Dychweliad y Morwr (Mynyddog)

Trwy’r tonnau y llong ddaw yn nes i’r lan —
Dacw y foel a dacw y fan;
’Rwy’n gweld y pant a’r gornant gu,
’Rwy’n gweld y coed, ’rwy’n gweld y tŷ;
Mae adlais anwyliaid yn dod i’r llong,
A sŵn hen gloch y llan, ding dong.