Drych yr Amseroedd/Hanes Mr. Howell Harris

Mr. Wroth yn dechreu pregethu yn y Deheudir Drych yr Amseroedd

gan Robert Jones, Rhoslan


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon
Hanes Mr. Daniel Rowlands

YMOF. Mi debygwn wrth yr hyn a adroddasoch fod rhyw arwyddion o'r diwedd o'r wawr yn dechreu ymddangos. Crybwyllasoch eisoes am Mr. Howell Harris: byddai yn dda genyf glywed ychwaneg am dano, ac am ei ddyfodiad i'n gwlad.

SYL. Gan fod hanes tra helaeth am dano yn argraffedig eisoes, ni bydd i mi yma ond rhoddi ychydig dalfyriad o'i hanes —Ganwyd ef yn Nhrefeca, yn Sir Frycheiniog, yn y flwyddyn 1714. Cafodd ei gadw mewn ysgol nes oedd yn ddeunaw oed. Bwriadwyd ei ddwyn i fyny yn weinidog o'r Eglwys Sefydledig, a bu dros ryw ychydig amser yn Rhydychain i'r dyben hyny. Ond pan oedd yn un ar hugain oed, aeth i'r sacrament, ac ar adroddiad y geiriau hyny, "Eu coffa sydd yn drwm genym," &c., cafodd ei daro gan ei gydwybod, nad oedd efe yn wir deimladwy fod pechod yn annhraeth ei oddef, ac ofnodd ei fod yn myned at fwrdd yr Arglwydd a chelwydd yn ei enau. Meddyliodd godi a myned ymaith: a thuag at lonyddu ei gydwybod, meddyliodd wellhau ei fuchedd o hyny allan. Nid oedd er hyny ond tywyll iawn am ei gyflwr fel pechadur colledig, nag am ffordd a threfn iachawdwriaeth trwy Grist: ond eto yr oedd y wasgfa am ei gyflwr yn trymhau fwyfwy arno. Un diwrnod, wrth weddïo, teimlodd gymhelliad cryf ynddo i roddi ei hun i'r Arglwydd fel yr oedd. Aeth yr ail waith i dderbyn Swper yr Arglwydd yn drwmlwythog a blinderog. Ond wrth i'r Gweinidog ddarllen gwahoddiad yr Arglwydd Iesu i'r cyfryw ddyfod ato ef fel yr esmwythâi arnynt, torwyd ei gadwynau, a chafodd y fath ddatguddiad o'r Cyfryngwr, fel ag y llanwyd ei enaid o dangnefedd a chariad Duw. Cafodd yn fynych y fath amlygiadau o gariad anghyfnewidiol y. Jehofa nes y byddai ei enaid yn llawn o orfoledd yr iachawdwriaeth. Erbyn hyn yr oedd wedi ei addasu gan Dduw i fod fel udgorn i roddi gwaedd ar fyd cysglyd. Dechreuodd yn gyntaf yn ei gymydogaeth rybuddio a chynghori cynifer ag a ddeuent i wrando arno. Aeth yn fuan son mawr am dano; ac aeth y tai yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr. Llefarai dair gwaith neu bedair, ie, weithiau bumwaith yn y dydd. Yr oedd ei weinidogaeth yn daranllyd a deffrous, fel y gellid yn briodol ei alw yn "Fab y daran". Ni byddai y pryd hyny yn arfer llefaru oddiwrth un testyn pennodol, ond traddodi i'r bobl yr hyn a roddai yr Arglwydd iddo. Yr oedd effeithiau tra nerthol yn dylyn ei weinidogaeth, a llwyddiant mawr a ddylynodd ei genadwri. Llawer a ddwysbigwyd yn eu calon, ac a wir ddychwelwyd at yr Arglwydd. Fel yr oedd yn llwyddo, cododd erlid mawr arno yn fuan. Y pen swyddwyr a fygythient ei gospi, yr offeiriaid a bregethent yn ei erbyn, gan ei ddarlunio fel twyllwr a gau brophwyd, a'r gwerinos a fyddent, agos ymhob man, yn terfysgu ac yn lluchio yn wallgofus y pethau cyntaf a gaent i'r dwylaw. Rhy faith fyddai adrodd yr erlidiau dychrynllyd yr aeth drwyddynt yn agos i'r Cemmaes, Machynlleth, y Bala, Caerlleon-ar-wysg, Mynwy, ac amrywiol fanau ereill yn Lloegr a Chymru. Dygwyddodd pan oedd yn gadpen ar y Milisia Sir Frycheiniog, ac yntau gyda'i wŷr mewn rhyw dref yn Lloegr, ymofyn o hono a oedd dim pregethu yn y dref hòno. Dywedodd rhyw un wrtho, fod ymgais i hyny wedi bod hir amser aeth heibio, yn nhŷ rhyw wraig dlawd yn y dref, ond bod hyny wedi cael ei lwyr ddiddymu yno. Aeth yntau at y wraig, ac a ofynodd iddi, a roddai hi genad iddo ef bregethu wrth ei thy? Atebodd hithau, ei bod yn ofni mai gwaith ofer oedd cynyg ar y fath beth: ond ei bod yn ddigon boddlon, os у anturiai efe. Archodd Mr. Harris daenu y gair drwy y dref fod yno wr i bregethu, gan benu y lle a'r awr. Trefnodd y Milisia i sefyll o'i amgylch, a rhoes wisg am dano ar ei ddillad milwraidd. Ond gyda'i fod yn dechreu pregethu, dyma yr erlidwyr yn dechreu ymgasglu yno o bob cwr, mewn eithaf afreolaeth. Gwaeddodd yntau, " Dystawrwydd yn enw Brenin y nefoedd." Ond cynyddu yr oedd y terfysg. Yna yn ebrwydd diosgodd y wisg uchaf, nes oedd y wisg filwraidd yn y golwg, a gwaeddodd allan yr ail waith, Dystawrwydd yn enw George yr ail;" ac ar hyny dechreuodd y drums chwareu. Brawychodd y terfysgwyr yn ddirfawr, a chafodd yntau lonydd i bregethu. Cafodd gyfleusdra i ddangos iddynt mor amharchus oeddynt o Frenin y nefoedd, pan na ostegent yn ei enw ef i wrando llais yr efengyl: ond i arswyd eu dal pan glywsant swn drums Brenin Lloegr.

