eu dillad yn y gauaf-ac nid yno chwaith, ond mewn gauaf chwerw o rew ac eira (eu harfer hwy oedd gan mwyaf fyned yn noethlymun), -eu dillad, meddaf, mewn gauaf garw, oedd grwyn iyrchod a theirw gwylltion, a bwystfilod ereill; a'u hardd wisgoedd oedd brethyn gwyn pentan, neu fath o frethyn eddi, heb ei banu; canys nid oes dim sicrwydd fod yma banwyr cyn amser Cred. Hyn oedd trwsiad y cyffredin; ond y bonedd a goreuon y deyrnas a wisgent dabarau symmudliw yn taenu hyd y llawr, a thyrch aur, o waith cynnil dros ben o bobtu eu gyddfau a'u harddyrnau. Yn y modd hwn yr ymdrwsiodd Buddug,[17] y frenines ddewr hòno, yr hon a ymladdodd â'r Rhufeiniaid, o gylch y flwyddyn o oedran Crist 62, ac a laddodd ddeng mil a thrigain o honynt. Yr oedd am dani dabar symmudliw, torch aur am ei gwddf, a'i gwallt melyn yn taenu dros ei hysgwyddau hyd ei sodlau. Fe gafwyd un o'r tyrch aur yma wrth gloddio mewn gardd, ger llaw Harlech, ym Merionydd, yn y flwyddyn 1692.
Erbyn hyn y mae yn amlwg y deallent waith gof, pan y medrent wneuthur y fath gynnilwaith a thyrch aur; megys y mae taclusrwydd eu cerbydau yn dangos y medrent waith saer coed. Eu medrusrwydd mewn gwaith saer maen, eu hamryw bentrefydd a'u caerau, ac aml balasau eu pendefigion, sydd yn tystio. Ac heb law hyny, yr oedd yma 28 o ddinasoedd caerog yn yr hen amser gynt, ac ym mhob un o honynt y byddai Druid yn farnwr, neu ynad. Ni wyddys yn dda pa rai ydynt, ond fod Llundain, Caerwrangon, Rhydychain, Caerloew, Caerlleon ar Wysg, a Chaerfyrddin, yn ddilys ddigon o fewn y nifer. Yr wyf yn gwybod o'r goreu fod rhai yn haeru nad oedd gan yr hen Frytaniaid ddim dinasoedd caerog oll cyn dyfod y Rhufeiniaid i'r wlad hon. Nid oedd adeilad y cyffredin, yn wir, ddim ond bythau, neu bleth o wiail wedi ei adail a lwfer yn y canol, megys y mae digon o'r fath eto i'w gweled yng Nghymru. A thyna wir ystyr y gair adeilad, sef adail o wrysg neu o wiail. Ond nad oedd yma ddim amgen adeilad yn yr hen amser, yw peth nad all neb ei brofi allan o hen hanesion. Pe buasai ym Mrydain ddim ond bythau a phared gwiail, byth ni ddywedasai Iul Caisar, yr hwn a ysgrifenodd o gylch hanner cant o flynyddoedd cyn geni Crist, "Hominum est infinita multitudo creberrimaque aedificia, fere Gallicis consimilia." (L. 5, p. 79.)
Hynod oedd eu medrusrwydd i baentio a britho â lliwiau, yn enwedig i baentio ar eu crwyn luniau ehediaid, bwystfilod, pysgod, ac ymlusgiaid. Hyn oedd ran o wychder y gwŷr mawr; sef eu bod, o goryn y pen hyd wadn y traed, yn llawn o luniau creaduriaid byw. Math o liw glas ydoedd, ac ni wisgid mo hono byth allan, am ei fod wedi ei ollwng i mewn, â phigiad nodwydd, i'r croen. Pa un ai bod rhinwedd ynddo i gadw'r corff mewn iechyd hyny nis gwn i; ond y mae yn ddilys fod yr hen Frytaniaid yn byw yn aml hyd saith ugain.[18] Dyna yr achos, yn ol barn Mr. Camden, y Sais, o alw yr ynys hon gyntaf Brithtania, hyny yw, eb efe, "gwlad y dynion brithion." Yr oedd Mr. Camden, yn ddiau, yn wr dysgedig iawn; ond fe allasai, gyda gwell gweddeidd-dra, adael i'r ddychymmyg hon fyned gyda'i freuddwydion. Y gwirionedd yw hyn: efe a fynai hyrddu rhyw beth newydd i olwg y byd; ac o ganlyn llwybr ei drwyn, efe a esgorodd o'r diwedd ar y ddychymmyg eiddil hon, yn erbyn pob awdurdod a rheswm.
