Dyddanwch yr Aelwyd/Arwyrain Meirion

Can Gwraig y Pysgodwr Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Rhywun

ARWYRAIN MEIRION.

Fel 'roeddwn ar foreu'n myfyrio fy hun,
Mewn ardal bellenig mor unig a'r un;
Rhoes hiraeth i'm calon rhyw greulon oer gri,
Wrth gofio mor dirion oedd Meirion i mi.

Wrth edrych i'r caeau a bryniau pob bro
A gwel'd anifeiliaid a defaid yn dô
Er teced, er hardded, er amled eu rhi,
Nid unlle mor dirion a Meirion i mi.

Mae'r wlad lle rwy'n trigo yn ffrydio o bob ffrwyth,
Er hyn nid yw felly'n llonyddu fy llwyth;
Caf 'fonydd, rai dyfnion, a llyfinion eu lli,,
Ond nentydd a bronydd Meirionydd i mi.

Ond dyfroedd'r afonydd sy'n llonydd fel llyn,
Rhai afiach i'w hyfed mewn syched, mae'n syn:
Hoff anwyl ffynonau rai aml eu rhi',
Afonydd glân gloywon gwlad Meirion i mi.

'Rwy'n cael yn bur dirion drigolion y tir,
Cyfeillion daionus, awyddus yn wir.
Mae 'nheulu anwylion, cyfeillion mwyn cu,
Yn llawer mwy boddlon yn Meirion na mi.

Mae imi yn Meirion gyfoedion go fwyn
Rhai bu'm i'n cyd—chwareu yn llanciau 'mhob llwyn:
Wrth gofio'r holl bleser a'r mwynder gaem ni,
Hiraethu mae'm calon am Meirion i mi.


Heb loesau pa lesiant wna mwyniant un man
O gyrau'r greadigaeth, pe'n helaeth doe i'm rhan,
Neu gyfoeth pe'i cafwn, anrhydedd neu fri,
Nid hyny'm gwnai'n foddlon heb Meirion i mi.

Pe rhoddech mewn meusydd nofiedydd y dw'r,
A'i borthi a brasder y ddaear yn siwr,
Nid boddlon gan hwnw ond llanw a lli,;
Gan inau nid boddlon ond Meirion i mi.

Ar brydiau mi fydda'n rhyfedddu'n ddiwâd,
At deulu yn dawel yn gadael eu gwlad;
Dymunwn bob mwyniant— iach lwyddiant i chwi,
Dirwystrau yn ngwlad estron; ond Meirion i mi.

Pe cawn i mor dirion ryw foddion mor fâd,
A dyfais i'm danfon i'r union hen wlad;
Yn llawen boddlonwn, fe'm gwelwn mewn bri,
Cael aros ar fronydd Meirionydd i mi.

Os rhaid i mi rodio neu drigo o dref,
'N hir eto hiraethaf, bydd hyllaf fy llef;
Gobeithio pan ddelo fy ngyrfa i ben,
Caf farw yn ngwlad Meirion— ïe Meirion,—AMEN.

—GWILYM ARAN.


Nodiadau

golygu