YMOF. Pa bryd y daeth Mr. Howell Harris i Sir Gaernarfon? a phwy a'i derbyniodd ef yno y tro cyntaf i bregethu?

SYL. Y flwyddyn y daeth i Sir Gaernarfon oedd 1741. Daeth i Bwllheli ar nos Sadwrn, a gofynodd y bore Sabbath, pa le yr oedd y pregethwr goreu yn yr Eglwys yn y parthau hyny Dywedwyd wrtho fod y Canghellwr (Chancellor) yn pregethu yn agos yno, sef yn Llannor. Aeth yno a chlywodd bregeth ryfedd am dano ei hun. Yr oedd y Canghellwr, mae'n debyg, wedi clywed ei fod yn bwriadu dyfod i'r wlad, ac o herwydd hyny rhag-rybuddiodd ei wrandawyr i ochelyd yr heretic melldigedig. Gosododd ef allan yn ei bregeth yn genad dros Satan, yn elyn Duw a'i eglwys, ac hefyd yn elyn i holl ddynol. ryw. Galwodd ef yn weinidog dros y cythraul, yn dwyllwr a gau-brophwyd, ac yn llawer gwaeth nag un anghenfil o heretic, ïe, yn waeth na'r diafol ei hun. Anogodd ei wrandawyr yn ddifrifol, gariad at Dduw a'i Eglwys, a'u gwlad, i wrthsefyll yn unfryd y cyfryw ddyn ofnadwy ag oedd debyg o ddinystrio nid yn unig eu meddiannau, ond hefyd eu heneidiau anfarwol, &c. Nis gwyddai ef na'r bobl fod Mr. Harris yno yn gwrando. Wedi dyfod allan o'r Llan, aeth i ymddiddan â'r Eglwyswr yn nghylch gosod i fyny ysgolion rhad yn y wlad, ac i'w alw i gyfrif am ei bregeth. Deallodd y bobl mai efe oedd y gŵr a nodasid yn y bregeth, ac yna yn ddiymaros dechreuwyd ergydio y cerig ato yn dra ffyrnig, ond diangodd o'u dwylaw heb gael llawer o niwaid. Ar ei ddychweliad yn ol, cafodd ei erlid yn Mhenmorfa, ond ni wnaed llawer o niwaid iddo yno.