Mewn physigwriaeth, y mae yn debygol eu bod yn gallach na gwŷr diweddar sydd yn bostio yn ychwaneg o ddysg a gwybodaeth; canys nid arferent hwy ddim ond llysiau: ïe, ac yn gwneuthur ychwaneg o lesâd i'r cleifion â hwynt yn unig, nag y maent yn awr â'u holl gymmysg. Ym mysg doctoriaid yr oesoedd canol, Meddygon Myddfai yw y rhai mwyaf hynod; a hwynt-hwy oedd Riwallon a'i feibion, Cadwgan, a Gruffydd, ac Einion: ac yn amser Rhys Gryg yr oeddent, yng nghylch y flwyddyn 1230. Mae llyfr bychan o ysgrifen-law o'u gwaith, ac yn diweddu fel hyn: "Pwy bynag ni chymmero fwyd pan fo ei chwant arno, ei gylla a leinw o afiachwst, yr hyn a bery y gwaew yn y pen."
Crwth a thelyn oedd y gerddoriaeth benaf ym mysg yr hen bobl. Symlen ben bys oedd gainc cyffredin iawn. Lledr oedd dros wyneb y cafn; ac o achos hyny a gyfenwid y delyn ledr. Y dysgyblion a ddechreuent ganu â thannau rhawn, ac a dalent bedair ceiniog ar hugain[19] ar eu gwaith yn myned yn ben cerddwyr; canys felly y dywed y gyfraith, "Y neb a fyno ymadael â thelyn rawn, a bod yn gerddor cyweithas, pedair ar hugain a ddyly." Er hoffed oedd y gerddoriaeth gan yr hen Frytaniaid, nid oedd ei llais yng nghlustiau Dafydd ab Gwilym ond megys asgloden gwern ym mhen y gath; canys efe a ddywed,
"Ni cherais iawn-gais angerdd,
Na'i chafn botymog na'i cherdd;
Na'i cholydd sain damwain dig,
Na'i rhifant liw na'i rhyfyg.
Drwg yw dan bwyth yr wythfys,
Llun ei chroth lliain ei chrys:
Ni luniwyd ei pharwyden,
Na'i chreglais ond i Sais hen,
Sain gŵydd gloff anhoff yn yd;
Sonfawr Wyddeles ynfyd."
Y mae llawer o son am afanc y llyn, a'r ychain banog; ac ni wn i yn dda beth i'w ddywedyd am danynt. Am yr afanc, y dyb gyffredin yw, mai math o ddwfrgi go fawr llosglydan oedd efe, a elwir y "Beaver," yr hwn sydd greadur ffel dros ben, ac yn trigo yn y llynoedd a'r afonydd. Yr oedd efe yn Nheifi, yn ddiammheu, yn amser Giraldus, Archddiacon Brycheiniog, yr hwn a ysgrifenodd hanes Cymru o gylch y flwyddyn 1189, hyny yw, o gylch pum cant a hanner o flynyddoedd a aethant heibio. Ond y mae yn beth rhyfedd fod y fath chwedlau ym mysg y cyffredin bobl am dano yn awr megys pe buasai efe rhyw anghenfil o faint; ac er ei faglu â thid haiarn, nid dim ond yr ychain banog a allai ei lusgo allan o'r llyn. Ac am hyny mi a dybiwn mai afanc y llyn yw yr "Alligator," neu fath o "Grocodil," yr hwn sydd fwystfil enbyd ac aruthrol ei faintioli, a'r hwn a lync ddyn ar un tamaid, megys y dygwyddodd hi amryw brydiau; ac nid oes dim blwyddyn eto er pan lyncodd un o'r diawliaid hyn dri dyn mewn llai na chwarter awr. Yr anghenfil hagr hwn sydd