Dy fawr drugaredd, f' Arglwydd Iôn
Mae Dy fawr drugaredd, f' Arglwydd Iôn, yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)
Dy fawr drugaredd, f' Arglwydd Iôn,
Sydd hyd eithafion nefoedd;
A'th bur wirionedd sydd yn gwau
Hyd y cymylau dyfroedd.
D'uniondeb sydd fel mynydd mawr,
Dy farn fel llawr yr eigion :
Dy nerth fyth felly a barha
I gadw da a dynion.
Cyflawn o fraster yw'r tŷ tau
Lle llenwir hwythau hefyd,
Lle y cânt ddiod gennyt, Iôn,
O flasus afon bywyd.
O! estyn eto i barhau,
Dy drugareddau tirion;
Ni a'th adwaenom di a'th ddawn
Y rhai sydd uniawn galon.