YMOF. Mae yn amlwg wrth yr hyn a ddywedasoch, fod y ddraig a'i hâd wedi cynhyrfu yn fore i ddal i fyny deyrnas y tywyllwch. Yr wyf wedi synu fod y fath araith gableddus wedi dyfod allan o enau neb ag oedd o dan yr enw gweinidog, yr efengyl: oblegyd pe buasai y diafol ei hun yn cael esgyn i bulpud, a chael benthyg gwenwisg, a gallu, fel asen Balaam, lefaru mewn iaith ddynol, a ellir barnu y gallasai wneuthur yn amgenach? Ond ewch ymlaen i fynegi am waith Mr. Harris yn pregethu yn y wlad hon, a phwy a'i derbyniodd gyntaf.

SYL. Pa un ai ar ei ddyfodiad cyntaf i'r wlad, neu ynte ar ei ddychweliad o'r wlad, y bu yn Llannor, ni allaf ddywedyd: ond sicr yw mai yn Nglasfryn fawr, yn nhŷ William Prichard, y pregethodd gyntaf. A chyda ei fod yn dechreu pregethu, dyma offeiriad y plwyf, a haid o oferwyr gwamal yn gynorthwy iddo, yn dylyn ei sodlau. Rhuthrodd yr offeiriad yn mlaen at y pregethwr, yr hwn, wrth weled terfysg yn dechreu, a roes heibio bregethu, ac a aeth ar ei liniau i weddïo. Pan ddaeth yr offeiriad hyd ato, rhoddes ei law ar ei enau, i atal i neb ei glywed. Cododd Mr. Harris i fyny, a dywedodd wrtho, "Pa beth yw hyn yr ydych yn ei wneuthur? a rwystrwch chwi ddyn i weddïo ar Dduw? Byddaf dyst yn eich erbyn am hyn yn nydd y farn." "Byddaf fi yn dyst yn dy erbyn di, y burgun budr (ebe yr offeiriad wrtho yntau,) am dy fod yn myned ar hyd y wlad i dwyllo y bobl. Yna galwodd yr offeiriad yn groch ar un o'i ffyddlon ganlynwyr, gan alw arno wrth ei enw am ddyfod ymlaen. Yntau yn sefyll draw, ac yn eu clywed yn son am y farn, a ddywedodd yn lled uchel, "A glywch chwi, a glywch chwi ar y gwŷr! Ni wn i pa un ffolaf o honoch eich dau. Ni feiddia un o honoch ddywedyd gair yno." Ar hyny gwr y tŷ a drôdd yr offeiriad allan, ac a gauodd y drws ar ei ol. Ar ol llonyddu y terfysg, rhoddes Mr. Harris gynyg eilwaith ar bregethu; ond ni chafodd nemawr o hwylusdod, gan fod ei feddyliau wedi terfysgu yn y cythrwfl. Cynghorodd bawb i ymwrthod â'r cyfryw fugeiliaid didduw, gan ymddidoli a chilio oddiwrthynt. Yr ail le y cafodd bregethu oedd Ty'n Llanfihangel, gerllaw Rhyd y clafdy. Ymgasglodd yno dyrfa fawr i wrando arno. Yr oedd y gair wedi ymdaenu ar hyd y wlad mai dyn wedi bod mewn gweledigaeth ydoedd, yr hyn beth oedd yn cael derbyniad difrifol gan lawer yn y dyddiau hyny. Daeth ypo, yn