gyffredin iawn yn afonydd a llynoedd Affrica ac America; a phwy a ŵyr amgen onid oedd rhai o honynt gynt yn llynoedd Cymru? Yr oedd yma gynt fleiddiaid: nid oes yn awr un o fewn yr ynys; ac eto nid oes gan gyffredin Cymru ddim garwach opiniwn am flaidd na phobl ereill. Ac os y crocodil yw yr afanc, yno y mae yn debygol mai wrth ddifa rhyw anghenfil mawr dros ben, o gylch wyth neu ddeg llathaid o hyd, y dodwyd ychain banog, hyny yw, ychain hynod eu grym, i'w lusgo ef allan, er gorfoledd i'r holl wlad. Mi a wn fod hyn yn sawrio mwy o wirionedd nag y sydd mewn rhyw hen bapuryn: "Y ddau ychain banog oedd Nyniaf a Pheibaf, y rhai a rithwys Duw am eu pechodau yn ychain banog."[20]
Am yr hen iaith Gymraeg, nid oes genyf fi ond ychydig i'w ddywedyd, ond iddi barhau hyd yn ddiweddar agos yn ddilwgr heb nemawr o gymmysg; yr hyn nis gellir dywedyd ond prin am un arall, oddi eithr iaith yr Iuddewon, ac iaith Arabia. Prin y gall neb ddeall y iaith Gymraeg yn llawn fedrus, ond a ddeallo hefyd o leiaf ryw gymmaint o Hebraeg, Lladin, Groeg, a Gwyddelaeg; canys y mae cryn gyfathrach rhwng y pedair hyn a'r Gymraeg. (1.) Am yr Hebraeg: y mae amryw eiriau wedi tramwy yn gyfan atom ni, er maint oedd o gymmysg yn Nhŵr Babel; megys yn y geiriau hyn a ganlyn: Achau, Anudon, Bwth, Cad, Caer, Ceg, Cefn, Copa, Cyllell, Golwyth, Magwyr, Neuadd, Odyn, Poten, Tal, Tomen, gydag amryw ac amryw ereill, nad oes ond ychydig neu ddim cyfnewid rhwng yr Hebraeg a'r Gymraeg. (2.) Am y Lladin: y mae y fath luaws o eiriau yn ein hiaith ni a iaith hen bobl yr Ital, o'r un swn ac ystyr, megys y gall dyn dybied mai o'r un dorllwyth y daeth y ddwy genedl allan. I'n henafiaid ni fenthycio amryw o'u geiriau tra fuont hwy yn arglwyddiaethu yma, nid all neb yn ei iawn bwyll a'i synwyr ei wadu. Ond, er hyny, y mae yn debygol iddynt hwythau fenthycio gan ein hynafiaid ni o'r blaen, pan nad oedd y Lladinwyr eto ond gwŷr bychain yn y byd, a'r hen Gymry, y tu hwnt i'r môr yn meistroli arnynt. Ac y mae hyn mor ddilys wirionedd, megys a bod eu hanesion eu hunain yn tystio'r peth. (3.) Am y Groegiaid: nid oes dim rhyfedd fod cymmaint o gyssondeb rhyngom ni a hwy, canys Groegwr neu wr dyfod oedd Brutus; a'r un llythyrenau oedd gan ein henafiaid ni a hwythau ar y cyntaf, megys y tystia Iul Caisar, yr hwn a ysgrifenodd ei hanes o gylch hanner cant o flynyddoedd cyn geni Crist. (4.) Am y Gwyddelod: mi a brofais eisys mai pobl o'r un dorllwyth oeddem ni a hwythau o'r dechreuad: ac y mae yn ammhosibl i wybod iawn ystyr enwau afonydd, a bryniau, a gelltydd, a chwmydd, &c., heb ddeall Gwyddelaeg.
