Dyddanwch yr Aelwyd/Anfoniad y Golomen i Feirionydd
← Rhywun | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Amser → |
ANFONIAD Y GOLOMEN I FEIRIONYDD
EHED y G'lomen, 'hed yn chwyrn,
Dy edyn cedyrn cais;
Dod wynt i'th fanblu unwaith mwy,
A gwrando'm clwy a'm clais;
Cei gen 'i nghyffes fynwes faith,
Nid yw ond taith i ti;
Os yn dy gilfin dygi hon
I Feirion troswyf fi.
Pan y delych ar dy daith,
I'r man bum ganwaith gynt;
Dôs cyn hyf i dŷ fy Nhad,
Cei groesaw rhad ar hynt;
Ond Ow! yr hon a'm cadwai 'n rhwydd,
Rhag cael un tramgwydd trwch;
Ei dwy-rudd sydd, er's llawer dydd,
Yn llonydd yn y llwch.
Wedi hyn ehed mewn hwyl,
At feddrod f' anwyl Fam,
Yr hon fu 'n dyner gynt i'm dal,
A'm cynnal rhag un cam;
Un ateb yno gwn ni's ca'i,
Y beddrod clai a'i cloes,
Mewn gwely pridd, un aelod rhydd,
Na nos na dydd, nid oes.
Ni wyddwn i y dyddiau 'n ôl,
Am un terfysgol fyd;
Yn awr y daw fel tòn ar dòn,
I'r fynwes hon o hyd;
O murain fum yn moreu f' oes,
Heb loes na chroes na chri;
Llawer hwyr a boreu llon
Yn Meirion gaethum i.
O gam i gam, o gur i gur,
Tan lawer dolur dwys;
A mhwyll ar lif y'mhell o'r lan,
Bron toddi dan ei bwys,
O Plwm, air trwm, pa le mae troi?
'Rwy wedi 'm cloi mewn clwyf;
A garw frath, o gur i'r fron,
I Feirion estron wyf.
O dôd yn awr dy edyn im',
Yn gyflym âf trwy'r gwynt,
Yn ôl i fraint fy anwyl fro,
Gan gofio'r dyddiau gynt :
Rhyw foreu'n ôl i Feirion âf,
A thawaf yma å thi;
Mwyn i bawb y man lle bo,
O! Meirion fro i mi.
—DEWI WNION.