mysg ereill, wr boneddig tra gelyniaethol, mewn bwriad o'i (saethu ef gan na ddaeth y pregethwr yn union at yr amser addawedig, blinodd y gwr boneddig yn dysgwyl, ac aeth adref i'w giniaw. Erbyn hyn yr oedd Mr. Harris yno. Safodd wrth ochr y tŷ, a chafodd gymhorth anghyffredin i lefaru. Soniodd, yn mysg pethau ereill, fel y byddai dynion yn rhyfygu dywedyd wrth Dduw, "Deued dy deyrnas." Beth, meddai ef, pe b'ai yr Arglwydd yn dyfod gyda gallu a gogoniant mawr, gyda miloedd o angylion, ac a thân fflamllyd? Oni byddit yn barod i waeddi, yn lle Deued dy deyrnas, o Arglwydd, aros ronyn: nid wyf fi barod. Bu y fath effeithiau drwy y weinidogaeth, yr oedfa hòno, nes oedd llawer yn methu sefyll, ond yn cwympo i lawr ar y ddaear: ac wrth fyned i'w cartrefi yn llefain ac yn wylo ar hyd y ffordd, fel pe buasai y waedd haner nos yn swnio yn eu clustiau. Y dydd canlynol pregethodd yn y Tywyn, yn agos i Tydweiliog; arddelodd Duw yr oedfa hono hefyd mewn modd neillduol. Cafodd llawer yno eu gwir ddychwelyd, y rhai a fuont wedi hyny yn addurn i'w proffes ac yn ddefnyddiol yn eu hoes. Un o honynt oedd John Griffith, yr hwn a fu dros amser yn athraw defnyddiol yn yr eglwys; er iddo wedi hyny gael ei lusgo i leoedd lleidiog, a bod o dan wrthgiliad dwfn lawer o flynyddoedd: ond fe ymwelodd Duw ag ef drachefn; fel Samson gynt, gwallt ei ben a ddechreuodd dyfu, daeth adref yn amlwg i dŷ ei Dad cyn nos. Yr oedfa hono y cafodd un o ferched y Tyddyn mawr ei galw, yr hon a fu wraig i Mr. Jenkin Morgan, y soniwyd am dano o'r blaen. Yr oedd pedair o chwiorydd o honynt, ac yn cael eu cyfrif yn ferched gweddus a synwyrol, ac yn barchus yn eu hardal. Cafodd y tair ereill eu galw cyn pen hir, a buont fel cynifer o famaethod ymgeleddgar gydag achos Duw mewn dyddiau ag y gallesid gofyn yn briodol, "Pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.". Bu y Tyddyn mawr, a rhai manau ereill yn y gymydogaeth, fel gwlad Gosen gynt, yn noddfa gysurus i'r pererinion lluddedig, wedi bod mewn 'stormydd o erlidigaethau.—Mewn dau le arall y pregethodd Mr. Harris yn y wlad yma y tro hwnw, sef y Rhydolion, yn agos i Lanengan, a Phortinlleyn. Am y lle cyntaf, sef y Rhydolion, oedfa galed a gafodd ef yno, heb nemawr o arddeliad fel y cawsai o'r blaen; ond ni chlywais ddim am yr oedfa yn Portinlleyn, na da na drwg.