Y mae yn wir yn y iaith Gymraeg amryw eiriau o'r un ystyr a'r Seisoneg, ac yn ddiweddar y mae chwaneg beunydd yn llifeirio iddi oddi wrth y Seisoneg: ond camsynied er hyny yw tybied mai oddi wrth y Seison y cawsom ni yr holl eiriau sydd o'r un sain ac ystyr yn ein hiaith ni a hwythau; canys e fu'r Seison amryw flynyddoedd yng ngwasanaeth yr hen Frytaniaid, cyn iddynt yn felltigedig droi yn fradwyr yn eu herbyn; ac yn yr ysbaid hwnw y mae yn naturiol i gredu eu bod yn benthycio gan eu meistraid; a'r geiriau hyn a ganlyn yw ychydig allan o lawer: megys Anghwrteis, Byclau, Bargen, Cap, Cadben, Clap, Cost, Crefft, Crwper, Cwcwallt, Ceisbul, Cwpl, Cropan, Cweryl, Dart, Egr, Ffael, Ffals, Ffair, Ffol, Gran, Gronyn, Hapus, Hap, Het, Hitia, Inc, Lifrai, Llewpard, Malais, Maer, Pert, Plas, Plwm, Sad, Sadler, Siwrnai, Siop, Tasc, Tafarn, Tŵr, Turn, Tiler, Ystrýd.
Y mae'r geiriau hyn oll i'w gweled gydag amryw ereill, yng nghywyddau Dafydd ab Gwilym, yr hwn, ym marn Madog Benfras, oedd "Benial cerdd ddyfal dafawd;" ac ebe Iolo Goch am dano yn ei farwnad,
"Aed lle mae'r eang dangnef,
Ac aed y gerdd gydag ef."
Nid oedd dim hoffder yn ei amser ef, sef o gylch y flwyddyn 1380, mewn boneddig na gwreng i siarad Seisoneg, er eu bod yn deall eu gwala o Ladin, Groeg, ac Hebraeg: ac y mae e'n gwestiwn pa un ai bod Dafydd ab Gwilym, neu un offeiriad arall, neu bendefig, neu un gwr dysgedig pa un bynag, yn yr oes hono, yn deall Seisoneg, megys y gellir barnu yn dra naturiol wrth y stori nodedig hon a ganlyn: "Yr oedd pendefig urddasol o Ynys Fon, a elwid Owen Tudor, wedi priodi y Frenines Catherin, yr hon a fuasai yn briod gynt â Harri Ꭹ Pummed o'r enw, Brenin Lloegr. Ni wyddai'r frenines Catherin, gan ei bod yn wraig o Ffrainc, ddim gwahaniaeth rhwng y Cymry a'r Seison, cyn iddi briodi Owen Tudor, yr hyn a wnaeth iddi chwennych yn fawr weled rhyw nifer o gydwladwyr ei phriod, i gael gwybod pa un ai bod cyn saled dynion ag oedd y Seison yn eu portreiadu. Ond yn y cyfamser y daliwyd Owen Tudor a'i frenines yn garcharorion, yng Nghaerlleon. Owen Tudor, ar hyn, a anfonodd am ei dras a'i geraint; ond yn fwy neillduol am ddau gâr anwylaf ganddo, a dau bendefig urddasol, Iorwerth ab Meredyth, ac Hywel Llywelyn. Fe ymwelodd ag ef eu gyd yng nghylch cant o ben bonedd Cymru, y rhai, er eu bod yn wŷr dysgedig ac anrhydeddus, eto ni fedrent air o Seisoneg; canys pan lefarodd y frenines wrthynt yn Ffranceg, ac yn Seisoneg, ni fedrent roddi gair o ateb iddi; yr hyn a barodd iddi ddywedyd, mai y creaduriaid mudion hoewaf oeddynt a'r a welsai hi erioed!" Y mae yn hawdd casglu oddi yma na fedrai na phendefigion na dysgedigion Cymru ddim Seisoneg yn yr oes hono, o gylch tri chant a deg o flynyddoedd a aethant heibio. Am hyny y mae yn ddilys mai Cymraeg yw yr ychydig eiriau uchod, a chwiliais i allan o gywyddau Dafydd ab Gwilym; ac yn wir y mae'r pen Cymro y dysgedig Doctor Davies, yn eu cydnabod oll, gydag amryw chwaneg.
