Dyddanwch yr Aelwyd/Bywyd yr Unig
← Alice Gray | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Y Cusan Ymadawol → |
BYWYD YR UNIG.
Mae'm bywyd fel blodeuyn Ha,
Mewn gwridog wisg, yn deg ei wawr;
Ond pan y chwyth un galedchwâ,
Ymsyrth yn llesg a gwael i'r llawr;
Er hyn, ar wely rhosyn brith,
Daw nos a'i gloywaidd ddafnau gwlith;
Fel pe bai'n wylo ddagrau li,
Ni wyla neb am danaf fi.―
Mae'm bywyd fel yr irlas ddail
Sy'n gwisgo'r pren ceuadfrig hardd;
Ymgrinant oll, o'u brig i'w sail,
Yn wywol cwympant draw o'r ardd:
Ond er cwympo'r dail oedd gu,
Bydd cangau'r pren a'u gwisg yn ddu,
A rhyngddynt cwyn awelon si,
Nid oes a gwyn am danaf fi.
Mae'm bywyd fel ysgrifen ffraeth
Neu gerfiad hardd ar dywod man;
Pan dreiglo'r llanw tros y traeth
Ni welir mwy y cerfiad glân:
Er hyn, uwch ben yr oror lom
Fel un drist gan galon drom,
Ymrua'r mor, a'i donau'n gri,
O! Pwy a lef am danaffi.
ROBIN DDU ERYRI.