YMOF. Pa fath agwedd oedd ar y dychwelwyr ieuaingc hyn yn more eu crefydd? Ac yn mha le yr oeddynt yn cael didwyll laeth y gair i ymborthi arno?

SYL. Yr oedd eu dull syml, sobr, a phwysig, yn gywilydd mawr i'r rhan fwyaf o broffeswyr ein dyddiau ni. Yr oedd eu cydwybodau yn dyner, eu calonau yn ddrylliog, ac ofn Duw o flaen eu llygaid. Nid oedd pleser mewn coeg-wisgoedd, na blâs ar gellwair a choeg-ddigrifwch yn y dyddiau hyny. Cyfeillach yr annuwiolion oedd ofid calon iddynt. Yr oeddynt yn barchus iawn o'r Sabbath, ac yn wyliadwrus rhag ei halogi. Gweddïent yn fynych bymtheg gwaith yn y dydd, a'u cri yn feunyddiol oedd, Pa beth a wnawn fel y byddom gadwedig? Mewn gair, yr oedd eu holl agweddau yn tystio eu bod yn treulio eu dyddiau fel rhai yn ngolwg byd arall. Wrth ystyried y dirywiad a'r ysgafnder, yr anghariad, balchder, y cybydddod a'r cnawdolrwydd sydd wedi goresgyn llawer o broffeswyr yr amser pesennol, mae yn bryd gwaeddi allan gyda Job, o na baem fel yn y misoedd o'r blaen! Am yr hyn a ofynasoch drachefn, sef pa le y byddent yn cael llaeth y gair i ymborthi arno—unodd llawer â Mr. John Thomas, yn Mhwllheli, sef yr hen weinidog duwiol y soniwyd o'r blaen am dano. Erbyn hyn yr oedd yr erlidigaeth yn cynyddu yn ddirfawr. Teflid cerig trwy ffenestri Capel Pwllheli, ïe, weithiau teflid hwy mor egnïol trwy un ffenestr nes y byddent yn myned allan trwy ffenestr arall, a hyny yn amser yr addoliad, fel y byddai y gwrandawyr yn fynych mewn perygl bywyd. Erbyn dyfod allan, byddai torf yn eu dysgwyl yn mhen y dref; yr un modd wrth yr Efail newydd, a Rhyd y clafdy. Ni rusent luchio cerig atynt nes y byddai y trueiniaid â'u gwaed yn llifo wrth fyned i'w cartrefi. Llechai rhai o'r erlidwyr tu draw i'r cloddiau, er mwyn cael cyfleusdra gwell i anelu atynt. Ond er yr holl elyniaeth a'r erlid, llwyddo yr oedd crefydd. Yn yr amser hyny daeth yma un Mr. Evan Williams, o'r Deheudir, dros ychydig. Ymgasglodd torf o erlidwyr, ac wedi cael un i'w gafael eisoes, sef John Jones, o'r Penrhyn, Llaniestyn, daethant fel llewod i'r Tyddyn mawr, a chwiliasant y tŷ yn fanwl; ond yr oedd y teulu, wrth ddeall eu bod ar fedr dal Mr. E. Williams, wedi ei guddio mewn cwpwrdd: ac er i un o honynt daro y cwpwrdd â'i droed, dan dyngu a rhegi, a dywedyd, Fe allai mai dyma lle mae ef," er hyny ni chawsant ef. A thra buont yn chwilio y tŷ, diangodd Mr. John Jones hefyd yn ddystaw o'u mysg, a gorfu arnynt fyned ymaith heb un o'r ddau. Wrth weled nad oedd un argoel llonyddwch iddo yn y wlad hon, ymroddodd E. Williams i fyned i'w wlad ei hun; a hebryngwyd ef ran o'r ffordd. Yr oedd wedi cael cymaint o fraw oddiwrth yr erlidwyr, nes yr oedd yn barod i ddywedyd fel Cain, "Pwy bynag a'm caffo a'm lladd." Nid âi heibio i un man heb ofni yn ei galon fod pawb am ei ddal. Bu yn weinidog duwiol a llafurus yn Sir Gaerfyrddin tra fu byw, ond byth ni bu yn iach ar ol bod yn Sir Gaernarfon. —Yn nghylch yr amser hyny, daeth yma offeiriad ieuangc o'r Deheudir, a elwid Mr. David Jenkins; brawd oedd i Mr. Daniel Jenkins, a fu farw yn ddiweddar. Llewyrchodd dros ychydig fel seren ddysglaer, a phwerau y nef oedd yn dylyn ei weinidogaeth. Yr Arglwydd, i ryw ddybenion, a'i symudodd ato ei hun yn nghanol ei lwyddiant ac yn more ei ddyddiau, er galar trwm i lawer. Pan glywodd Mr. Daniel Rowlands, Llangeitho, ei farw, dywedodd mewn syndod a galar fel hyn, "Wele, fe dorwyd ymaith fy mraich ddehau!" Ar ei ddyfodiad i'n gwlad ni, meddyliwyd y cawsai bregethu yn Llan Tydweiliog, gan ei fod yn wr eglwysig: ond ofnodd offeiriad y plwyf roi cenad iddo (er ei fod unwaith wedi lled addaw,) rhag ofn i'w frodyr parchedig wgu arno o'r achos; ac felly y bu gorfod iddo sefyll wrth ochr y Llan i bregethu. Ond er cau drysau y deml rhagddo, fe agorodd Duw galonau, fel yr agorodd galon Lydia, i dderbyn trysorau yr iachawdwriaeth, a chafodd llawer y tro hwnw eu gwir ddychwelyd. Un o'r oedfaon mwyaf neillduol oedd hon o un a fuasai o'r blaen yn y wlad. Bu yn pregethu y tro hwnw ar brif-ffordd yn rhyw le yn Lleyn; a daeth rhyw erlidiwr creulon ato, a chareg fawr yn ei law; amcanodd ei daro, ond goruwchreolodd yr Arglwydd yr ergyd; aeth y gareg heibio i'r pregethwr, a soddodd yn y clawdd.


Nodiadau golygu