Nid yw hyn ddim wrth y lluaws a fenthyciodd y Seison, o amser bwygilydd, oddi wrth genedloedd ereill, i gyfoethogi eu hiaith, megys y mae hi yn wir yn awr yn iaith lawn a helaeth. Ffrancaeg yw llawer iawn o honi, yng nghyd ag ambell air bychan o'u hen iaith eu hun. "Canys," ebe'r cronicl, "yn amser Gwilym Gwnewerwr, nid oedd swyddog o Sais yn Lloegr; a gwaradwydd mawr oedd alw un yn Sais, neu ymgyfathrachu ag un o'r genedl hòno, canys hwy a gaseid yn ddirfawr. Ac wrth hyny y mae yn amlwg nad oes un pendefig yn Lloegr, eithr o hiliogaeth naill ai o'r Normaniaid, ai o'r Ffrancod, ai ynte o'r Brytaniaid; " ac yno yr ydoedd yn ddiareb, "Jack would be a gentleman, but he can speak no French."
Y geiriau priodol i'r gyfraith sy'n wir ddigon wedi eu colli gan mwyaf yn llwyr, er pan ddodwyd cyfraith Hywel Dda heibio; a hi a barhaodd mewn grym gan mwyaf hyd yn amser brenin Harri yr Wythfed, yr hwn oedd orwyr i OwenTudor o Fon. Ond am bethau cyffredin, y mae yr iaith agos mor ddilwgr eto, ac mor gydnabyddus a deallgar ag oedd hi er ys deuddeg cant o flynyddoedd a aethant heibio, megys y tystia y pennillion sy'n canlyn:—
"Dychymmyg di pwy Greawdwr cread cyn diluw
Creadur cadarn, heb gig, heb asgwrn;
Heb wythen, heb waed, heb ben, heb draed;
Ac ef ni aned, ac ef ni weled;
Ef ar fôr, ef ar dir, ni wyl, ni welir,
Ac ef yn anghywir, ni ddaw pan ofynir."
TALIESIN BEN BEIRDD A'I CANT I'R GWYNT,
O GYLCH Y FLWYDDYN 540.
"Mis Mawrth mawr rhyfyg adar,
Chwerw oerwynt ar ben talar,
Hwy fydd hindda na heiniar,
Hwy bery llid na galar:
Pob edn a edwyn ei gymhar;
Pob beth a ddaw drwy'r ddaiar
Ond y marw, mawr ei gyrchar!"
ANEURIN GWAWDRYDD A'I CANT,
YN LLYS MAELGWYN GWYNEDD, 510.
Afallen, bren beraf ei haeron,
A dyf yn argel yn argoed Celyddon."
MYRDDIN WYLLT A'I CANT, 570.
"Y gelain fainwen a oleuir heno
Ym mhlith pridd a thywarch;
Gwae fy llaw lladd mab Cynfarch."
LLYWARCH HEN A'I CANT, 590.
DIWEDD Y RHAN GYNTAF.
Nodiadau
golygu- ↑ Goodwin's Jewish Antiq. lib. 4, p. 137.
- ↑ Bosman's Hist. Guin. 7, p. 185
- ↑ Leguat's Adventures, p. 208.
- ↑ Dr. More's Divin. Dial. N. 3, p. 217.
- ↑ Gild. p. 7.
- ↑ Camd. p. 555. Ed. noviss.
- ↑ Deum maximè Mercurium colunt; hujus sunt plurima simulacra. Post hunc Apollinem, et Martem, et Jovem, et Minervam. De his eandem fore quam reliquæ gentes, habent opinionem. Cæs. 1. 6, p. 107.
- ↑ Apollo, qui et Sol apellatur.
- ↑ Diana, quæ etiam Luna nuncupatur.
- ↑ Rol. Mon. Antiq. p. 43.
- ↑ Hist. Nat. c. 14, 15.
- ↑ Non interire animas, sed ab aliis post mortem transire ad alios. Cæs. lib. 6, p. 107.
- ↑ Viscus quercinus, Mistletoe.
- ↑ Samme's Britan. Antiq. vol. 1, c. 7, p. 104. Plin. 1. 16, c. 44.
- ↑ Cæs. de Bell. Gall. 1. 6, p. 107.
- ↑ Dav. Lexic. sub Breuan.
- ↑ Boadicea, vid. Dio. Cass. Hist. Rom. 1. 62.
- ↑ V. Uss. Primord. p. 885.
- ↑ Yr oedd hyny yn swm fawr o arian yn yr hen amser, yn enwedig i grwthwr.
- ↑ V. Archæol. Brit. p. 237.