Dyddanwch yr Aelwyd/Cyfarchiad i Wenol gyntaf

Cathl idd yr Eos Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Yr Ynys Wen

CYFARCHIAD I WENOL GYNTAF Y TYMMOR.

WENNOL fwyn, ti ddaethost eto,
I'n dwyn ar go' fod haf ar wawrio,
Wedi bod yn hir ymdeithio,
Croeso, croeso iti;
Nid oes unrhyw berchen aden
Fwy cariadus na'r wenfolen,
Pawb o'th weled sydd yn llawen:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

Ha! mi wela'th fod yn chwilio
Am dy nyth o dan ein bondo,
Y mae hwnnw wedi syrthio,
Wennol, coelia di ;
Nid myfi yn wir a'i tynnodd,
Gwynt a gwlaw a gaea' a'i curodd,
Yntau o ddarn i ddarn a gwympodd:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

Wennol dirion, paid a digio,
Gelli wneyd un newydd etɔ;
A phe gallwn, gwnawn dy helpio—
Aros gyda ni:
A fu'r oll o honynt feirw,
A'th adael di'n amddifad weddw?
Byddai hynny 'n chwedl arw:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.


Wennol bach, pa ham diengi
Draw oddiwrthyf? paid ag ofni;
Aros, bydd yn gyfaill imi—
'Rwy'n dy garu di.
Credu 'r wyf fod gennyt galon
Bur, ddiniwed, gywir, ffyddlon—
Peth anfynych ymhlith dynion:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

Llawer blinder chwerw brofais,
Er y tro o'r blaen y'th welais,
Wennol fwyn, a llawer gwynais—
P'odd ymd'rewaist ti?
A fyddwch chwi, wenoliaid, weithiau
Yn cyfarfod â blinderau,
Nes troi'ch twi, twi, twi, 'n gwynfannau?
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

Mi ddymunais, wennol lawen,
Ganwaith feddu ar dy aden,
I allu hedeg yn y wybren
Uwch y byd a'i gri:
Ymryddhau oddiwrth helbulon
Bywyd dynol, a'i ofalon,
Ac fel tithau, 'n iach fy nghalon,
Canu uwch eu pen—Twi, twi.

Mae'th ddyfodiad, addfwyn wennol,
Ini'n dysgu gwersi buddiol,
Ar bob tymor yn olynol,
Yr ymweli â ni.
Wyt yn adwaen dy dymorau,
Ac yn cadw dy amserau—

"Cym'rwch rybudd, gwnewch fel finau,"
Ydyw 'r llais ym mhob twi, twi!

Dyna gamp a ddysgi eto—
Cadw'th wisg yn lân a chrynno,
A thithiau 'n trin y clai a'i ddwbio,
Wrth wneyd dy waith.
Hoffwn inau ddysgu hòno-
Trin y byd, a myned trwyddo,
Heb halogi'm gwisgoedd ynddo,
Na rhoi arno 'm calon chwaith.

—GWILYM HIRAETHOG.


Nodiadau

golygu